Thomas Price (Prif Weinidog De Awstralia)

Prifweinidog De Awstralia

Roedd Thomas (Tom) Price (19 Ionawr, 1852 - 23 Ebrill, 1909), yn wleidydd Awstraliad a hanodd o Gymru a wasanaethodd fel Prif Weinidog De Awstralia rhwng 1905 a 1909[1][2]. Ef oedd y gwleidydd cyntaf yn y byd i arwain gweinyddiaeth llafur sefydlog[3].

Thomas Price
Ganwyd19 Ionawr 1852 Edit this on Wikidata
Brymbo Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mai 1909 Edit this on Wikidata
Mount Lofty Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstralia, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, saer maen Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog De Awstralia, Aelod o Gynulliad De Awstralia, Comisiynydd Gwaith Cyhoeddus, Gweinidog Addysg, Aelod o Gynulliad De Awstralia, Leader of the Australian Labor Party (SA Branch) Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Awstralia (Cangen Dde Awstralia) Edit this on Wikidata
PlantJohn Lloyd Price Edit this on Wikidata

Roedd llwyddiannau'r llywodraeth yn cynnwys creu ysgolion uwchradd gwladol am ddim, ffurfio byrddau cyflogau ac isafswm cyflog, a sefydlu'r Ymddiriedolaethau Tramiau Bwrdeistrefol.

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Price ym Mrymbo, yr hynaf o saith plentyn John Price, saer maen, a'i wraig Jane, née Morris[4]. Symudodd y teulu i Lerpwl y flwyddyn ganlynol.[5] Roedd magwraeth Tom yn un dlawd. Methodd ei dad cael cyflogaeth reolaidd oherwydd meddwdod. O ganlyniad i drafferthion y teulu a achoswyd gan hoffter ei dad o'r ddiod gadarn, ymunodd Tom ag enwad y Wesleaid gan gefnogi eu hachos dirwest. Yn y pendraw perswadiodd ei dad i ddod yn ddirwestwr hefyd.

Cafodd ei addysgu yn ysgol geiniog St George[6] yn Everton gan ymadael a'r ysgol ddyddiol yn 9 mlwydd oed. Parhaodd i fynychu'r ysgol Sul yn Boundary Street, Lerpwl[5] gan ddod yn athro ac yn oruchwyliwr yr ysgol Sul yn ogystal â phregethwr cynorthwyol. Parhaodd a'i addysg ffurfiol yn niweddarach trwy fynychu dosbarthiadau nos yn Institiwt y Peirianwyr.

Gyrfa golygu

Cafodd Price ei brentisio i dorrwr cerrig. Wedi llwyddo yn ei brentisiaeth parhaodd a'r gwaith fel crefftwr cymwysedig gan gynyddu ei fusnes i un oedd yn cyflogi ugain o ddynion.

Cafodd ysgyfaint Price ei effeithio gan lwch y garreg. I geisio hinsawdd well i'w anadl, penderfynodd y teulu i fudo i Dde Awstralia[1], gan adeiladu cartref i'w deulu yn nhref Unley. Parhaodd i weithio fel saer meini. Torrodd y garreg a ffurfiodd y pen golofnau marmor ar golofnau Senedd dy newydd y dalaith. Yn ddiweddarach bu'n glerc y gwaith i'r gorfforaeth oedd yn gyfrifol am adeiladu gweithdai rheilffyrdd y llywodraeth yn Islington, ond fe'i diswyddwyd pan ddaeth yn ymgeisydd seneddol.[4]

Ymgyrchydd cymdeithasol a gwleidyddol golygu

Yn Lerpwl bu'n frwd dros achosion cymdeithasol. Bu'n gweithio i wellau'r slymiau a daeth yn aelod o'r Gymdeithas Diwygio Ryddfrydol[7] a Chynghrair Hunain Lywodraeth i'r Iwerddon.

Wedi symud i Dde Awstralia parhaodd i fod yn Fethodistaidd amlwg. Roedd yn aelod o Urdd y Rechabiaid (cymdeithas dirwest) a'r Seiri Rhyddion. Roedd yn perthyn i Gymdeithas Seiri a Bricwyr Gweithredol Awstralia, gan ddod yn llywydd y mudiad dros Dde Awstralia ym 1887 ac ym 1890 yn gynrychiolydd y gymdeithas i'r Cyngor Masnach a Llafur Unedig. Roedd yn un o sylfaenwyr y Cyngor Ddiwydiannau Adeiladu a'r Clwb Democrataidd.

Gyrfa Wleidyddol golygu

 
Deg aelod U.L.P 1893

Ym 1891 ymunodd Price a Phlaid Lafur Unedig (U.L.P) Awstralia gan ymgyrchu dros y blaid yn yr etholiadau a gynhaliwyd yn yr un flwyddyn. Ym 1893 safodd fel ymgeisydd yr U.L.P. yn etholaeth Strut gan ddod yn un o'r ddeg ymgeisydd U.L.P. i gael eu hethol i Dŷ Cynulliad Senedd Dalaith Dde Awstralia. Yn ystod ei dymor cyntaf roedd yn brwydro dros well llety i weithwyr, diwygio tir, addysg orfodol a phleidleisiau i fenywod. Roedd yn areithydd celfydd ac ymosodol; ond roedd areithio'n gref weithiau yn achosi iddo waedu o'i ysgyfaint[6].

Arweinydd y Blaid Lafur golygu

Bu Price a'r U.L.P. yn cefnogi'r llywodraethau rhyddfrydol diwygiol o 1893 tan 1901, pan ddaeth llywodraeth Geidwadol i rym. Yn 1899, llwyddodd Price i ddisodli Egerton Batchelor fel arweinydd ei blaid.

Yn y llywodraeth Clymblaid bu Price yn aelod o'r Ganolfan Amaethyddol Ganolog rhwng 1897 a 1900. Daeth hyn ag ef i gysylltiad â ffermwyr bach, oedd yn dueddol i gefnogi'r Rhyddfrydwyr, yr union bobl roedd raid i Lafur apelio iddynt er mwyn ennill grym. Teithiodd Price trwy'r dalaith i sefydlu canghennau o'r U.L.P yn yr ardaloedd gwledig er mwyn ehangu sylfaen y blaid y tu hwnt i aelodau o'r undebau crefft drefol. Datblygodd hefyd ymagwedd o gydweithredu gyda chyflogwyr yn hytrach na'u trin fel yr elyn parhaus. Roedd yr arferion hyn yn achosi anghydfod gyda rai elfennau radical ei blaid, dan arweiniad Undeb Gweithwyr Awstralia, a oedd am i'r U.L.P. i fod yn blaid dosbarth gweithiol yn unig.

Prif Weinidog De Awstralia golygu

Arweiniodd Price yr U.L.P. mewn ymgyrch llwyddiannus iawn yn etholiad 1905.[8] Cynyddodd cynrychiolaeth ei blaid o bum sedd i bymtheg. Roedd yn ymgyrch ar ddatblygu, cynnydd ac ehangu busnes a chreu llywodraeth onest. Gyda chymorth 8 aelod Rhyddfrydol dan arweiniad Archibald Peake, bu'n rhaid i'r llywodraeth Geidwadol ildio'r awenau i'r glymblaid ac ar 26 Gorffennaf daeth Price yn brif weinidog.

Gan ei fod mewn clymblaid ni lwyddodd Price i gyflawni pob dim a dymunai. Roedd am ddiddymu Tŷ Cynrychiolwyr y Senedd, sefydliad oedd yn cael ei ethol gan gyfoethogion yn unig, bu'n rhaid iddo gyfaddawdu efo diwygio'r etholfraint i'r tŷ yn unig. Methodd ei gais i wneud addysg yn orfodol ac i roi iawndal i weithwyr a'r bleidlais i fenywod. Roedd ei fethiannau a'i chyfaddawdau yn ennyn anghydfod ymysg rai yn ei blaid.

Fe lwyddodd i basio ambell o fesur o bwys megis ffurfio byrddau cyflogau ac isafswm cyflog. Rhoddwyd gweinyddiaeth gostus Tiriogaeth y Gogledd i'r llywodraeth Ffederal a chyflwynwyd ysgolion uwchradd gwladol rhad ac am ddim. Pasiwyd nifer o gyfreithiau moesol hefyd: gwahardd puteindai a thai gamblo, rheoli a gofalu am feddwon a diwygio deddfwriaeth ar gyflenwi alcohol. Roedd y camau hyn yn arwydd o ymagwedd esblygol tuag at gyrraedd cyfiawnder cymdeithasol, roedd Price yn credu oedd rôl y Blaid Lafur. Sefydlodd Price yr U.L.P. fel plaid fwyaf y cynulliad trwy ddangos ei allu i lywodraethu'n gyfrifol. Wedi marwolaeth Price, llwyddodd ei olynydd fel arweinydd yr U.L.P., John Verran, i ffurfio llywodraeth fwyafrifol ym 1910.

Er ei fod yn cael ei ystyried fel eilun gan haneswyr yr achos sosialaidd, roedd yn hilgi di gyfaddawd ac yn ffafru cau allan lafur du, neu felyn, o Awstralia yn gyfan gwbl[9]

Teulu golygu

Ar 14 Ebrill 1881, Priododd Price ag Anne Elizabeth Lloyd yn Eglwys Anglicanaidd Cymraeg Dewi Sant, Lerpwl. Bu iddynt tair merch a phedwar mab. Enillodd un o'r meibion, Walter, y Groes Filwrol am ei wrhydri yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu i fab arall, John Lloyd Price hefyd yn aelod o Senedd Dde Awstralia. Penodwyd Ann Elizabeth yn Ynad Heddwch, y ferch gyntaf i'w phenodi i'r fath swydd trwy'r cyfan o'r Ymerodraeth Brydeinig.

Marwolaeth golygu

 
Angladd Tom Price

Bu farw o'r diciâu a diabetes yn Mount Lofty ar 31 Mai 1909[7] ac, wedi angladd wladol, claddwyd ei weddillion ym mynwent Mitcham[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Edwards, Eric (1953–54). "Y Bywgraffiadur "PRICE , THOMAS ( 1852 - 1909 ), gwleidydd Awstralaidd"". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.CS1 maint: date format (link)
  2. Weeks, Steven (1998). "Price, Thomas (Tom) (1852–1909)', Australian Dictionary of Biography, National Centre of Biography, Australian National University". Prifysgol Genedlaethol Awstralia. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  3. 3.0 3.1 "Find a Grave "Thomas "Tom" Price"". Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  4. 4.0 4.1 Lucas, C (2004-09-23). "Price, Thomas (1852–1909), politician in Australia. Oxford Dictionary of National Biography". Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2014.
  5. 5.0 5.1 Marsden, John (1908). "Wicidestyn "YR ANRHYDEDDUS THOMAS PRICE (Y Winllan Ionawr 1908)"". Wicidestyn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2018.
  6. 6.0 6.1 "YR ANRHYDEDDUS T PRICE PRIF WEINIDOG DEHEUBARTH AWSTRALIA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1908-03-25. Cyrchwyd 2018-07-09.
  7. 7.0 7.1 "Marwolaeth Mr Thomas Price Prifweinidog Deheudir Awstralia - The Rhos Herald". R. Mills & Sons. 1909-06-05. Cyrchwyd 2018-07-09.
  8. "PRIF WEINIDOG DE AWSTRALIA - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1905-09-14. Cyrchwyd 2018-07-09.
  9. Wicidestun Yr_Anrhydeddus_T_Price,_Prif_Weinidog_Deheubarth_Awstralia_(Y_Faner_1908)