Llywelyn Goch y Dant
Bardd o Forgannwg oedd Llywelyn Goch y Dant (bl. 1470). Ychydig a wyddys amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chanu ei gyd-feirdd ym Morgannwg. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o fro Tir Iarll.[1]
Llywelyn Goch y Dant | |
---|---|
Ganwyd | 15 g |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1470 |
Bywgraffiad
golyguBardd proffesiynol oedd Llywelyn, un o Feirdd yr Uchelwyr. Cyfeiria ei gyfoeswr Ieuan Du'r Bilwg ato fel "pencerdd" a "phen prydydd" mewn cywydd dychan amdano. Er mai hwyl yw'r cyfan, dyma'r unig ddisgrifiad o Llywelyn sydd gennym, a roddir yng ngenau gwraig a'i welodd yn basio ar y ffordd yn cardota:
- Gwelais ddyn golas o dda,
- Danheddir, doe yn heidda,
- Ac ar ei war, garrai warth,
- Lieingwd o lywangarth,
- Eilun cam ar lun cwmwd,
- Elor goch â'i law ar gwd.[2]
Cefnogodd feirdd Tir Iarll yn yr ymryson a gododd fel canlyniad i gywydd marwnad gan Hywel ap Dafydd i Ieuan ap Hywel Swrdwal. Gwyddom i Ieuan farw tua 1470 a dyma'r un o'r ychydig ddyddiadau pendant i amseru bywyd Llywelyn Goch. Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu ei fod yn frodor o Dir Iarll hefyd.[1]
Cerddi
golyguDoes dim llawer o gerddi Llywelyn Goch wedi goroesi, ond yn eu plith ceir marwnad i Rosier Fychan (Syr Roger Vaughan) o Dretŵr (m. 1471), un o uchelwyr grymusaf y De.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd