Ieuan ap Hywel Swrdwal

bardd

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Ieuan ap Hywel Swrdwal (bl. tua 1436 - 1470), a ystyrir y bardd Cymraeg cyntaf i gyfansoddi yn Saesneg ac felly y bardd "Eingl-Gymraeg" cyntaf, yn ôl rhai.

Ieuan ap Hywel Swrdwal
Ganwyd1430 Edit this on Wikidata
Bu farw1480, 1485 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1430 Edit this on Wikidata
TadHywel Swrdwal Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn frodor o ardal Brycheiniog ym Mhowys, roedd yn hannu o deulu o dras Eingl-Normanaidd ac yn fab i'r bardd Hywel Swrdwal. Roedd ei frawd Dafydd yn fardd ar y mesurau caeth hefyd.[1]

Bu Ieuan am gyfnod yn feili yn Y Drenewydd ac roedd ganddo gysylltiad cryf â Rhydychen. I noddwyr y beirdd yn y Canolbarth y canodd Hywel amlaf ac mae ganddo gerdd arbennig i fugeildy neu blasty Bryndraenog, ger Trefyclawdd nid nepell o Glun.[2]

Cerddi golygu

Roedd Ieuan yn adnabod y bardd Llawdden a chedwir ar glawr ymryson barddol rhyngddynt.[3]

Cyfansoddodd awdl yn yr iaith Saesneg i'r Forwyn Fair, a hynny mewn orgraff Gymraeg. Dywedai rhai o'i gyfoeswyr iddo'i chyfansoddi i gau ceg y Saeson hynny yn Rhydychen a ensynodd "nad oedd yr un ysgolhaig da yn hannu o Gymru".[2] Dyma englyn o'r awdl:

O mighti ladi, owr leding - tw haf
At hefn owr abeiding:
Yntw ddy ffast eferlasting
I set a braents ws tw bring.[2]

Honnir gan rai mai dyma'r enghraifft gyntaf o farddoniaeth Eingl-Gymreig Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

  • Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu (Aberystwyth, 2000). Adran 2: 'Gwaith Ieuan ap Hywel Swrdwal'.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu
  2. 2.0 2.1 2.2 Gwyddoniadur Cymru (Yr Academi Gymreig, 2008)
  3. Gwaith Hywel Swrdwal a'i Deulu, cerddi 31, 32.