Yr Ustus Llwyd

Bardd Cymraeg a flodeuai yn y 14eg ganrif

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Yr Ustus Llwyd, a flodeuai yn y 14g. Roedd yn bengampwr ar y canu dychanol. Ni wyddys ddim amdano ar wahân i'r hyn y gellir ei gasglu oddi wrth dystiolaeth ei gerddi. Mae'n bosibl ei fod yn frodor o ardal Mawddwy.[1]

Yr Ustus Llwyd
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Mawddwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaGruffudd de la Pole Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Nid oes modd inni wybod erbyn heddiw a oedd yr Ustus yn ustus (barnwr) go iawn. Mae'n ddigon posibl mai llysenw cellweirus neu enw barddol ydyw, am ei fod mor hoff o ddarlunio a dychanu beiau pobl. Mae un o'i gerddi yn dangos ei fod yn gyfarwydd iawn â daearyddiaeth cwmwd Mawddwy (de-ddwyrain Gwynedd heddiw) ac felly nid yw'n amhosibl ei fod yn frodor o'r ardal honno ac efallai'n ustus ar y cwmwd a ddaeth yn ddrwgenwog yn ddiweddarach fel cartref Gwylliaid Cochion Mawddwy. Ymddengys fod yr Ustus wedi derbyn ei addysg farddol ym Morgannwg, ond ceir enghreifftiau eraill o feirdd o'r Canolbarth yn cael eu hyfforddi yno a does dim arlliw o iaith y De ar ei waith. Brodor o Feirionnydd oedd y bardd felly, yn ôl pob tebyg.[1]

Ceisiodd rhai hynafiaethwyr ddyddio'r bardd i gyfnod y Gogynfeirdd, ond medrwn dderbyn ei fod yn ei flodau yn y cyfnod tua 1345-1370, fwy neu lai.[1]

Cerddi golygu

Dim ond tair cerdd o'i waith sydd ar glawr heddiw. Ceir marwnad safonol i Roser ap Llywelyn, dychan i Ruffudd de la Pole, Iarll Mawddwy, a dychan arall, deifiol, digrif, anllad ac amharchus iawn, i un Madog Offeiriad.[1]

Nid yw'n amhosibl mai mab Llywelyn Bren yw'r Roser ap Llywelyn y canodd yr Ustus farwnad iddo, ond dyfalu yw hynny. Roedd Gruffudd de la Pole yn un o ddisgynyddion Gwenwynwyn, tywysog Powys Wenwynwyn; gwyddom ei fod yn fyw yn 1343. Ni wyddys ddim o gwbl am Fadog Offeiriad.[1]

Cedwir y testunau cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Golygir gwaith y bardd gan Twm Morys yn y gyfrol,

  • Barry J. Lewis (gol.), Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007). Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).