Rocet Arwel Jones

awdur a bardd

Awdur, bardd, golygydd a darlledwr achlysurol o Gymru yw Rocet Arwel Jones. Ei enw priod llawn yw Robert Arwel Jones. Ganed ym Mangor, 7 Mehefin 1968, a’i fagu yn Rhos-y-bol, Ynys Môn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Rhos-y-bol, Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.[1] Graddiodd gyda BA yn y Gymraeg yn 1989 ac MSc(Econ) mewn Gweinyddu Archifau yn 1998. Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith 1994–96. Roedd yn olygydd y gyfres Cerddi Fan Hyn 2002–6, yn ogystal â golygydd sawl cyfrol yn y gyfres.

Rocet Arwel Jones
Ganwyd7 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
Rhos-y-bol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, bardd Edit this on Wikidata

Personol

golygu

Mae’n byw yn Aberystwyth ac yn briod gyda Sharon Owen ers 2009. Mae ganddynt dri o feibion.

Fe’i hadnabyddir yn gyffredin wrth ei lysenw ‘Rocet’ ac mae’n cyhoeddi dan yr enw hwnnw (neu Rocet Arwel Jones nid Arwel Rocet Jones, ac R. Arwel Jones). Dilynodd y llysenw ef ers yr ysgol gynradd a chreodd sawl stori wahanol i egluro pam, yn eu plith ei fod wedi ei fedyddio’n Rocet oherwydd bod ei dad yn tyfu’r letys ‘rocket’ a bod gan ei fam gysylltiad â Tecwyn Roberts oedd wedi byw yn Rhos-y-bol ac yn un o wyddonwyr blaenllaw NASA yn y ras ofod.[2]

Mae bob amser yn cydnabod ei ddyled i Mudiad y Ffermwyr Ifanc|Fudiad y Ffermwyr Ifanc ac i CFfI Rhos-y-bol yn benodol am ei roi ar ben ffordd.[1]

Cyfrifoldebau

golygu

Bu’n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1994 a 1996 ac yn olygydd ar Tafod y Ddraig rhwng 1990-92. Treuliodd gyfnod (1990-2013) ar Fwrdd Cwmni Theatr Arad Goch, bu’n weithgar gydag elusen Mind (2004-2022) ac yn drysorydd Ymddiriedolaeth Cronfa Goffa William Salesbury (2016-). Etholwyd yn aelod o’r Academi Gymreig (2003), yn aelod ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Tŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol, (2005-11) ac yn aelod o Fwrdd ac yn Is-Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru (2011-14). Mae’n Flaenor yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, ers 2009.

Dechreuodd weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1991 yn mynegeio llawysgrifau barddoniaeth cyn cymhwyso’n archifydd ac arbenigo mewn archifau llenyddol Cymraeg a Chymreig. Bu’n gyfrifol am dderbynion di-brint cyn ei ddyrchafu’n Bennaeth Datblygiadau Digidol (2006-2008) ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus (2008-2014).

Gadawodd y Llyfrgell yn 2014 i fynd yn Swyddog Grantiau Cymraeg gyda Chyngor Llyfrau Cymru, bu’n Bennaeth Datblygu Cyhoeddi gyda’r Cyngor ers 2019.

Llyfryddiaeth

golygu
 
Clawr Jambo Caribŵ: Taith i Borth Uffern

Mae wedi cyhoeddi yn ei enw ei hun, golygu a chyd-olygu sawl cyfrol.[3][1]

Llyfrau

golygu

Llyfrau wedi eu golygu

golygu
  • Dal Pen Rheswm: cyfweliadau gydag Emyr Humphreys (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) 9780708315613
  • Hyd ein Hoes: y ganrif ar lafar (Stroud: Tempus Publishing, 1999) 9780752418452
  • Cerddi Llŷn ac Eifionydd (Cerddi fan hyn), (Gomer, 2002).
  • Geiriau Ystwyth: holl eiriau darnau gosod Gŵyl Cerdd Dant, Aberystwyth, 2003 (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru: Gwasg y Sir, 2003)
  • Y byd a’r betws (Y Lolfa, 2003) (ar y cyd â Dafydd Morgan Lewis). 9780862436988
  • Cerddi'r Byd (cyfres Cerddi Fan Hyn), ar y cyd â Bethan Mair, (Gomer, 2004).
  • Cerddi Arfon (Cerddi fan hyn), (Gomer, 2005)
  • Y Jonesiaid (Y Lolfa, 2006) 9780862439514
  • Merêd: Dyn ar dân (Y Lolfa, 2016) (ar y cyd ag Eluned Evans) 9781784612504
  • Uwch-olygydd cyfres ‘Cerddi fan hyn’, Gwasg Gomer, 2002-05).

Erthyglau (Detholiad)

golygu
  • ‘Ffarwel i lawysgrifau llên’, Y llyfr yng Nghymru / Welsh book studies (4, 2001), tt. 7-28.
  • ‘Canu o’r un llyfr hymns’, erthygl adolygiad, Y Traethodydd 657 (Ebrill 2001), 86-93.
  • ‘Cof Cenedl?’, Taliesin 111 (Gwanwyn 2001), 16-26.
  • ‘Delweddau’, Colofn i Talieisn, 2006-09.
  • Colofn fisol i’r Goleuad, 2014-21 a Cennad, 2021-24.

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Rocet Arwel Jones". Gwynedd Greadigol. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.
  2. "Y Tafod Trydanaidd: Pwy Uffar Yw... Arwel Rocet Jones". archif.cymdeithas.cymru. Cyrchwyd 2020-12-19.
  3. "Bywgraffiad Rocet Arwel Jones". Gwasg Y Lolfa. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.