Rocet Arwel Jones
Awdur, bardd, golygydd a darlledwr achlysurol o Gymru yw Rocet Arwel Jones. Ei enw priod llawn yw Robert Arwel Jones. Ganed ym Mangor, 7 Mehefin 1968, a’i fagu yn Rhos-y-bol, Ynys Môn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Rhos-y-bol, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.[1] Graddiodd gyda BA yn y Gymraeg yn 1989 ac MSc(Econ) mewn Gweinyddu Archifau yn 1998. Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith 1994–96. Roedd yn olygydd y gyfres Cerddi Fan Hyn 2002–6, yn ogystal â golygydd sawl cyfrol yn y gyfres.
Rocet Arwel Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1968 Rhos-y-bol |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awdur, bardd |
Personol
golyguMae’n byw yn Aberystwyth ac yn briod gyda Sharon Owen ers 2009. Mae ganddynt dri o feibion.
Fe’i hadnabyddir yn gyffredin wrth ei lysenw ‘Rocet’ ac mae’n cyhoeddi dan yr enw hwnnw (neu Rocet Arwel Jones nid Arwel Rocet Jones, ac R. Arwel Jones). Dilynodd y llysenw ef ers yr ysgol gynradd a chreodd sawl stori wahanol i egluro pam, yn eu plith ei fod wedi ei fedyddio’n Rocet oherwydd bod ei dad yn tyfu’r letys ‘rocket’ a bod gan ei fam gysylltiad â Tecwyn Roberts oedd wedi byw yn Rhos-y-bol ac yn un o wyddonwyr blaenllaw NASA yn y ras ofod.[2]
Mae bob amser yn cydnabod ei ddyled i Mudiad y Ffermwyr Ifanc|Fudiad y Ffermwyr Ifanc ac i CFfI Rhos-y-bol yn benodol am ei roi ar ben ffordd.[1]
Cyfrifoldebau
golyguBu’n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1994 a 1996 ac yn olygydd ar Tafod y Ddraig rhwng 1990-92. Treuliodd gyfnod (1990-2013) ar Fwrdd Cwmni Theatr Arad Goch, bu’n weithgar gydag elusen Mind (2004-2022) ac yn drysorydd Ymddiriedolaeth Cronfa Goffa William Salesbury (2016-). Etholwyd yn aelod o’r Academi Gymreig (2003), yn aelod ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Tŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, (2005-11) ac yn aelod o Fwrdd ac yn Is-Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru (2011-14). Mae’n Flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, ers 2009.
Gyrfa
golyguDechreuodd weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1991 yn mynegeio llawysgrifau barddoniaeth cyn cymhwyso’n archifydd ac arbenigo mewn archifau llenyddol Cymraeg a Chymreig. Bu’n gyfrifol am dderbynion di-brint cyn ei ddyrchafu’n Bennaeth Datblygiadau Digidol (2006-2008) ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus (2008-2014).
Gadawodd y Llyfrgell yn 2014 i fynd yn Swyddog Grantiau Cymraeg gyda Chyngor Llyfrau Cymru, bu’n Bennaeth Datblygu Cyhoeddi gyda’r Cyngor ers 2019.
Llyfryddiaeth
golyguMae wedi cyhoeddi yn ei enw ei hun, golygu a chyd-olygu sawl cyfrol.[3][1]
Llyfrau
golygu- Diolch i 'Nhrwyn (Lolfa, 2002). 9780862436148
- Mynd i’r ffair, llyfr o ganeuon ar y cyd â Bethan Bryn a J. R. Jones, (Curiad, 2002). 9781897664544
- Jambo Caribŵ: Taith i Borth Uffern (Lolfa, 2004) 9780862437572
Llyfrau wedi eu golygu
golygu- Dal Pen Rheswm: cyfweliadau gydag Emyr Humphreys (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) 9780708315613
- Hyd ein Hoes: y ganrif ar lafar (Stroud: Tempus Publishing, 1999) 9780752418452
- Cerddi Llŷn ac Eifionydd (Cerddi fan hyn), (Gomer, 2002).
- Geiriau Ystwyth: holl eiriau darnau gosod Gŵyl Cerdd Dant, Aberystwyth, 2003 (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru: Gwasg y Sir, 2003)
- Y byd a’r betws (Y Lolfa, 2003) (ar y cyd â Dafydd Morgan Lewis). 9780862436988
- Cerddi'r Byd (cyfres Cerddi Fan Hyn), ar y cyd â Bethan Mair, (Gomer, 2004).
- Cerddi Arfon (Cerddi fan hyn), (Gomer, 2005)
- Y Jonesiaid (Y Lolfa, 2006) 9780862439514
- Merêd: Dyn ar dân (Y Lolfa, 2016) (ar y cyd ag Eluned Evans) 9781784612504
- Uwch-olygydd cyfres ‘Cerddi fan hyn’, Gwasg Gomer, 2002-05).
Erthyglau (Detholiad)
golygu- ‘Ffarwel i lawysgrifau llên’, Y llyfr yng Nghymru / Welsh book studies (4, 2001), tt. 7-28.
- ‘Canu o’r un llyfr hymns’, erthygl adolygiad, Y Traethodydd 657 (Ebrill 2001), 86-93.
- ‘Cof Cenedl?’, Taliesin 111 (Gwanwyn 2001), 16-26.
- ‘Delweddau’, Colofn i Talieisn, 2006-09.
- Colofn fisol i’r Goleuad, 2014-21 a Cennad, 2021-24.
Dolenni allannol
golygu- Bywgraffiad Rocet Arwel Jones ar wefan Gwasg Y Lolfa
- @rocetarwel cyfrif Twitter bersonol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Rocet Arwel Jones". Gwynedd Greadigol. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Y Tafod Trydanaidd: Pwy Uffar Yw... Arwel Rocet Jones". archif.cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-12-19.
- ↑ "Bywgraffiad Rocet Arwel Jones". Gwasg Y Lolfa. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.