Picellwyr (teulu)

Teulu o weision neidr
Libellulidae
Pantala flavescens yn Dar es Salaam, Tansanïa. Tua 5cm.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Epiprocta
Inffra-urdd: Anisoptera
Teulu: Corduliidae
Isdeuluoedd

Cordulephyinae - Corduliinae - Gomphomacromiinae - Idionychinae - Idomacromiinae - Neophyinae

Mae'n fwy na phosibl mai'r teulu yma o bryfaid, y Libellulidae (Cymraeg: teulu'r Picellwyr) ydy'r teulu mwyaf o weision neidr ar wyneb y Ddaear. Mae'n cynnwys yr isdeuluoedd: Corduliidae a'r Macromiidae yn ôl rhai, er bod cryn ddadlau am hyn gan naturiaethwyr. Hyd yn oed heb y ddau isdeulu hyn, mae'r teulu Libellulidae'n dal i gynnwys dros 1,000 o rywogaethau.

Mae eu tiriogaeth yn ymestyn dros wyneb y Ddaear, fwy neu lai, ond ceir ambell un, fel Libellula angelina sy'n hynod o brin. Mae llawer o aelodau'r teulu hwn yn lliwgar eithriadol, neu gyda bandiau ar eu hadenydd. Mae'r genws cysylltiedig, Plathemis yn cynnwys y 'cynffonau gwynion'. Mae'r genws Celithemis yn cynnwys sawl rhywogaeth hynod o liwgar, a welir yn yr Unol Daleithiau. Lliwgar hefyd ydy'r rhywogaethau yn y genera Trithemis a Zenithoptera ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae: Tramea a Pantala.

Mae'r picellwyr canlynol i'w cael yng ngwledydd Prydain:

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd
Picellwr praff Libellula depressa  Cymru
 Lloegr
Picellwr prin Libellula fulva  Lloegr
Picellwr pedwar nod Libellula quadrimaculata  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Picellwr tinddu Orthetrum cancellatum  Cymru
 Lloegr
Picellwr cribog Orthetrum coerulescens  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell scarlad Crocothemis erythraea
Gwäell ddu Sympetrum danae  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell asgell aur [F] Sympetrum flaveolum
Gwäell wythien goch Sympetrum fonscolombei  Lloegr
Gwäell rudd Sympetrum sanguineum  Cymru
 Lloegr
Gwäell gyffredin [G] Sympetrum striolatum  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell yr ucheldir [G] Sympetrum nigrescens  yr Alban
Gwäell grwydrol Sympetrum vulgatum
Gwäell resog Sympetrum pedemontanum
Picellwr wynebwyn Leucorrhinia dubia  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Picellwr wynebwyn mawr [H] Leucorrhinia pectoralis
Y gleider crwydrol [I] [J] Pantala flavescens

Genera golygu

Mae Libelluidae yn cynnwys y genera canlynol:

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Silsby, Jill. 2001. Dragonflies of the World. Smithsonian Institution Press, Washington D.C.

Dolennau allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: