Rhyfel Cartref Cyntaf Iemen
Rhyfel cartref rhwng Gweriniaeth Arabaidd Iemen (Gogledd Iemen) a'r Weriniaeth Ddemocrataidd Iemen (De Iemen) a barodd am ddeufis ym 1994 oedd Rhyfel Cartref Cyntaf Iemen. Brwydrodd lluoedd y Weriniaeth Ddemocrataidd dros ddadwneud uno'r ddwy Iemen ac adfer gweriniaeth sosialaidd yn y de. Enillwyd y rhyfel gan luoedd y gogledd a gyrrwyd nifer o arweinwyr y de yn alltud.
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro |
---|---|
Dyddiad | 7 Gorffennaf 1994 |
Rhan o | Effeithiau'r Rhyfel oer |
Dechreuwyd | 4 Mai 1994 |
Daeth i ben | 7 Gorffennaf 1994 |
Lleoliad | Iemen |
Cefndir
golyguUnwyd Gweriniaeth Arabaidd Iemen (Gogledd Iemen) a Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Iemen (De Iemen) ym 1990 i ffurfio Gweriniaeth Iemen. Er gwaethaf ymdrechion i gymodi'r ddwy gyn-weriniaeth a sefydlu llywodraeth yn Sana'a a chyfansoddiad unedig, bu tensiynau rhwng y gogledd a'r de o hyd. Ffoes yr Is-arlywydd Ali Salim al-Beidh i Aden, cyn-brifddinas y de, yn Awst 1993 yn sgil ymgecru yn y llywodraeth glymblaid. Dirywiodd diogelwch mewnwladol wrth i ddynion arfog ymgynghreirio â gwahanol wleidyddion, a manteisiodd arweinwyr llwythol ar y sefyllfa gan wrthsefyll awdurdod Sana'a. Cyhuddwyd y llywodraeth ganolog, dan y Prif Weinidog Haydar Abu Bakr al-Attas, o lygredigaeth, ac erbyn 1994 roedd y wlad ar fin rhyfel.
Y brwydro
golyguDigwyddodd y rhan helaeth o'r brwydro yn y rhyfel cartref yn neheudir Iemen, ac eithrio cyrchoedd awyr yn erbyn dinasoedd yn y gogledd. Derbyniodd y Weriniaeth Ddemocrataidd gymorth ariannol a chyfarpar milwrol oddi ar sawl gwlad Arabaidd – Sawdi Arabia, Oman, Libanus, Irac, Libia, Coweit, Bahrain, a'r Emiradau Arabaidd Unedig – yn ogystal â llywodraethau sosialaidd Ciwba, Gogledd Corea, a Tsieina. Cefnogwyd llywodraeth Sana'a gan Wlad Iorddonen, yr Aifft, Qatar, Unol Daleithiau America, Iran, India, a Swdan.
Yn Ebrill 1994, saethwyd pum taflegryn SCUD gan luoedd y de at ddinas Sana'a, gan achosi rhywfaint o ddifrod.[1] Dyma oedd yr eildro i luoedd anwladwriaethol ddefnyddio taflegrau balistig â phennau confensiynol, wedi i wrthryfelwyr yn Affganistan saethu taflegrau SCUD at Kabul yn Ionawr 1994.[2] Dechreuodd grwpiau arfog ymladd yn erbyn ei gilydd yn nechrau 1994. Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Iemen yn ffurfiol ar 21 Mai 1994, ond na chafodd ei chydnabod gan y gymuned ryngwladol. Ymunodd Ali Nasir Muhammad, cyn-Brif Weinidog De Iemen, a'i gefnogwyr â lluoedd y gogledd, a gyrrwyd y gwrthryfelwyr ar ffo. Cipiwyd Aden ar 7 Gorffennaf, a daeth y brwydro i ben.
Canlyniadau
golyguYn sgil buddugoliaeth y gogledd, ffoes miloedd o wrthryfelwyr y de o Iemen, nifer ohonynt i Sawdi Arabia. Cyhoeddodd yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh y byddai'n rhoi amnest i bob un gwrthryfelwr ond am 16 o'r arweinwyr, a dychwelodd y mwyafrif ohonynt i Iemen felly. O'r diwedd, rhoddwyd amnest anffurfiol hefyd i'r 16 o arweinwyr, ond arhosodd y mwyafrif ohonynt yn alltud.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Brian Whitaker, "Five Scuds fired at Yemeni capital as war worsens", The Guardian (7 Ebrill 1994). Adalwyd ar 25 Medi 2020.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) "Yemen Civil War (1990-1994)", GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 25 Medi 2020.