Yr iaith Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau
Iddew-Almaeneg oedd iaith frodorol y mwyafrif helaeth o'r Iddewon Ashcenasi a ymfudasant o Ddwyrain a Chanolbarth Ewrop i Unol Daleithiau America yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Yn y cyfnod o fewnfudo ar raddfa helaeth rhwng y 1880au a'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymsefydlodd rhyw ddwy filiwn o Iddewon Ewropeaidd yn yr Unol Daleithiau, yn bennaf yn y dinasoedd mawrion ac yn enwedig yn Efrog Newydd. Enillodd yr iaith le yn y gymuned Iddewig am sawl cenhedlaeth drwy dal tir ym meysydd diwylliant poblogaidd a'r cyfryngau, yn enwedig y wasg a'r theatr. Yn y ganrif ddiwethaf mae defnydd yr Iddew-Almaeneg yn iaith yr aelwyd wedi gostwng wrth i'r mwyafrif o Iddewon droi at Saesneg yn eu cartrefi a'u cymunedau, er bod ambell gymdogaeth lle mae'r Iddew-Almaeneg yn fyw. Er gwaethaf, pery'r iaith yn iaith etifedd ac yn symbol diwylliannol ymhlith Iddewon Ashcenasi yn yr Unol Daleithiau.[1]
Diwylliant
golyguYn debyg i ieithoedd mewnfudwyr eraill i'r Unol Daleithiau, datblygodd diwylliant poblogaidd Iddew-Almaeneg yn niwedd y 19g wrth i'r mewnfudwyr Ashcenasi ymddiwylliannu yn eu gwlad newydd. Yn y diwylliant hwn, adlewyrchir profiadau pob dydd yr Americanwyr Iddewig a'u cysylltiadau â chyfundrefnau gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol yr Unol Daleithiau. Dylanwadwyd ar ddiwylliant Iddew-Almaeneg yn gryf gan sawl agwedd o gymdeithas Americanaidd a diwylliannau mewnfudwyr eraill a oedd yn newydd i'r Aschcenasim, gan gynnwys rhyddid mynegiant, prynwriaeth, cabare, caffis, neuaddau dawns, y sinema, a llyfrgelloedd cyhoeddus.[2] Cyfyngwyd ar fewnfudo i'r Unol Daleithiau yn y 1920au, a dim ond ychydig o Iddewon o Ddwyrain Ewrop a gawsant eu derbyn i'r wlad yn yr ugain mlynedd ddilynol. Yn y cyfnod hwn, trodd y to iau o Ashcenasim, a anwyd yn yr Unol Daleithiau, at y Saesneg fel eu priod iaith, er yr oedd nifer ohonynt yn medru'r Iddew-Almaeneg i raddau. Er gwaethaf, parhaodd yr iaith yn gyfrwng mewn sawl maes diwylliannol, gan gynnwys y sinema a'r radio.[3]
Yn sgil yr Ail Ryfel Byd, newidiodd statws yr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn dwy ffordd. Dirywiodd y niferoedd o Americanwyr Iddewig a oedd yn defnyddio'r iaith yn ddyddiol, wrth iddynt gymhathu at y diwylliant Saesneg. Ar yr un pryd, enillodd Iddew-Almaeneg safle bwysig yn yr ymwybyddiaeth Iddewig, fel iaith symbolaidd er cof am y miliynau o siaradwyr a lofruddiwyd gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Holocost. Nid oedd bellach yn iaith mewnfudwyr, ond yn iaith etifedd a werthfawrogwyd gan y genedlaethau ifainc a anwyd yn y wlad fel mamiaith yr hen do. Yn y cyfnod wedi diwedd y rhyfel, roedd yr iaith yn ganolbwynt i nifer o ymdrechion gan athronwyr, anthropolegwyr, a ffotograffwyr i goffáu gwareiddiad diflanedig yr Aschenasim yn Ewrop, a chyhoeddwyd cyfieithiadau a blodeugerddi Saesneg o lenyddiaeth Iddew-Almaeneg. Yr enghraifft amlycaf o'r diwylliant coffaol hwn oedd y sioe gerdd Fiddler on the Roof a berfformiwyd yn gyntaf ar Broadway yn 1964, sy'n seiliedig ar straeon Sholem Aleichem, Iddew o'r Wcráin a dreuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn Efrog Newydd.[4]
O ganlyniad i'r niferoedd o Iddewon a fuont yn weithgar yn llenyddiaeth, ffilm, comedi, radio, a theledu yn yr Unol Daleithiau, mae nifer o eiriau ac ymadroddion Iddew-Almaeneg wedi treiddio i iaith lafar ac yn gyfarwydd i Americanwyr Saesneg. Cyhoeddwyd sawl ffug-eiriadur, megis Yiddish for Yankees ac Every Goy's Guide to Common Jewish Expressions, i gyflwyno priod-ddulliau ac iaith lafar yr Ashcenasim i Americanwyr "cenhedlig". Cafodd yr Iddew-Almaeneg ei phortreadu'n aml yn dafodiaith serthedd, archwaeth, a digrifwch yr Iddewon, mewn cyferbyniad â bywyd crefyddol a chymdeithasol parchus y rheiny a oedd wedi ymdoddi i'r gymdeithas Americanaidd.[4]
Mae ambell grŵp o Iddewon, yn enwedig o'r enwad Hasidig, yn cadw'r Iddew-Almaeneg yn iaith feunyddiol eu teuluoedd a'u cymdogaethau. Daeth y mwyafrif o Iddewon Hasidig i'r Unol Daleithiau wedi'r Ail Ryfel Byd, ac mae defnydd yr iaith yn nodi'r gwahaniaethau mawr rhwng eu cymunedau nhw a bywydau'r Iddewon Americanaidd eraill. Ers diwedd yr 20g mae diwylliant poblogaidd newydd wedi ffynnu drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, ac hynny ar gyfer yr Iddewon Hasidig a chymunedau Uniongred eraill: caneuon duwiol gyda cherddoriaeth boblogaidd, llyfrau, gemau, a phosau i blant, a ffuglen genre megis nofelau hanesyddol ac ysbïo sy'n dangos sêl bendith yr awdurdodau rabinaidd.[5]
Llenyddiaeth
golyguY wasg oedd prif gyfrwng diwylliant poblogaidd y mewnfudwyr Iddew-Almaeneg yn nechrau'r 20g. Yn 1914, cyhoeddid pum papur newydd dyddiol yn Ninas Efrog Newydd yn yr iaith, yn ogystal â chyfnodolion wythnosol a misol. Yn ogystal â rhoi'r newyddion ac hysbysu am gyfleoedd i ymwneud â'r diwylliant Iddew-Almaeneg, buont yn cyhoeddi llên boblogaidd megis barddoniaeth, straeon difyr ac anecdotau, llythyrau at y golygydd, ryseitiau a chyngor y cartref, croeseiriau, a chartwnau. Ymddangosodd ffuglen hir fesul rhifyn, gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth y byd, ac un genre boblogaidd oedd y shund-romanen (nofel gyffrous).[3] Un o'r prif gyhoeddiadau oedd Yidishes Tageblat, y papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg cyntaf yn y byd.
Cerddoriaeth
golyguCafwyd adfywiad klezmer, cerddoriaeth draddodiadol Iddewon Dwyrain Ewrop, yn y 1970au, a berfformir y caneuon gwerin hynny drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Cenir hefyd traddodiad o ganeuon gwleidyddol Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â hen ganeuon y theatr Iddew-Almaeneg. Mae nifer o gantorion Iddew-Almaeneg cyfoes sydd wedi dysgu'r iaith, a nifer nad ydynt yn Iddewon.[4]
Theatr
golyguBlodeuai theatr Iddew-Almaeneg yn yr Unol Daleithiau mewn modd nad oedd yn bosib yn Ymerodraeth Rwsia, lle bu sensoriaeth yn atal twf diwylliant o'r fath. Yn ogystal â gweithiau gwreiddiol gan ddramodwyr Iddewig, perfformiwyd clasuron y theatr Ewropeaidd drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg ar gyfer cynulleidfaoedd o Iddewon Americanaidd, gan gynnwys addasiadau poblogaidd o Shakespeare gydag elfennau wedi eu "Hiddeweiddio". Ysgrifennwyd amrywiaeth o ddramâu yn Iddew-Almaeneg, yn nodweddiadol o uwchddiwylliant ac isddiwylliant, gan gynnwys sioeau sentimental neu gynhyrfus, dramâu hanesyddol, a gweithiau realaidd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol. Sbardunwyd dadleuon cyhoeddus ynglŷn â goblygiadau moesol, gwleidyddol, ac esthetaidd diwylliant poblogaidd gan y theatr Iddew-Almaeneg, a chafodd ddylanwad grymus ar foderneiddio bywydau'r mewnfudwyr Iddewig yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â pherfformiadau byw, roedd recordiadau sain a cherddoriaeth ddalen yn boblogaidd ymysg mynychwyr theatr oedd yn awyddus i fwynhau'r diwylliant hwn yn eu cartrefi.[3]
Ffilm
golyguCynhyrchwyd tua 130 o ffilmiau llawn, a rhyw 30 o ffilmiau byrion, yn ystod oes aur y sinema Iddew-Almaeneg rhwng 1911 a 1940. Ymhlith lluniau mawr y 1930au mae Grine felder (1937). Vu iz mayn kind? (1937), Tevye der milkhiker (1939), ac Hayntike mames (1939). Portreadir y rhain i gyd mewn byd Iddew-Almaeneg sinematig, a phob un cymeriad yn siarad yr iaith.[3]
Radio
golyguYn niwedd y 1920au, dechreuodd cyfnod o raglenni radio Iddew-Almaeneg mewn dinasoedd gyda chymunedau Iddewig mawr, gan gynnwys Efrog Newydd, Chicago, a Los Angeles. Darlledwyd amrywiaeth eang o raglenni, gan gynnwys operâu sebon, adroddiadau newyddion, cyfweliadau, a cherddoriaeth. Roedd nifer o'r darllediadau yn ddwyieithog, gan adlewyrchu profiadau'r to iau o Americanwyr Iddewig a oedd yn siarad Iddew-Almaeneg wrth yr aelwyd a Saesneg yn gyhoeddus.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jeffrey Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 449.
- ↑ Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 449–50.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 450.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 451.
- ↑ Shandler, "Yiddish" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture (2009), t. 451–2.
Darllen pellach
golygu- Jeffrey Shandler, Adventures in Yiddishland: Postvernacular Language and Culture (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 2005).
- Ilan Stavans a Josh Lambert (goln), How Yiddish Changed America and America Changed Yiddish (Efrog Newydd: Restless Books, 2020).