Derwen mes di-goes

Quercus petraea
Derwen mes digoes
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
Rhywogaeth: Q. petraea
Enw deuenwol
Quercus petraea
(Mattuschka) Liebl.
Quercus robur
Derwen mes cosynnog
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
Rhan: Quercus
Rhywogaeth: Q. robur
Enw deuenwol
Quercus robur
L.
Dosbarthiad
Cyfystyron[1]
Mae'r erthygl ganlynol yn cyfuno'r ddwy rywogaeth: "Quercus robur" (derwen mes cosynnog) a "Q. petraea" (derwen mes digoes).

Math o goeden yw'r derwen mes digoes (Q. petraea) a rhywogaeth sy'n perthyn i deulu'r Fagaceae. Coeden hynod o debyg iddi, ond sy'n rhywogaeth ar wahân yw'r derwen mes cosynnog (Q. robur).

Gelwir ffrwyth y dderwen yn 'fes' (unigol: 'mesen'). Mae'r Quercus robur yn ymestyn o arfordir yr Iwerydd i'r Wralau yn y dwyrain ac o ogledd pellaf yr Alban yn y gogledd i fasn Môr y Canoldir yn y de. Mae dosbarthiad Q. petraea yn debyg ond ddim yn ymestyn mor bell i'r de na'r dwyrain[2]

Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Quercus petraea a'r enw Saesneg yw Sessile oak.[3] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Derwen Ddigoes, Crach Dderw, Derwen Fawr Ganghennog.

Hanes yng Nghymru

golygu

Ymddangosodd y dderwen yn gyntaf tua 6,000cc (8,000 o flynyddoedd yn ôl) ar y tir yr ydym heddiw yn ei adnabod fel 'Cymru', mewn cyfnod pan oedd 'Prydain' yn rhan annatod o dir Ewrop yn dilyn enciliad olaf y rhew ar ôl Oes y Iâ. Dyma dystiolaeth ddigamsyniol y cofnod paill - cyfnod hanner ffordd trwy Oes Ganol y Cerrig (y 'Mesolithig') pan oedd pobl yn cynnal eu hunain trwy hela, pysgota a ffowla. Fel y bu i'r hinsawdd raddol gynhesu disodlwyd coed pin fel prif goeden, a'r dderwen oedd y goeden a oedd yn cynhyrchu mwyafrif llethol yr holl baill (sef yr hyn a greodd y dystiolaeth) tan ddechrau'r Oes Haearn tua 1,500cc.[4]. Mae'n bur debyg mai anghenion pobl yr oes hon am ynni i gynhyrchu celfi ac offer haearn yn bennaf oedd i gyfri am drai cymharol y coed derw ynghyd ag effeithiau'r celfi hynny yn enwedig aradrau haearn [angen ffynhonnell].

Derw oedd coeden mwyaf gwerthfawr y cyfnod hanesyddol. Achosodd hyn iddi gael ei ffafrio trwy blannu a chryfhau ei chynrychiolaeth yn y coedwigoedd ond tra hefyd yn achosi trai yn y gorchudd cyffredinol o goed, tan yn lled ddiweddar.

Tynnwyd sylw llawer dros y canrifoedd i olion derw yn y corsydd mawnog ymhell uwchlaw'r llinell goed fel mae hwnnw heddiw. Cofnododd Plot (1677, rhagflaenydd Edward Llwyd fel curadur Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen) hwy yn Swydd Rydychen ac yn Sir Benfro, ond nododd bod coed na ellid eu gwerthu wedi eu claddu yng Nghaint.

Yn y 17g soniodd Robert Bulkeley, Dronwy, Môn am timber newly come from Ireland i borthladd (ar y pryd ar aber Afon Alaw). Awgryma hyn nad oedd coed yn gyffredinol, na derw efallai yn benodol, yn lluosog iawn yng ngorllewin Cymru yn y cyfnod hwn.

Bu pren y dderwen yn ffynhonnell bwysig ar gyfer tanwydd, golosg, adeiladu llongau ac ar gyfer polion cynnal i'r pyllau glo. Bu derw yn amrywio o ran ei bwysigrwydd o safbwynt defnydd ond bu'n arbennig o bwysig i'r diwydiant trin crwyn er enghraifft, oherwydd y lefelau uchel o daninau yn y rhisgl.

Nodweddion gwahaniaethu'r ddwy rywogaeth

golygu
 
Dail y dderwen mes digoes yn dangos y dail coesynnog

Dail: Q. robur obofad, lletach ymhell uwchben y canol ac yn culhau tua'r goes; Q. petraea ofad, lletach tua'r canol ac yn lledu tua'r goes.

 
Ffrwyth y dderwen mês coesynnog yn dangos coesyn neu bedyncl y fesen
 
Ffrwyth y dderwen mês digoes

Mes: Q. robur gwelw gyda stribedi gwyrdd a phroffil mwy hirsgwar; Q. petraea, brown tywyll heb stribedi, llai ac yn fwy crwn.

Coesyn y fesen: Q. robur, hir, main heb flew (2–9 cm); Q. petraea, absennol neu byr iawn gydag ychydig o fân flew (3–4 cm).

Blaenblagur: Q. robur, bach ac aflym; Q. petraea, mawr, llym.

Rhisgl y goeden aeddfed: Q. robur, tew gydag agennau dwfn iawn yn rhedeg at i lawr i ffurfio blociau hirsgwar; Q. petraea, teneuach gydag agennau basach.

Dywed Linnard [4] yn groes i Jones (1958)[2] nad yw'r ddau fath o dderwen yn cynhyrchu paill sydd yn bosibl ei wahaniaethu y naill oddi wrth y llall a bod y ddau yn croesi'n rhwydd â'i gilydd.

Ffenoleg

golygu

Mae'r dderwen yn blodeuo ym mis Mai tua 7-14 diwrnod ar ôl i'r blagur ddechrau agor. Ar unrhyw un goeden mae'r cyfnod o fwrw paill yn amrywio rhwng 5-11 niwrnod neu fwy. Mae yna ystadegau yn bodoli (Hyde 1944, 1950 yn Linnard[4] yn awgrymu bod paill derw yn bresennol ar yr awel am gyfnod o 3-4 wythnos.

Yn Nhywyddiadur [1] Llên Natur cofnodir bod maint y cnwd o flodau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Cofnodwyd rhai blynyddoedd (megis 1990)angen ffynhonnell fel blwyddyn o gnwd eithriadol gan wahanol sylwedyddion yng ngogledd Cymru.

Mae'r deri ymysg yr hwyraf o'n coed i golli eu dail. Nid yw'n anarferol mewn hydref tamp a mwyn iddynt ddal eu gafael ar y dail melynol tan ddiwedd Tachwedd (noder ers i hyn o eiriau gael eu hysgrifennu yn 1958 (Jones 1958) ninnau'n rhyfeddu heddiw (2016) at hydrefau hwyr fel petai hynny'n ffenomenon diweddar iawn o achos Newid Hinsawdd. Yng ngaeaf mwyn 1956-7 cadwodd goed derw Wytham Wood, Swydd Rydychen, eu dail gydol y gaeaf nes cael eu disodli o'r diwedd gan flagur y flwyddyn olynol.

Ddiwedd Medi mae'r derw'n dechrau bwrw eu mes er nad ydi'r rhai cyntaf fel arfer yn iach iawn a hwythau â'u prifiant wedi ei atal gan barasitau. Yn ail a thrydedd wythnos mis Hydref mae'r cwymp mwyaf o fês cyfan yn digwydd.

Amrywia mes yn eu maintioli cyfartalog o goeden i goeden ac o flwyddyn i flwyddyn. Roedd mes 1949 er enghraifft 150% yn fwy eu maint cyfartalog na rhai 1943.

Roedd Derwen Cadnam, fu unwaith yn tyfu yn Y Fforest Newydd (Hampshire) yn eithriadol yn y ffaith ei fod yn blodeuo yn niwedd Rhagfyr.

[Mae'r adran hon yn tynnu'n drwm am y wybodaeth ar un ffynhonnell, sef [2]

Morffoleg

golygu

Ffurfia'r ddwy rywogaeth dafliadau epicormig yn rhwydd pan fo'r gofod o gwmpas y goeden yn cael ei glirio o gysgod coed eraill neu pan fo ymehangiad llorweddol coron y goeden yn cael ei ffrwyno.

Dan rai amgylchiadau ffafriol gall yr egin ganghennau newydd, fyddai fel arall yn aros ynghwsg dros y gaeaf, daflu egin newydd ym mis Gorffennaf ar ôl cwsg o gwta tair wythnos, i ffurfio cangen fwy nag arfer. Fe'u hadwaenir fel egin ganghennau Lammas. Mae'r tyfiant Lammas fodd bynnag yn wan ac yn agored i gael ei heintio gan y pathogen "Oidium".

Mae'r egin goeden yn cynhyrchu tap-wreiddyn cryf a hir sy'n parhau am gyfnod hir o'i oes.

Mae "Q. robur" yn ôl pob tebyg yn hunan-steril. Ychydig iawn (<2%) o groesiadau "Q. robur" x "Q. petraea" sy'n llwyddiannus.

Nid yw'r sylwadau cyffredin am boblogaethau o dderi o dras cymysg neu fwyafrif a goed canol-raddol wedi eu seilio ar dystiolaeth ond yn hytrach ar ddealltwriaeth amherffaith o'r nodweddion.[2]

Ffrwytho

golygu

Gall Q. petraea hunan hauedig gynhyrchu mes ffrwythlon o 49 mlwydd o oedran ymlaen. Mae'r ddau fath yn ffrwytho ar batrwm mor afreolaidd mae hi'n anodd cyffredinoli am yr amlder. Yn ne Lloegr yn ôl [2] mae blynyddoedd o gnwd da a chyson dros ardal eang yn brin - unwaith mewn 6-7 mlynedd. Digwydd cnydau cymhedrol o fes pob 3-4 mlwyddyn, ac mae'r blynyddoedd pan feth y cnwd mewn ardal neu goedwig penodol yn ddigon cyffredin. Ond anwadal iawn ar y cyfan yw cynnyrch mes derw o flwyddyn i flwyddyn[2]. Mae hyn gyda Ilaw yn codi cwestiynau diddorol am hyfywedd y drefn yn yr Oesoedd Canol. Mae'r anwadalwch yn arbennig o wir yn yr Alban, ac fe gydnebir y flwyddyn 1956 fel blwyddyn oer a gwlyb a welodd fethiant y cnwd o fes.

Dosbarthiad

golygu

Cymru: Q. petraea yw'r prif math o dderwen yn y gorllewin ac yn yr ucheldir, gyda Q. robur yn cymryd ei le yn y dwyrain ac ar y gwastadeddau and yn llawer prinach. Fe adlewyrchir patrwm tebyg ar lefel Prydeinig and yn Lloegr "Quercus robur" sydd ar y blaen.

Ar lefel byd-eang mae Quercus robur yn ymestyn o arfordir yr Iwerydd i'r Wralau yn y dwyrain ac o ogledd pellaf yr Alban yn y gogledd i fasn Môr y Canoldir yn y de. Mae dosbarthiad Q. petraea yn debyg ond ddim yn ymestyn mor bell i'r de na'r dwyrain[2]

Tacsonomeg

golygu

Llysieuyn blodeuol (neu legume) yw Derwen mes di-goes sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Fagaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Quercus petraea a'r enw Saesneg yw Sessile oak.[3] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Derwen ddigoes, Crach dderw, Derwen fawr ganghennog.

Ecoleg

golygu

Adwaith i ffactorau biotig

golygu

Trychfilod

golygu

Mae'n debyg bod mwy o rywogaethau o drychfilod yn cael eu cynhaliaeth ar goed derw nag ar unrhyw blanhigyn arall ym Mhrydain. Y prif ymborthwyr yw lindys dad-ddeilio fel brychan y gaeaf (Operophtera brumata)

 
Gwyfyn y gaeaf: un o reibiwyr dail y deri

y dad-ddeiliwr Erannis defoliaria a Tortrix viridana. Deora wyau'r tair hyn tuag amser agor blagur y dail, ac mae'r larfau yn ymborthi ym misoedd Mai a Mehefin. Maent yn troi yn chwiler ym mis Gorffennaf.

Mae'r dderwen yn anemoffilaidd (hy. mae'n cael ei pheillio gan y gwynt) ond mae peth tystiolaeth bod y gwenyn Andrena haemorrhoa hefyd yn casglu paill o'r blodau. Ystyrir yr amryfal rywogaethau o chwilod Mai ar y cyfandir hefyd yn rheibys mewn rhai blynyddoedd, yn enwedig Melontha vulgaris ond ychydig o ddifrod a wna.

Cynhyrchir paill helaethlawn sy'n gallu teithio cryn bellter. Paill derw yw'r rhywogaeth mwyaf helaeth sy'n bresennol ar yr awel ym mis Mai.

 
Caiff y mes eu gwasgaru gan sgrechod coed sydd yn dethol y mes mwyaf y gallant eu llyncu

. Sgrechod coed, ydfrain ac ysguthanod yw'r anifeiliaid mwyaf barus o fes yng ngwledydd Prydain ac ysguthanod sy'n bwyta fwyaf ohonynt yn Lloegr heddiw[2]. Ceir heidiau mawr ohonynt yn cyrchu gwigoedd pan fo'r mes yn aeddfed, gan aros yno tra phair y cyflenwad. (Mae'n debyg bod hyn yn wir hyd heddiw (2017) mewn rhai mannau ond yn ddios mae niferoedd 'sguthannod wedi gostwng yn sylweddol). Gall ysguthan gadw yn ei chrombil hyd ar 60-70 mesen yn pwyso hyd at 200g. Mae sgrechod yn codi had-blanhigion er mwyn bwyta'r cotelydonau.

Mamoliaid

golygu

O blith mamoliaid, gwiwerod llwyd oedd y mwyaf barus am fes, yn Lloegr yn 1958 er iddynt ffafrio cnau castanwydd a ffawydd pan fo dewis. Mae gwiwerod hefyd yn dad-risglo deri ieuanc ond ddim cymaint â rhisgl coed eraill. Felly hefyd llygod a llygod pencrwn.

Mae derbynioldeb mes fel bwyd yn amrywio yn fwy rhwng coed unigol na rhwng y ddwy rywogaeth. Mae'n bosibl canfod coed ar bwys ei gilydd, mes y naill heb eu cyffwrdd a mes y llall wedi'i dihysbyddu.

Mae mes hefyd yn fwyd pwysig i geirw ac i foch gwyllt. Yn wir mae'n well gan yr hychod fwyta mes na chnau ffawydd. Bydd ceirw yn tyrchu yn y pridd am fes sydd wedi'u plannu. Roedd casglu mes i'r moch yn orchwyl i ffermwyr mor ddiweddar a 1958.

Ffactorau ffisegol

golygu

Mae dail Q. petraea yn araf i bydru ond yn gynt na dail ffawydd[2].

Nid yw'r dderwen wedi ei chyfaddasu i ledaenu ei had ymhellach na chyffiniau y rhiant goeden. Fe'u chwenychir serch hynny gan amrywiol adar a mamoliaid sydd yn difetha'r rhai maent yn eu bwyta, ond yn cario a chladdu ambell un ar hap a damwain. Gwelwyd ydfrain a chigfrain yn claddu mes mewn glaswellt neu lawntiau nid nepell o'r coed o ble y daethant. Yn yr un modd, yn Essex fe gladd sgrechod coed mes mewn pridd o dan goed 3/4 milltir i ffwrdd o'r rhiant o dan ddail meirw. Mae gwiwerod hefyd yn symyd a chladdu mes, hyd at 30 llath. Felly hefyd llygod a llygod pencrwn.

O ganlyniad i hyn ceir egin goed derw yn tyfu 200-300 llath o'r goedwig agosaf yn y glaswellt. Weithiau ceir tystiolaeth o symyd llawer pellach - bu'n rhaid i'r egin blanhigyn a gafwyd ar Hoy (Ynysoedd Erch) fod wedi symyd o leiaf 10 milltir, dros y dŵr o Caithness cyfagos, llawer pellach efallai, ag ystyried cyn lleied o goed sydd yn y fan honno.

Cafwyd bod 4-8% a fes aeddfed yn arnofio am ddiwrnod neu ddau oherwydd crebachu a gwacter mewnol, ond ni chredir i'r rhain feddu ar hyfywedd arbennig.

Hyd yn oed mewn blwyddyn o hadu da, difrodir hyd at 25% o fes gan bryfed, yn bennaf y gwiddonyn (Curculio) a'r Tortricidae.

Adwaith i ffactorau dynol

golygu

Bondocio

golygu

Mae'r ddwy rywogaeth yn taflud yn rhwydd o'r bôn ar ôl eu torri, ond nid yw'r eildwf yn ddigon nerthol i fôndocio ar gylchdro o ragor na 30 mlynedd. Mae Q. petraea yn ymateb yn well i hyn na'i chwaer rhywogaeth[2].

Gallant wrthsefyll tan ar yr wyneb diolch i'r rhisgl tew y rhywogaeth[2]

Angen sylw

Ymateb i'r tywydd

golygu

Oerfel gaeaf

golygu

Ni leddir coed derw, hyd yn oed yr egin, mewn tywydd oer ym Mhrydain. Caiff niwed mawr ar dymheredd o c.-30C. Mae mês yn fwy agored i niwed o'r fath.

Yn ôl [2] dywedodd Baker (1863) mai'r dderwen oedd yr unig goeden gynhenid yn Swydd Efrog, Lloegr, i ddioddef yn nhywydd heger Nadolig 1860.

Yn ystod tywydd oer difrifol weithiau holltir y bonyn gyda chlec fel ergyd dryll, fel arfer gyda'r nos pan fo'r tymheredd yn disgyn yn sydyn dan ddylanwad gwyntoedd dwyreiniol oer. Agorir rhigol yn y rhisgl fel canlyniad. Gwelodd Jones (1958)[2] yn Lloegr agennau a gychwynnodd fel craciau a ffurfiwyd yn nhywydd oer gaeaf (canol Ionawr?) 1918. Mae'r craciau yn digwydd amlaf ar ochr isaf bonion coed sy'n tyfu ar ogwydd serth.

Oerfel hwyr y gwanwyn

golygu

Mae niwed i dderw oherwydd barrug hwyr y gwanwyn yn waeth na'r niwed a achosir gan oerfel gaeaf. Lleddir yr egin ieuanc gan dymheredd o -30C ym mis Mai.

Gwynt: mae coed derw yn aml yn dwyn proffil isel ar ôl cael eu tocio gan wynt yng ngorllewin Prydain ac yn yr ucheldir (ee. Gallt y Bwlch, yr Eifl, LIŷn). Q. petraea fel arfer yw'r coedwigoedd hyn ond mae un goedwig eithriadol enwog o'i bath, sef coedwig o Q robur o'r enw Wistman's Wood ar Dartmoor

Sychder

golygu

Ar ol sychder mawr haf 1976 cofnodwyd yn yr Hydref dilynol (1977) ardal o dderw meirw i'r gogledd ddwyrain o Soar (Talsarnau, Meirionnydd) ar bridd tenau (Cyf. Grid: SH ). Dau fis wedyn yn Rhagfyr 1977 cofnodwyd Ilawer o egin goed derw yng Nghoed Hendremynach, Y Bermo (DB yn Y Tywyddiadur).

Anifeiliaid a phlanhigion sy'n dibynnu ar y dderwen

golygu

Adar a mamoliaid

golygu

Trychfilod a llau

golygu

TRYCHFILOD AR DDERW (Rhestr gynhwysfawr wedi ei chodi o Jones 1958). Yr ychydig iawn o rywogaethau hefyd ar Q. ilex a Q. cerris yn cael eu dynodi gan 'i' ac 'c'. Diweddarwyd rhai enwau Lladin mewn cromfachau petrual.

ACARINA Tetranychidae: Metatetranychus quercinus Berlese.

Phytoseiidae (p): Typhlodromus tiliae Oud., T. rhenanus (Oud.), T. finlandicus (Oud.), T. bakeri (Garman), Seiulus simplex Chant.

Phytoptidae: Phytoptus quercinus (Can.), chwydd wedi ei ffurfio o glytiau o flew hir o dan y dail; P. ilicis (Can.), var. quercinus (Nal.), chwydd yn codi ar ochr uchaf y ddeilen, pantiog ar yr ochr isaf.

HEMIPTERA Jassidae (nomenclatur China 1950): Jassus lanio (L.), Allygus mixtus (Fab.); Loepotettix dilutior (Kbm.), Eupteryx pulchellus (Germ.), E. concinna (Germ.) Typhlocyba aurovittata Dougl., T. quercus (Fab.), Alebra albostriella (Fall), ar dderw yn bennaf.

Psyllidae: Trioza remota Foerst.

Aphididae (enwau yn ôl Borner 1952): Schizodryobius longirostris (Mordv.) Lachnus roboris (L.), Stomaphis quercus (L.) ar risgl, S. longirostris (Fab.) ar risgl derw yn bennaf (y ddau olaf ond gyda morgrug o'r genws Lasius). Myzocallis castanicola Baker (hefyd ar gastan; dau eto i'w cyhoeddi [1958] Myzocallis spp. live on i and c) Tuberculoides annulatus(Htg.), Tuberculatus querceus (Kalt), Thelaxes dryophila (Schrk.).

Phylloxeridae: Phylloxera glabra (von Heyd.).

Aleyrodidae: Pealius quercus (Sign.) weithiau ar Corylus a Carpinus.

Coccidae: Quadraspidiotus zonatus (Frnfldt.) and c, Asterolecanium variolosum (Ratz.)* and c and i, Eulecanium ciliatum (Doug.), Kermes quercus (L.). K. robori, (Geoffr. in Fourcr.) and c and i.

Pentatomidae: Pentatoma rufipes (L.) ar dderw yn bennaf.

Miridae: Phytocoris dimidiatus Kbm. ar dderw yn bennaf. Megacoelum infusum (H.-S.) p, Calocoris ochromelas (Gmel.) Miris striatus (L.), hefyd cyll Corylus p, Campyloneura virgula (H.-S.), hefyd drain gwynion Crataegus p Pilophorus perplexus Doug. and Scott p, Cyllecoris histrionicus (L.) p, C. flavoquadrimaculatus Orthotylus nassatus, hefyd ar piswydd Tilia O. tenellus, hefyd ar onnen; Harpocera thoracica Phylus palliceps P. melanocephalus

THYSANOPTERA

Aeolothripidae: Aeolothrips metaleucus Hal. p.

Thripidae: Drepanothrips reuteri Uzel, Oxythrips quercicola Bagnall, Thrips minutissimus L.

Phlaeothripidae: Haplothrips subtilissimus (Hal.) p.

LEPIDOPTERA

Nolidae: Nola strigula (Schiff.), de Lloegr.

Cymbidae: Pseudoips bicolorana (Fuessl.), yn y dwyrain yn bennaf; Sarrothripus revayana (Scop.), weithiau Salix atrocinerea.

Caradrinidae: Diphthera alpium (Osb.), de Lloegr, prin ar goed eraill. Dicycla oo (L.), de ddwyrain Lloegr; Jodia croceago (Schiff.), de Lloegr; Grapholitha ornitopus (Hufn.); Griposia aprilina (L.), Dyrobota protea (Schiff.); Orthosia miniosa (Schiff.), cymalau hwyrach y larfáu yn aml ar blanhigion eraill.

Plusiidae: Zanclognatha nemoralis (Fab.), Catocala sponsa (L.), de Lloegr. Catocala promissa (Schiff.), de Lloegr.

Sterrhidae: Cosymbia porata (Fab.), hefyd bedw Betula; Cosymbia punctaria (L.).

Hydriomenidae: Eupithecia abbreviata Steph., Eupithecia dodoneata (Guen.), hefyd blodau drain gwynion Crataegus; Eupithecia irriguata (Hb.), de Lloegr.

Selidosemidae: Boarmia roboraria (Schiff.), Lloegr, y de yn bennaf; B. puncti-alis (Scop.), hefyd bedw Betula a llai aml yr helyg Salix atrocinerea; Erannis leucophaearia (Schiff.); Apocheima hispidaria (Schiff.), Lloegr; Deuteronotnos erosaria (Schiff), weithiau ar goed eraill.

Polyplocidae: Asphalia dilutes (Schiff.), Polyploca ridens(Fab.), Lloegr.

Notodontidae: Notodonta anceps (Goeze), Drymonia dodonaea (Schiff.), Drymonia ruficornis (Hufn.).

Lycaenidae: Thecla quercus [= Neozephyrus quercus (L.), anaml yr helyg Salix atrocinerea.

Drepanidae: Drepana binaria

Phycitidae: Phycita spissicella (Fab.); Nephopteryx similella (Germ. and Zinck.), re, de Lloegr; Cryptoblabes bistriga (Haw.), Lloegr, hefyd gwern Alnus; Acrosis consociella (Hb.), A. tumidella (Zinck.), de Lloegr; A. tumidana (Schiff.), de Lloegr.

Heterogeneidae: Cochlidion avellana (L.).

Tortricidae: Tortrix loeflingiana (L.), weithiau Carpinus; T. viridana (L.), ely other trees; Tortricodes tortricella (Hb.), Peronea fissurana Prce. and Metc., sometirnes Salix atrocinerea.

Eucosmidae: Ancylis mitterbacheriana (Schiff.), Eucosma isertana (Fab.), Argyroploce pontedaxana Prce. and Metc., also Malus; A. profundana (Schiff.), , Pammene nitidana (Fab.), Lloegr P. splendidulana (Gn.), P. inquilina Fletch. ar chwyddiadau Biorhiza pallida, (Ol), P. argyrana (Hb.) ar chwyddiadau derw; P. amygdalana (Dupl.) ar chwyddiadau Biorhiza; P. fasciana (L.) ar fes, weithiau ar Castanea; Ernarmonia splendana (Hb.) ar fês ac weithiau ar Castanea a Juglans.

Gelechiidae: Stenolechia gemmella (L.), Lloegr, mewn blagur ac egin; Xenolechi, humeralis (Zell.), anaml coed eraill; X. triparella (Zell.); X. luculella (Hb.), Lloegr; Hypatima gibbosella (Zell.), Lloegr.

Cosmopterygidae: Mompha stephensi (Stt.) yn y rhisgl, de Lloegr.

Oecophoridae: Diurnea phryganella (Hb.).

Sesiidae: Aegeria vespiformis (L.) mewn bonion, hefyd gwern Alnus.

Coleophoridae: Coleophora lutipennella (Zell.), Lloegr, hefyd bedw Betula, Coleophori flavipennella (Dupl.), C. ardeaepennella Scott, de Lloegr; C. palliatelk (Germ. & Zinck.), Lloegr, weithiau coed eraill; C. currucipennella Zell., Lloegr, weithiau coed eraill.

Gracillariidae: Lithocolletis roboris Zell. Mae hon a'r pum rhywogaeth nesaf yn gwneud turiadau fel blotiau o dan y dail: L. harrisella (L.), L. heegeriella Zell., L. messaniellt Zell. ac weithiau ar goed eraill, L. quercifoliella Zell., L. distentella Zell. swydd Henffordd; Acrocercops brogniardella (Fab.) larfa mewn turiad ar ffurf blot, Gracillaria sulphurella (Haw.), G. alchimiella (Scop.).

Plutellidae: Ypsolophus lucellus (Fab.), Y. alpellus (Schiff), Y. sylvellus (L.), Y. ustellus (Clerck), Argyresthia glaucinella Zell. larfa mewn rhisgl, hefyd Aesculus.

Lyonetiidae: Tischeria complanella (Hb.) larfa mewn turiad ffurf blotyn; T. dodonaea Stt., Lloegr, larfa mewn blotyn; Bucculatrix ulmella Zell. larfa mewn turiad pan yn ieuanc.

Heliozelidae: Heliozela sericiella (Haw.), Lloegr, larfa yng nghoesau'r dail ac yn yr asennau canol, Lloegr; H. stanneella (Fisch.), Lloegr, yn y deilgoesau.

Stigmellidae: Stigmella atricapitella (Haw.) turiadau; S. ruficapitella (Haw.) turiadau; S. basigutella (von Hein.), Lloegr, turiadau; S. quinquella (Bed.) Lloegr, turiadau; S. subbimaculella (Haw.), Lloegr, mewn blotiau dail; S. albifasciella (von Hein.) blotiadau; S. suberivora (Stt.), Ynys Wyth, turiadau, i

Eriocraniidae: Mnemonica subpurpurella (Haw.) mewn blotyn deilen.

DIPTERA

Cecidomyiidae: Arnoldiana quercicola (Kieff.), blagur chwyddedig; A. gemmae (Rubs.) A. quercus (Binnie) c, Dasyneura libera (Kieff.), ymchwydd o uwchben a phant o dan y ddeilen, y larfa yn rhydd; D. malpighii (Kieff.), ymchwydd bychan ar lafn y ddeilen; D. pante (Kieff.), ymchwyddiadau afreolaidd ar hyd wythiennau ochrol y ddeilen; D. squamosa (Tay.), o dan fês corachaidd ac c; Contarinia quercina (Rubs.), dail ddim yn agor; Macrodiplosis dryobia (F. Lw.), llabedau ymylol dail yn plygu i lawr ac yn dew; M. volvens Kieff., ymylon y dail rhwng dy labed yn plgu i lawr ac yn dew. Other species are found in galls of Cynipids, in acorn cups (Barnes 1955, Ent. mon. Mag., 91, 86) and in freshly cut oak-wood (Barn 1951, Ent. mon. Mag., 86, 241).

HYMENOPTERA Pamphiliidae: Neurotoma mandibularis (Zadd.), Lloegr, larga wedi ei lapio mewn deilen Pamphilius sylvarum (Steph.), Lloegr.

Cephidae: Janus femoratus Curt., Lloegr, larfa mewn mân frigau.

Argidae: Arge rustica (L.), Lloegr.

Tenthredinidae: Harpiphorus lepidus (Klug), Allantus togatus Panz., hefyd bedw Betula a helyg Salix atrocinerea; Apethymus braccatus (Gmel.), A. abdominalis (Lep Caliroa cinxia (Klug), England, Periclista albida (Klug), P. lineolata p. pubescens (Zadd.), de Lloegr, Profenusa pygmaea (Klug), larfa mewn turiad; Mesoneura opaca (Fab.).

Cynipidae: Mae pob un o'r teulu hwn sydd yn byw ar dderw yn creu chwyddiadau (galls) neu (heb eu rhestru yma) yn dibynnu ar wneuthurwyr chwyddiadau. Trigonaspis megaptera (Pz.), T. synaspis (Hart.), Andricus kollari (Hart.) (= circulans Mayr), un genhedlaeth ar c, A. testaceipes Hart., A. corruptor (Schlecht.), A. rhizomae (Hart.), A. quercus-radicis (Fab.), A. quercus-corticis (L.), A. fecundator (Hart.), A. ostreus (Hart.), A. inflator Hart., A. curvator Hart., A. callidoma (Hart.), A. quercus-ramuli (L.), A. nudes Adler, A. albopunctatus (Schlecht.), A. marginalis (Schlecht.), A. seminationis (Gir.), A. quadrilineatus Hart., A. clementinae (Gir.), A. solitaries (Fonsc.), A. glandulae (Schenck), A. lucidus (Hart.), A. trotteri Kieff., A. sufflator Mayr, A. gemmicola Kieff., A. occultus Tschek, A. amenti Gir., A. aestivalis Gir. c, Callirhytis glandium (Gir.), Cynips quercus-folii L., C. longiventris Hart., C. divisa Hart., C. agama Hart., C. disticha Hart., Neuroterus tricolor (Hart.), N. albipes (Schenck), N. quercus-baccarum (L.), N. numismalis (Geoffr. yn Fourcr.), N. aprilinus (Gir.), N. punctatus Bign.

COLEOPTERA

Buprestidae: Agrilus pannonicus (Pill. and Mitt.), de Lloegr, yn y rhisgl.

Curculionidae: Attelabus nitens (Scop.) larfau wedi eu lapio mewn 'casgenni' dail. Curculio venosus (Gray.), Lloegr, mewn mês, C. glandium Marsh., England, probably also i, c C. villosus Fab., Lloegr, mewn chwyddiadau Biorhiza, Curculio pyrrhoceras Marsh., de Lloegr, mewn chwyddiadau derw, Coeliodes erythroleucus (Gmel.) ar dderw ieuanc, y largau mae'n debyg ar wreiddiau planhigyn arall, C. dryados (Gmel.), fel y flaenorol, C. ruber Marsh., fel y flaenorol, Rhynchaenus quercus (L.) larfa mewn turiad, R. pilosus (Fab.) larfa mewn turiad.

Scolytidae: Scolytus intricatus (Ratz.) larfau o dan rhisgl, weithiau hefyd ar goed eraill.

LEPIDOPTERA aml-borthiant (poliffagws) sydd yn gyffredin ar dderw. (Llunwyd y rhestr hon gan yr Athro Professor G. C. Varley o gofnodion a wnaethpwyd ar Quercus robur in Wytham Wood, Berkshire).

Geometridae Hemithea strigata (mall)f gaeaf *Operophtera brumata (L.) Oporinia dilutata (Schiff.) Ectropis luridata (Bork.) Cleora repandata (L.)t (yr haf hwyr)

  • Erannis progemmaria (Hb.)
  • E. aurantiaria (Esp.)
  • E. defoliaria (Clerck)

Phigalia pilosaria (Schiff.) *Biston strataria (Hufn.) B. betularia (L.) Campoea margaritata (L.)t gaeaf Colotois pennaria (L.)

Notodontidae Phalera bucephala

Tortricidae Ditula angustiorana (Hw.) t (gaeaf) Cacoecia spp., llawer o rywogaethau Pandemis corylana (F.) P. cerasana (Hb.) Peronea literana (L.)

Parasitau llysieuol

golygu

Planhigion uwch

golygu

Viscum album

Parasitau ffyngol

golygu

Microsphaera alphitoides [= Erysiphe alphitoides Sylwyd gyntaf ar y parddu blodiog derw yn Ewrop yn Colmar (Alsace) yn 1907. Tybir iddo gael ei gyflwyno o ogledd America am iddo ledaenu yn gyflym iawn; yn 1908 fe'i cofnodwyd ar draws Ewrop ac fe sylwyd arno yn tyfu'n helaeth mewn mannau na welwyd mohono ynghynt. Rosellinea quercina, Uredo quercus, Armillaria mellea, Sclerotinia candolleana, Diplodia quercina, Colpmoma quercinum, Endosia parasitica, Dioporthe taleola,

Ffyngau yn ymosod ar y pren

golygu

Polyporus sulphureus

 
=Laetiporus sulphureus Ysgwydd y dderwen, yn achosi pydredd mewnol mewn hen dderw (chicken of the woods)

Fistulina hepatica

 
Ysgwydd tafod bustach: Caiff ei fynediad i'r goeden trwy greithiau ac yn achosi "derw cochfrown" (brown rot) a werthfawrogir ar cyfer saernio cain

Polyporus dryadeus [=Inonotus dryadeus, weeping polypore] Stereum spadicum S. gausapatum S. frustulosum Fomes robustus Ganoderma applanata [=G. applanatus artist's bracket] G. lucidum G. resinaceum Polyporus rubriporus P. giganteus P. frondosus P. umbellatus Hydnum erinaceus Stereum rugosum Hydnum diversideus Polyporus squammosus Daedalea quercina [oak mazegill] Stereum hirsutum [false turkey tail] Bulgaria polymorpha Irpex obliquus Polystictus versicolor [=Trametes versicolor] Polystictus adustus Fomes ferruginosus

Haint; cancr

golygu

Caudispora teleola

Perthynas a phobl

golygu

Defnydd

golygu

Mesobr

golygu

Yn y canoloesoedd roedd system y "mesobr" (pannage) oedd yn caniatau rhyddhau moch i'r coed yn yr hydref i bori'r mes ar y ddaear. Dyna yn ôl y son yw tarddiad yr elfen hobyderidando yn y gân werin boblogaidd "xxxxxx", sef yr arferiad a ddwyn yr hob (mochyn) ô'r goedwig derw (deri) ac ar ôl ei ladd a'i halltu, ei gadw yn crogi dan y to fel stôr at y gaeaf.

Gwerth ariannol

golygu

Codai coeden dderwen yn ei gwerth os cafodd ei heintio gan y ffwng xxxxx sydd yn lliwio'r pren â gwawr goch. Yr anfantais oedd mai erbyn i'r ffrwyth y ffwng ymddangos a hysbysebu ei bresenoldeb mae'r difrod gan yr haint wedi mynd yn rhy bell gan felly golli unrhyw fantais [angen ffynhonnell]

Golosg

golygu

Datblygodd ddiwydiant llosgi golosg sylweddol yng Nghymru yn sgîl gweithgareddau torri a darnio coed ar gyfer mwyndoddi haearn. Derw a ffawydd ffurfiai'r golosg gorau. Dangosodd ddadansoddiad o olosg mewn ffwrnais o'r 17g o Goed Ithel yn Llandogo weddillion gwern, onnen, ffawydd, bedw, afallen, llwyfen, derw, helyg a phoplys ond derw, helyg a phoplys oedd prif cynhwysion y sampl.

Dynion fel arfer oedd y coliers coed ond weithiau menter teulu cyfan, yn byw yn arwyn y coed gydol y tymor 'glosga'. Dyma ddisgrifiad y Parch. John Skinner o grwp o'r fath ym Maglan yn 1800: We here discovered a large family inhabiting a mud cabin in the form of a sugar loaf. In the midst of this retirement they seemed perfectly happy, tho' almost all the children were in the state of their first parents, without covering, and seemed not ashamed. These people continue here all summer for the purpose of making charcoal.

Cynnal touau mwynfeydd

golygu

Yn yr ardaloedd lle defnyddid derw i gynnal touau mwynfeydd (pit props) rheolwyd y gwigoedd deri a gyflenwodd y diwydiant glo ar gylchdro bondocio o 30 mlynedd mewn coed copi, sef y cylchdro hwyaf posibl i sicrhau coed nerthol ar y naill law a chadeirio digonol at gnydau'r dyfodol ar y llaw arall. Gellid cyfuno cynhyrchu coed tannwydd yn y régime yma.

Trin crwyn

golygu

Cylchdro byr yn hytrach oedd ei angen mewn coed copi ar gyfer y diwydiant trin crwyn ar gyfer lledr. Defnyddid rhisgl coed derw (ynghyd â gwern i raddau llai) i droi crwyn yn lledr tan yn lled ddiweddar. Wrth i'r coed brifio gostwng fydd y cyfran o'r meinwe byw lle ceir y taninau angenrheidiol; 20-21 mlwydd oedd y norm i hynny a gwneud golosg. Byrrach fyth - 15 mlynedd - oedd y cylchdro ar gyfer trin crwyn yn unig:

Cyfleuir peth o ramant a manylder y gwaith o risglo gan y dyddiadurwr Y Parch. Francis Kilvert:

24 Ebrill 1872 Cwm Cleirwy ...the country is filled with the ringing of strokes of the chopping axes.... we heard the sturdy strokes of the axes from the Castle Clump after it had grown dark. The men were working late felling oak as the sap is running fast and the bark strips well.

Defnyddid teclyn o'r enw pilbren i wneud y gwaith hwn ac fe ddisgrifwyd y swn yn y coedwigoedd yn y gwanwyn fel swn cwacian hwyaid yn diasbedain dros y dyffryn[4]

Cododd pris rhisgl derw ym Mhrydain rhwng 1790 a 1812, ac yn sicr byddai pob temtasiwn i blannu coed copi mewn sefyllfa o brinder.

Adeiladu llongau

golygu

Cynyddodd y galw am goed i'r pwrpas hwn yn enwedig yn sgîl y Rhyfel Saith Mlynedd rhwng 1754 a 1760 ac ar gyfer ymladd rhyfeloedd Napoleon droad yr 19g. Ar gyfer y cyntaf o rhain arnofwyd derw o fforestydd Ystâd y Gwydir i lawr yr afon Gonwy. Am dderw yn bennaf oedd y galw hwn. Cymerwyd coed syth o'r fforestydd naturiol ond diwallwyd yr angen am goed ag ystum arbennig iddynt o'r tir agored, y cloddiau a'r gwrychoedd.

Amrywiol

golygu

13g. LlDW 9715, guert deruen. id. 9724- 981, pop pren a arguetho fruyt vn guerth a kolluyn eu eythyr deru ac auall ymp. id. 12823-5, Ereyll adeueyt panyu deruen aladher en hageuarc ar tref tat pryodaur adeleu dody mantell arnau oyckudyau.

Melid y mes i greu amnewidyn coffi.

Effeithiau economaidd

golygu

Bu tuedd gref, bwriadol ac anfwriadol, i ffafrio "Q. robur" dros ei chwaer rywogaeth nid yn unig oherwydd y gred bod y pren o well ansawdd and hefyd oherwydd ei ffrwytho cysonach, nodweddion cadw gwell ar y mes, a'i hegin mwy hoenus (EW Jones).

Wrth geisio barnu pa bryd a pha le y plannwyd ac a gynaeafwyd derw ers talwm dylid cofio sut y bu i economi cefn gwlad newid yn ystod y 200 mlynedd aeth heibio. Mae poblogaeth yr ardaloedd mwy anghysbell wedi gostwng yn sylweddol, parodd anawsterau teithio ar angen i sicrhau adnoddau swmpus fel tannwydd yn Ileol, ac fe barodd hynny hefyd i'r tiroedd uchel fod yr un mor gyrraeddadwy (neu anghyraeddadwy) a thir isel yn oes y ceffyl a'r pynfarch. Rhaid i ni felly ddychmygu sefyllfa lle roedd tir o ansawdd isel o werth cymharol Ilawer mwy nag yw heddiw, a bod y symbyliad i blannu coed mewn mannau diarffordd yn Ilawer cryfach nag y bu dros y ganrif aeth heibio. Oherwydd hyn, nid yw'n ddiogel fyth i gymryd yn ganiataol nas plannwyd coed yn y gorffennol, hyd yn oed yn y mannau mwyaf diarffordd.

[Tynnir yn bennaf am yr adran hon o Linnard 2000].

Etymoleg "derw" a "mês"

golygu

DK i roi pwt am y gair yn y Llydaweg.

RM i roi cefndir Gaeleg yr Alban

Llên a Llên Gwerin

golygu

Y Beibl

golygu

Cyfeirir at derwen 12 o weithiau yn y Beibl, pob tro yn yr Hen Destament. Mae cynifer a chwe math o dderwen (Hebraeg: allon) ym Mhalesteina. Gallasai'r cyfeiriadau fod yn Quercus aegilops (derwen Falonia), neu Q. ilex (y dderwen Sanctaidd, Saesneg: holme neu holly (= holy) oak) (Walker 1957). Weithiau golygir y terebinth tree (GPC).

Er nad yw'r rhywogaethau hyn yn uniongyrchol berthnasol i'r ddwy rywogaeth dan sylw, mae dylanwad anferthol y Beibl yng Nghymru ac yn y Gorllewin yn golygu bod y rhywogaethau estronol hyn wedi ystumio'r canfyddiad ohonynt fel rhywogaeth(au) brodorol yn y Gwledydd Cred unigol. Y dderwen 'gyfarwydd' a gyfeiriodd y Beibl ati - ni derwen Fallonia!

Cyfeirir at dderwen 7? gwaith fel rhywle I eistedd odditani, dwywaith? fel Ile I gladdu gweddillion person odditani ac am y gweddill, ailadroddir y gair fel crogfa sawl gwaith yn hanes Absalom.

Diddorol efallai yw sylwi fod I'r derw Beiblaidd yr un urddas a'r rhai sydd yma.

Jacob a'u cuddiodd hwynt [duwiau dieithr â chlustlysiau] dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem. Genesis 35:8

xxxxxxxxxxxxxxxxxx Sacareia 11:1,2,3

A marw a wnaeth Deborah, mamaeth Rebekah, a hi a gladdwyd islaw Bethel dan dderwen Genesis 35:8

.....ac a gymmerth faen mawr, ac a'i gosododd i fynu yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd Joshua 24:26

....ac angel yr Arglwydd a ddaeth ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Ophrah Beirniaid 6:11

....paratodd fyn gafr ac a'i dug ato ef [ ] dan y dderwen ac a'i cyflwynodd Beirniaid 6:19

....mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a'i ben of a lynodd yn y dderwen....wele gwelais Absalom ynghreig mewn derwen eto'n fyw ynghanol y dderwen... 2 Samuel 18:9-14

...cafodd ef yn eistedd dan dderwen 1Brenhinoedd 13:14

....ac a gladdasant eu hesgyrn hwy dan y dderwen 1Croniclau 10:12

Efô a dyr iddo gedrwydd ac a gymer y cypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnia ymysg prennau'r coed Eiseia 44:14

..a than bob pren ir, a than pob derwen gauadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd l'w holl eilunod Eseciel 6:13

Dywediadau ac ymadroddion

golygu

Tir a ddigoeter, pum mlynedd y dylyir ei aredig (Dylid aredig tir a ddadgoedwyd am bum mlynedd)

Cynt y cwymp dar, no miaren, o flaen y gwynt (Bydd derwen yn cwympo o flaen y gwynt yn gynt na miaren)

Mal y moch am y ffawydd (... fel moch at y ffawydd Cyfiriad at hoffter moch am ffawydd dros fes gweler xxxxx)

Tri phren nid rhydd eu torri, heb gennad gwlad ac arglwydd: mesbren, sef derwen; bedwen; a rhafnwydden. - Laws[5]

Derwyddon, y cryman aur a'r uchelwydd ar y derw

Meddygon Myddfai - dim cyfiriadau

Arferir derw a derwen ym Morg. am unrhyw fath o goeden, e.e. derwan fala, derwan gnou, derwan irin.

Fel symbol o nerth, hirhoedledd a goruchafiaeth teyrn: 15g. DN 4, Oes hir ar i dir fal derwen. id. 43, Derwen vawr o dëyrn vydd. id. 68, A dwrn Einion wiwddur derweni a nyddud. 15-16g. TA 229, O fesen, derwen a dyf. 1588 Am ii. 9, efe oedd grŷf fel derw. GPC

Ieithoedd eraill

golygu

DK Llydaweg RM Gaeleg

Enwau lleoedd

golygu

Digwydd y ff. f. Y Dderw weithiau fel e. lle.GPC

 
Graff yn dangos niferoedd cymharol yr enwau lleoedd Cymraeg â son am goed o wahanol fathau wedi eu seilio ar ddadansoddiad yr OS Gazeteer

. Mae Cronfa Enwau Lleoedd Melville Richards yn nodi xxxxx o enwau lleoedd yn nodi y dderwen fel rhan.

Mae nifer o enwau lleoedd yn cyfeirio at goed derw yn anuniongyrchol (y dyddiadau yw'r cofnod cynharaf a gofnodwyd): ee. Coed Sart (mae'r enw Cwrt Sart yn ardal Castell Nedd yn mynd yn ôl i 1296 fel term Ffrangeg Norman Lassarte - ystyr assarte oedd tir wedi ei glirio o goed, derw gan mwyaf mae'n debyg). Mae yna enghreifftiau yn cyfeirio at mes: Cae Rhiw Mes (1796), Cae Pren y Mes (Salop 1637), Coed y Mestog (Mynwy 1814), Parc y Mes (Henllan c. 1700), Ysgubor Mesgoed (Mynwy 1833): rhisgl/tannu/barc (dim ond coed â thaninau ynddynt, megis derw a gwern a ddefnyddid i dannu crwyn; Rhisgl (Brycheiniog 1832), Rhisca (Caerdydd 1667), Hafod Rhisg a Ty Rhisgl (Beddgelert), Barcdy (Aberdaron 1701/2) a Llandecwyn a llawer mwy.

Yr elfen Gymraeg yn Lloegr ac Ewrop

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The Plant List: A Working List of All Plant Species". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-18. Cyrchwyd 2017-06-05.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 Jones, EW (1958) Biological Flora of the British Isles: Quercus. Journ. of Ecology (Blackwells)
  3. 3.0 3.1 Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Linnard, W. (2000) Welsh Woods and Forests Gomer
  5. Welsh Proverbs with English Translations gan Henry Halford Vaughan 1889)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: