Refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig, 2011
Cynhaliwyd refferendwm y Bleidlais Amgen i'r Deyrnas Unedig ar 5 Mai 2011 lle bwrwyd pleidlais dros neu yn erbyn newid y dull presennol o bleidleisio. Ar yr un pryd ag etholiad y Cynulliad 2011 cafwyd pleidlais a ddylai Aelodau Seneddol Tŷ'r Cyffredin gael eu hethol trwy system bleidleisio y bleidlais amgen (AV), neu i aros gyda system y cyntaf i'r felin (FPTP).
Cytunwyd ar y refferendwm fel rhan o Gytundeb Clymblaid y Ceidwadwyr - Democratiaid Rhyddfrydol a luniwyd ar ôl etholiad cyffredinol 2010. Cyflwynwyd y syniad o refferendwm gerbron y Senedd ym mis Gorffennaf 2010 a chafodd ei ddyrchafu ar 16 Chwefror 2011 fel rhan o'r Ddeddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011. Dyma oedd yr ail dro yn unig i refferendwm gael ei chynnal yn holl wledydd y Deyrnas Unedig yn hanes gwledydd Prydain, gyda'r tro cyntaf yn cael ei chynnal yn refferendwm y Gymuned Ewropeaidd ym 1975. Fodd bynnag, dyma oedd y refferendwm cenedlaethol cyntaf nad oedd yn ymgynghorol yn unig; roedd yn refferendwm ôl-ddeddfwriaethol, yn gyfreithiol ar ran y llywodraeth, beth bynnag fo'r canlyniad.[1]
Canlyniadau
golyguYng Nghymru pleidleisiodd 325,349 o blaid newid a 616,307 yn erbyn. Ledled gwledydd Prydain pleidleisiodd 69% yn erbyn unrhyw newid a 31% o blaid.
Pleidleisiodd 0.95 miliwn o bobl yng Nghymru, sef 41.7% oedd â'r hawl i bleidleisio, o'i gymharu â 9.8 miliwn (41.8%) ledled gwledydd Prydain. Yn ôl sawl sylwebydd gwleidyddol, roedd pobl yn pleidleidio yn erbyn Nick Clegg.[2]
Y pleidiau gwleidyddol
golyguBarn y pleidiau gwleidyddol ynglŷn â'r Refferendwm | Dros Pleidlais Amgen (Ie) | Dim barn swyddogol | Dros system bresennol "y cyntaf i'r felin" (Na) |
---|---|---|---|
Pleidiau sy'n cael eu cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin | Y Democratiaid Rhyddfrydol Plaid Genedlaethol yr Alban Sinn Féin Plaid Cymru SDLP Plaid Werdd Cymru a Lloegr Alliance Party of Northern Ireland |
Y Blaid Lafur | Y Blaid Geidwadol Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd |
Pleidiau a gynrychiolir yn Senedd Ewrop neu gynulliad rhanbarthol | UKIP Plaid Werdd yr Alban |
BNP Plaid Unoliaethol Ulster Plaid Werdd Gogledd Iwerddon | |
Pleidiau llai | Y Blaid Ryddfrydol Democratiaid Lloegr Y Blaid Gristnogol Cyngrair Cristnogion (DU) Plaid y Môr Ladron United Kingdom Libertarian Party |
Y Blaid Dros Barch Plaid Sosialaidd Gwledydd Prydain |
Traditional Unionist Voice Plaid Gomiwnyddol Gwledydd Prydain Socialist Party of England and Wales |
Dolennau allanol
golygu- Gwefan Saesneg Electoral Reform Society Archifwyd 2010-08-31 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Referendum on voting system goes ahead after Lords vote". BBC News. 17 February 2011. Cyrchwyd 17 February 2011.
- ↑ Gwefan Gymraeg y BBC