Ieithoedd y Deyrnas Unedig

Y Saesneg, a thafodieithoedd ohoni, yw'r iaith a siaredir gan y rhan helaeth o'r Deyrnas Unedig,[9] er hynny siaredir sawl iaith "ranbarthol" hefyd. Siaredir un iaith frodorol ar ddeng ar draws Ynysoedd Prydain: tair iaith Germanaidd, pum iaith Geltaidd a thair iaith Romáwns. Siaredir hefyd sawl iaith fewnfudo yn Ynysoedd Prydain, gan amlaf mewn ardaloedd dinasoedd; o Dde Asia a Gorllewin Ewrop y mae'r ieithoedd hyn yn bennaf.

Ieithoedd y Deyrnas Unedig
      Saesneg       Sgoteg       Cymraeg       Gaeleg yr Alban
Prif iaith/ieithoeddSaesneg (98%;[1] cenedlaethol ac yn de facto swyddogol)[a][2][3][4]
Iaith/Ieithoedd lleiafrifolSgoteg (2.5%),[5] Cymraeg (1%),[6] Sgoteg Wlster (0.05%),[7] Cernyweg (<0.01%), Gaeleg yr Alban (0.1%), Gwyddeleg (0.1%)[a]
Prif iaith/ieithoedd mewnfudoPwyleg (1%), Punjabi (0.5%), Wrdw (0.5%), Bengaleg (0.4%), Gwjarati (0.4%), Arabeg (0.3%), Ffrangeg (0.3%), Portiwgaleg (0.2%), Sbaeneg (0.2%), Tamileg (0.2%)
Prif iaith/ieithoedd tramorFfrangeg (23%), Almaeneg (9%), Sbaeneg (8%)[b][8]
Arwyddiaith/ArwyddieithoeddIaith Arwyddo Brydeinig, Iaith Arwyddo Gwyddelig, Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon
Cynllun(iau) bysellfwrdd cyffredin
QWERTY Prydain
a.^ Y rhai a nododd eu bod yn gallu ei siarad yn "dda" ar y lleiaf.
b.^ Y rhai a nododd fod peth fedr ynddi ganddynt.

Y Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto yn y Deyrnas Unedig,[3][4] a siaredir gan ryw 59.8 miliwn o breswylwyr, neu 98% y boblogaeth, sydd yn dair oed a throsodd.[1][2][10][11][12] Mae rhyw 700,000 o bobl yn medru siarad y Gymraeg yn y DU,[13] sydd yn iaith swyddogol yng Nghymru[14] a'r unig iaith swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r DU.[15] Gall rhyw 1.5 miliwn o bobl yn y DU siarad Sgoteg — er bod dadl parthed ai iaith ei hun ynteu amrywiaeth ar y Saesneg ydyw.[5][16]

Mae cryn drafod ar ieithoedd y tair tiriogaeth ddibynnol y Goron (Jersey, Ynys y Garn ac Ynys Manaw),[17] er nad ydynt yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Rhestr o ieithoedd a thafodieithoedd golygu

Byw golygu

Dengys y tabl isod ieithoedd brodorol byw y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon). Ni chynhwysir yma ieithoedd tiriogaeth sy'n ddibynnol y goron (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).

Iaith Math Siaredir yn Nifer o siaradwyr yn y DU
Saesneg Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig 59,824,194; 98% (Cyfrifiad 2011)[1]
Sgoteg (Sgoteg Wlstwr yng Ngogledd Iwerddon) Almaenaidd (Almaenaidd y Gorllewin) yr Alban (Iseldiroedd yr Alban, Gallaibh/Caitnes, Ynysoedd y Gogledd)
Gogledd Iwerddon (swyddau Down, Antrim, Derry), Caerferwig
2.6% (Cyfrifiad 2011)
Cymraeg Celtaidd (Brythonaidd) Cymru (yn enwedig y gorllewin a'r gogledd) a rhannau o Loegr ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; cymunedau'r Cymry mewn dinasoedd mawrion Lloegr megis Llundain, Birmingham, Manceinion, a Lerpwl. 700,000; 1% (amcangyfrifiad)[13]
  • Cymru: 562,016; 19% (gyda 431,000, neu 14.6%, yn ystyried eu hunain yn rhugl)[19][20]
    Pob medr (siarad, darllen, neu ysgrifennu): 630,062[21]
  • Lloegr: 110,000 (amcangyfrifiad o'r siaradwyr yn 2001)[13]
    8,200 o siaradwyr iaith gyntaf (Cyfrifiad 2011)[22]
  • yr Alban a Gogledd Iwerddon: 1,000 (amcangyfrifiad o'r siaradwyr yn 2001)[13]
Iaith Arwyddo Prydeinig BANZSL Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig 125,000[23] (data 2010)
Gwyddeleg Celtaidd (Goedelig) Gogledd Iwerddon, gyda chymunedau yn Glasgow, Lerpwl, Manceinion, Llundain ayyb. 95,000[24] (data 2004)
Angloromaneg Cymysg Cymru, yr Alban, a Lloegr 90,000[25] (data 1990)
Gaeleg yr Alban Celtaidd (Goedelig) yr Alban (Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda lleiafrifoedd sylweddol mewn sawl dinas Albanaidd; cymuned fechan yn Lloegr) 65,674,[4] (Cyfrifiad yr Alban 2001) er mai 32,400 yw'r nifer sydd yn rhugl ym mhob tri medr[26]
Cernyweg Celtaidd (Brythonaidd) Cernyw (lleiafrifoedd bychain o siaradwyr yn Aberplym, Llundain, a De Cymru) 557[27] (data 2011)
Sielteg Cymysg Drwyddi draw'r Deyrnas Unedig Ni wyddys yr union nifer o siaradwyr, ond mae Ethnolouge yn nodi 30,000 yn y DU[28]
Iaith Arwyddo Gwyddelig Ffrengig Gogledd Iwerddon Anhysbys
Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon BANZSL Gogledd Iwerddon Anhysbys

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Yn ôl y Cyfrifiad 2011, gall 53,098,301 o bobl yng Nghymru a Lloegr, 5,044,683 o bobl yn yr Alban, a 1,681,210 o bobl yng Ngogledd Iwerddon siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn"; sef cyfanswm o 59,824,194. Felly, o'r 60,815,385 o breswylwyr y DU sydd yn dair oed a throsodd, gall 98% siarad y Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn".
  2. 2.0 2.1 "United Kingdom". Languages Across Europe. BBC. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  3. 3.0 3.1 United Kingdom; Key Facts. Commonwealth Secretariat. http://www.thecommonwealth.org/YearbookHomeInternal/139560/. Adalwyd 23 April 2008.
  4. 4.0 4.1 4.2 "English language". Directgov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2012. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  5. 5.0 5.1 Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 1,541,693 (2.5%) can speak Scots, link.
  6. QS206WA – Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 60,815,385 residents of the UK over the age of three, 562,016 (1%) can speak Welsh. Retrieved 15 Mawrth 2015.
  7. 7.0 7.1 Anorak, Scots. "Ulster Scots in the Northern Ireland Census". Scots Language Centre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-04. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw ec.europa.eu
  9. http://www.cambridge.org/uk/catalogue/catalogue.asp?isbn=9780521794886
  10. Scotland's Census 2011 – Proficiency in English, All people aged 3 and over.
  11. Northern Ireland Census 2011 – Main language and Proficiency in English, All usual residents aged 3 and over.
  12. ONS census, QS205EW – Proficiency in English. Retrieved 15 Mawrth 2015.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 Bwrdd yr Iaith Gymraeg, A statistical overview of the Welsh language, by Hywel M Jones, page 115, 13.5.1.6, England. Published Chwefror 2012. Retrieved 28 Mawrth 2016.
  14. "Welsh Language (Wales) Measure 2011". legislation.gov.uk. The National Archives. Cyrchwyd 30 Mai 2016.
  15. "Welsh Language Measure receives Royal Assent". Welsh Government. 11 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2013. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. A.J. Aitken in The Oxford Companion to the English Language, Oxford University Press 1992. p.894
  17. "Background briefing on the Crown Dependencies: Jersey, Guernsey and the Isle of Man" (PDF). Ministry of Justice. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-11-02. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
  18. Scotland's Census 2011 – Language, All people aged 3 and over. Out of the 5,118,223 residents of Scotland over the age of three, 1,541,693 (30%) can speak Scots.
  19. QS206WA - Welsh language skills, ONS 2011 census. Out of the 2,955,841 residents of Wales over the age of three, 562,016 (19%) can speak Welsh. Retrieved 20 Gorffennaf 2015.
  20. "2011 Census: Key Statistics for Wales, March 2011". Office for National Statistics. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  21. http://www.nomisweb.co.uk/census/2011/QS206WA/view/2092957700?cols=measures
  22. "2011 Census, Key Statistics and Quick Statistics for Wards and Output Areas in England and Wales". Office for National Statistics. 30 Ionawr 2013. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  23. "The GP Patient Survey in Northern Ireland 2009/10 Summary Report" (PDF). Department of Health, Social Services, and Public Safety. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  24. "United Kingdom". Ethnologue. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  25. "Angloromani". Ethnologue. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2013.
  26. "Scotland's Census 2011: Gaelic report (Part 1)". National Records of Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-27. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2016. Text "National Records of Scotland" ignored (help)
  27. "South West". TeachingEnglish. BBC British Council. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2010. Cyrchwyd 9 Chwefror 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  28. https://www.ethnologue.com/country/GB