Mae Sgoteg Wlster (Sgoteg Wlster: Ulstèr-Scotch, Gwyddeleg: Albainis Uladh),[1][2] a elwir hefyd yn Ulster Scotch neu Ullans, yn dafodiaith Sgoteg a siaredir mewn rhannau o Wlster yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.[3][4][5] Fe'i hystyrir yn gyffredinol yn dafodiaith neu grŵp o dafodieithoedd Sgoteg, er bod grwpiau fel Cymdeithas Iaith Sgoteg Wlster[6] ac Academi Sgoteg Wlster[7] yn ei hystyried yn iaith yn ei rhinwedd ei hun, a'r Ulster-Scots Agency[8] a chyn Adran Diwylliant, Celfyddydau a Hamdden[9] wedi defnyddio'r term Ulster-Scots language.

Enw_iaith
Siaredir yn
Rhanbarth
Cyfanswm siaradwyr
Teulu ieithyddol
  • {{{enw}}}
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3
Wylfa Ieithoedd
English dialects in Ulster contrast.png

Gall rhai diffiniadau o Sgoteg Wlster hefyd gynnwys Saesneg Safonol a siaredir ag acen Sgoteg Wlster.[10][11] Mae hon yn sefyllfa debyg i'r Sgoteg Iseldir yr Alban â Saesneg Safonol yr Alban[12] gyda geiriau yn cael eu hynganu gan ddefnyddio'r ffonemau o eiddo Sgoteg Wlster sydd agosaf at rai Saesneg Safonol.[12] Dylanwadwyd ar Sgoteg Wlster gan Saesneg Iwerddon, yn enwedig Saesneg Wlster, a Gwyddeleg Wlster. O ganlyniad i ddylanwadau cystadleuol Saesneg a Sgoteg, gellir disgrifio amrywiaethau o Sgoteg Wlster yn "fwy Saesneg" neu'n "fwy Sgoteg" eu naws.[11]

Er bod sawl ymchwilydd wedi cyfeirio ati yn Saesneg fel Scotch-Irish, mae'r term hwnnw bellach wedi'i ddisodli gan y term Ulster Scots.[13] Mae siaradwyr fel arfer yn cyfeirio at eu hiaith frodorol fel Braid Scots, [14] Scotch[15] [16] neu the hamely tongue (y tafod gartrefol/gyfeillgar).[17] Ers yr 1980au cyfeirir ati hefyd fel Ullans, gair gweud a boblogeiddiwyd gan y meddyg, yr hanesydd amatur a'r gwleidydd Ian Adamson, [18] wrth uno Ulster a Lallans, yr Sgoteg am Iseldir, [19] ond sydd hefyd yn acronym ar gyfer "Ulster-Scots language in literature and native speech" [20] ac Ulstèr-Scotch,[1][2]. O bryd i'w gilydd, mae'r term Hiberno-Scots yn ymddangos,[21] boed ar gyfer y dafodiaith neu'r grŵp ethnig.[22]

Poblogaeth a lledaeniad y siaradwr

golygu

Yn ystod canol yr 20g, sefydlodd yr ieithydd Robert John Gregg ffiniau daearyddol ardaloedd Sgoteg Wlster yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd gan siaradwyr brodorol. [23] Yn ôl ei ddiffiniad, siaredir Sgoteg Wlster yng nghanolbarth a dwyrain Antrim, gogledd Down, gogledd-ddwyrain Swydd Derry/Contae Dhoire, - Coontie Lunnonderrie yn Sgoteg Wlster, ac ym mhentrefi pysgota arfordir Morne. Fe'i siaredir hefyd yn ardal Laggan a rhannau o Ddyffryn Finn yn nwyrain Donegal/Dhún na nGall ac yn ne Inishowen yng ngogledd Donegal.[24] Wrth ysgrifennu yn 2020, dadleuodd yr ieithydd a aned yn Fintona, Warren Maguire, fod rhai o’r meini prawf a ddefnyddiodd Gregg fel rhai sy’n nodweddiadol o Sgoteg Wlster yn gyffredin yn ne-orllewin Tyrone/Thír Eoghain - a Coontie Owenslann yn Sgoteg Wlster ac fe’u canfuwyd mewn safleoedd eraill ar draws Gogledd Iwerddon a archwiliwyd gan Arolwg Ieithyddol yr Alban. [25]

 
Cyfran yr ymatebwyr yng nghyfrifiad 2011 yng Ngogledd Iwerddon 3 oed a hŷn a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Sgoteg Wlster

Canfu Arolwg Life and Times Gogledd Iwerddon 1999 fod 2% o drigolion Gogledd Iwerddon yn honni eu bod yn siarad Sgoteg Wlster, a fyddai’n golygu cymuned lefaru gyfan o tua 30,000 yn y diriogaeth. [26] Mae amcangyfrifon eraill yn amrywio o 35,000 yng Ngogledd Iwerddon,[27] i gyfanswm "optimistaidd" o 100,000 gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon (dwyrain Sir Donegal yn bennaf). [28] Wrth siarad mewn seminar ar 9 Medi 2004, derbyniodd Ian Sloan o Adran Diwylliant, Celfyddydau a Hamdden Gogledd Iwerddon (DCAL) nad oedd Arolwg Life and Times 1999 Gogledd Iwerddon “yn nodi’n arwyddocaol fod unoliaethwyr neu genedlaetholwyr yn gymharol fwy neu lai. debygol o siarad Sgoteg Wlster, er mewn termau absoliwt roedd mwy o unoliaethwyr yn siarad Sgoteg Wlster na chenedlaetholwyr".[ dyfyniad sydd ei angen ]

Yng nghyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon, nododd 20,930 o bobl (1.14% o’r boblogaeth) eu bod yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a deall Sgoteg Wlster, nododd 26,570 o bobl (1.45% o’r boblogaeth) eu bod yn gallu siarad ond na allant ddarllen na'i hysgrifennu tra i 190,613 o bobl (10.38% o'r boblogaeth) wybod rhywfaint amdani.[29]

Statws

golygu

Statws ieithyddol

golygu
 
Arwydd stryd dwyieithog yn Ballyhalbert, County Down

Mae mwyafrif ieithyddion y byd yn trin Sgoteg Wlster fel amrywiaeth o'r Sgoteg; mae Caroline Macafee, er enghraifft, yn ysgrifennu bod "Sgoteg Wlster [...] yn amlwg yn un o dafodieithoedd Sgoteg Ganolog."[4] Mae Adran Diwylliant, Celfyddydau a Hamdden Gogledd Iwerddon yn ystyried Sgoteg Wlster fel "amrywiaeth leol yr iaith Sgoteg." [27] Mae rhai ieithyddion, megis Raymond Hickey, [30] yn trin Sgoteg Wlster (a ffurfiau eraill ar Sgoteg) fel tafodiaith Saesneg. Dywedwyd bod ei "statws yn amrywio rhwng tafodiaith ac iaith".[31]

Mae selogion fel Philip Robinson (awdur Ulster-Scots: a Grammar of the Traditional Written and Spoken Language[32]), Cymdeithas Iaith Sgoteg Wlster[33] a chefnogwyr Academi Sgoteg Wlster [34] o'r farn bod Sgoteg Wlster yn iaith ynddi'i hun. Mae’r safbwynt hwnnw wedi’i feirniadu gan Asiantaeth Sgoteg-Wlster, adroddiad gan y BBC sy’n dweud: “Cyhuddodd [yr Asiantaeth] yr academi o hyrwyddo Sgoteg Wlster ar gam fel iaith ar wahân i Sgoteg.”[35] Adlewyrchir y safbwynt hwn mewn llawer o'r ymatebion Academaidd  i'r "Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynigion ar gyfer Academi Sgoteg Wlster"[36]

Statws cyfreithiol

golygu

  Diffinnir Sgoteg Wlster mewn Cytundeb rhwng Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Iwerddon yn sefydlu cyrff gweithredu a wnaed yn Nulyn ar yr 8fed dydd o Fawrth 1999 yn y termau a ganlyn:

Deallir i "Ullans" fod yn amrywiad o'r iaith Sgoteg yn draddodiadol mewn rhannau o Ogledd Iwerddon a Donegal.

Roedd Gorchymyn Cydweithredu Gogledd/De (Cyrff Gweithredu) Gogledd Iwerddon 1999, [37] a roddodd effaith i’r cyrff gweithredu yn ymgorffori testun y cytundeb yn ei Atodlen 1.

Mae’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth Prydain ynghylch y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol yn darllen fel a ganlyn: [38]

The United Kingdom declares, in accordance with Article 2, paragraph 1 of the Charter that it recognises that Scots and Ulster Scots meet the Charter's definition of a regional or minority language for the purposes of Part II of the Charter.

Roedd y gydnabyddiaeth hon yn wahanol iawn i'r ymrwymiadau a wnaed o dan y Siarter mewn perthynas â'r Wyddeleg, y defnyddiwyd darpariaethau penodol o dan Ran III ar eu cyfer i ddiogelu a hyrwyddo'r iaith honno. Defnyddiwyd diffiniad Ullans o Orchymyn Cydweithredu Gogledd/De (Cyrff Gweithredu) Gogledd Iwerddon 1999 uchod ar 1 Gorffennaf 2005 Ail Adroddiad Cyfnodol gan y Deyrnas Unedig i Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Ewrop yn amlinellu sut y cyflawnodd y DU ei rhwymedigaethau dan y Siarter. [39]

Mae Cytundeb Gwener y Groglith (nad yw'n cyfeirio at Sgoteg Wlster fel "iaith") yn cydnabod Sgoteg Wlster fel "rhan o gyfoeth diwylliannol ynys Iwerddon", a sefydlodd y Cytundeb Gweithredu yr Asiantaeth Sgoteg-Wlster trawsffiniol (Tha Boord o Ulstèr-Scotch ).

Y gorchwyl deddfwriaethol a osodwyd ar gyfer yr asiantaeth gan Orchymyn Cydweithredu Gogledd/De (Cyrff Gweithredu) Gogledd Iwerddon 1999 yw: “hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth a defnydd o Ullans ac o faterion diwylliannol Sgoteg-Wlster, yng Ngogledd Iwerddon ac ledled yr ynys".

Mae'r asiantaeth wedi mabwysiadu datganiad cenhadaeth: i hyrwyddo astudio, cadwraeth, datblygiad a defnydd o Sgoteg Wlster fel iaith fyw; annog a datblygu ystod lawn y diwylliant sy'n ei dilyn; a hybu dealltwriaeth o hanes pobl Sgoteg Wlster. [1] Er gwaethaf cyfeiriad yr Asiantaeth at Sgoteg Wlster fel "iaith", parhaodd yr amlygiad hwn o'r gwahaniaeth rhwng Sgoteg Wlster fel ffurf ieithyddol, a "diwylliant Sgoteg Wlster" sy'n cyfeirio'n fras at ffurfiau diwylliannol sy'n gysylltiedig â'r boblogaeth o ddisgynyddion Albanaidd, wedi hynny.

Diwygiodd Deddf Gogledd Iwerddon (Cytundeb St Andrews) 2006 Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 i fewnosod adran (28D) o'r enw Strategaethau yn ymwneud â'r Wyddeleg ac iaith Sgoteg Wlster ayyb. a osododd ymysg eraill ddyletswydd ar y Pwyllgor Gwaith i " fabwysiadu strategaeth sy’n nodi sut y mae’n bwriadu gwella a datblygu iaith, treftadaeth a diwylliant Sgoteg Wlster.” Mae hyn yn adlewyrchu'r geiriad a ddefnyddiwyd yng Nghytundeb St Andrews i gyfeirio at wella a datblygu "iaith, treftadaeth a diwylliant Sgoteg Wlster". [40] Mae yna ddadlau o hyd am statws Sgoteg Wlster.[41]

Hanes a llenyddiaeth

golygu
 
Arysgrif Sgoteg Ganol "Godis Providens Is My Inheritans" dros y prif fynediad sy'n arwain at y tŵr yng Nghastell Ballygally

Bu i Albanwyr, Gaeleg eu hiaith yn bennaf, ymgartrefu yn Wlster ers y 15fed ganrif, ond cyrhaeddodd nifer fawr o bobl o Iseldiroedd yr Alban, tua 200,000 a oedd yn siarad Sgoteg, yn ystod yr 17eg ganrif yn dilyn Trefedigaeth 1610, gyda'r uchafbwynt yn ystod y 1690au.[42] Yn ardaloedd craidd anheddiad Albanaidd, roedd Albanwyr yn fwy niferus na'r ymsefydlwyr Seisnig o bump neu chwech i un.[43]

Mae llenyddiaeth o ychydig cyn diwedd y traddodiad anhunanymwybodol ar droad y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif bron yn union yr un fath ag ysgrifennu cyfoes o'r Alban. [44] Mae WG Lyttle, sy’n ysgrifennu yn Paddy McQuillan's Trip Tae Glesco, yn defnyddio’r ffurfiau Sgoteg nodweddiadol kent and begood, sydd bellach wedi’u disodli yn Wlster gan y ffurfiau Seisnig mwy prif ffrwd knew, knowed, neu knawed a begun. Mae’n bosibl bod llawer o’r gwahaniaethau cyfoes bychan rhwng Sgoteg fel y’i siaredir yn yr Alban ac Wlster yn deillio o lefelu tafodiaith a dylanwad Saesneg Canol Wlster a ddaeth yn sgil newid demograffig cymharol ddiweddar yn hytrach na chyswllt uniongyrchol â Gwyddeleg, cadw nodweddion hŷn neu ddatblygiad ar wahân.[ dyfyniad sydd ei angen ]

Mae'r ysgrifen gynharaf a nodwyd yn Sgoteg yn Wlster yn dyddio o 1571: llythyr oddi wrth Agnes Campbell o Sir Tyrone at y Frenhines Elizabeth ar ran Turlough O'Neil, ei gŵr. Er bod dogfennau sy'n dyddio o gyfnod y Trefediagethu yn dangos nodweddion Sgoteg ceidwadol, dechreuodd ffurfiau Saesneg fod yn bennaf o'r 1620au wrth i Sgoteg ddirywio fel cyfrwng ysgrifenedig.[45]

Mewn ardaloedd lle siaredir Sgoteg Wlster roedd galw sylweddol yn draddodiadol am waith beirdd Albanaidd, yn aml mewn argraffiadau a argraffwyd yn lleol. Ymhlith y rhain mae The Cherrie and the Slae gan Alexander Montgomerie yn 1700; ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach argraffiad o gerddi Syr David Lindsay ; naw argraffiad o The Gentle shepherd gan Allan Ramsay rhwng 1743 a 1793; ac argraffiad o farddoniaeth Robert Burns yn 1787, yr un flwyddyn ag argraffiad Caeredin, ac adargraffiadau yn dilyn yn 1789, 1793 a 1800. Ymhlith beirdd Albanaidd eraill a gyhoeddwyd yn Wlster yr oedd James Hogg a Robert Tannahill .

 
Barddoniaeth gan Robert Huddlestone (1814–1887) wedi'i harysgrifio mewn palmant yn Sgwâr yr Ysgrifenwyr, (Writers' Square), Belffast/Belfast/Béal-Feirste/Bilfawst

Ategwyd hynny gan adfywiad barddoniaeth a math o ryddiaith eginol yn Wlster, a ddechreuodd tua 1720. [46] Yr amlycaf o'r rhain oedd barddoniaeth y rhyming weaver, a cyhoeddwyd rhyw 60 i 70 o gyfrolau rhwng 1750 a 1850, a'r uchafbwynt yn y degawdau 1810 i 1840, er i'r farddoniaeth brintiedig gyntaf (ar ffurf pennill Habbie) gan awdur Sgoteg Wlster gael ei gyhoeddi mewn dalen lydan yn Strabane/An Srath Bán yn 1735. [47] Edrychai'r beirdd weaver hyn i'r Alban am eu modelau diwylliannol a llenyddol ac nid oeddent yn efelychwyr syml ond yn amlwg yn etifeddwyr o'r un traddodiad llenyddol gan ddilyn yr un arferion barddonol ac orgraff; nid yw bob amser yn bosibl ar unwaith i wahaniaethu rhwng ysgrifennu Sgoteg traddodiadol o'r Alban ac Wlster. Ymhlith y rhyming weavers roedd James Campbell (1758–1818), James Orr (1770–1816), Thomas Beggs (1749–1847), David Herbison (1800–1880), Hugh Porter (1780–1839) ac Andrew McKenzie (1780–1839).

Defnyddiwyd Sgoteg hefyd yn y naratif gan nofelwyr Wlster fel WG Lyttle (1844–1896) ac Archibald McIlroy (1860–1915). Erbyn canol y 19eg ganrif ysgol ryddiaith Kailyard oedd y math llenyddol amlycaf, gan oddiweddyd barddoniaeth. Roedd hwn yn draddodiad a rennir gyda'r Alban a barhaodd i ddechrau'r 20fed ganrif. [46] Roedd Sgoteg hefyd yn ymddangos yn aml yng ngholofnau papurau newydd Wlster, yn enwedig yn Antrim a Down, ar ffurf sylwebaeth gymdeithasol ffug-enw yn defnyddio arddull person cyntaf gwerinol.[45] Darparodd y ffugenw Bab M'Keen (aelodau olynol o deulu Weir yn ôl pob tebyg: John Weir, William Weir, a Jack Weir) sylwebaethau comig yn y Ballymena Observer a County Antrim Advertiser am dros gan mlynedd o'r 1880au. [48]

Goroesodd traddodiad lled brin o farddoniaeth frodorol i mewn i'r 20fed ganrif yng ngwaith beirdd fel Adam Lynn, awdur casgliad 1911 Random Rhymes frae Cullybackey, John Stevenson (bu farw 1932 ), yn ysgrifennu fel "Pat M'Carty", a John Clifford (1900-1983) o Ddwyrain Antrim. [49] Ar ddiwedd yr 20fed ganrif adfywiwyd y traddodiad barddol, er ei fod yn aml yn disodli arfer orgraff traddodiadol Sgoteg Fodernyr gyda chyfres o idiolectau gwrthgyferbyniol . [50] Ymhlith yr awduron arwyddocaol y mae James Fenton, gan ddefnyddio ffurf moelodl yn bennaf, ond hefyd yn achlysurol bennill Habbie. [46] Defnyddia orgraff sy'n cyflwyno i'r darllenydd y cyfuniad anodd o argraff seinegol, Sgoteg drwchus, a mwy o amrywiaeth o ffurfiau penillion nag a ddefnyddiwyd hyd yn hyn. [50] Mae'r bardd Michael Longley (ganwyd 1939) wedi arbrofi gyda Sgoteg Wlster ar gyfer cyfieithu cerddi Clasurol, fel yn ei gasgliad 1995 The Ghost Orchid . [48] Mae gwaith Philip Robinson (ganwyd 1946) wedi'i ddisgrifio fel rhywbeth ymylol ar " kailyard ôl-fodern ". [48] Mae wedi cynhyrchu trioleg o nofelau Wake the Tribe o Dan (1998), The Back Streets o the Claw (2000) a The Man frae the Ministry (2005), yn ogystal â llyfrau stori i blant Esther, Quaen o tha Ulidian Pechts a Fergus an tha Stane o Destinie, a dwy gyfrol o farddoniaeth Alang the Shore (2005) ac Oul Licht, New Licht (2009). [51]

Mae tîm ynm Melffast wedi dechrau cyfieithu rhannau o'r Beibl i Sgoteg Wlster. Cyhoeddwyd Efengyl Luc yn 2009 gan Wasg Ullans. Mae ar gael yn y Prosiect Beiblaidd YouVersion. [52]

Ers y 1990au

golygu
 
Arwydd ar gyfer Adran Diwylliant, Celfyddydau a Hamdden Gogledd Iwerddon mewn Saesneg,Gwyddeleg (canol) a chyfieithiad mewn ffurf o Sgoteg Wlster (gwaelod).

Ym 1992 ffurfiwyd Cymdeithas Iaith Sgoteg-Wlster er mwyn amddiffyn a hyrwyddo Sgoteg Wlster, yr oedd rhai o’i haelodau’n ei gweld fel iaith yn ei rhinwedd ei hun, gan annog defnydd mewn lleferydd, ysgrifennu ac ym mhob agwedd ar fywyd.

O fewn telerau’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol mae’n ofynnol i Lywodraeth Prydain, ymhlith pethau eraill:

  • Hwyluso a/neu annog y defnydd o Sgoteg wrth siarad ac ysgrifennu, mewn bywyd cyhoeddus a phreifat.
  • Darparu ffurfiau a dulliau priodol ar gyfer addysgu ac astudio'r iaith ar bob cam priodol.
  • Darparu cyfleusterau i alluogi’r rhai nad ydynt yn siarad yr iaith sy’n byw lle siaredir yr iaith i’w dysgu os dymunant.
  • Hyrwyddo astudiaeth ac ymchwil i'r iaith ym mhrifysgolion sefydliadau cyfatebol.

Mae'r Asiantaeth Sgoteg-Wlster, a ariennir gan DCAL ar y cyd â'r Adran dros Ddiwylliant, Treftadaeth a'r Gaeltacht, yn gyfrifol am hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth a defnydd o Ullans ac o faterion diwylliannol Sgoteg Wlster, yng Ngogledd Iwerddon a ledled yr ynys. Sefydlwyd yr asiantaeth o ganlyniad i Gytundeb Belffast ym 1998. Mae ei phencadlys ar Great Victoria Street yng nghanol Belffast, tra bod gan yr asiantaeth swyddfa fawr yn Raphoe, Swydd Donegal .

Yn 2001 sefydlwyd Sefydliad Astudiaethau Sgoteg Wlster ym Mhrifysgol Wlster . [53]

Mae Academi Sgoteg Wlster wedi'i chynllunio gyda'r nod o warchod, datblygu a dysgu iaith Sgoteg Wlster ar y cyd â siaradwyr brodorol i'r safonau academaidd uchaf. [34]

Mae rhaglen ddogfen 2010 The Hamely Tongue gan y gwneuthurwr ffilmiau Deaglán O Mocháin yn olrhain gwreiddiau'r diwylliant a'r iaith hon yn ôl, ac yn adrodd ei hamlygiadau yn Iwerddon heddiw.

Orgraffau newydd

golygu
 
Arwydd tairieithog yng Nghanolfan Gelfyddydau Strule yn Omagh yn dangos Saesneg, Gwyddeleg (canol) a ffurf o Sgoteg Wlster (gwaelod) [54]

Erbyn dechrau'r 20g roedd y traddodiad llenyddol bron â darfod, [55] er bod rhywfaint o farddoniaeth 'dafodiaith' yn parhau i gael ei hysgrifennu. [56] Mae llawer o adfywiadwyr Sgoteg Wlster wedi ymddangos, er enghraifft fel "cyfieithiadau swyddogol", ers y 1990au. Fodd bynnag, ychydig yn gyffredin sydd ganddi ag orgraff draddodiadol yr Sgoteg fel y disgrifir yn y Manual of Modern Scots gan Grant a Dixon (1921). Disgrifiodd Aodán Mac Póilin, ymgyrchydd Gwyddeleg, yr orgraffau diwygiadol hyn fel ymgais i wneud Sgoteg Wlster yn iaith ysgrifenedig annibynnol ac i ennill statws swyddogol. Maen nhw'n ceisio "bod mor wahanol i'r Saesneg (ac weithiau Sgoteg) â phosib". [57] Disgrifiodd ef fel llond gwlad o eiriau darfodedig, newyddeiriau (enghraifft: stoour-sucker ar gyfer sugnwr llwch ), sillafiadau segur (enghraifft: qoho ar gyfer pwy ) a "sillafu anghyson". [57] Mae'r sillafiad hwn "weithiau'n adlewyrchu iaith bob dydd Sgoteg Wlster yn hytrach na chonfensiynau naill ai Sgoteg fodern neu hanesyddol, ac weithiau ddim". [57] Mae'r canlyniad, meddai Mac Póilin, yn "annealladwy i'r siaradwr brodorol yn aml". [57] Yn 2000, disgrifiodd John Kirk "effaith net" y "cyfuniad hwnnw o nodweddion traddodiadol, wedi goroesi, wedi'u hadfywio, wedi newid, ac wedi'u dyfeisio" fel "tafodiaith artiffisial". Ychwanegodd,

Yn sicr nid yw'n fersiwn ysgrifenedig o dafodiaith lafar wledig Sir Antrim, fel y mae ei gweithredwyr yn ei annog yn aml, sy'n cyflawni'r camsyniad y mae'n wor ain leid . (Heblaw, mae'r diwygwyr tafodieithol yn honni nad ydynt yn siaradwyr brodorol y dafodiaith eu hunain!) Mae llafaredd y dafodiaith newydd hon yn dwyllodrus, oherwydd nid yw'n llafar nac yn gynhenid. Mae siaradwyr tafodieithol traddodiadol yn ei chael yn wrth-sythweledol ac yn ffug... [58]

Yn 2005, cwestiynodd Gavin Falconer gymhlethdod biwrocratiaeth, gan ysgrifennu: "Mae parodrwydd swyddogol Gogledd Iwerddon i anfon arian trethdalwyr i dwll du o gyfieithiadau annealladwy i ddefnyddwyr cyffredin yn peri pryder". [59] Ar y llaw arall, mae deunyddiau addysgu a gynhyrchwyd yn ddiweddar wedi'u gwerthuso'n fwy cadarnhaol. [60]

Testunau enghreifftiol

golygu

Mae’r tri dyfyniad testun isod yn dangos sut roedd ffurf ysgrifenedig draddodiadol Sgoteg Wlster o’r 18fed ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif bron yn anwahanadwy oddi wrth Albanwyr ysgrifenedig cyfoes o’r Alban. [61]

Gweler hefyd

golygu
  • Albanwyr Ulster
  • Unoliaeth yn Iwerddon —5:4 Amddiffyn diwylliant Prydeinig-Undebol, 5.5 Sgoteg Ulster a Degawd Newydd, Dull Newydd
  • Geiriadur yr Iaith Sgoteg
  • Hanes yr iaith Sgoteg
  • Ieithoedd Iwerddon
  • Ieithoedd yn y Deyrnas Unedig
  • Llenyddiaeth yn ieithoedd eraill Prydain
  • WF Marshall
  • Saesneg canol-Ulster

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Ulster-Scots Agency". Ulster-Scots Agency. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  2. 2.0 2.1 "Anent Oorsels". Ulsterscotslanguage.com. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  3. Gregg, R. J. (1972) "The Scotch-Irish Dialect Boundaries in Ulster" in Wakelin, M. F., Patterns in the Folk Speech of the British Isles, London: Athlone Press
  4. 4.0 4.1 Macafee, C. (2001) "Lowland Sources of Ulster Scots" in J. M. Kirk & D. P. Ó Baoill, Languages Links: the Languages of Scotland and Ireland, Belfast: Cló Ollscoil na Banríona, p. 121
  5. Harris, J. (1985) Phonological Variation and Change: Studies in Hiberno English, Cambridge, p. 15
  6. "Language". Ulster-Scots Language Society. Cyrchwyd 12 May 2017.
  7. Montgomery, Michael. "An Academy established and the task begun: A report on work in progress". Ulster-Scots Academy. Cyrchwyd 12 May 2017.
  8. "An introduction to the Ulster-Scots Language". Ulster-Scots Agency. Cyrchwyd 12 May 2017.
  9. "Strategy to Enhance and Develop the Ulster-Scots Dialect, Heritage and Culture 2015–2035" (PDF). Department of Culture, Arts and Leisure (Northern Ireland). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 3 October 2015. Cyrchwyd 17 May 2017.
  10. Gregg, R. J. (1964) "Scotch-Irish Urban Speech in Ulster: a Phonological Study of the Regional Standard English of Larne, County Antrim" in Adams, G. B. Ulster Dialects: an Introductory Symposium, Cultura: Ulster Folk Museum
  11. 11.0 11.1 Harris, J. (1985) Phonological Variation and Change: Studies in Hiberno English, Cambridge.
  12. 12.0 12.1 Harris (1984) "English in the north of Ireland" in P. Trudgill, Language in the British Isles, Cambridge; p. 119
  13. Harris, J. (1985) Phonological Variation and Change: Studies in Hiberno English, Cambridge, p. 13
  14. Traynor, Michael (1953) The English Dialect of Donegal. Dublin: Royal Irish Academy, p. 36
  15. Traynor (1953), p. 244
  16. Nic Craith, M. (2002) Plural Identities—Singular Narratives.
  17. Fenton, J. (1995) The Hamely Tongue: a Personal Record of Ulster-Scots in County Antrim, Ulster-Scots Academic Press
  18. Falconer, G. (2006) "The Scots Tradition in Ulster", Scottish Studies Review, Vol.
  19. Hickey, R. (2004) A Sound Atlas of Irish English.
  20. Tymoczko, M. & Ireland, C. A. (2003) Language and Tradition in Ireland: Continuities and Displacements, Univ of Massachusetts Press.
  21. Wells, J. C. (1982) Accents of English: the British Isles, Cambridge University Press p. 449
  22. Winston, A. (1997) Global Convulsions: Race, Ethnicity, and Nationalism at the End of the Twentieth Century, SUNY Press; p. 161
  23. Gregg, R. J. (1972) The Scotch-Irish Dialect Boundaries in Ulster in Wakelin, M. F., Patterns in the Folk Speech of the British Isles, London: Athlone Press
  24. Caroline I. Macafee (ed.), A Concise Ulster Dictionary.
  25. Maguire, Warren (2020). Language and Dialect Contact in Ireland: The Phonological Origins of Mid-Ulster English. Edinburgh University Press. t. 4. ISBN 9781474452908.
  26. "NI Life and Times Survey – 1999: USPKULST". Ark.ac.uk. 9 May 2003. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  27. 27.0 27.1 "Frequently Asked Questions | DCAL Internet". Dcalni.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  28. "Ulster Scots". Uni-due.de. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2015. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  29. "Census 2021 main statistics language tables". Northern Ireland Statistics and Research Agency (yn Saesneg). 2022-09-07. Cyrchwyd 21 Hydref 2022.
  30. Raymond Hickey Irish English: History and Present Day Forms, Cambridge University Press, 2007.
  31. Crowley, Tony (2006) "The Political Production of a Language".
  32. "ulsterscotsagency.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 January 2009.
  33. "Language". Ulsterscotslanguage.com. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  34. 34.0 34.1 "結婚式の準備・役立つ知っておきたいこと【まとめ】". Ulsterscotsacademy.org. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  35. Conor Spackman (31 July 2008). "UK | Northern Ireland | Ulster-Scots academy 'misguided'". BBC News. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  36. "Public Consultation on Proposals for an Ulster-Scots Academy". Dcalni.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (Doc) ar 23 Medi 2015. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  37. "The North/South Co-operation (Implementation Bodies) (Northern Ireland) Order 1999". Opsi.gov.uk. 5 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  38. "List of declarations made with respect to treaty No. 148". Conventions.coe.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-09. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  39. "PDF" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 Rhagfyr 2009.
  40. "Home – Department of Taoiseach". Taoiseach.gov.ie. 19 May 2009. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  41. McCoy, Gordon, and O'Reilly, Camille (2003) "Essentialising Ulster? the Ulster-Scots Language Movement".
  42. Montgomery & Gregg 1997: 572
  43. Adams 1977: 57
  44. Montgomery & Gregg 1997: 585
  45. 45.0 45.1 Corbett, John; McClure, J. Derrick & Stuart-Smith, Jane (eds.) (2003) The Edinburgh Companion to Scots, Caeredin: Edinburgh University Press ISBN 0-7486-1596-2
  46. 46.0 46.1 46.2 Robinson (2003) The historical presence of Ulster-Scots in Ireland, in The Languages of Ireland, ed.
  47. Hewitt, John, ed.
  48. 48.0 48.1 48.2 Ferguson, Frank, ed.
  49. Ferguson, Frank (ed.) 2008, Ulster-Scots Writing, Dublin: Four Courts Press ISBN 978-1-84682-074-8; p. 21
  50. 50.0 50.1 "abdn.ac.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2013.
  51. "Philip Robinson". Ulsterscotslanguage.com. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  52. Luik. Bible.com.
  53. "University of Ulster". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2011.
  54. An ingang is simply an entrance or entry SND: Ingang.
  55. Montgomery, Michael Gregg, Robert (1997) 'The Scots language in Ulster', in Jones (ed.), p. 585
  56. Ferguson, Frank (ed.) (2008) Ulster-Scots Writing, Dublin: Four Courts Press; ISBN 978-1-84682-074-8; p. 376
  57. 57.0 57.1 57.2 57.3 Mac Poilin, Aodan (9 February 1999). "Language, Identity and Politics in Northern Ireland". A State Apart. BBC NI. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  58. Kirk, John M. (2000) "The New Written Scots Dialect in Present–day Northern Ireland" in Magnus Ljung (ed.) Language Structure and Variation; Stockholm: Almqvist & Wiksell; pp. 121–138.
  59. Falconer, Gavin (2005) "Breaking Nature's Social Union – The Autonomy of Scots in Ulster" in John Kirk & Dónall Ó Baoill eds.
  60. "An Evaluation of the Work of the Curriculum Development Unit for Ulster-Scots" (PDF). Stranmillis University College. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
  61. Falconer, G. The Scots Tradition in Ulster, Scottish Studies Review, Vol.