Theatr y Dyfodol
Cwmni theatr a sefydlwyd ym 1998 gan yr actorion Morfudd Hughes ac Wynford Ellis Owen oedd Theatr y Dyfodol.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr |
---|---|
Idioleg | Sam Kogan |
Dyddiad cynharaf | 1998 |
Cysylltir gyda | Morfudd Hughes ac Wynford Ellis Owen |
Daeth i ben | 1999 |
Polisi artistig y cwmni oedd "i gyflwyno cyfoeth dramâu Cymru i'r byd gan ddefnyddio is-deitlau byw a dulliau newydd y 'gwyddoniaeth o actio' o gyrraedd y gwirioneddau sy'n gudd yn y geiriau".[1]
Cefndir
golygu"Yn dilyn gweithdy yng Nghaerdydd gyda chwmni theatr Dalier Sylw [...] o dan gyfarwyddyd meistrolgar Bethan Jones, penderfynodd yr actores Morfudd Hughes a fi wneud cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am nawdd i gael Ilwyfannu Siwan yn ei chyfanrwydd", eglura Wynford Ellis Owen yn ei hunangofiant. [2]
"Bu Morfudd Hughes yn astudio cyfarwyddo gyda Sam Kogan yn 'The School of The Science of Acting' yn Llundain. Dychwelodd i Gymru a chyfarfod Wynford, oedd yn chwilio am ddulliau newydd ei hun o dreiddio dan groen cymeriadau.[1] Roeddent yn bryderus, oherwydd prinder cyllid a'r pwysau cynyddol ar actorion i ymarfer mewn llai a llai o amser - eu bod yn dueddol o bwyso fwy-fwy ar yr un hen gymeriadau stoc. Dyma, yn ei hanfod, oedd wrth wraidd problem 'yr un hen wynebau' glywid cwyno amdano gymaint ar y teledu ac yn y theatr. Yr un hen gymeriadau stoc oedd yn cael eu cynnig mewn gwirionedd dro ar ôl tro!.[1]
Roedd dullai newydd Morfudd yn golygu ail edrych ar y broses ymarfer, a chael yr actorion i edrych o'r newydd ar eu meddyliau cudd a'u prif bwrpasau o fewn y ddrama, ac o anghenion y cymeriadau yn sgil y wybodaeth hynny.
"Cynghorodd Wilbert Lloyd Roberts ni gyda'r cais," eglurodd Wynford, "...ac, with gwrs, buom yn Ilwyddiannus. Er hwylustod, trefnwyd mai cyd-gynhyrchiad fyddai'r cyflwyniad rhwng Theatr Gwynedd a Theatr y Dyfodol, sef yr enw roeson ni arnon ni'n hunain. Byddai Theatr Gwynedd yn gweinyddu'r cynhyrchiad ar ein rhan a threfnu'r daith. Er nad oedd gynnon ni lawer o gyllid, Ilwyddwyd i roi cynhyrchiad digon dethe at ei gilydd, a daeth cynulleidfaoedd sylweddol i'n gwylio ar daith fer o amgylch Cymru. Roedd y dull o weithredu'n newydd i ni, gyda Morfudd Hughes yn herio'r actorion, Rhian Morgan, Ryland Teifi, Sara Lloyd a minnau, i anghofio'n hen ddulliau, ac i ymddiried yn y gwahanol a'r newydd."[2]
Cynhaliwyd gweithdai i ysgolion a cholegau yn ystod y daith, a bu cryn drafod ar y dulliau o ymarfer - a'r wedd newydd gyflwynai ar y ddrama enwog."[1]
Cynyrchiadau
golygu- Siwan (1998)