Profiadau Athro o Gymru yn Lerpwl (1961-66)
Un o broblemau Gogledd Cymru yn ystod pumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf oedd gor gynhyrchu athrawon. Aeth amryw, rhai cannoedd, o ddewis neu o raid, i ddysgu yn ninas Lerpwl, a ystyrid yn brifddinas Gogledd Cymru. Yn ogystal, ‘roedd nifer fawr o nyrsus o Ogledd Cymru, yn gweini yn ysbytai’r ddinas.
Dechrau'r daith
golyguYn mis Medi 1961 dechreuodd athro ifanc o Lanrug ei yrfa yn Ysgol Iau Prince Rupert, Whitefield Road, Lerpwl. Anodd credu sut y cafodd y stryd yr enw gan nad oedd dim llain gwyrdd, na fawr o liw gwyn o gwmpas!
Sylw cyntaf un o’r athrawon wrtho, pan gyrhaeddodd yno oedd: “Un peth sy’n siwr, chei di ddim dy boeni gan ddefaid yma!” Ble ‘roedd yr ysgol? Rhwng West Derby Road a Breck Road. Yn dibynnu pa ffordd ‘roedd y gwynt yn chwythu, fe gaech un ai arogl mwg baco o ffatri Ogdens neu arogl melysion Barker and Dobson oedd hefyd â ffatri fawr yn yr ardal.
Roedd ysgol ar gyfer babanod hollol ar wahân ar y llawr gwaelod a’r Ysgol Iau gyda rhyw 450 po ddisgyblion, ar y llawr cyntaf ac roedd adeilad arall ar gyfer disgyblion Blwyddyn 4 mewn stryd gyfagos, drws nesaf i swyddfeydd Barker and Dobson. Roedd y nifer o blant yn y dosbarthiadau yn amrywio o 36 i 45 dros y pum mlynedd, ond roedd yn hapus iawn yno gyda bron i hanner yr athrawon yn siarad Cymraeg – Olive Roberts o Lanrug, Nance Williams o Gaernarfon, Eileen Williams o Ynys Môn a Keith Williams o Langefni ac eraill yn ddisgynyddion oedd yn deall tipyn go lew o Gymraeg. Mae’n debyg eu bod braidd yn ‘ddifanars’ yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd oherwydd ar ôl bod yno am rhyw dair wythnos, fe ddywedodd y ddirprwy, yn ddigon sarcastig, “So you can speak English then!”
Roedd pwyslais mawr ar ddysgu nofio yn yr ysgol, ond roedd yn rhaid cerdded hefo’r plant drwy’r strydoedd cefn i Bwll Nofio Margaret Street. Braidd yn gyntefig oedd hi yno, ond y broblem fwyaf fyddai cael rhai o’r plant yn ddigon glân i fynd i’r dŵr, yn enwedig ar ôl gwyliau’r haf. Treuliai ambell un bron i wers gyfan o dan y gawod. Hefyd, roedd bri ar chwaraeon, ond eto, ar gyfer pêl-droed, rhaid oedd cerdded hefo’r plant i Barc Newsham cryn bellter i ffwrdd. Yn ddiweddarach, caent eu cludo i Dwerryhouse Lane ar gyrion y ddinas. Gyda dau dîm pêl-droed, ac yntau’n ifanc(!!) fe’i cedwid yn brysur hefo’r timau, ac ar y gwasanaeth cyhoeddus y teithient o le i le. Cofia gyrraedd un o’r caeau ger Townsend Lane, un tro, ac un o’r hogiau ar frys i fynd i’r toiled. Gwelai ei fod yn anelu am un y merched, a gofynnodd i ble ‘roedd yn mynd? Yr ateb gafodd, “To the laddies!”
Pan oedd un athro ar dyletswydd yn yr iard daeth geneth ato a chynnig rhyw fisgedi siocled oedd ganddi. Gwrthododd yr athro ond roedd yr eneth yn mynnu gan ddweud bod ganddi fwy na digon gan bod ei chwaer yn dod â hwy gartref o’r ffatri yn ei dillad isaf!
I ddangos sut mae pethau wedi newid mewn ysgolion ers y dyddiau hynny, y prifathro, Albert Cain, gŵr hynaws o Ynys Manaw, fyddai’r cyntaf i adael yr adeilad bob dydd! Safai ar ben y grisiau am 4y.p. gyda’r Daily Post yn un llaw a chwib yn y llall. Chwythai’r chwib cyn diflannu i lawr y grisiau ac anelu am Ysgol Gwladys Street (ger Cae Everton) i godi ei wraig oedd yn brifathrawes yno. Credai bod unrhyw un oedd yn mynd â gwaith ysgol gartref hefo fo yn hanner call! Ei dri phwynt ar gyfer bod yn athro da oedd 1. cyrraedd yr ysgol erbyn chwarter i naw (i yfed te ran amlaf!), 2. bod eich dosbarth yn ddistaw ac yn drydydd cadw cofrestr taclus!
Ble i fyw?
golyguBu'n ddigon ffodus i gael lle i aros yn 5 Kemlyn Road, Anfield. Roedd y tŷ gefn yn gefn â chae pêl-droed Lerpwl (oedd yn yr ail adran bryd hynny!). O gerdded allan o’r tŷ heibio rhif 3, roeddech yn y fynedfa i’r Kop! Bellach, mae’r tai yna wedi llwyr ddiflannu a’u llyncu gan y Clwb.
Rhai o chwaraewyr Lerpwl
golyguMwy o fonws byth oedd bod un o chwaraewyr ifanc Lerpwl, Albanwr o’r enw Willy Fern yn aros yn yr un tŷ. Doedd o ddim yn hoffi Ian St John o gwbl, gan ei fod yn credu bod hwnnw yn ei gadw allan o’r tîm cyntaf. Un stori ddigri am Ian St John oedd am arwydd tu allan i eglwys: “What would happen if Jesus Christ came to Liverpool?” Roedd rhyw wag wedi ychwanegu “He’d play St John at inside left!” Un aelod o’r tîm cyntaf fyddai’n galw i weld Willy oedd Tommy Leishman, yr hanerwr chwith. Ta waeth, bu hiraeth Willy yn drech na fo ac aeth i weld y rheolwr, Bill Shankly i drafod y mater. Cafodd Willy ei siomi’n fawr pan ddywedodd Shankly wrtho, “Scotland stinks!” a dychwelodd i’r Alban i chwarae i Hamilton Academicals! Ar ôl te byddai criw o chwaraewyr ifanc Lerpwl yn ymgynnull am gêm yn Stanley Park a thrwy Willy daeth y Cymro ifanc i adnabod Gordon Wallace oedd yn chwaraewr pur dda, ond iddo gael nifer o anafiadau, a Monty McLaren oedd yn un o bedwar o frodyr oedd yn gôl-geidwaid. Dave McLaren yn Sheffield Wednesday, oedd y mwyaf adnabyddus.
Byddai gŵr y llety yn cael bath bob bore Sadwrn a’i eiriau olaf bob tro fyddai, ”I’m off to play with my boats.” Yn digwydd bod, roedd dosbarth yr athro ifanc yn adeiladu cychod bach hefo bocsys matsis, a bu’r demtasiwn yn ormod. Un bore Sadwrn tywalltwyd tipyn o ddŵr i’r bath a gosod rhyw bedair o’r cychod i arnofio. Yn anffodus, daeth y paent i ffwrdd oddi ar y cychod a ‘lliwio’r bath! Wps!
Ar ddechrau’r ail flwyddyn symudodd i 9 Arundel Avenue, yn ne’r ddinas,yn ardal Parc Sefton, i rannu fflat gyda Gwynfor Roberts, Rhos Goch. Gwyn Jones o Ddwyran, a Trystan Turton. Dyna beth oedd profiad! Roedd yna wyth o ferched, yn Gymry Cymraeg, yn byw mewn fflatiau eraill yn y tŷ. Ganddo fo ‘roedd y gwaith o siopa a hynny fel arfer yn y Coop yn Smithdown Road, a merched y siop fyddai fel arfer yn cynghori beth fyddai'r pryd y noson honno. Byddai Gwyn yn dod â sachaid o datws o Ddwyran bob hyn a hyn, ac roedd ganddynt hen sosban sglodion a gadwodd i fynd i bob pryd am y flwyddyn. Gwyrth na wnaethant ddioddef stumogau drwg! Dim ond ar Ddydd Sadwrn byddai Gwyn yn cael brecwast- a hynny drwy ymweld â Chaffi Lewis’s ar y llawr uchaf yn y siop yn y dref!
Dylanwad y capeli
golyguRoedd dylanwad y capeli ar lannau Afon Mersi yn gryf iawn bryd hynny. Mewn copi o ‘Y Bont ‘ cylchrawn Cymry Glannau Mersi, Chwefror 1963, mae yna adroddiadau gan ddeunaw o gapeli Cymraeg, Anfield Road (M.C.), Balliol Road (B.), Bebington (E.F.), Douglas Road (M.C.), Earlsfield Road (B.), Edge Lane (M.C.), Eglwys y Drindod (M.C.), Heathfield Road (M.C.), Rake Lane (M.C.), Runcorn (M.C.), Salem, Penbedw (M.C.), Southport (M.C.), Spellow Lane (E.F.), Walton Park (M.C.), Stanley Road (M.C.), Waterloo (M.C.), Woodchurch Road (M.C.) a Woodlands (B.). Gwyddys fod yna rai eraill hefyd – Oakfield Road (E.F.) a Garston (M.C.) yn eu plith. Roedd gan yr athro ddewis o dri chapel Cymraeg o fewn pum munud i gerdded yno, sef Anfield Road, Douglas Road ac Oakfield Road. Yn rhyfeddol, roedd dau weinidog yn dod o’r un pentref ag ef -Llanrug, sef Cledwyn Griffiths a Tudor Owen. I Anfield Road y penderfynodd fynd.
Pêl-droed
golygu
Roedd eu cae pêl-droed ym Mharc Sefton a’r tîm yn chwarae yn rheolaidd yng Nghyngrair Ysgolion Sul Lerpwl, yn y drydedd adran. Gwaith llafurus bore Sadwrn, pan fyddai gêm gartref, oedd gosod y goliau a marcio’r cae hefo llwch lli, ac ar ddiwedd pob gêm byddai’n rhaid tynnu’r goliau yn ddarnau a’u cadw’n saff at y tro nesaf! Doedd rhain ddim yn dasgau hawdd os byddai’n arllwys y glaw, neu pan oedd eira ac oerni’r gaeaf. Cymysglyd oedd eu canlyniadau – yn dibynnu faint o’r tîm fyddai wedi dychwelyd i Gymru ar y penwythnos. Doedd ambell reffari ddim yn hoffi eu clywed yn siarad Cymraeg hefo’i gilydd ac ai pethau’n o ddrwg gydag ambell un ohonynt, yn enwedig gydag un waeddodd, “Stop speaking that silly language!” Deallwn mai dim ond Roderick sydd ar ôl yn Lerpwl o’r criw erbyn hyn!
Dan nawdd y Clwb Cymraeg a Chymru Fydd, oedd yn cyfarfod yn Upper Parliament Street roedd y tîm yn cael ei redeg ac roedd y fan honno yn gyrchfan i nifer fawr o Gymry Cymraeg – y rhan helaethaf yn athrawon a nyrsus. Nos Sul, mae’n debyg oedd y mwyaf poblogaidd gyda chanu emynau yn dechrau am 9yh. Beti Williams fyddai meistres y piano fel arfer, a Roderick Owen neu Alan Morris yn arwain. Hefyd, ar nos Sadyrnau cynhelid dawnsiau o bryd i’w gilydd ac yno dechreuodd ganlyn y ferch a ddaeth yn wraig iddo am dros hanner can mlynedd ar ôl ei danfon i’w fflat o un o’r dawnsiau hyn!
Roedd sawl Aelwyd ar lannau Mersi bryd hynny, ond y ddwy a gofia ef yw Aelwyd Anfield oedd yn cyfarfod yn Ysgoldy Oakfield Road ac Aelwyd y De oedd yn cyfarfod yn Ysgoldy Capel y Drindod, Princes Road.
Cynhelid cyfarfodydd diddorol ac roedd ganddynt Barti Noson Lawen yn Aelwyd Anfield oedd yn mynd o gwmpas i ddiddori cymdeithasau ar ddwy ochr yr afon. Bu y delynores amryddawn, o Gaernarfon yn wreiddiol, Doris Ann Rowlands, yn eu diddori un noson a’r athro yn cael y dasg o gario’r delyn nol a blaen i’w chartref yng ngogledd y ddinas mewn hen fan a brynodd am £150 ar ei ail flwyddyn! Tipyn o lanast fu honno gan iddi dorri i lawr mewn sawl lle yn y ddinas gan gynnwys Twnnel Mersi! Roedd ganddo 7 ‘set’ o oleuadau traffig i’w croesi ar y ffordd i’r ysgol ac os byddai’r injan yn methu, rhaid fyddai, oherwydd nam ar y ‘starter’ agor y ‘bonnet’ a’i ryddhau hefo sbaner! Gallwch ddychmygu’r helyntion gyda gyrwyr diamynedd eraill yn methu pasio! Roedd Alwyn Jones yn awyddus iawn i gystadlu ‘Canu Cerdd Dant’ mewn cyfres radio ‘Sêr y Siroedd’ oedd yn boblogaidd bryd hynny. Perswadwyd mam Alwyn (gwraig y Parch. W.D. Jones, Edge Lane) i godi parti yn ei erbyn. ‘O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn’ oedd eu cân, ond doedd hi ddim yn gystadleuaeth a dweud y gwir, a llwyddodd Alwyn i fynd drwodd i’r rownd nesaf yn hawdd!
Roedd yr Aelwyddydd hefyd yn gyfrifol am lwyfannu drama yn Theatr y Cranes bob blwyddyn, ac yn Rhagfyr, 1962, buont yn perfformio ‘Cyfyng –Gyngor’ drama dair act go heriol gan Huw Lloyd Edwards gydag E. Alwyn Hughes yn cynhyrchu. Tydi pethau yn newid!- tri swllt a chwe cheiniog oedd pris tocyn! Rhan yr hen ŵr, Dr Morris, gafodd Gareth Pritchard, a’r actorion eraill oedd Ann Williams (Waterloo), Selwyn Jones, Gwynfor Roberts, Gwyn Jones, Ann Roberts a Margaret Thomas. Yn ddiweddarach cawsant eu gwahodd i berffomio’r ddrama yn yr Wyddgrug. Yn 1965, penderfynwyd ceisio codi arian tuag at Eglwys Heathfield Road drwy gynnal noson o ddramau Wil Sam. Y ddwy a ddewiswyd oedd ‘Y Dyn Codi Pwysau’ a ‘Y Gadair Olwyn’ gyda’r diweddar erbyn hyn, Humphrey Wyn Jones yn cynhyrchu un a Roderick Owen yn cynhyrchu’r llall. R oedd (y diweddar erbyn hyn) Emrys Hughes (Cwm y Glo gynt) yn un defrydol ar gyfer rhan y dyn codi pwysau! Yna, trefnodd yr Aelwydydd gystadleuaeth dramau un act yn Theatr y Crane a phenderfynodd Roderick y buasai ei gwmni o yn cystadlu gyda’r ‘Gadair Olwyn’. Morris Jones, Hen Golwyn, un fu’n enwog gyda Theatr Garthewin oedd yn beirniadu. Roedd yr athro ifanc yn eithaf hyderus fel yr hen ŵr yn y gadair olwyn gan nad oedd ganddo air i’w ddweud – dim ond gwneud sŵn! Ond, Ow! Pan ddaeth y feirniadaeth, dyma Morris Jones yn dweud mai nid dyna’r math o sŵn fyddai hen ŵr yn ei wneud! Dyna ddiwedd ei yrfa fel actor!
Ymweld ag ysbytai
golyguUn orchwyl fyddai’n digwydd yn aml oedd ymweld â’r gwahanol ysbytai. Byddai ei fam yn anfon llythyrau i ddweud bod hwn a hwn, neu hon a hon o Lanrug a’r cyffiniau yn un o ysbytai Lerpwl- y Royal oedd yr un fwyaf ‘poblogaidd’. Wrth gwrs, rhaid cofio bod nifer fawr o nyrsus o Gymru yn gweithio yn yr ysbytai bryd hynny, ond y gred gyffredinol oedd mai nyrsus Ysbyty Alder Hey oedd y rhai mwyaf cefnogol i’r cymdeithasau Cymraeg (a’r tîm pêl-droed).
Priodi
golyguAr ôl priodi yn 1964 dyma symudodd i fflat yn Queens Drive, Mossley Hill, drws nesaf ond un i Alun a Ceri Roberts a’u plant, Elizabeth, Sian a Gareth (doedd Marian heb ei geni bryd hynny). Y Bedyddwyr oedd biau’r tŷ, wedi ei adael iddynt mewn ewyllys ar gyfer cenhadon oedd yn dychwelyd am seibiant o wledydd pell. Gan nad oedd cenhadon ei angen bryd hynny, cawsant gartref dros dro. Ond daeth stori drist yn fuan wedi iddynt gyrraedd. Roedd teulu y wraig oedd yn y fflat arall yn ymfudo i Awstralia a hithau yn symud i’w tŷ hwy yn Allerton. Yn fuan wedi iddi symud, a chyn i’w theulu adael Lerpwl, cafodd ei llofruddio. Arestiwyd ei nai oedd rhyw un ar bymtheg oed a bu’n rhaid iddo sefyll ei brawf. Rose Heilborn oedd yn ei amddiffyn ac fe’i cafwyd yn ddi-euog.
Yn 1965, bu cryn ddathlu yn Lerpwl adeg canmlwyddiant y Mimosa yn hwylio o’r porthladd i Batagonia gyda nifer o bobl wedi gwisgo dillad o’r oes o’r blaen ar gyfer noson o wledda a chyngerdd ar y ‘Royal Iris’.
Y llongwyr o Gymru
golyguYmhlith y llongwyr yn gweithio allan o Lerpwl, ond heb grwydro ymhell, ‘roedd Dafydd Evans o Foelfre (Dafydd Llongwr i bawb), mab Richard Evans arwr Bad Achub Moelfre, oedd yn gefnogol iawn i’r bywyd Cymraeg yn y ddinas.
Roedd yna nifer fawr o Gymry Cymraeg yn llongwyr bryd hynny oedd yn defnyddio Lerpwl fel eu porthladd ‘cartref’, yn enwedig felly hefo Cwmni Blue Funnel. Yn eu mysg ‘roedd brawd yng nghyfraith yr athro, Eric, a hwyliodd i bedwar ban byd gyda ‘Lamport and Holt’ a ‘Blue Funnel’. Byddai’n aros gyda’i chwaer cyn cychwyn ar ei fôrdeithiau ac fel arfer cai ei ddanfon i’w long yn y dociau – profiadau diddorol iawn. ‘Melampus’ oedd llong Eric yn 1966 a bu’n rhyfeddol o lwcus yn 1967 pan fethodd ddychwelyd ar gyfer mordaith. Daliwyd y llong yn y Great Bitter Lakes yng Nghamlas Suez, adeg y Rhyfel Chwe Niwrnod rhwng yr Aifft ac Israel. Bu’r ‘Melampus’ a’r ‘Agapenor’ (un arall o longau Blue Funnel’) yn gaeth yn y gamlas am wyth mlynedd hyd 1975! Dihangfa wyrthiol!
Dychwelyd i Gymru
golyguYn Ionawr 1966 gwnaed y penderfyniad i ymgeisio am swydd athro yn yr hen Sir Gaernarfon a bu’n ddigon ffodus i gael gwaith yn yr Adran Gymraeg, Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno, ar ôl gwyliau’r Pasg, gyda’r diweddar O.M. Roberts yn brifathro. Bellach, mae wedi byw yn hapus yn Llandudno ers dros hanner can mlynedd, ond yn parhau i gofio am y cychwyn rhagorol a gafodd i’w yrfa yn Lerpwl.
Y sioc!
golyguOnd, daeth tipyn o sioc iddo wrth gasglu’r atgofion hyn! Gweld bod cysylltiadau rhan o’i deulu hefo Lerpwl yn ymestyn dros 150 o flynyddoedd, cyn hyd yn oed i’r Mimosa adael y porthladd! Digwyyddod ddod ar draws tystysgrif priodas ei hen daid a hen nain a briodwyd ar y 30ain o Awst, 1872, a gweld mai yn Eglwys St, David’s, Lerpwl, yr unwyd Capten Hugh Humphreys a Catherine Hughes. Capten llong oedd ei hen, hen, daid hefyd (William Humphreys) yn ôl y dystysgrif. Rhaid wedyn oedd iddo chwilio am hanes Eglwys St. David’s. Adeiladwyd hi yn Brownlow Hill yn 1827 a hi oedd y gyntaf i gael ei chodi yn Lloegr (gan Eglwys Lloegr) i gynnal gwasanaethau Cymraeg. Caewyd hi yn 1910 er mwyn codi estyniad i Westy’r Adelphi, a chodwyd eglwys newydd yn Hampstead Road, Parc Newsham. Gwelwch, felly, mai dim ond megis dechrau mae o wrth geisio darganfod mwy am ei gysylltiadau â’r ddinas!
Cyfeiriadau
golyguCyhoeddwyd yr erthygl yma gan Gareth Pritchard yn 'Yr Angor' (Papur Bro Glannau Merswy) a 'Yr Herald Cymraeg' (Daily Post).