Simbabwe
Gwlad yn Affrica Ddeheuol yw Gweriniaeth Simbabwe neu Simbabwe (hefyd Zimbabwe). Lleolir y wlad rhwng afonydd Zambezi a Limpopo. Mae'n ffinio â De Affrica i'r de, â Botswana i'r gorllewin, â Sambia i'r gogledd ac â Mosambic i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr. Harare yw prifddinas y wlad. Cyn annibyniaeth roedd Simbabwe (Rhodesia) yn wladfa Brydeinig.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Undeb, Rhyddid, Gwaith ![]() |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl | Simbabwe Fawr ![]() |
Prifddinas | Harare ![]() |
Poblogaeth | 15,178,979 ![]() |
Sefydlwyd | Annibyniaeth ar 18 Ebrill 1980 |
Anthem | Anthem Genedlaethol Simbabwe ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Emmerson Mnangagwa ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Harare ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Shona, Northern Ndebele, Chichewa, Barwe, Kalanga, Ieithoedd Khoisan, Ndau, Tsonga, Zimbabwe Sign Language, Sesotho, Tonga, Setswana, Venda, Xhosa, Nambya ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Affrica, Dwyrain Affrica ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 390,757 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Sambia, Mosambic, De Affrica, Botswana ![]() |
Cyfesurynnau | 19°S 30°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Simbabwe ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Simbabwe ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Emmerson Mnangagwa ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Simbabwe ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Emmerson Mnangagwa ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $28,371 million, $20,678 million ![]() |
Arian | doler yr Unol Daleithiau ![]() |
Canran y diwaith | 5 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 3.923 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.593 ![]() |
Hanes golygu
- Prif: Hanes Simbabwe
Roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan y Matabele. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.
Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.
Ar ôl rhyfel herwfilwrol hir daeth Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF), yn arlywydd y wlad (gweler isod), yn 1980.
Daearyddiaeth golygu
- Prif: Daearyddiaeth Simbabwe
Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir yn safana.
Gwleidyddiaeth golygu
- Prif: Gwleidyddiaeth Simbabwe
Rhaniadau gweinyddol golygu
Rhennir Simbabwe yn wyth talaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.
Mae'r taleithiau'n cynnwys:
- Bulawayo (dinas)
- Harare (dinas)
- Manicaland
- Canolbarth Mashonaland
- Dwyrain Mashonaland
- Gorllewin Mashonaland
- Masvingo
- Gogledd Matabeleland
- De Matabeleland
- Y Canolbarth
Ardaloedd: gweler Ardaloedd Simbabwe
Ardaloedd dinesig: gweler Ardaloedd dinesig Simbabwe
Economi golygu
- Prif: Economi Simbabwe
Demograffeg golygu
- Prif: Demograffeg Simbabwe
Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn bobl Bantŵ. Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o dras Ewropeaidd ac Asiaidd, ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.
Yn ôl cyfansoddiad 2013, mae gan Simbabwe 16 iaith swyddogol: Saesneg, iaith arwyddion a 14 iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt yw Ndebele a Shona.