Symbolau cenedlaethol Cymru

Dyma restr o symbolau cenedlaethol Cymru. Mae'r rhestr yn cynnwys cymysg o symbolau swyddogol ac answyddogol ac yn cynnwys esboniad a chyd-destun hanesyddol.

Baneri Cymru tu allan i'r Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi


Baneri golygu

  Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru wedi'i defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655AD ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1]
  Baner Teyrnas Gwynedd, tywysogaidd Aberffraw, gyda phedwar llew, un ymhob charter.[2]
  Mae baner Owain Glyndŵr yn gysylltiedig â chenedligrwydd Cymreig. [3] Cafodd ei gludo i frwydr gan luoedd Cymru yn ystod brwydrau Glyndŵr yn erbyn y Saeson, ac mae'n cynnwys pedwar llew ar goch ac aur. Mae'r safon yn debyg i arfbais Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog olaf Cymru cyn goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr. Mae'n bosib fod arfbais rhieni Glyndwr wedi dylanwadu ar y cynllun, gan yr oedd gan y ddau ohonynt lewod yn eu harbeisiau.[4]
  Mae Baner Dewi Sant, nawddsant Cymru yn cael ei defnyddio weithiau fel dewis amgen i'r faner genedlaethol, ac yn cael ei chwifio ar Ddydd Gŵyl Dewi.[5]
  Defnyddiwyd Y Ddraig Aur gan Uthr Penddraig[6], Brenin Arthur[7] ac Owain Glyndŵr.[8] Tystiwyd bod y faner hon wedi'i chwifio gan fyddin Glyndwr ym Mrwydr Tuthill yng Nghaernarfon. Hedfanwyd y ddraig trwy gydol ymgyrch Glyndwr dros annibyniaeth i Gymru.[9][10][11] Priodolir y ddraig aur hefyd i'r Brenin Arthur ac mae rhai yn dadlau dros ddraig Gymreig wreiddiol o liw "aur cochlyd".[12] Mae'r faner yn y llun yn seiliedig ar sêl gyfrin Glyndwr.[13]

Herodraeth Gymreig golygu

  Mae'r Ddraig Goch yn symbol o Gymru sy'n ymddangos yn Cyfranc Lludd a Lleuelys, Historia Brittonum, Historia Regnum Britianniae, a'r triawdau Cymreig . Yn ôl y chwedl, Gwrtheyrn, Brenin y Brythoniaid Celtaidd o Bowys yn ceisio adeiladu caer yn Ninas Emrys, ond mae'r castell yn dymchwel. Dywedir Myrddin/Ambrosius wrtho i gloddio am ddwy ddraig o dan y castell. Mae'n darganfod draig goch s'yn cynrychioli'r Brythoniaid Celtaidd (Cymry bellach) a draig wen s'yn cynrychioli Eingl-Sacsoniaid (Seisnig bellach). Mae Myrddin/Ambrosius yn proffwydo y bydd y Brythoniaid Celtaidd yn adennill yr ynys ac yn gwthio'r Eingl-Sacsoniaid yn ôl i'r môr. [14] Fel arwyddlun, defnyddiwyd ddraig goch wedi cael ei defnyddio ers teyrnasiad Cadwaladr, Brenin Gwynedd o tua 655 OC ac mae'n bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[1]
  Arfbais Traddodiadol Tŷ Aberffraw, Gwynedd ac arfbeisiau personol Llywelyn Fawr.[15]
  Defnyddiodd Owain Glyndŵr yr arfbais hon tra'n Dywysog Cymru, o 1400.[16]
  Mae'r arfbais Gymreig, neu Fathodyn Brenhinol Cymru yn seiliedig ar arfbais tywysogion brodorol Cymru o'r 13eg ganrif.[17]

Planhigion ac anifeiliaid golygu

  Mae'r genhinen yn arwyddlun cenedlaethol Cymru.[18] Yn ôl y chwedl, gorchmynnodd Brenin Cadwaldr Gwynedd filwyr Cymreig i adnabod eu hunain trwy wisgo'r genhinen ar eu harfwisg mewn brwydr hynafol.[19]
  Y genhinen bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru, a wisgir ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yng Nghymru. Gelwir y genhinen ar ôl Sant Pedr.[20]
  Y Dderwen Digoes, a elwir hefyd y Dderwen Gymreig yw coeden genedlaethol Cymru.[21]
  Mae’r barcud coch yn cael ei enwi weithiau fel symbol cenedlaethol bywyd gwyllt Cymru.[22]

Yr Iaith Gymraeg golygu

Mae'r Gymraeg yn cael ei hystyried yn symbol ac yn eicon o Gymru ac yn cael ei hystyried yn "gonglfaen hunaniaeth Gymreig". Wedi'i siarad ledled Cymru gan tua 750,000 o bobl, mae'n bresennol ar deledu, radio, arwyddion ffyrdd a marciau ffordd.[23]

Arwyddeiriau Cymreig golygu

  • Mae "Cymru am byth" yn arwyddair Cymraeg poblogaidd.[24]
  • Mae "Pleidol wyf i'm gwlad" o'r Anthem Genedlaethol Cymru, yn ymddangos ar y Sêl Gymreig [25]
  • "Mae y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn" yn golygu fod y ddraig goch yn ysbrydoli gweithrediad[26] neu fod y ddraig goch yn arwain y ffordd.[27]

Cerddoriaeth golygu

 
Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei chanu mewn gêm rygbi Cymru

Anthem genedlaethol draddodiadol Cymru yw Hen Wlad Fy Nhadau.[28] Ysgrifennwyd y geiriau gan Evan James a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James, y ddau yn drigolion Pontypridd, Morgannwg, yn Ionawr 1856.[28][29] Mae'r copi ysgrifenedig cynharaf wedi goroesi ac yn rhan o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[29]

Ystyrir corau meibion yn symbol Cymreig. Ymhlith aelodau traddodiadol y mudiad mae côr Treorci a chôr Treforys. Yn fwy diweddar, mae llwyddiant Only Men Aloud hefyd wedi chwarae rhan wrth barhau â’r traddodiad hwn. [23]

Ystyrir y delyn Gymreig, a elwir hefyd y delyn deires, yn offeryn cenedlaethol Cymru.[30]

Celf golygu

Mae’r llwy garu hynaf y gwyddys amdano o Gymru, sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ger Caerdydd, yn dyddio o 1667, er y credir fod tarddiad y llwy bren yn hyn na hynny. [31]

Gwisg draddodiadol golygu

 
Gwisg Gymreig, 1905

Cafodd yr het Gymreig unigryw, a ymddangosodd gyntaf yn y 1830au, ei defnyddio fel eicon o Gymru o'r 1840au. [32]

O'r 1880au, pan aeth y wisg draddodiadol allan o ddefnydd cyffredinol, cafodd rhai elfennau ohoni eu mabwysiadu fel Gwisg Genedlaethol. O hynny allan fe'i gwisgid gan wragedd mewn digwyddiadau megis gan gorau, yn yr eglwys a'r capel, i dynnu lluniau ac yn achlysurol mewn eisteddfodau . Fe'i gwisgwyd gyntaf gan ferched fel dathliad ar Ddydd Gŵyl Dewi ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r wisg bellach yn cael ei chydnabod fel gwisg genedlaethol Cymru.[33]

Symbolau o ddeilliad Saesnig golygu

  Mae'r defnydd o'r plu i symboleiddio Cymru yn ddadleuol iawn, megis ei ddefnydd gan undeb rygbi Cymru.[34][35][36][37]Mae'r bathodyn yn cynrychioli Dug Cernyw neu Etifedd y frenhiniaeth Brydeinig.[38] Mae'n cynnwys plu mewn coron gyda'r geiriau Almaenig Ich dien (Rwy'n gwasanaethu).

Mae sawl tîm cynrychioliadol Cymreig, gan gynnwys undeb rygbi Cymru, a chatrawdau Cymreig yn y Fyddin Brydeinig yn defnyddio fersiwn o'r bathodyn. Bu ymdrechion i gwtogi ar y defnydd o'r arwyddlun at ddibenion masnachol a chyfyngu ei ddefnydd i'r rhai a awdurdodwyd gan "Dywysog Cymru" y frenhiniaeth Brydeinig. [39]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
  2. The arms and flag have four squares alternating in gold and red (representing the Royal House of Aberffraw and iron, or Mars the god of War). Each square has a lion of the opposite colour. The lion is looking at the observer and has 3 paws on the ground and one raised high in the air ("passant guardant"); the tongue is stuck-out ("langued") and the claws outstretched claws ("armed"). Both are blue ("Azur". This represents primacy in Wales).
  3. WalesOnline (2004-09-15). "Flying the flag to remember Glyndwr". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
  4. "BBC Wales - History - Themes - Welsh flag: Banner of Owain Glyndwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-29.
  5. "BBC - Wales - History - Themes - Flag of St David". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-09-06.
  6. Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
  7. Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
  8. "Enter the Dragon: Revealing the history of the Welsh flag". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2022-09-03.
  9. nathenamin (2011-11-08). "History of Welsh Flags" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-03.
  10. "Enter the Dragon: Revealing the history of the Welsh flag". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2022-09-03.
  11. WalesOnline (2013-04-27). "Is the Welsh dragon the most important object in Welsh history?". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-03.
  12. Ferris, William N. (1959). "Arthur's Golden Dragon". Romance Notes 1 (1): 69–71. ISSN 0035-7995. JSTOR 43800958. https://www.jstor.org/stable/43800958.
  13. "Seal impression: Owain Glyn Dwr Privy seal". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-19.
  14. "Red Dragon of Wales". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2022-08-12.
  15. Depicted in Cambridge Corpus Christi College Parker Library MS 16 II, fol. 170r (Chronica Majora, c. 1250).
  16. "Medieval copper alloy armorial mount". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-06.
  17. "First Welsh law's royal approval" (yn Saesneg). 2008-07-09. Cyrchwyd 2022-09-06.
  18. Ben Johnson. "The Leek - National emblem of the Welsh". Historic UK. Cyrchwyd 2017-03-03.
  19. "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
  20. "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
  21. "Tree trail with worldwide flavour" (yn Saesneg). 2004-07-23. Cyrchwyd 2022-09-06.
  22. "The RSPB: Red kite voted Wales' Favourite Bird". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-23. Cyrchwyd 2023-02-15.
  23. 23.0 23.1 "National symbols of Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-03. Cyrchwyd 2022-09-06.
  24. "Cymru am byth! The meaning behind the Welsh motto". WalesOnline. 6 February 2015. Cyrchwyd 22 March 2016.
  25. "Signed, sealed, delivered: Queen approves Welsh seal". BBC News. 15 December 2011. Cyrchwyd 3 October 2022.
  26. "NATO Summit Wales 2014 logo unveiled". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-06.
  27. "The £1 Coin - The United Kingdom £1 Coin". www.royalmint.com/. Royal Mint. Cyrchwyd 3 October 2022.
  28. 28.0 28.1 "Welsh National Anthem". wales.com. Welsh Government. 2014. Cyrchwyd 24 May 2014. Hen Wlad Fy Nhadau gradually became accepted as Wales' national anthem – though to this day, it has no official status as such.
  29. 29.0 29.1 "Welsh anthem – The background to Hen Wlad Fy Nhadau". Wales history. BBC Cymru Wales. 1 December 2008. Cyrchwyd 3 December 2010.
  30. "Celebrating the Welsh harp and our traditional Celtic folk roots". Wales (yn Saesneg). 2022-08-02. Cyrchwyd 2022-09-06.
  31. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 523. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  32. Christine Stevens, 'Welsh Peasant Dress – Workwear or National Costume', Textile History 33, 63–78 (2002)
  33. Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. tt. 931–932. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  34. "Daffodils, leeks and ruffled feathers: do national symbols matter?". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-09. Cyrchwyd 2022-09-06.
  35. David, Corrie (2021-11-02). "Thousands sign petition for WRU to change emblem to a dragon". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-18.
  36. Williams, Nino (2018-11-25). "The uncomfortable truth about the three feathers symbol embraced by Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-19.
  37. "Yes Cymru propose alternative crests for WRU that ditch the three feathers". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-10-30. Cyrchwyd 2022-02-19.
  38. Williams, Nino (2018-11-25). "The uncomfortable truth about the three feathers symbol embraced by Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-12.
  39. Burson, Sam (2 March 2007). "Stop using my Three Feathers". Western Mail. Cardiff: Media Wales Ltd. Cyrchwyd 11 November 2010.