Sgwrs Defnyddiwr:Xxglennxx/Archif
Delweddau
golyguAnnwyl Xxglennxx, diolch am eich sylwadau. Buaswn yn hoffi ychwanegu'r manylion sydd ar goll o'r ffeiliau uwchlwythiedig, ond yn anffodus nid wyf yn gwybod sut i wneud hynny. Os gallwch ddarparu cyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud hyn, yna buaswn yn fwy na pharod i gwblhau y newidiadau hyn. Yn y cyfamser, gofynnaf i chwi i beidio a dileu y delweddau. Edrychaf ymlaen i glywed gennych gyda'r manylion (sylwer nad yw dolen i dudalen arall sy'n 'egluro' hyn yn ddigon, gan nad oes unrhyw dudalen gymorth ar y safle yn darparu digon o fanylion i gwblhau'r diben hwn).
- At sylw Glenn. Dallt pam y gwnest eu dileu, ond dw i'n meddwl bod rhaid cymryd approach mwy ymarferol a sensitif at bethau fel hyn, gan gymryd i ystyriaeth:
- a. A ydy'r canllawiau'n ddigon clir/amlwg? Dim beirniadaeth o ti yw hyn, ti'n gwneud mwy na neb i drosi popeth i'r Gymraeg a'i wneud yn hygyrch, ond mae'n dasg ddi-ben-draw.
- b. A roeddwyd digon o rybudd/rhybudd o gwbl cyn eu dileu, a rhoi cyfle i hyn gael ei wirio? Mae hyn yn bwusig, rhag ofn i ni droi cyfranwyr newydd i ffwrdd drwy ymddangos yn anhyblyg.
- c. Y math o ddelwedd. Tydy bathodyn ysgol ddim mor ddifrifol a gwaith gan artist er enghraifft, yn fy marn i. Mae llai o beryg y bydd y Wicipedia Cymraeg/Priosiect WikiMeida gael ei erlyn, ac felly llai o frys ei wirio.
- At sylw Llwybrau. Ymddiheuriadau os yw hyn yn ymddangos yn llawdrwm, ond hyd yn oed petai Glenn ddim wedi dileu'r ffeil dan sylw, mae'n bosib byddai 'botiau' (rhaglen gyfrifadurol o beth dwi'n ddallt!) allanol wedi gwneud yn union yr un peth. Ni'n tiro'n gorau i ddarparu cymaint o gyfarwyddiadau a phosib, ond mae'n dasg annodd gyda chymiatn i'w wneud, a chyn llied yn cyfrannu. Diolch i chi am eich cyfraniad. O edrych ar eich cyfraniadau eraill, sylwaf eich bod wedi llwytho delwedd o Iwcs a Doyle hefyd, heb fanylion parthed eii hawlfraint. Falle bydd rhaid ei ddileu a'i ail-lwytho eto, ond gobeithio gall Glenn roi cyfarwyddyd ar beth sydd orau. --Ben Bore 13:27, 18 Ionawr 2012 (UTC)
- At sylw Glenn. Dallt pam y gwnest eu dileu, ond dw i'n meddwl bod rhaid cymryd approach mwy ymarferol a sensitif at bethau fel hyn, gan gymryd i ystyriaeth:
- Llwybrau. Yr ffordd haws i'w wneud ydy copïo a phastio'r wybodaeth angenrheidiol o en. Dwi ddim yn gwybod o le mae ffeiliau'n dod. Dwi yn ceisio i'w ffeindio, ond fel arfer, dwi ddim yn gallu. Pe bydden ni ar en, caiff delweddi hen wybodaeth hawlfraint yn cael eu tynnu o fewn cwbl o oriau - rhoddais gwbl o ddyddiau. Ni allem ni, fel wici bach, derbyn delweddi/ffeiliau sydd heb y wybodaeth hawlfraint - mae'n erbyn y gyfraith, ch'mod. Pe daw rhyw gwmni o hyd i un o'u delweddi nhw ar ein safle, ac mae'r ddelwedd dan sylw yn colli gwybodaeth a gwybodaeth hawlfraint, gallen nhw ein herlyn ni. Dyna fe yn y bôn.
- Ben. Dwi ddim yn derbyn y dadl y byddai'n troi cyfranwyr newydd i ffwrdd. Dyw'r fath beth yn digwydd ar en, felly sai'n gweld gwerth y dadl hwnnw. Nid yw delweddi ysgol mor ddifrifol, ond mae torcyfraith yn dorcyfraith, beth bynnag yw e. Yr unig awgrym y gallwn ei roi ydy defnyddio gwybodaeth en, NEU'r ffurflen uwchlwytho - mae'r paramedrau'n dangos yn awtomatig (dyddiad, hawl ayyb) ynghyd â'r tag hawlfraint o'r ddewislen. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:47, 18 Ionawr 2012 (UTC)
- Llwybrau. Yr ffordd haws i'w wneud ydy copïo a phastio'r wybodaeth angenrheidiol o en. Dwi ddim yn gwybod o le mae ffeiliau'n dod. Dwi yn ceisio i'w ffeindio, ond fel arfer, dwi ddim yn gallu. Pe bydden ni ar en, caiff delweddi hen wybodaeth hawlfraint yn cael eu tynnu o fewn cwbl o oriau - rhoddais gwbl o ddyddiau. Ni allem ni, fel wici bach, derbyn delweddi/ffeiliau sydd heb y wybodaeth hawlfraint - mae'n erbyn y gyfraith, ch'mod. Pe daw rhyw gwmni o hyd i un o'u delweddi nhw ar ein safle, ac mae'r ddelwedd dan sylw yn colli gwybodaeth a gwybodaeth hawlfraint, gallen nhw ein herlyn ni. Dyna fe yn y bôn.
Diolch i chi o'ch dau am eich sylwadau. Mae'n rhaid i mi gytuno fod hyn yn ymddangos yn du hwnt o lawdrwm yn enwedig gan NAD YDWYF wedi torri'r gyfraith yn yr achos yma gan mai fi sydd efo'r hawlfraint ar y delweddau hyn. Cytunaf hefyd gyda dadl Ben fod agwedd o'r fath yn debygol o yrru cyfranwyr newydd i ffwrdd, achos fel cyfranwr newydd felly yr wyf i yn teimlo am y peth. Gallwn gyfrannu sawl erthygl i'r prosiect hwn, ond rwyf yn llai tebygol o wneud hynny pan fod unrhyw ymdrech yn cael ei wasgu o'r neilltu heb unrhyw seremoni ac heb unrhyw arweiniad ar sut i wneud iawn o'r sefyllfa. Deallaf fod gwybodaeth hawlfraint yn hollbwysig, ac unwaith eto, rwyf yn fwy na bodlon i roi y wybodaeth angenrheidiol i chwi, ond yn anffodus NID WYF YN DEALL SUT MAE GWNEUD HYN, ac nid yw'r gosodiad gan Glenn: "copïo a phastio'r wybodaeth angenrheidiol o en" yn gwneud unrhyw synnwyr i mi ac felly nid yw hyn o unrhyw gymorth i ddatrys y sefyllfa. Gofynnaf i chwi yn garedig unwaith eto i roi manylion EGLUR ar sut i ddarparu y wybodaeth orchymyniedig ar y delweddau ar ôl iddynt gael eu uwchlwytho. A oes modd gwneud hyn? Diolch ymlaen llaw, edrychaf ymlaen i glywed gennych. Llwybrau 14:34, 19 Ionawr 2012
- Fel mae Glenn yn nodi, nid ydym wedi cael cyfle i gyfieithu'r cyfarwyddiadau i'r Gymraeg, mae'n anodd gwybod ble i ddechrau! Ceisiaf chwilio amdanynt ar y Wikipedia Saesneg. Yn y cyfamser, os ydych yn llwytho delweddau sy'n waith i chi, awgrymir eich bod yn eu llwytho i'r Comin (Wiki Commons) sy'n ei wneud yn haws i bob prosiect, ymhob iaith, allu manteisio at y ddelwedd rydych am rannu. Mae dolen ato fan hyn. O beth dw i'n gofio, yn y broses uwchlwytho, mae blychau i'w llenwi, ble rydych yn datgan mai eich gwaith gwreiddiol chi ydy o a ble rydych yn nodi pa drwydded hoffech roi ar ddefnydd y delwedd. Falle bod hyn yn edrych fel rigmarol hurt, ond mae cyfrifoldeb gan sefydliad WikiMedia i sicrhau nad yw delweddau yn mynd yn groes i hawlfraint.--Ben Bore 16:37, 19 Ionawr 2012 (UTC)
- Os mai ti sydd â'r hawlfraint, mae'n rhaid iti nodi hyn yn y nodyn. Os nad wyt ti, nid ydym, fel wici, yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid cael gwared â ffeiliau sy'n colli gwybodaeth, yn enwedig gwybodaeth hawlfraint. Gan dy fod yn dweud mai ti sydd â'r hawlfraint, dwi'n tybio dy fod yn rhywbeth i wneud â'r ysgol? Yn yr achos hwnnw, nid wyt ti i fod i ysgrifennu erthyglau sy'n ymwneud â'r ysgol, oherwydd mai gwrthdaro diddordebau ydyw. Efallai dyma sut rwyt yn teimlo am y peth, ond dyma hawliau Wicipedia - nid fi, cofia. Bu'n hen bryd i'r wici yma gael trefn ar eu delweddi, ac dwi yn un sy'n ceisio eu gorfodi cyn belled ag y bo modd. Mae cyfarwyddiadau gennym, sef Wicipedia:Uwchlwytho_ffeiliau#Mini_how-to. Mae'r erthygl yn Saesneg ar hyn o bryd yn anffodus. Mae canllawiau hefyd ar Arbennig:Upload. 1. Nodi o le daw'r ffeil. 2. Darparu'r wybodaeth. 3. Dewis y drwydded. Mae rhybudd yno hefyd, sy'n dweud, "Mae'n rhaid ichi ddarparu'r wybodaeth (y disgrifiad, ffynhonnell, awdur, dyddiad, a'r caniatâd) a'r drwydded gywir o'r gwymplen "Trwyddedu:" isod (hynny yw, gyda'r tag cywir). Os nad ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn, dilëir y ffeil cyn gynted ag y bo modd a heb drafodaeth. Drwy uwchlwytho ffeil, rydych yn cytuno i gwrdd â'r amodau hyn ac yn tystio'ch bod yn deall yr hyn sydd ei hangen gwneud arnoch. Os oes angen cymorth arnoch, ymwelwch â Wikipedia:Media copyright questions neu ofyn yn Wicipedia:Y Ddesg Gymorth." Gobeithio fod hwn o gymorth iti. Os nad, dweda eto, a byddwn yn hollol barod i egluro ar unrhyw beth rwyf wedi'i ddweud :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:19, 20 Ionawr 2012 (UTC)
Annwyl Glenn. Diolch am eich cymorth efo'r mater hwn. Fe sylwch fy mod nawr wedi ail-uwchlwytho y ddelwedd o dan teitl gwahanol ac rwyf hefyd wedi cynnwys y wybodaeth orchymyniedig. Nid oeddwn yn sicr o'r confensiwn ar sut i gyflwyno'r wybodaeth yma'n union, ond ceisiais fy ngorau efo'r ychydig ganllawiau sydd ar gael. Hyderaf fod hyn yn ddigonnol; fodd bynnag, os teimlwch nad ydyw, yna buaswn yn ddiolchgar pe baech yn gadael i mi wybod hynny, ac egluro sut y gellid gwella neu ychwannegu at y wybodaeth. Diolch unwaith eto.
The Pebble and the Penguin
golygu Cwblhawyd
Hi, yn yr erthygl The Pebble and the Penguin, gallwch chi ychwanegu at yr adran lleisiau Drake - Tim Curry os gwelwch yn dda? Diolch. 64.134.154.100 21:16, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)
-- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:38, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)
Cwblhawyd
- Glenn, rwyt ti yma wedi'r cwbl. Roeddwn i'n mynd i awgrymu dy fod yn ymarfer blocio am y tro cyntaf trwy flocio'r cyfeiriad hwn am flwyddyn ond dwi newydd wneud o. Y Fandal Disney eto. Gwiria unrhyw gyfeiriad IP sy'n cyfrannu i erthyglau Disney a phethau tebyg. Os ydy o'n dod o UDA mae'n sicr pwy ydy o! Paid byth ac ymddiried ynddo fo. Anatiomaros 21:45, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)
- A! T'mod beth, ro'n i'n meddwl mai'r Fandal Disney yw e - ro'n i ar fin i roi cynnig ar flocio, ond wedyn penderfynais beidio, jyst rhag ofn mod i'n ei wneud yn anghywir! Pa wefan wyt yn ei ddefnyddio er mwyn gwirio IPs? Byddaf yn fwy gofalus o hyn ymlaen - siŵr o fod fe fydd rhywun yn ceisio cymryd mantais o'm urddo'n weinyddwr newydd! Arhosaf i'r un nesaf, haha! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:51, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Sbia ar waelod tudalen cyfraniadau defnyddiwr IP, e.e. yr IP hwn. Mae WHOIS, Traceroute a Geolocator yn gweithio fel rheol. Hefyd mae unrhyw gyfeiriad sy'n dechrau gyda 64 neu 65 yn siwr o fod o dde-ddwyrain UDA (fel arfer mae ei IP o Texas, Georgia a'r cylch). Ond mae unrhyw gyfraniad gan rywun ddiarth i erthyglau fel hyn yn amheus. Os ydy o'n gyfranwr cofrestrdig o wici arall yn gofyn am newid y rhyngwici bydd yn gadael dolen i'w wici cartref - gwiria fo cyn newid unrhywbeth. "Pest of the West"! Anatiomaros 22:00, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)
- A iawn - dwi'n gweld nawr. Diolch! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:04, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)

Nodyn bach...
golygu Cwblhawyd
Smai? A llongyfs ar y dyrchafiad! Arswydus swydd!
Rwan ta, wneid di gymeryd cip ar frawddeg gyntaf fy erthygl ar Coulomb os gwelid di'n dda? Dw i wedi creu tair Nodyn i newid y fformiwla mathemategol, ond mae'r ddolen yn dal i fod yn goch! Mr dewin, weli di ymhellach na fi? Diolch eto. Llywelyn2000 18:10, 28 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Helo! Bydda i wedi dod yn ôl atat yn gyflymach, ond dyw fy net ddim wedi bod yn gweithio drwy'r dydd! Dwi wedi datrys y peth iti. Dwi'm yn gwpod pam, ond roedd rhywbeth allan o'i le efo'r is-nodyn Nodyn:Val/delimitnum, oherwydd roedd is-nodyn yr is-nodyn (arhosa gyda fi! . . . .) yn dibynnu arno, sef Nodyn:Val/delimitnum/logic. :) Ydy'n gweithio fel y dylai? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:55, 28 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Y Dewin Amryliw fyddi o hyn allan, achubwr y dydd! Buost wych! Roedd creu'r i-is-Nodyn "Logic" yn rheymegol - yn rhy resymegol, yn rhy amlwg i mi ei weld! Ha! Diolch Glenn! Llywelyn2000 05:50, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Dim problem o gwbl :) T'mod beth, dwi'n eitha hoff o greu a datrys nodiadau, hehe! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 03:25, 30 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Y Dewin Amryliw fyddi o hyn allan, achubwr y dydd! Buost wych! Roedd creu'r i-is-Nodyn "Logic" yn rheymegol - yn rhy resymegol, yn rhy amlwg i mi ei weld! Ha! Diolch Glenn! Llywelyn2000 05:50, 29 Gorffennaf 2010 (UTC)
Cyfieithu teitlau
golyguYchydig dros fis yn ôl wnest ti newid Celfyddyd Rhyfel i The Art of War ar erthyglau Sun Tzu a cudd-wybodaeth, gan gyfeirio at ein harfer o ddefnyddio teitlau gwreiddiol gweithiau os nad oes cyfieithiad Cymraeg safonol. Hyd y gwn i nid oes cyfieithiad Cymraeg ohono, onid 孙子兵法 (neu Sūnzǐ Bīngfǎ) yw teitl gwreiddiol y gwaith? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:14, 5 Awst 2010 (UTC)
- Dwi'n cytuno gyda Adam. Os nad oes cyfieithiad Cymraeg - fel sy'n arferol gyda chlasuron mawr y byd, yn anffodus! - rhoi'r teitl gwreiddiol gyda chyfieithiad Cymraeg ohono rhwng cromfachau yw'r arfer, e.e. Sūnzǐ Bīngfǎ ('Celfyddyd Rhyfel'). Anatiomaros 22:55, 5 Awst 2010 (UTC)
- ON Dwi wedi diwygio'r enw yn y ddwy erthygl. Anatiomaros 23:01, 5 Awst 2010 (UTC)
- Iawn, dim problem. Meddwl oeddwn mai "The Art of War" yw'r enw gwreiddiol. Diolch am ei ddadwneud :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:28, 7 Awst 2010 (UTC)
- Popeth yn iawn. Gest ti hwyl yn y
SyrcasSteddfod? Croeso nôl! Anatiomaros 15:31, 7 Awst 2010 (UTC)- Do diolch. Mi roedd yn wych! Arhosais ar Faes B gyda ffrindiau :) Nôl i Wici bellach :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:58, 7 Awst 2010 (UTC)
- Popeth yn iawn. Gest ti hwyl yn y
- Iawn, dim problem. Meddwl oeddwn mai "The Art of War" yw'r enw gwreiddiol. Diolch am ei ddadwneud :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:28, 7 Awst 2010 (UTC)
Siroedd a dinasoedd
golyguHi Glenn, sut mae? Newydd gweld dy nodyn newydd Blaenau Gwent. Newidiais y categori am rwan er mwyn cael categori o ryw fath yno. Dwi'n awgrymu rhoi'r nodiadau newydd yma yn y categori newydd 'Nodiadau siroedd Cymru' (neu '...a dinasoedd Cymru' efallai?). Does neb o gwbl - heblaw yr Anglopedia! - yn defnyddio'r term 'prif ardaloedd'/principal areas. 'Nodiadau siroedd a dinasoedd Cymru' fyddai'r dewis symlaf (er bod yr union dermau yn amrywio maent i gyd, yn cynnwys y "bwrdeistrefi sirol" a'r dinasoedd (Caerdydd, Casnewydd) gyda statws sirol dan y gyfraith). Ydy hynny'n gwneud synnwyr? Anatiomaros 17:37, 9 Awst 2010 (UTC)
- Helo. Yn iawn, diolch :) Mae hynny'n iawn gen i - ti sy'n gwybod yr holl wybodaeth ynglŷn â chategorïau, felly cer ati :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:34, 9 Awst 2010 (UTC)
diolch
golyguAnd while you're at it, take a look at: http://translate.google.co.uk/#cy%7Cen%7CGwlad%2C%20gwlad%2C%20pleidiol%20wyf%20i%27m%20gwlad. This is inspired. At least if it gives you the same as it gave me. Sais Neis 10:52, 11 Awst 2010 (UTC)
- Hey. Haha! That's pretty cool ;p But just keep in mind that Google Translate is not welcome here (there's a message that we have somewhere which we use on people's pages to tell them this is we suspect they've been using it, but I can't for the life of me find it)- it's full of errors and can only be used competently by professional translators, or that's the Welsh Language Board's view anyway. Anyway, have hwyl editing and contributing here :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:40, 11 Awst 2010 (UTC)
Camarwain pobl sy'n siarad Iseldireg?
golyguOeddet ti wedi sylwi fod y disgrifiad o faner Lloegr ar y nodyn Croeso yn darllen "Baner y Deyrnas Unedig" (yn Iseldireg)? Lol :~) Anatiomaros 22:16, 23 Awst 2010 (UTC)
- Wps! Cam fi yw 'na. Roedd yn faner y DU yno i ddechrau, ond wedyn newidiais fe i faner Loegr, a chopïais y cod o'r Wici Iseldireg er mwyn iddo weithio. Wi ddim wedi sieco eto os wyt ti wedi newid fe. Os wyt ti wedi, diolch ymlaen llaw :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:13, 23 Awst 2010 (UTC)
Mireinio'r erthygl ar Wica!
golyguDw i'n gweld dy fod yn dal i gywiro Wica. M. Dw inna hefyd! Bydd yn rhaid im ei safio o dan enw arall, felly. Ond fyddi di'n methu a gweld y cywiriadau! Damo. Gwell i mi stopio nes dy fod wedi gorffen. Llywelyn2000 04:57, 26 Awst 2010 (UTC)
- Dw i wedi cyrraedd y paragraff sy'n cychwyn Yn ôl Janet... (ON mae'r dyfyniadau sy'n dilyn hynny yn anelwig. Llywelyn2000 04:59, 26 Awst 2010 (UTC)
- Ah, iawn. Wps. Doeddwn ddim yn meddwl dy fod di lan mor hwyr â hyn. Dwi'n mynd nawr, felly mae croeso iti gywiro unrhywbeth :D Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 05:01, 26 Awst 2010 (UTC)
- Mae'n dod! Cwestiwn: beth mae hyn yn ei olygu: "Caiff y pum elfen hyn eu harddeisyf..." ? Llywelyn2000 06:44, 27 Awst 2010 (UTC)
- :D Ŵp. "The five elements are invoked" h.y., yn cael eu harddeisyf. Roeddwn yn chwarae rhwng "galw ar" (call upon) ac "arddeisyf" (invoke), ond bellach wedi dewis 'arddeisyf' (enghraifft o 'galw ar': Yr wyf yn galw/Galwaf ar yr Hen Dduwies....) :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 11:45, 27 Awst 2010 (UTC)
- Mae "Gelwir ar y pum elfen." yn fwy dealladwy, dw i'n meddwl, ond a ydy'r ystyr yr un peth? Onid wyt ti isio elfen o "weithredu"? hy "Gelwir ar y pum elfen i wneud eu gwaith." Ti a ŵyr. Mae talp, cofia, yn dal heb ei gywiro / symlhau; mi a i'r afael a fo gynted ag y medraf. Llywelyn2000 13:26, 27 Awst 2010 (UTC)
- Rydym yn "galw ar" y duwiau oherwydd ein bod yn fwy na ninnau, felly mae'n arwydd o barch iddynt. Ie, elfen o'u gweithredu yw e, ac dyma pam yr ydym yn eu harddeisyf yn hytrach na jyst eu galw. Rydym yn gallu gorchymyn yr elfennau, ond nid y duwiau :O -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 13:32, 27 Awst 2010 (UTC)
- ...felly, ymlaen a thi! Llywelyn2000 20:34, 27 Awst 2010 (UTC)

A wyt yn golygu dy fod di wedi gorffen cywiro? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:02, 27 Awst 2010 (UTC)
- Nac ydw. Ond mi fedri di (yn y cyfamser) ddefnyddio "arddeisyf"; gydag esboniad, efallai? Llywelyn2000 06:14, 28 Awst 2010 (UTC)
Sabath? Glenn: mae gen to linell "Mae Wiciaid yn dathlu wyth gŵyl dymhorol o'r enw Gŵyl|Gwyliau..." Pam na ddefnyddi di Sabath yn lle Gwyl, er mwyn gwahaniaethu? Llywelyn2000 06:16, 28 Awst 2010 (UTC)
Dolenau. Rwyt ti'n rhoi enw pob Cwfen mewn dolen. Ydy hynny'n golygu dy fod am greu erthygl ar bob Cwfen? Llywelyn2000 06:35, 28 Awst 2010 (UTC)
- Mae'n well gen i ddefnyddio'r gair "gŵyl" oherwydd mai "diwrnod gorffwys ac/neu amser addoli a wneir o fewn crefyddau Abrahamig" yw'r Sabath, ac nid yw Paganiaeth a Wica yn grefyddau Abrahamig. Mae'r "Sabbat" (gair Saesneg) yn wahanol nad yw'n bodoli yn y Gymraeg, felly yn lle creu un, ro'n i'n meddwl am ddefnyddio enw bodoli, sef 'gŵyl.' Mae Sabbat yn gyfnod am ŵyl hefyd, ac mae llawer o Wiciaid yn galw'r Sabbats yn wyliau. Beth wyt yn ei feddwl? Ydw, dwi'n bwriadau creu erthyglau ar bob un ohonyn :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:42, 28 Awst 2010 (UTC)
- Digon teg; wyddwn i ddim fod gwahaniaeth. A deud y gwir mae gen ti erthygl ddiddorol iawn yma, a gwahanol i'r arfer. Mae dy Gymraeg wedi gwella'n ofnadwy, hefyd! Dal ati! Paid a gadael iddi! Mi geisia i gynnig awgrymiadau ar y darn olaf yn y bore. Hwyl! Llywelyn2000 23:31, 28 Awst 2010 (UTC)
- Oes, ond nid ti yw'r unig sy'n meddwl nad oed gwahaniaeth :) Diolch - rwy'n meddwl fy yn gwella yn hunan - dysgu rhywbeth bron bob dydd. Diolch iti. Gad wybod pan ti'n gorffen neu angen cymorth arnat :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:41, 29 Awst 2010 (UTC)
- Beth ydy: Am y tro cyntaf, roedd pobl yn gallu ysgrifennu tadogaeth ni ymdriniwyd â hi gan y rhestr dicio o grefyddau cyffredin ? Llywelyn2000 01:11, 31 Awst 2010 (UTC)
"For the first time, respondents were able to write in an affiliation not covered by the checklist of common religions" Wi'n siŵr bod angen "...tadogaeth na ymdriniwyd â hi..." yn hytrach na "ni" arnaf. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 01:17, 31 Awst 2010 (UTC)
Cymorth:Rhestr Termau
golyguOes angen y rhestr hon arnom? Rwy'n ei gweld yn rhy debyg i'r rhestr Wicipedia:Geirfa fy hunan. Rwyf wedi trosglwyddo'r ddau gofnod ar y Rhestr Termau nad oeddent ar 'Geirfa' i 'Geirfa'. Wyt ti'n fodlon i mi newid Cymorth:Rhestr Termau i fod yn dudalen ailgyfeirio at Geirfa (a newid y cysylltau eraill hefyd)? Lloffiwr 16:06, 29 Awst 2010 (UTC)
- Aaa, fi'n gweld yr hyn ddigwyddodd - pan greaist Wicipedia:Geirfa, rwyt ti heb drosglwyddo'r wici-ddolen i en. Wrth imi greu'r erthyglau o gynnwys en, os nad oes dolen cy ganddynt, wedi rwy'n ei gymryd y nad oes erthygl/tudalen yn bodoli. Rwy wedi sôn am hyn sawl gwaith yn barod ar draws y wici yma - nid dy fai di yw e, oherwydd bron mwyaf o'r amser mae'r botiau'n gwneud y gwaith, ond fod y Wici Cymraeg mor fach, weithiau dydyn nhw ddim. Wi ddim yn siŵr beth i'w wneud bellach, gan fod y ddau restr yn wahanol i'w gilydd ta waith - rhestr ar gyfer darllenwyr Wicipedia yn benodol yw Cymorth:Rhestr Termau, a rhestr ar gyfer defnyddwyr yw Wicipedia:Geirfa (dylai fod). Beth wyt yn meddwl? Os ydyn am gael gwared ag un, awgrymaf inni drosglwyddo'r holl gynnwys o Wicipedia:Geirfa i Cymorth:Rhestr Termau, oherwydd nid tudalen Wicpedia yw e, ond tudalen Cymorth. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:46, 29 Awst 2010 (UTC)
- Ô.N., Ar hyn o bryd, mae'r dolen Saesneg, sef Help:Glossary yn cysylltu â Cymorth:Rhestr Termau, ac hwn yw'r tudalen "cywir," gan mai rhestr termau yw'r tudalen i helpu darllenyddion o Wicipedia, yn hytrach na'r rhai sy'n golygu Wicipedia. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:49, 29 Awst 2010 (UTC)
- Aha iawn, rwy wedi deall pwrpas cael dwy eirfa ar wahan ar gyfer darllenwyr a chyfranwyr nawr. Ond rwyn ei gweld yn dipyn o waith i gynnal dwy eirfa yma ar Wicipedia... Does dim llawer o ots gen i y naill ffordd na'r llall a dweud y gwir. Dwi ddim lot o help iti wneud y penderfyniad yma felly! Lloffiwr 12:15, 30 Awst 2010 (UTC)
Juno
golyguBe ti'n wneud, Glenn? Fel gweinyddwr mi ddylet ti wybod erbyn hyn mai symud (ailenwi) erthygl yw'r ffordd i wneud hyn neu mae hanes yr erthygl wreiddiol yn cael ei golli. Yn yr achos yma, symud 'Juno' i 'Juno (mytholeg)' a throi'r ailgyfeiriad ('Juno') yn dudalen gwahaniaethu oedd y ffordd i wneud pethau. Bydd rhaid dadnweud hyn rwan er mwyn cadw hanes yr erthygl wreiddiol. Anatiomaros 23:22, 30 Awst 2010 (UTC)
Bydd rhaid i fi neu ti ddileu 'Juno (mytholeg)' rwan er mwyn ei chreu eto... Bydd dy destun yn saff yn y cyfamser. Anatiomaros 23:24, 30 Awst 2010 (UTC)
- Ond wedyn byddwn yn colli'r hanes ta waith, oherwydd bydd y cynnwys yn hollol wahanol? Ro'n i'n drysu am yr ailgyfeiriad, felly meddyliais taw hon yw'r ffordd orau o'i wneud. Iawn, mi wna i fe nawr. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:26, 30 Awst 2010 (UTC)
- Actually, a wnei di'r gwaith? Wi'n drysu â'r hyn sy'n digwydd nawr .... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:27, 30 Awst 2010 (UTC)
Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:30, 30 Awst 2010 (UTC)
- Croeso. Mae'r hanes a'th destun yn saff rwan. Ond cofia tro nesa, plîs... :-) Anatiomaros 23:33, 30 Awst 2010 (UTC)
Alys
golyguRe this edit: I thought the book infobox gave the original publication details of the book; for example en:Les Liaisons dangereuses on en:, where the county and language are France and French, even though the book has been translated into English. Paul-L 15:14, 10 Medi 2010 (UTC)
- Ti'n gywir. Wi wedi hanner adfer y peth :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:17, 10 Medi 2010 (UTC)
Problem fach i'w datrys
golygu Cwblhawyd
Sut mae Glenn? Tybed fedri di gymryd cipolwg ar Coulomb? Am ryw reswm mae yn y categori (coch) 'Nodyn ffiseg'. Dwi'n methu gweld pam. Diolch. Anatiomaros 22:52, 13 Medi 2010 (UTC)
- Wedi datrys :) Gweler hwn a hwn. Basically, roedd y categori Ffiseg tu allan i'r <noinclude></noinclude> paramedau, ac mae'n rhaid cynnwys categoriau a dolenni rhyng-wici o fewn yr is-dualen "dogfennaeth." Gobeithio dy fod yn iawn. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 08:22, 14 Medi 2010 (UTC)
- Diolch Glenn. Wnes i edrych ar y nodiadau amlwg ar y dudalen (eginyn, a'r llall) gan feddwl fod rhywbeth tebyg o'i le, ond doeddwn i ddim yn gwybod am y nodiadau hyn. Oes posibl cael nhw ychydig mwy amlwg? Dwi ddim yn gweld y pwynt mewn "cuddio" nhw. Sut mae cael hyd iddyn nhw os nad ydych yn gwybod unrhywbeth amdanyn nhw, yn cynnwys eu henwau? Anatiomaros 16:20, 14 Medi 2010 (UTC)
- Croeso. A dweud y gwir, nac oes; dyma'r ffordd mae'n cael ei wneud ar draws pob wici arall, ac nid yw'n fater o guddio unrhyw beth; sefydlwyd y nodyn Dogfennaeth ar y Wici Saesneg yn y lle gyntaf er mwyn cadw'r ddogfennaeth ei hun ar wahân i'r côd, felly fydd yn llai debygol "torri" y nodyn (ayyb). Y peth cyntaf ichi weld yw'r côd, ac wedyn mae'r ddogfennaeth (sut i ddefnyddio'r nodyn ayyb) ar is-dudalen o'r enw [ENW'R NODYN]/doc Mae Nodyn:Doc yn hawdd i'w ddefnyddio. Wi'n siŵr dy fod di wedi sôn amdano yn barod :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:26, 14 Medi 2010 (UTC)
- Dwi'n derbyn hynny, ond mae'n dal i fod yn anodd cael hyd iddyn nhw pan fo angen datrys rhywbeth. Tasan nhw i gyd mewn categori basai'n help. Roedd Nodyn:E yn gwbl newydd i mi. Ac wedyn, od nad ydych yn gwybod beth ydy o yn y lle cyntaf sut mae gwybod eich bod wedi cael hyd i'r nodyn iawn? Sori os dwi'n drysu, ond mae'n ddryslyd! :-) Anatiomaros 16:37, 14 Medi 2010 (UTC)
- Wi ddim cweit yn deall beth wyt ti'n golygu. Tasai beth mewn categori? Nid fi greodd Nodyn:E, a doedd dim dolen en yno chwaith, felly cymerais siawns gan fynd i en a rhoi cynnig ar en:Template:E, a siŵr o fod, hwnnw oedd y nodyn perthynol. Roeddwn yn gwybod mai e oedd y nodyn perthynol, oherwydd edrychais ar gôd y ddau nodyn, ac roedden nhw'r un :) Ai dyna beth wyt ti'n golygu? Oherwydd wi'n cytuno; dylai bopeth fod mewn categori! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:31, 14 Medi 2010 (UTC)
- Mae'n ddrwg gen i, dwi'n gweld rwan mai Llywelyn a greodd y nodyn. Ond dwi dal heb ddeall o. Mae'n dweud 'Mae'r ddogfennaeth hwn [*angen cywiro i hon...] wedi cael ei throsglwyddo o Nodyn:E/doc' a 'Ychwanegwch gategorïau a wicis-mewnol i'r is-dudalen /doc'. Ond mae Nodyn:E/doc yn ailgyfeirio i Nodyn:E. Sôn am droi mewn cylch! Hefyd, y cwbl a welaf pan agoraf y dudalen i'w golygu yw hyn. Ble mae'r categoriau? Pam fod hyn yn Categori:Nodyn Ffiseg (Nodiadau ffiseg y dylai fod hefyd!). Sut mai newid hynny? Hefyd basai'n haws rhoi hyn yn Categori:Nodiadau fformatio, ond unwaith eto, sut mai gwneud hynny? Dwi angen cymorth gen ti, os posibl! Anatiomaros 18:51, 14 Medi 2010 (UTC)
- Wi ddim cweit yn deall beth wyt ti'n golygu. Tasai beth mewn categori? Nid fi greodd Nodyn:E, a doedd dim dolen en yno chwaith, felly cymerais siawns gan fynd i en a rhoi cynnig ar en:Template:E, a siŵr o fod, hwnnw oedd y nodyn perthynol. Roeddwn yn gwybod mai e oedd y nodyn perthynol, oherwydd edrychais ar gôd y ddau nodyn, ac roedden nhw'r un :) Ai dyna beth wyt ti'n golygu? Oherwydd wi'n cytuno; dylai bopeth fod mewn categori! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:31, 14 Medi 2010 (UTC)
- Dwi'n derbyn hynny, ond mae'n dal i fod yn anodd cael hyd iddyn nhw pan fo angen datrys rhywbeth. Tasan nhw i gyd mewn categori basai'n help. Roedd Nodyn:E yn gwbl newydd i mi. Ac wedyn, od nad ydych yn gwybod beth ydy o yn y lle cyntaf sut mae gwybod eich bod wedi cael hyd i'r nodyn iawn? Sori os dwi'n drysu, ond mae'n ddryslyd! :-) Anatiomaros 16:37, 14 Medi 2010 (UTC)
- Croeso. A dweud y gwir, nac oes; dyma'r ffordd mae'n cael ei wneud ar draws pob wici arall, ac nid yw'n fater o guddio unrhyw beth; sefydlwyd y nodyn Dogfennaeth ar y Wici Saesneg yn y lle gyntaf er mwyn cadw'r ddogfennaeth ei hun ar wahân i'r côd, felly fydd yn llai debygol "torri" y nodyn (ayyb). Y peth cyntaf ichi weld yw'r côd, ac wedyn mae'r ddogfennaeth (sut i ddefnyddio'r nodyn ayyb) ar is-dudalen o'r enw [ENW'R NODYN]/doc Mae Nodyn:Doc yn hawdd i'w ddefnyddio. Wi'n siŵr dy fod di wedi sôn amdano yn barod :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:26, 14 Medi 2010 (UTC)
- Diolch Glenn. Wnes i edrych ar y nodiadau amlwg ar y dudalen (eginyn, a'r llall) gan feddwl fod rhywbeth tebyg o'i le, ond doeddwn i ddim yn gwybod am y nodiadau hyn. Oes posibl cael nhw ychydig mwy amlwg? Dwi ddim yn gweld y pwynt mewn "cuddio" nhw. Sut mae cael hyd iddyn nhw os nad ydych yn gwybod unrhywbeth amdanyn nhw, yn cynnwys eu henwau? Anatiomaros 16:20, 14 Medi 2010 (UTC)
- Dim problem :) Wrth imi daro Nodyn:E/doc mewn (neu roi clic yma), mae'n mynd â fi i'r is-dudalen lle ceir y wicis-mewnol, y categorïau, y wybodaeth ar sut i ddefnyddio'r nodyn ayyb. Ni ddylai'ch ail-gyfeirio (ac nid yw'n dudalen ailgyfeiriad), gan mai is-dudalen yn unig yw hi, ac mae'r wybodaeth yno'n cael ei throsglwyddo i'r prif dudalen/mam-dudalen, sef y nodyn ei hun, gan fod yr is-dudalen yn dibynnu ar y prif dudalen. Mae'r un peth yn digwydd gyda Nodyn:Element color legend/series er enghraifft; mae'r nodyn 'na yn dibynnu ar y (/sydd yn rhan o'r) prif dudalen. Wrth glicio ar y botwm Golygu i olygu unrhyw is-dudalen sy'n cynnwys dogfennaeth, fe welwch y cyfarwyddiadau, ond nid y categorïau neu wicis-mewnol. Dyma oherwydd pe gwelwch y testun, mae'r categorïau a wicis-mewnol wedi'u cynnwys o fewn paramedrau <includeonly></includeonly>. Mae'n llawer mwy hawdd i'w weld gyda Nodyn:Dyf gwe; y prif dudalen, fe welwch bopeth, yr is-dudalen, fe welwch y cyfarwyddiadau, ond wrth olygu'r is-dudalen, fe welwch bopeth - y cyfarwyddiadau, y categorïau, a'r wicis-mewnol. Mor glir â mwd?! ;) Iawn 'te, ar ôl darllen, cer a nôl paned, ac wedyn ymateb, LOL. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:27, 14 Medi 2010 (UTC)
- Ô.N., Wi wedi newid "Mae'r ddogfennaeth hwn.." i "Mae'r ddogfennaeth hon..." :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:27, 14 Medi 2010 (UTC)
- Ô.Ô.N., Roedd yr erthygl yn cynnwys y categori:Nodyn ffiseg oherwydd rhoddodd Llyw y categori honno o fewn y Nodyn:E, ond tu allan y </noinclude>, felly wrth osod unrhyw nodyn, mae'n llwytho popeth, yn ogystal â phethau sydd ddim i fod yno. Dyma reswm arall dros ddogfennaeth ac is-nodiadau; yr unig beth ddylai fod ar y prif dudalen yw'r côd :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:31, 14 Medi 2010 (UTC)
- Roedd y panad yn braf ac mae popeth mor glir â mwd rwan :-) Ond, ar ôl i mi wneud hyn ar y nodyn E/doc mae'r brif nodyn yn dal i ddangos y categoriau anghywir fel o'r blaen. Iawn, dwi'n mynd i gael panad arall.... neu ddau....! Anatiomaros 19:54, 14 Medi 2010 (UTC)
- Ha :D Hmmmm, wi ddim yn siŵr pam. Rhoddaf gynnig arni a gweld yr hyn y gallaf ei wneud! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:00, 14 Medi 2010 (UTC)
- Datryswyd!!!!!!! Roedd rhywbeth allan o'i le gyda Nodyn:Doc wi'n meddwl, ond bellach mae popeth yn iawn! Ŵp. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:07, 14 Medi 2010 (UTC)
- Ha :D Hmmmm, wi ddim yn siŵr pam. Rhoddaf gynnig arni a gweld yr hyn y gallaf ei wneud! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:00, 14 Medi 2010 (UTC)
- Roedd y panad yn braf ac mae popeth mor glir â mwd rwan :-) Ond, ar ôl i mi wneud hyn ar y nodyn E/doc mae'r brif nodyn yn dal i ddangos y categoriau anghywir fel o'r blaen. Iawn, dwi'n mynd i gael panad arall.... neu ddau....! Anatiomaros 19:54, 14 Medi 2010 (UTC)
A finna ar fy mhedwaredd G&T! Llywelyn2000 05:47, 17 Medi 2010 (UTC)
- Haha! Ond cofia - paid meddw ac wedyn mynd ar Facebook a phostio pethe, LMAO! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 13:18, 17 Medi 2010 (UTC)
accents
golygu(Writing this in English because what's Welsh for a shortcut?) I still think mentioning keyboard shortcuts would be useful because although the mouse clicks work in general, they slow down your typing if you have to switcch to the mouse, making it tempting to miss out the accent altogher. - we need to add Windows and Mac though, I only know about linux (because it's free and I'd have to pay for windows.) Nain Nain Nain 21:06, 26 Hydref 2010 (UTC)
- "Shortcut" yw 'llwybr brys' :) Wel, yn bersonol, dwi ddim yn gweld pam y dyslem gynnwys y llwybrau brys, gan fod llawer o ffyrdd i'w gwneud, fel lawlwytho Draig To Bach, neu osod eich llwybrau brys eich hunain ac ati ac ati. Ond, os wyt yn meddwl fe fydd o gymorth i'n darllenwyr (a chyfranwyr), mae croeso iti ychwanegu'r peth - ond cofia; nid yw pob un bysellfwrdd yr un! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:14, 26 Hydref 2010 (UTC)
Erthygol Sam Houston
golyguShwmae Glenn, diolch am helpu chi am Erthygol Sam Houston! Mae rhaid i fi gweithio ar treigladau fi. Breckenheimer 13:27, 30 Hydref 2010 (UTC)
- Helo! Dim problem o gwbl :) Os wyt ti am gymorth, cer i'r wefan yma lle gallet wirio dy iaith (treigladau, cystrawen ayyb). Mae fel WordSpellchecker :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:56, 31 Hydref 2010 (UTC)
Nodyn ar fynyddoedd
golyguHaia Glenn. Wnei di fwrw golwg ar y nodyn Defnyddiwr:Llywelyn2000/Nodyn:Mynydd2 os gweli di'n dda? Mae o fwy neu lai yn gyfieithiad o'r un ar Wiki. Dw i wedi'i alw'n Mynydd2, rhag ofn drysu'r Nodyn presenol (Nodyn:Mynydd), ond efallai mai gwell cadw at un fyddai gorau. Cymer olwg ar sgwrs yn y Caff, hefyd os gweli di'n dda (Bas-data). Diolch rhen ffrind. Llywelyn2000 10:16, 25 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Heia! Siŵr, gwna i edrych arno, ond am be? LOL. Wyt tishe imi ddatrys cod neu rwbeth? Os wyt ti'n awgrymu cyfuno'r ddau nodyn, mae modd ychwanegu'r paramedau newydd/eraill i'r hen nodyn Nodyn:Mynydd, t'mod (fel gyda "iaith" "cyfieithiad" "rhestriad" ayyb). -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:49, 26 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Ia, cyfuno'r ddau. Dw i wedi trio gwneud hynny, ond mae gen i fyrdd o gangymeriadau! Ble, ni wn! Tybed fedrwn ni drio'r un newydd (Mynydd 2) ar Ben Lomond? Mi ro i'r data i fewn wedyn. Diolch Glenn. Llywelyn2000 08:43, 26 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Iawn. Rwy wedi cyfuno'r ddau nodyn, ond nawr mae'n debygol bod rhaid mynd trwy'r holl restr a geir yma a'i diweddaru gyda'r wybodaeth/paramedrau newydd, sy'n mynd i fod yn waith diflas, blin..... Edrych ar Yr Wyddfa am enghraifft. Rwy wedi diwygio ambell i air hefyd. Beth rwyt yn ei feddwl? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:54, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Ô.N. Rydym yn gallu troi Nodyn:Mynydd2 yn ailgyfeiriad bellach, nag ydym? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:55, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Mae'n dod yn ei flaen! Diolch i ti. Ailgyfeirio - gret. Gwylia nad oes dau lun (delwedd ac enw'r ddelwedd) a dau caption (pennawd a caption). Mae bron yna! Ar y ffor allan rwan - i gerdded chydig fynyddoedd! Llywelyn2000 09:03, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Ia, cyfuno'r ddau. Dw i wedi trio gwneud hynny, ond mae gen i fyrdd o gangymeriadau! Ble, ni wn! Tybed fedrwn ni drio'r un newydd (Mynydd 2) ar Ben Lomond? Mi ro i'r data i fewn wedyn. Diolch Glenn. Llywelyn2000 08:43, 26 Rhagfyr 2010 (UTC)
Ydy :) Dim problem, 'chan! Rwy wedi ailgyfeirio Nodyn:Mynydd2 i Nodyn:Mynydd. Roeddwn yn drysu gyda'r peth 'pennawd' a'r 'caption' - ceisiais osgoi defnyddio'r iaith fain, ond nid oedd yn gweithio am ryw reswm..... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:24, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Bendigedig! Diolch i ti am dy waith caboledig, arferol. Cymer gip yn y Caffi, hefyd, ar y gwaith o'n blaenau! Llywelyn2000 17:37, 27 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Croeso iti :) Rwy wedi edrych yn barod, ac rwy'n aros ma's ohoni - 'sdim clem 'da fi o'r hyn sy'n mynd ymlaen yno, LOL, felly gadawaf fi fe ichi i gyd. Ond wedi dweud 'ny, gofynna os y mynni di gymorth :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:15, 28 Rhagfyr 2010 (UTC)
- Mae gennym broblem fawr sydd angen ei datrys ar fyrder: gweler Y Caffi[1]. Anatiomaros 21:24, 30 Rhagfyr 2010 (UTC)
Diolch am [Defnyddiwr:Xxglennxx/Nodyn:Mynydd hwn], sef y Nodyn:Mynydd. Dw i ddim yn siwr pa ran wyt ti isio'i gyfieithu gan mai cadw at y gwreiddiol oedd y syniad - o dan y wyneb. Pa eiriau, Glenn? Llywelyn2000 08:23, 8 Ionawr 2011 (UTC)
- Gwel fy sylwadau ar hyn yma. Diolch. Llywelyn2000 04:50, 9 Ionawr 2011 (UTC)
Nodyn annifyr arall
golygu Cwblhawyd
Hi Glenn, tybed fedri di gymryd golwg ar Sgwrs Nodyn:Gwybodlen Papur newydd a'r nodyn ei hun? Mae'r hen nodyn (blêr a diwerth!) Nodyn:Papur newydd yn gweithio ac yn ailgyfeirio i Nodyn:Gwybodlen Papur newydd. Rhywbeth od eto...! Anatiomaros 22:16, 6 Ionawr 2011 (UTC)
- Helo! Datrysais y broblem; ailwampiais y nodyn yn llwyr i'w ddiweddaru ayyb. Bellach mae'n cynnwys enghraifft a'r holl baramedrau angenrheidiol :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:07, 7 Ionawr 2011 (UTC)
- Wow, diolch Glenn! Gyda llaw, does dim nodyn/gwybodlen cylchgrawn gennym ni eto. Dim brys - dwi'n rhy brysur gyda'r erthygl ar Tunisia. Yn y cyfamser gellid defnyddio'r wybodlen a ailwampwyd gan adael allan peth gwybodaeth, efallai? Anatiomaros 01:30, 7 Ionawr 2011 (UTC)
- Croeso :) Ie, mae hynny yn syniad, ond mae'n well cael y nodyn mor fuan ag y bo modd.... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:47, 7 Ionawr 2011 (UTC)
- Wow, diolch Glenn! Gyda llaw, does dim nodyn/gwybodlen cylchgrawn gennym ni eto. Dim brys - dwi'n rhy brysur gyda'r erthygl ar Tunisia. Yn y cyfamser gellid defnyddio'r wybodlen a ailwampwyd gan adael allan peth gwybodaeth, efallai? Anatiomaros 01:30, 7 Ionawr 2011 (UTC)
Diolch
golyguDiolch yn fawr am eich neges o groeso ar fy nhudalen.
nodyn newydd
golyguDwi'n mynd i ysgrifennu yn Saesneg achos dwi wedi treulio amser hir yn datblygu'r nodyn ac rwan dwi wedi blino ac yn lazy... and also because it gets me out of having to decide whether to call you chi or ti.
You'll see I've (after much messing around) got a template working that does mutations. There are some examples in the sandbox at the moment, including some where you pass a word into a template and it mutates that (which is the real point of it). I see that your template Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd is an example of the sort of place where you might use it (e.g. "am gyfnod o {{treiglo|{{{amser}}}}}"). Obviously I'm not going to change it because you've been using it with mutated forms, and having it now mutate e.g. bythefnos into fythefnos wouldn't be entirely helpful... but you get the general idea. Cheers, Peredur ap Rhodri 20:55, 12 Ebrill 2011 (UTC)
- Shwmae. Na i ymateb yn Gymraeg os yw hynny yn iawn da ti. Mae'n syniad da, ond heb fod yn swnio'n gas - oes angen y peth? Mae'n swnio ac yn edrych yn rhy gymhleth imi, ac mae hynny'n dweud rhywbeth! Unwaith ichi ddod i nabod nodyn penodol, dowch chi i ragweld pethau ieithyddol. Mae'r nodyn uchod yn arbennig, gan ei fod yn cynnwys y gair "o:", sydd wrth gwrs angen y TM. I sôn am yr enghraifft uchod - fe fydd yn rhaid galw'r nodyn "treiglad" ac wedyn meddwl/teipio'r fath dreiglad sydd angen er mwyn gwneud yr hyn y gallet ei wneud yn llawer mwy glou ar dy ben dy hunan wrth jyst sgwennu. A lle bo "Profi nodyn|pen" gyda ti (diwedd y pwll tywod), ti'n galw testun cyn-ddiffiniedig er mwyn galw'r "treiglad." Eto, mae'n syniad da, ond sai'n gweld fe'n catshwo mlaen. Na i feddwl am ffyrdd eraill o'i ddefnyddio, t'mod, a do i nôl atat ti.
- Ô.N. Pythefnos > Bythefnos, nid Bythefnos > fythefnos :D
- Ô.N.N. Ti'n gallu fy ngalw'n ti :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:04, 13 Ebrill 2011 (UTC)
- Diolch am dy ymateb. Y pwynt ydy: gyda'r nodyn newydd, ceir gael nodyn sy'n derbyn gair mewn ffurf heb wedi'i dreiglo, ac sy wedyn ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy'n galw am dreigliad, er enghraifft ceir gael fersiwn o "Defnyddiwr a rwystrwyd", sy'n cynnwys "am gyfnod o {{treiglo|{{{amser}}}}}", ac felly fyddai ddim rhaid i bobl gofio i dreiglo'r cyfnod pan maen nhw'n ei ddefnyddio - e.e. fydden nhw'n rhoi "amser=pythefnos" yn syml. Mae hyn yn caniatau hefyd i'r nodyn ddefnyddio'r gair ym mwy nag un lle, gyda gwahaniaeth rhyngddyn nhw ynglyn â threigliadau, e.e. yn y nodyn "Rydych chi wedi cael eich rhwystro am gyfnod o {{treiglo|{{{amser}}}}}. Os, ar ôl {{{amser}}}, hoffech chi gyfrannu'n adeiladol, ..." ac yn awtomatig, fyddai o'n ymddangos fel "... am gyfnod o bythefnos. Os, ar ôl pythefnos,..." Mae'n rhy gynnar i wybod os fydd llefydd lle mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer nodyn sy'n cael ei defnyddio mewn erthygl (rhyw fath o flwch, efallai), ond mae hi'n rhoi i ni'r opsiwn o leiaf.
- Ô.N. Dwi'n gwybod mai Pythefnos > Bythefnos ydy! Y pwynt ydy, gallwn i newid y nodyn "Defnyddiwr a rwystrwyd" i wneud hi defnyddio'r nodyn "treiglo", ond y perygl gyda hyn fyddai torri nifer o lefydd lle rwyt ti eisoes wedi ei defnyddio gyda ffurf dreigledig, yn arwain at dreigliad dwbl. Peredur ap Rhodri 09:50, 13 Ebrill 2011 (UTC)
- Ô.Ô.N. Ô.Ô.N., nid Ô.N.N. :D
- Helo. Eto, fi'n hoff iawn o'r nodyn, ond imi, mae'n llawer mwy cyflym i jyst deipio "bythefnos" (neu b/b yw e) yn lle defnyddio'r nodyn. Mae'n rhaid imi gofio rheolau'r Gymraeg drwy wneud e'r ffordd yma, wrth gwrs, sy wastad yn well na gadael peiriant i'w neud drosto chi. Ha, o'n i'n meddwl ei fod yn edrych yn anghywir! Diolch :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:42, 13 Ebrill 2011 (UTC)
dileu
golygu- Xxglennxx (Sgwrs | cyfraniadau) wedi dileu "Brythoneg" (dileu er mwyn creu un newydd)
Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n rheswm da dros ddileu erthygl, achos dim ond gweinyddwyr sy'n gallu gweld cynnwys cynt yr erthygl, a allai fod yn ddefnyddiol i'w datblygu yn y dyfodol. Pam lai dim ond golygu'r dudalen er mwyn creu erthygl newydd, tra gadw'r hen erthygl yn yr hanes? Diolch. Peredur ap Rhodri 06:55, 28 Ebrill 2011 (UTC)
- Ailgyfeiriad oedd hi a oedd yn ailgyfeirio at ieithoedd Brythonaidd, nid erthygl. Mae'r erthygl honno yn deulu ieithyddol yn hytrach nag iaith, felly yr oedd angen ei dileu er mwyn cael gwared â'r ddolen a'i chreu eto. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 13:42, 28 Ebrill 2011 (UTC)
- Diolch am dy ymateb, Glenn. Dwi'n gweld nad yw testun wedi cael ei golli, a oedd fy mhrif bryder, ond, er gwybodaeth, doedd dim angen ei ddileu - cei droi ailgyfeiriad yn erthygl drwy ei olygu. Peredur ap Rhodri 05:06, 29 Ebrill 2011 (UTC)
Delweddau
golyguSori am yr ymateb hwyr!
Mae'n flin gen i am fethu ychwanegu'r awduron a manylion eraill at y delweddau a uwchlwythais. Mi fyddai i'n ychwanegu hynny atynt yn y dyfodol. Diolch am adael imi wybod. Beca 19:46, 17 Mai 2011 (UTC)
- Helo. Paid â phoeni am yr ymateb hwyr. Ond allet ti ychwanegu'r manylion cyn gynted â phosibl, plîs? Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:39, 17 Mai 2011 (UTC)
Delweddau...eto.
golyguWps, sori. Dydw i ddim yn deall yn gyfan sut i wneud hynny. Mae Adam yn ceisio esbonio i mi, ond heb lwyddiant eto! beca 17:22, 18 Mai 2011 (UTC)
- Heia, Beca. Defnyddia Nodyn:Gwybodaeth i roi'r manylion cywir i ddelweddi. Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:35, 18 Mai 2011 (UTC)
Ymateb ynglyn a'r delweddau
golyguHelo! Dw i wedi ymateb ar fy nhudalen Sgwrs. Diolch. Pwyll 09:04, 27 Mai 2011 (UTC)
Banc Bugeilyn
golyguCymer gip ar Banc Bugeilyn os gweli di'n dda. Oes posib ychwanegu'r cyfesurynnau x a y - a phelen goch ar fap? Mae'r data gen i, mae'r wybodaeth ar Nodynau gen ti! Diolch Glenn. Llywelyn2000 07:25, 11 Mehefin 2011 (UTC)
- Heia, gyfaill! Wi'n credu bo modd iti ddefnyddion Nodyn:Coord. Beth yw'r cyfesurynnau? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:37, 11 Mehefin 2011 (UTC)
- Helo, to. Wi wedi gosod y nodyn yn yr erthygl, gan gynnwys cyfesurynnau enghreifftiol. Fi wrthi'n cyfieithu/newid y nodyn ei hun, 'fyd. Ai dyma yr hyn rwyt yn ei feddwl? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:51, 11 Mehefin 2011 (UTC)
Diolch
golyguHi, a diolch yn fawr iawn am yr neges ar linc. Byddaf yn ei chadw ar fy nodau tudalen o hyn ymlaen a gwneud y mwyaf ohono! :) Mae o wedi bod yn sbel ers i mi ysgrifennu yn y Gymraeg yn briodol (ers fod y coleg i fod yn onest!). Ond "practice makes perfect!". Dw i'n Gog yn byw yn y De, felly dw i'n siwr nid yw hynny'n helpu! :) Diolch i chi unwaith eto Xxglennxx Llewpart 20:05, 22 Awst 2011 (UTC)
- Heia. Dim problem o gwbl :D Fel dwi wedi'i ddweud, hola os wyt ti am gymorth gennyf :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:06, 22 Awst 2011 (UTC)
Help efo fy Nghymraeg
golyguHelo eto! Dw i newydd newid y dudalen Spynjbob Pantsgwar achos gen i e-bost o S4C ac mae o'n dweud fod y fersiwn Cymreag yn dechrau ar 7 Medi. Ti'n gwybod fod fy Nghymraeg yn dda iawn ond ddim yn rhugl? Mae'n iawn i checio i fi? Diolch yn fawr iawn iawn.
- TheFartyDoctor Sgwrs 21:52, 26 Awst 2011 (UTC)
- Heia. Dim problem - os gwelaf i gamgymeriadau, af ati i'w cywirio :) Ond gyda "ffynhonnel," dwi'n meddwl un fel dolen i erthygl neu ddarn o newyddion o S4C. Dyw e ddim yn bell tan y 7fed, felly os wyt ti'n gweld ffynhonnell sy'n cynnwys y cyfieithiad swyddogol, ychwanega hi at yr erthygl :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:12, 26 Awst 2011 (UTC)
- Helo eto eto. Mae gen i reference (http://www.channel5.com/schedule?amp%253Bpage=yhkrdzcnvzg&date=2011-09-07&page=14) ond dw i'n angen rhywun (chi?) i ddysgu fi pa dw i'n "insert" cyfeiriad.
- TheFartyDoctor Sgwrs 23:20, 2 Medi 2011 (UTC)
- Heia. Oherwydd mai amserlen ydy'r wefan honno, nid yw'n addas ei chynnwys ar Wicipedia; nid yw'n ffynhonnell (reference) gwir, ac mae'n neud ddydd i ddydd. Ond, os wyt ti eisiau mewnosod ffynhonnell, rhowch <ref>[URL YMA testun yma i'w ddangos]</ref>, megis <ref>[https://secure.wikimedia.org/wikipedia/cy/wiki/Hafan Hafan Wicipedia]</ref> i gel [1] :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:41, 4 Medi 2011 (UTC)
Spynjbob
golyguDw i newydd updatio'r tudalen Spynjbob ond somehow dw i jyst colli'r linc... gallwn ni ddefynddio y linc [[2]] ? Btw can you teach my how to make references? I thought it was simply [2]
- TheFartyDoctor Sgwrs 22:44, 8 Medi 2011 (UTC)
- A dwi'n cael yr enwau o'r amserlenni ar S4C. Ar y amserlenni, mae'n enwau yn y blyrbs. :D
- TheFartyDoctor Sgwrs 22:47, 8 Medi 2011 (UTC)
- Dwi newydd gadael neges ar dy sgwrs! Ha. Eto, dydy enw'r rhaglen ddim yn ymddangos ar http://www.s4c.co.uk/c_listings.shtml?dt=2011-09-14T00%3A00%3A00&service=s4cd, ond does dim angen cyfeiriad at enw'r rhaglen bellach, gan fod hi "ar fyw" nawr. I fewnosod ffynhonnell, rhowch <ref>[URL testun i'w ddangos]</ref>, megis <ref>[https://secure.wikimedia.org/wikipedia/cy/wiki/Hafan Wicipedia]</ref>. Ble mae'r blyrbs? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:49, 8 Medi 2011 (UTC)
- hehe jyst gweld fod mae'n "Mr Cranci yn" haha dim "Mr Cranci'n" haha so silly of me!! TheFartyDoctor Sgwrs 22:56, 8 Medi 2011 (UTC)
- Dwi newydd gadael neges ar dy sgwrs! Ha. Eto, dydy enw'r rhaglen ddim yn ymddangos ar http://www.s4c.co.uk/c_listings.shtml?dt=2011-09-14T00%3A00%3A00&service=s4cd, ond does dim angen cyfeiriad at enw'r rhaglen bellach, gan fod hi "ar fyw" nawr. I fewnosod ffynhonnell, rhowch <ref>[URL testun i'w ddangos]</ref>, megis <ref>[https://secure.wikimedia.org/wikipedia/cy/wiki/Hafan Wicipedia]</ref>. Ble mae'r blyrbs? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:49, 8 Medi 2011 (UTC)
The SpongeBob SquarePants Movie
golyguHei, crëeodd rhywun y tudalen o The SpongeBob SquarePants Movie ac roedd yn ofnadwy. Rŵan, dw i wedi ei wella a dw i'n gobeithio fod popeth yn iawn. Os ydych chi ddim yn brysur, dych chi'n gallu checio fy nhgymraeg i? Diolch yn fawr.
- TheFartyDoctor Sgwrs 01:40, 22 Medi 2011 (UTC)
- Hei. Dim problem - edrychaf arni yn y man pan fo amser gen i :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:58, 22 Medi 2011 (UTC)
Tom Kenny
golyguYdy'n bosibl i checio'r tudalen hon? Roedd gen i help o ffrindiau Cymraeg ond dw i'n gwybod fod yr iaith i Wicipedia sy'n wahanol. Diolch. :-)
- Wedi gwneud :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:26, 9 Hydref 2011 (UTC)
Helo, dw i'n gwneud tudalen o ffilm Americanaidd a dw i isio gofyn os ydy'n bosibl i chi i'i checio. Diolch :-)
Defnyddio gwybodleni Saesneg
golyguO Feistr y Gwybodleni, mae'n ymddangos os ydan ni'n defnyddio Infobox Saeseng yma a jyst yn newid enwau rhai o'r meysydd, dan ni'n cael capswin di-ofyn o dan y map, e.e yn erthygl Walsall Wood mae'n dweud:
- Walsall Wood wedi'i dangos yn: the United Kingdom
Oes modd newid hyn ar rhyw fam-wybodlen?--Ben Bore 15:58, 7 Tachwedd 2011 (UTC)
- Ie, am ryw reswm mae'n rhaid defnyddio "country = England" yn lle "country = Lleogr" er mwyn cael dangos "Y Deyrnas Unedig". Ond mae'n fy nrysu oherwydd nad yw'n gweithio'n gywir! Dyw'r llun yn ymddangos neu wybodaeth am yr heddlu, tân ayyb... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:01, 7 Tachwedd 2011 (UTC)
- Mae'r cyfesurynnau XY ar y chwith yn hytrach nag ar y dde, fel y dylai fod. Fedr "Meistr y Gwybodlenni" chwifio ei hudlath gloyw, plis? Llywelyn2000 06:12, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Pa nodyn yw e? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:03, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Fel uchod Glenn: Infobox UK place. Llywelyn2000 18:37, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Cwblhawyd - gweler y cod a ychwanegais yn Nodyn:Coord
-- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:21, 16 Ionawr 2012 (UTC)- Diolch y Dewin! Llywelyn2000 20:07, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Cwblhawyd - gweler y cod a ychwanegais yn Nodyn:Coord
- Fel uchod Glenn: Infobox UK place. Llywelyn2000 18:37, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Pa nodyn yw e? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 18:03, 16 Ionawr 2012 (UTC)
- Mae'r cyfesurynnau XY ar y chwith yn hytrach nag ar y dde, fel y dylai fod. Fedr "Meistr y Gwybodlenni" chwifio ei hudlath gloyw, plis? Llywelyn2000 06:12, 16 Ionawr 2012 (UTC)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hafan Wicipedia
- ↑ linc
Nodyn Dŵr
golyguDiolch. I saw your note but cannot translate it. I don't speak Welsh, sadly. Bob1960evens 21:25, 27 Tachwedd 2011 (UTC)
- It's ok. I think you wanted an interwiki link. I have added one to en and cy. Bob1960evens 21:37, 27 Tachwedd 2011 (UTC)
- Great. Thanks :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:53, 27 Tachwedd 2011 (UTC)
Nodyn:GeoGroupTemplate
golyguBore da gyfaill! Tybed a wnei di gymryd cip ar Rhestr o feddrodau siambr yng Nghymru os gweli di'n dda? Dylai'r Nodyn greu dolen i dudalen Google sy'n dangos lleoliad y cyfesurynnau. Yn anffodus dydy o ddim yn gwneud hynny. Diolch Glen! Llywelyn2000 06:26, 18 Rhagfyr 2011 (UTC)
- P'nawn da. Fi wedi trio'r ddolen, ond does dim tudalen o'r enw hwnnw yn dy le di. Wyt ti'n golygu'r nodyn Nodyn:GeoGroupTemplate? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:04, 18 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Iawn. Pwrpas y nodyn ydy defnyddio cyfesurynnau a geir mewn un erthygl drwy eu trosglwyddo i'r nodyn uchod i'w dangos nhw ar fap. Enghraifft: trwy osod {{GeoGroupTemplate|article=Geography of the North Sea}} yn yr erthygl Môr y Gogledd, mae'n defnyddio'r cyfesurynnau a geir yn en:Geography of the North Sea. Ond, os ydyn ni eisiau cael {{GeoGroupTemplate|article=Daearyddiaeth Môr y Gogledd}}, wedyn mae'n rhaid inni gael Daearyddiaeth Môr y Gogledd ar cy gyda'r cyfesurynnau yn yr erthygl. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:19, 18 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Diolch Glenn. Dw i wedi cywiro'r ddolen uchod. Mae nifer o gyfesurynnau wedi'u rhoi yn y dudalen; fy mwriad yw i'r Nodyn ddefnyddio'r cyfesurynnau mewnol hyn, yn hytrach na rhai allanol en. Diolch Glenn. A! Pan dw i'n ychwanegu "cy" i'r cyfeiriad, mae'n agor Geohack yn iawn, ond tydy o ddim yn gweld y cyfesurynnau. Unrhyw syniad? Llywelyn2000 06:16, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Dim probs. Mae'r map o'r ddolen a geir yn [Rhestr o feddrodau siambr yng Nghymru]] yn gweithio yn iawn imi. H.y., mae'n dangos pwyntiau Carreg Arthur, Coed-y-Cwm, Cae-yr-Arfau, Pen-yr-Alltwen, Cefn-Isaf, Branas-Uchaf, a Dolwilym. Mae'n rhaid imi ddweud fod hwn yn ardderchog! Wir! Ond wn i ddim sut mae ei drin heb y cy:.... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:15, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- A finna rwan! Efallai fod yna oedi / 'delay' er mwyn i'r feddalwedd ei 'gofrestru'? Ta waeth. Un gwendid ydy fod yr holl gofebau Cadw a roddais i ar Wici (tua 1500 i gyd) yn cynnwys Cyfesurynau OS; felly mi fydde'n rhaid copio a phastio'r Cyfs'au X, Y yma yn ogystal a'r OS - diawl o job! Pe bae'n medru darllen cyfesurynau OS yna dim ond copio a phastio un linell fyddai angen! Un gwnedid arall, byddai ciplun (thumbnail) yn well na'r geiriau. Efallai y gwnai weithio chydig ar hynny. Llywelyn2000 23:19, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Falle :) Ie, sylweddolais i hynny hefyd; o frig fy mhen, sai'n gallu meddwl am ffordd rownd e. Sai'n gwbod chwaith sut mae gael gafael ar y cyfs X Y! Ie, fyddai. Fi wedi bod yn arbrofi gyda'r paramedrau, ond so dim byd yn newid y hash+rhif... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:23, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- A finna rwan! Efallai fod yna oedi / 'delay' er mwyn i'r feddalwedd ei 'gofrestru'? Ta waeth. Un gwendid ydy fod yr holl gofebau Cadw a roddais i ar Wici (tua 1500 i gyd) yn cynnwys Cyfesurynau OS; felly mi fydde'n rhaid copio a phastio'r Cyfs'au X, Y yma yn ogystal a'r OS - diawl o job! Pe bae'n medru darllen cyfesurynau OS yna dim ond copio a phastio un linell fyddai angen! Un gwnedid arall, byddai ciplun (thumbnail) yn well na'r geiriau. Efallai y gwnai weithio chydig ar hynny. Llywelyn2000 23:19, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Dim probs. Mae'r map o'r ddolen a geir yn [Rhestr o feddrodau siambr yng Nghymru]] yn gweithio yn iawn imi. H.y., mae'n dangos pwyntiau Carreg Arthur, Coed-y-Cwm, Cae-yr-Arfau, Pen-yr-Alltwen, Cefn-Isaf, Branas-Uchaf, a Dolwilym. Mae'n rhaid imi ddweud fod hwn yn ardderchog! Wir! Ond wn i ddim sut mae ei drin heb y cy:.... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:15, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Diolch Glenn. Dw i wedi cywiro'r ddolen uchod. Mae nifer o gyfesurynnau wedi'u rhoi yn y dudalen; fy mwriad yw i'r Nodyn ddefnyddio'r cyfesurynnau mewnol hyn, yn hytrach na rhai allanol en. Diolch Glenn. A! Pan dw i'n ychwanegu "cy" i'r cyfeiriad, mae'n agor Geohack yn iawn, ond tydy o ddim yn gweld y cyfesurynnau. Unrhyw syniad? Llywelyn2000 06:16, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Iawn. Pwrpas y nodyn ydy defnyddio cyfesurynnau a geir mewn un erthygl drwy eu trosglwyddo i'r nodyn uchod i'w dangos nhw ar fap. Enghraifft: trwy osod {{GeoGroupTemplate|article=Geography of the North Sea}} yn yr erthygl Môr y Gogledd, mae'n defnyddio'r cyfesurynnau a geir yn en:Geography of the North Sea. Ond, os ydyn ni eisiau cael {{GeoGroupTemplate|article=Daearyddiaeth Môr y Gogledd}}, wedyn mae'n rhaid inni gael Daearyddiaeth Môr y Gogledd ar cy gyda'r cyfesurynnau yn yr erthygl. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:19, 18 Rhagfyr 2011 (UTC)
OK. Meddwl am y lluniau/testun gwell nawr dwi; mae cyfs Môr y Gogledd yn cael eu trosglwyddo o en:Geography_of_the_North_Sea#Coordinates. Os ydyn yn edrych am y map a geir, sef hwn, mae Black Rock Ledge yn/ar y map a'r erthygl. Felly, er mwyn cael tesun (o leiaf), dwi'n meddwl bydd angen dosbarthu'r wybodaeth mewn tabl... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:27, 19 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Y maen tramgwydd oedd y cymal "Display in-line"! Mae'n weithio'n iawn o newid hyn i "enw=enw'r feddrod". Dw i bellach wedi ychwanegu'r cyfesurynau, bron i gyd, ac mae'r map yn arddangos gan gynnwys enwau'r beddrodau. Llywelyn2000 07:24, 22 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Waw, Lyw! Mae hynny'n ardderchog! Dwi wedi fy siomi o'r ochr orau â'r map sy'n ymddangos yn awtomatig! Ansbaradigaethus! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:13, 23 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Ah, gwela i - llun statig yw e. Ond mae'n syniad gwych ta beth - mae'n dangos yr hyn all y darllenwr weld :D -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:14, 23 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Waw, Lyw! Mae hynny'n ardderchog! Dwi wedi fy siomi o'r ochr orau â'r map sy'n ymddangos yn awtomatig! Ansbaradigaethus! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:13, 23 Rhagfyr 2011 (UTC)
Nodyn elfennau cemegol
golyguHeia! Sori i dy boeni unwaith eto ond dw i newydd sylwi fod y nodyn yn categoreiddio'r holl elfennau Cymraeg a Saesneg yn yr un categori. Oes unrhyw awgrymiadau gyda ti sut i osgoi hyn? Diolch! Pwyll 17:08, 29 Rhagfyr 2011 (UTC)
- Heia. Dim probs o gwbl. Cymerwn ni "alwminiwm" fel enghraifft: mae gan "alwminiwm" nodyn Saesneg, sef [[Categori:en:Elfennau cemegol|aluminium]] - yr :en: sy'n bwysig yma, ac mae gan "alwminiwm" nodyn Cymraeg, sef [[Categori:cy:Elfennau cemegol|alwminiwm]] - eto, y :cy: sy'n bwysig yma. Yr hyn fyddwn yn ei wneud ydy troi'r fersiynau Saesneg yn dudalennau ailgyfeirio i'r fersiynau Cymraeg, a chael un enwle yn unig, sef [[Categori:Elfennau cemegol| ]]. All hyn fod o gymorth iti? Rho showt os wyt ti ishe mwy o gymorth :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:00, 29 Rhagfyr 2011 (UTC)
Request for translation. Yanka Kupala and Yakub Kolas
golyguWarm greeting from Belarusian Wikipedia! This year we celebrate 130. birthday of Belarusian great poets en:Yanka Kupala and en:Yakub Kolas Could you help us to translate articles into your unique and honourable language? Thank you in advance! --Rymchonak 16:17, 15 Ionawr 2012 (UTC)
Sgwrs:Chwe Chloch
golyguGlenn, pam wnaethot ti ddileu Sgwrs:Chwe Chloch? Mae hen drafodaethau megis hon yn gallu bod yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol, ac nid oes gennym bolisi o ddileu sgyrsiau am eu bod yn hen. Dwi'n credu bod y sgwrs hon enwedig yn werthfawr i'r erthygl Chwe Chloch. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 10:43, 8 Chwefror 2012 (UTC)
- Hei, Adam. Jyst cynnal a chadw'r peth o'n i. Dwi'n gallu gwrthdroi'r peth os yw'n well gent ti? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:39, 8 Chwefror 2012 (UTC)
- Adam. Roedd Glenn wedi dileu'r Sgwrs, mi gredaf, gan fod manylion personol iawn ynddo. Fodd bynnag, dw i wedi adfer y Sgwrs ac yna dileu dim ond y manylyn perthnsaol. Gobeithio fod hyn yn iawn gan y ddau ohonoch. Llywelyn2000 04:48, 9 Chwefror 2012 (UTC)
- Diolch Llywelyn. Wrth gwrs gall Glenn (neu unrhyw ddefnyddiwr) dynnu eu manylion personol oddi ar y wefan, ond poeni oeddwn i bod gweddill y sgwrs yn cael ei ddileu er ei fod yn ddefnyddiol. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 16:47, 9 Chwefror 2012 (UTC)
- Mae hwnna'n iawn gen i :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:03, 10 Chwefror 2012 (UTC)
- Diolch Llywelyn. Wrth gwrs gall Glenn (neu unrhyw ddefnyddiwr) dynnu eu manylion personol oddi ar y wefan, ond poeni oeddwn i bod gweddill y sgwrs yn cael ei ddileu er ei fod yn ddefnyddiol. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 16:47, 9 Chwefror 2012 (UTC)
- Adam. Roedd Glenn wedi dileu'r Sgwrs, mi gredaf, gan fod manylion personol iawn ynddo. Fodd bynnag, dw i wedi adfer y Sgwrs ac yna dileu dim ond y manylyn perthnsaol. Gobeithio fod hyn yn iawn gan y ddau ohonoch. Llywelyn2000 04:48, 9 Chwefror 2012 (UTC)
erthygl ddethol
golyguHai Glenn. Cymer olwg ar Sgwrs Wicipedia:Erthyglau dethol os gweli di'n dda, os cei amser. Diolch. Llywelyn2000 04:10, 14 Chwefror 2012 (UTC)
Hi, sorry for the mistaken revert and thanks for fixing it. Snowolf 17:46, 14 Chwefror 2012 (UTC)
Problem yn nhy'r Barnwr!
golyguHaia. Wnei di gymryd golwg ar fama os gweli di'n dda. Mae'r un peth yn digwydd, fwy neu lai, efo Ty Drybridge hefyd. Diolch Glen. Mae'r Wybodlen yn gwrthod rhoi un o'r Cyfesurynnau ar dop dde'r dudalen. Mae'n ei ddyblu yn y Nodyn. Unrhyw syniad plis? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:11, 19 Mawrth 2012 (UTC)
- Heia. Sdim syniad gen i wir pam mae'n digwydd, felly gwnes i rywbeth arall, sef newid y paramedr; newidiais y paramedrau i "| label13 = [[System gyfesur ddaearyddol|Cyfesurynnau]] | data13 = {{{coords|}}}" felly yn y gwybodlen, dyn ni'n gallu defnyddio'r nodyn {{coord}} fel yr hyn sy gennym ni bellach yn y ddwy erthygl. Ydy hynny'n iawn? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 17:48, 22 Mawrth 2012 (UTC)
- Dw i'n deall mai problem efo'r CSS oedd o'n wreiddiol, ond yn fater anodd i'w newid; ti ar y llaw arall wedi datrus y broblem yn syml ac effeithiol - unwaith eto! Bendigedig Glenn!!! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:08, 23 Mawrth 2012 (UTC)
- Sgen i'm clem, ond mae wedi ei ddatrys bellach :D Ond mae rhaid cofio newid y paramedr wrth gopïo a phastio o en... :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 16:45, 23 Mawrth 2012 (UTC)
- Dw i'n deall mai problem efo'r CSS oedd o'n wreiddiol, ond yn fater anodd i'w newid; ti ar y llaw arall wedi datrus y broblem yn syml ac effeithiol - unwaith eto! Bendigedig Glenn!!! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:08, 23 Mawrth 2012 (UTC)
Problem Codau Post
golyguO, Brif Raglenwr Nodynnau Wici! Wnei di gymryd golwg ar y Nodyn rn Ardal cod post SY, os gweli di'n dda? Dioch Glen. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:27, 26 Mawrth 2012 (UTC)
- Beth sy'n bod? Wrth gymharu'n herthygl ni ag un en, dwi ddim yn gweld dim byd o'i le... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 20:23, 26 Mawrth 2012 (UTC)
Nodyn:Gwybodlen Eisteddfod
golyguDyma fi ar dy ofyn eto, Glen! Dw i wedi derbyn ebost drwy Casgliad y Werin yn gofyn am wybodlen cynhwysfawr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaehol sydd hefyd yn cynnwys y prif wobrau. Be ydy'r siawns? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 2 Mai 2012 (UTC)
- Cofio ni'n cael trafodaeth am hyn yn y Caffi rhyw dro, ac yn y cyfamser mae rhywun wedi creu un yn barod Nodyn:Gwybodlen Eisteddfod. Basai'n dda cael ychydig o feysyedd eraill arno, megis nifer yr ymwelwyr, cost cynnal(?) ayyd. Mae'n nodi pethau fel cadeirydd, ond ai 'Llywydd' ydy'r term cywyir? Hefyd, baswn i'n licio gwybodlen ar waelod y dudalen yn nodi [enillwyr gwobrau llai prif ffrwd] (fel rhai Celf a Chrefft ac ati) a falle cynnwys enwau pawb sy'n cael eu derbyn i'r orsedd y flwyddyn honno. --Ben Bore (sgwrs) 08:00, 2 Mai 2012 (UTC)
- Heia. Wel, dwi'n gallu ychwanegu paramedrau at Nodyn:Gwybodlen Eisteddfod os oes angen, ond beth, yn union, hoffet i'r paramedrau fod? Mae'n eithaf syml i'w wneud dwi'n credu. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:52, 2 Mai 2012 (UTC)
- Diolch eich dau. Mi fuasai'n wych cynnwys awgrymiadau Ben, ond yn sicr fe allwn ychwanegu y prif gystadleuthau - mae'r wybodaeth honno gennym ni. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:34, 3 Mai 2012 (UTC)
- Dwi newydd ychwanegu pob paramedr a awygrymwyd gan Ben :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 21:19, 3 Mai 2012 (UTC)
- Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:32, 6 Mai 2012 (UTC)

Nodyn:multiple image
golyguDw i'n ceisio defnyddio "Nodyn:multiple image" yn yr erthygl Bwrned chwe smotyn. Mae o i'w weld yn un eitha da, ond mae rhywbeth ar goll! Diolch Glen. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:29, 6 Mai 2012 (UTC)
- Hmmm. Dwi wedi chwarae gyda fe, hyd yn oed ei roi mewn erthygl arall, ond mae'r un nam yn dod lan o hyd... Sai'n siŵr sori... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 13:38, 7 Mai 2012 (UTC)
Warning: the IP address, 212.121.219.1 is the source of serious hacking activities.
golyguWarning: the IP address, 212.121.219.1 registered to Oldham MBC public libraries, and which is permanently blocked in English Wikipedia since 2009, is the source of serious hacking activities. Please be on guard with this IP address. 21:34, 14 Mai 2012 88.224.23.137
- Diolch. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 22:00, 15 Mai 2012 (UTC)
Ail bâr o lygad, plis!
golygu Cwblhawyd
Wnei di edrych ar y refs dw i wedi'u rhoi yn yr erthygl Comisiynydd y Gymraeg, plis, ble dw i wedi defnyddio Nodyn:Citation. Mae'r cyfeiriadau yn y gwaelod yn dweud "rdalwyd" yn hytrachng "Adalwyd". Ble mae'r dudalen i'w gywiro? Mae'r nodynau yma'n labrinth tywyll oer! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:22, 18 Mai 2012 (UTC)
- Heia. Wi wedi trysio'r gwall - roedd y broblem yn Nodyn:Dyfynnu/core/Nodyn:Citation/core (gweler: yma am y blaenorol, ond yma am y diwethaf). Yn gynaf, chwiliais am "rdalwyd" ond ddaeth ddim byd. Wedyn, meddyliais efallai bod paramedrau ynghlwm y peth, felly chwiliais am ddiwedd y gair, sef "lwyd," ac roeddwn i'n gywir - roedd 'r' mewn paramedr (gweler y ddolen) yn hytrach nag "A". :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 10:56, 18 Mai 2012 (UTC)
- Gwaith da. Son am ddryslyd. Bues i'n pori drwy Nodyn:Citation, Nodyn:Citation/core ayyb, gan mai {Citation} oedd yn y cod o beth welais, ac nid {Dyfynnu}.--Ben Bore (sgwrs) 10:59, 18 Mai 2012 (UTC)
- Ie, wi'n gwybod! Bellach dwi wedi dileu pob tudalen a nodyn "Dyfynnu" gan ein bod yn defnyddio "Citation" yn ei le, ac doedd dim byd yn cysylltu â'r nodiadau/tudalennau dan sylw, felly does dim angen poeni am nodiadau neu erthyglau eraill yn cael ei sboilo :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 11:02, 18 Mai 2012 (UTC)
- Hmmm, mae'n gweld BO angen y nodiadau! Ta beth, wi wedi eu troi'n dudalennau ailgyfeirio bellach! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 11:10, 18 Mai 2012 (UTC)
- Ie, wi'n gwybod! Bellach dwi wedi dileu pob tudalen a nodyn "Dyfynnu" gan ein bod yn defnyddio "Citation" yn ei le, ac doedd dim byd yn cysylltu â'r nodiadau/tudalennau dan sylw, felly does dim angen poeni am nodiadau neu erthyglau eraill yn cael ei sboilo :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 11:02, 18 Mai 2012 (UTC)
- Gwaith da. Son am ddryslyd. Bues i'n pori drwy Nodyn:Citation, Nodyn:Citation/core ayyb, gan mai {Citation} oedd yn y cod o beth welais, ac nid {Dyfynnu}.--Ben Bore (sgwrs) 10:59, 18 Mai 2012 (UTC)
Mae gen ti lyagid barcud! Mae tipyn haws copio a phasto o en nag ydy i deipio'r Gymraeg; mae llawer o'r iaith sydd dan yr wyneb yn Saesneg, felly sdim ots ym mha iaith mae hwnnw. Yr hyn sy'n bwysig ydy bod Gymraeg yn weledol i bawb - am ddim! Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:42, 18 Mai 2012 (UTC)
Dw i newydd nodi ar y dudalen / hysbys fod costau teithio i Gaerdydd ac yn ol yn bosib - a llond bol o fwyd i bawb! Peint a sgwrs wedyn! Tyrd draw: mae na gymaint i'w drafod! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:28, 2 Mehefin 2012 (UTC)
- Heia! Dof i draw os oes amser gyda fi :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:15, 3 Mehefin 2012 (UTC)
Archif?
golyguDim archif? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:33, 8 Mehefin 2012 (UTC)
- Oes, yn fan hyn :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:01, 9 Mehefin 2012 (UTC)
- Oes rwan! Pan edrychais y dydd o'r blaen doedd y ffeil ddim yno! Mi wnes "Refresh" sawl tro - heb lwc! Ysbryd yn y peiriant,mae'n rhaid! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:30, 9 Mehefin 2012 (UTC)
- Efallai yr oeddet yn teipio a bach yn hytrach nag a mawr? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:44, 9 Mehefin 2012 (UTC)
- Oes rwan! Pan edrychais y dydd o'r blaen doedd y ffeil ddim yno! Mi wnes "Refresh" sawl tro - heb lwc! Ysbryd yn y peiriant,mae'n rhaid! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:30, 9 Mehefin 2012 (UTC)
Eisteddfod 2012
golyguRhag ofn bod gweithgarwch y bot wedi golygu dy fod wedi methu fy ngolygiad diweddaraf yn Y Caffi ar bwnc Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, plis cer draw ASAP, mae angen i ni drefnu pethau cyn gynted a bo modd. Diolch. --Ben Bore (sgwrs) 20:58, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)
Ailgyfeirio yn y Wybodlen
golyguRwyt wedi ailgyfeirio "Clwyd South (Assembly constituency)" yn y Wybodlen Trefi i: "De Clwyd (etholaeth Cynulliad)". Mae hyn yn rhywbeth y bum yn meddwl amdano'n hir. Mae o'n golygu nad oes raid, bellach, ffeindio'r cyfatebiaeth Gymraeg, ei gopio a'i bastio i'r Wybodlen Gymraeg. Gwych iawn! Dw i'n cytuno'n llwyr gyda hyn. Mae addasu'r olwyn i'n pwrpas ni yn llawer iawn gwell nag ail ddyfeisio'r olwyn, bob tro. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 21 Gorffennaf 2012 (UTC)
- Yn union :) Dyma oedd fy mwriad, yn enwedig pan fy mod wrthi yn gwneud y stwff llefydd :) Ymlaen, felly! -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:08, 22 Gorffennaf 2012 (UTC)
Cyfieithu Gwybodlen / Nodyn
golyguWnei di gymeryd pip arall ar: Sgwrs:Mahmoud Ahmadinejad os gweli di'n dda Mr Gwybodlenni? Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:26, 25 Gorffennaf 2012 (UTC)
Map siroedd Cymru
golygu Cwblhawyd
Mae na chydig o fapiau siroedd sydd yn dal heb eu trawsnewid e.e. dydy map Bro Morgannwg ddim i'w weld ar erthygl Y Bont-faen; fedri di wneud rhain Glenn, neu rho gyfarwyddiadau i mi. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 26 Awst 2012 (UTC)
- Wedi ei wneud :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 23:58, 29 Awst 2012 (UTC)
- Brill! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:08, 30 Awst 2012 (UTC)
- O.N. Ydy dy ebost yn gweithio? Wnei di tsecio plis. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:08, 30 Awst 2012 (UTC)
- Dim problem :) Ydy, wi'n siŵr. Mi edrycha i yn y man :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:47, 30 Awst 2012 (UTC)
Bot iw ayb
golyguDw i newydd ymateb i'th gais yn fama am fot. Sorri mod i wedi cymryd cymaint o amser i ymateb! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:44, 19 Hydref 2012 (UTC)
- Dim problem :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:33, 21 Hydref 2012 (UTC)
Map Sir Wrecsam
golyguHaia: un map arall plis: http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gwersyllt&action=edit Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 21 Hydref 2012 (UTC)
- Hmm... Dyw e ddim yn gweithio am ryw rheswm... -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 14:51, 21 Hydref 2012 (UTC)
Gwella'r Adran Ddatblygu a Gweinyddu newydd
golygu Cwblhawyd
Haia Glenn! Ffafr arall (!) - wnei di gymryd cip ar yr adran newydd yma? Mae angen ei 'dawelu' ychydig a fedra i ddim gweld sut i reoli maint y llinellau glas tywyll etc er mwyn ei wella. Mi gwest ti hwyl efo'r math yma yn y gorffennol - efo tudalen yr hafan os cofiaf yn iawn. Diolch a chofion! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:03, 4 Tachwedd 2012 (UTC)
- Heia! Wedi gwneud - roedd angen newid y 'cellspacing' o 8 i 1 :) -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:24, 4 Tachwedd 2012 (UTC)
- Whaw! Rwyt ti'n ddewin! ;-} Llywelyn2000 (sgwrs) 00:29, 4 Tachwedd 2012 (UTC)
Delweddau drwy law LesBardd
golyguDiolch am roi Nodyn ar un o ddelweddau Defnyddiwr:Lesbardd (sef y bardd Les Barker). Dw i wedi annog Llinos Lanini a Len i uwchlwytho lluniau Gwyl Tegeingl, ers mis Awst, ac mae Les wedi bod yn brysur iawn ers hynny. Rwyt ti'n hollol gywir yn rhoi'r Nodyn ar y ddalen - hi mewn gwirionedd ddylai fod wedi'u huwchlwytho ond wyddai hi ddim sut, ar y pryd. Felly dw i wedi ei hebostio yn gofyn iddi roi nodyn byr ar ei thudalen Sgwrs - ei bod wedi rhoi caniatad i Les i wneud y gwaith drosti hi. Fe rown ddolen wedyn o'r ddelwedd i'r testun hwn. Ydy hyn yn cydorwedd yn esmwyth gyda'r rheolau? Yr opsiwn arall ydy crogi Les a Llinos yn Sgwar St Pedr, Rhuthun am 12.00 y pnawn ddydd Sul nesaf - am gyflawni'r fath drosedd enbyd!!! Cofion cynnes. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:00, 16 Tachwedd 2012 (UTC)
- Heia. Dim problem. Mae'n iawn iddo uwchlwytho'r lluniau drosti, cyn belled ag iddo gynnwys tagiau hawlfraint, hefyd. Nid oed modd gwybod os yw unrhyw un yn rhoi caniatâd i'w ffeiliau gael eu huwchlwytho, felly mae'n rhaid cymryd gair y person. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:47, 17 Tachwedd 2012 (UTC)
- Iawn. Byddai'n well, wrth gwrs, cael llythyr gan Llinos wedi'i sganio / uwchlwytho hefyd, ond fel y dywedi mae gair person (yng Nghymru!) bron cyn gryfed! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 19 Tachwedd 2012 (UTC)