Pen-hw
Pentref, plwyf hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Pen-hw (Saesneg: Penhow). Saif ar ffin ddwyreiniol sir Casnewydd, tuag wyth milltir o ganol y ddinas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 726 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 726 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6151°N 2.835°W |
Cod SYG | W04000826 |
Heblaw pentref bychan Pen-hw ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Parc Seymour. Castell Pen-hw yw ei hadeilad mwyaf adnabyddus. Fe'i hadeiladwyd gan Syr Roger de St Maur, un o'r marchogion a oedd yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth Striguil a Chastell Cas-gwent. Mae cofnod ei fod ym Mhen-hw erbyn 1129. Yn ddiweddarach, newidiodd y teulu ei enw i Seymour.
Ar 19 Gorffennaf 2006, cofnodwyd tymheredd o 34.2°C (93.5°F) ym Mhen-hw, sef y tymheredd uchaf i'w gofnodi hyd hynny yng Nghymru. Ers hynny, mae tymheredd uwch wedi ei gofnodi mewn mannau eraill.
Tarddiad yr enw
golyguMae'n debyg fod ail elfen yr enw yn cynnwys yr Hen Saesneg hōh, sef ffurf cyflwr derbyniol neu ddadiol hō 'cefnen ymwthiol'. Ceir y cyfnod cyntaf o'r enw oddeutu 1130 yn y ffurf Penhou. Ceir y ffurf pen hw mewn rhestr Gymraeg o blwyfi Cymru o tua 1566.[1]
Yr iaith Gymraeg
golyguYn ei gyfrol Wild Wales (sy'n disgrifio taith trwy Gymru yn 1854), mae George Borrow yn nodi iddo gwrdd â menyw o Ben-hw o'r enw Esther Williams, ychydig i'r dwyrain o Gasnewydd. Dywedodd Esther ei bod yn medru'r Gymraeg a bod hynny'n wir am bawb am o leiaf wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd. Fodd bynnag, dywedodd merch arall wrth Borrow na allai hi siarad Cymraeg ac mai lleiafrif bychan o bobl yr ardal a oedd yn Gymry Cymraeg. Amcangyfrifai Borrow ei hun fod tua hanner y bobl y bu iddo eu cyfarfod yn y saith neu wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd yn medru'r iaith.[2]
Mae Cyfrifiad 1891 yn nodi bod nifer fechan o siaradwyr yn y plwyf, ond nid oedd yr un ohonynt wedi eu geni yno.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales. Llandysul: Gomer, 2007, ISBN 1-84323-901-9, t. 366.
- ↑ Borrow, George (1862). Wild Wales: Its People, Language and Scenery. London: John Murray. tt. 454–5.
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du