Tiffo

ffenomenon ac arddangosiad gweledol lliwgar o gefnogi tîm chwaraeon, fel rheol pêl-droed

Mae arddangosiadau tiffo yn ffenomen gymdeithasol lle mae unigolyn neu grŵp, yn ymrwymo'n frwd i gefnogi cyfranogiad athletwr neu dîm mewn disgyblaeth benodol.[1] Tifo yw'r gair a ddefnyddir i ddisgrifio arddangosfa weledol liwgar, fywiog a choreograffedig fel arfer gan gefnogwyr pêl-droed. Mae hefyd yn ffenomen mewn chwaraeon eraill, fel seiclo a rasio ceir.[2] Gellir priodoli datblygiad angerdd "teiffws" mewn unigolyn yn gyffredinol i'r amgylchedd cymdeithasol y mae'n rhyngweithio ynddo.

Coreograffi o'r Wilden Horde, grŵp Ultra o 1. F.C. Köln
Coreograffi gan y Phoenix Sons, grŵp ultra Karlsruher SC

Mae'r term yn deillio o'r "typhos" Groegeg hynafol yn ystyr fodern "mwg", fel yr arferai gwylwyr y Gemau Olympaidd hynafol ddathlu buddugoliaethau eu harwyr trwy ymgynnull o amgylch coelcerth. Mae'r un ystyr â "thwymyn" neu teiffws[3] o'r gair "typhos", wedi arwain ar gam i gredu bod etymoleg y term i'w briodoli iddo, felly i fath o glefyd sydd mewn achosion eithafol yn ei amlygu ei hun ymhlith y cefnogwyr mwyaf angerddol. Tifosi yn yr Eidaleg yw person sy'n dioddef o'r teiffws, a daeth y symptomau hynny o gryndod i gyfleu agwedd cefnogwyr ffanataidd ar ddiwrnod y gêm.

Natur golygu

Mewn llawer o achosion mae'r arddangosfeydd gweledol wedi'u cynllunio'n ofalus ac yn aml mae pob cefnogwr unigol yn rhan o fosaig trwy wisgo neu ddal lliw penodol. Yn ôl y cylchgrawn pêl-droed ar-lein, Goal, ymysg yr enghreifftiau cyson gorau o weithgaredd tiffo mae: A.C. Milan yn y San Siro; F.C. Barcelona yn y Camp Nou; Celtic yn Celtic Park; Borussia Dortmund yn y Westfalenstadion; a Lerpwl yn Anfield.[4]

Tiffo Pêl-droed golygu

Mae Tiffo, yn y cyd-destun all-Eidaleg yn dueddol o gyfeirio yn bennaf at y weithred o coreograffi, ar y cyd, yn disgrifio'r holl ddulliau a modd, yn enwedig gyda thimau pêl-droed yr Almaen, Eidal a Sbaen, y bwriedir iddynt gefnogi tîm grŵp ffan mewn chwaraeon. Yn anad dim, mae'n golygu coreograffi. Mae'r term "Tifo" yn deillio o'r gair Tifoso yn Eidaleg am ffan pêl-droed sy'n angerddol dros ei dîm. Mae'r gair yn debyg iawn o ran ystyr i'r Ultras,tra mai Utras yw'r grŵp sy'n cynnwys strwythur cymdeithas.

Yn aml gellir gweld tifos yn ystod gemau darbi neu gemau pwysig eraill. Mae'r gweithredoedd yn aml yn cael eu trefnu a'u cyflawni gan grwpiau ultra y clwb chwaraeon priodol. Defnyddir baneri, conffeti, briwsion papur neu gardfwrdd, rholiau cofrestr arian parod, sgarffiau, deiliaid dwbl, baneri troi, balŵns, papur toiled neu erthyglau pyrotechnegol fel Fflêr Bengal neu fomiau mŵg. Y rhan fwyaf o'r amser, mae'r coreograffi yn cael eu perfformio ar ddechrau gêm pan fydd y timau'n mynd i mewn i'r stadiwm, ond weithiau hefyd yn ystod y gêm neu ar ddechrau'r ail hanner.

Prif nod yr ymgyrchoedd yw cyflwyno'r llwyfannu mwyaf cywrain posibl er mwyn cefnogi'ch clwb eich hun neu ysgogi eich tîm eich hun.

Difa'r Tiffo golygu

Bydd ffans yn difa neu losgi eu tiffo ar ddiwedd y gêm fel nad oes modd i gefnogwyr tîm arall ei ddwyn neu anharddu.[5]

Mynegi Anhapusrwydd golygu

Yn aml, mae coreograffi hefyd yn mynegi anfodlonrwydd tuag at gwynion mewn gwleidyddiaeth, cymdeithas neu yn yr ardal o amgylch y gymdeithas. Yn aml dangosir bod baneri sydd â chynnwys fel “Nid yw cefnogwyr pêl-droed yn droseddwyr” neu “Yn erbyn pêl-droed modern” yn tynnu sylw at - o safbwynt y ffan - masnacheiddio gormodol pêl-droed a’r gwrthdaro caled gan yr heddlu yn erbyn grwpiau ffan. Yn ddiweddar, bu nifer cynyddol o wrthdystiadau yn erbyn gwaharddiadau stadiwm.

Tiffos Cymreig golygu

Does dim traddodiad cryf o weithgaredd tiffo gan ffans pêl-droed, ac yn sicr ddim, rygbi, Cymru. Mae hynny efallai i'r ffaith nad yw'r clybiau'n fawr iawn, yn sicr ddim o fewn Uwch Gynghrair Cymru. Ceir elfen o weithgarwch tiffo yn ystod gemau pêl-droed tîm cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, mae baner anferth Cymru wedi ei dadlenni dros eisteddle Treganna yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau.[6]

Cafwyd hefyd arddangosfa tiffo i goffáu marwolaeth Gary Speed, Rheolwr Cymru.[7] Caed hefyd elfen o themâu tiffo gan ffans Cymru sy'n cefnogi YesCymru ac annibyniaeth i Gymru wrth iddynt orymdeithio o ger Clwb Ifor Bach ynghannol Caerdydd i Stadiwm Dinas Caerdydd i gefnogi Cymru. Bydd y ffans yn chwifio baneri a goleuo Fflêr Bengal i ddenu sylw a chodi hwyl.[8]

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cesare Frugoni (1937). "Tifo". (Eidaleg)
  2. https://www.goal.com/en-us/news/what-is-a-football-tifo-fifa-20-stadium-displays-best-fan/ft5x1twghteq138khbbmk722n
  3. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?teiffws
  4. https://www.goal.com/en-us/news/what-is-a-football-tifo-fifa-20-stadium-displays-best-fan/ft5x1twghteq138khbbmk722n
  5. https://www.youtube.com/watch?v=ywcefvRyA_A
  6. https://www.independent.co.uk/sport/football/wales-south-asian-fans-estonia-b1915087.html
  7. https://www.whoateallthepies.tv/international_football/112876/snapshot-wales-fans-pay-tribute-to-gary-speed.html/attachment/soccer-international-friendly-gary-speed-memorial-match-wales-v-costa-rica-cardiff-city-stadium
  8. https://www.welsh-football.net/index.php/other-welsh-football-news/297-wales-an-independent-football-nation-by-megan-lane-feringa