Tlysau Coron Cymru

creiriau brenhinol Cymru a ddygwyd gan goron Lloegr

Tlysau Coron Cymru yw creiriau cenedlaethol brenhinol Cymru (yn enwedig creiriau Teyrnas Gwynedd) a ddygwyd gan Edward I, brenin Lloegr, yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn II), Tywysog Cymru, yng Nghilmeri.

Tlysau Coron Cymru
Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, gyda choron yn eistedd o dan ei arfau brenhinol. Peintiad o 1267.
Enghraifft o'r canlynolbraint, cyfwisg Edit this on Wikidata
Mathcreiriau'r goron, regalia, symbol Edit this on Wikidata
Rhan ohanes cyfreithiol Edit this on Wikidata
Y Groes Naid

Lladd Llywelyn a chymryd tlysau'r goron golygu

Llywelyn ap Gruffydd, a adwaenir yn gyffredin fel Llywelyn Ein Llyw Olaf, oedd Tywysog brodorol olaf Cymru. Yr adeg honno, wrth gwrs, roedd Cymru'n wlad annibynnol, sofran.[1] Lladdwyd Llywelyn gan filwyr Seisnig pan gynigiwyd trafodaeth dan dermau heddwch, heb arfau. Ni chadwodd y Saeson mo'u gair, roeddent wedi dod ag arfau i'r cyfarfod, a lladdwyd Llywelyn. Digwyddodd hyn yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt yn 1282. Rhoddwyd ei ben ar bicell, rhoddwyd coron o eiddew o'i gwmpas ac aethpwyd ag ef o amgylch Cymru, ac yn y diwedd fe'i gosodwyd yn Nhŵr Llundain fel y gallai pawb ei weld a'i wawdio.[2]

Yn 1283, cafodd ei frawd Dafydd ap Gruffydd, Arglwydd Dyffryn Clwyd ei lusgo drwy strydoedd yr Amwythig gan geffyl, ei grogi, ei adfywio a’i ddiberfeddu, ag yntau'n fyw. Taflwyd ei ymysgaroedd i dân wrth iddo wylio. O’r diwedd, torrwyd ei ben a’i osod gyda'i frawd yn Nhŵr Llundain a thorrwyd ei gorff yn chwarteri gan y Saeson.[3]

Ar ôl trechu'r Cymru, fel hyn, yn 1283, dygwyd pob arwyddlun, regalia a chrair brenhinol i Loegr. Roedd Edward wrth ei fodd pan feddiannodd cartref brenhinol llinach tywysogion Gwynedd. Yn Awst 1284, sefydlodd ei lys yn Abergwyngregyn, Gwynedd. Symudodd bob arwyddlun o fawredd o Wynedd; cyflwynwyd coron bychan i gysegrfa Sant Edward yn Westminster; toddwyd yr aur o amgylch seliau Llywelyn, ei wraig, a'i frawd Dafydd i wneud cwpan cymun, a roddwyd gan y brenin i'r Vale Royal Abbey lle y bu hyd ddiddymiad y sefydliad hwnnw yn 1538, ac wedi hynny y daeth i feddiant teulu'r abad olaf.[4] Y crair crefyddol mwyaf gwerthfawr oedd y groes a wnaed o'r Groes lle croeshoeliwyd Crist arni, sef y Groes Naid, a pharediwyd honno drwy Lundain ym Mai 1285 mewn gorymdaith ddifrifol, dan arweiniad y brenin, y frenhines, archesgob Caergaint ac un-deg-pedwar o esgobion, a magnadau'r deyrnas. Yr oedd Edward felly'n meddiannu regalia a chreiriau hanesyddol a chrefyddol Cymru, gan ddangos i'r byd ei fod wedi dileu llinach Tywysogion Cymru, gan atodi'r dywysogaeth i'w Goron ef ei hun: Coron Lloegr. Wrth sôn am hyn dywedir bod un o groniclwyr yr oes wedi datgan "ac yna bwriwyd Cymru gyfan i'r llawr."[5] Ond nid dyna ddiwedd Cymru.

Coron Llywelyn golygu

Trysor coll o hanes Cymru yw Coron Llywelyn (neu 'Dalaith Llywelyn'). Cofnodir fod Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac Arglwydd Aberffraw wedi rhoi'r goron hon ac eitemau eraill (megis y Groes Naid) i'r mynachod yn Abaty Cymer i'w cadw'n ddiogel ar ddechrau ei ymgyrch olaf yn 1282. Ond fe'i lladdwyd yn Rhagfyr y flwyddyn honno. Rheibiwyd yr abaty gan filwyr Lloegr yn 1284 ac ysbeiliwyd creiriau Teyrnas Gwynedd a oedd mewn gwirionedd yn greiriau Cenedlaethol. Wedi hynny cymerwyd nhw i Lundain a'u cyflwyno yng nghysegr Edward y Cyffeswr yn Abaty Westminster gan Alphonso, Iarll Caer,[6] etifedd Edward I, fel arwydd o ddinistr llwyr y Wladwriaeth Gymreig Annibynnol.[7]

Coron Arthur golygu

Mae Rees Davies yn credu bod yna sawl coron ac ymhlith y rhai a atafaelwyd yn 1282 roedd "Coron Arthur", sef trysor Cymreig brodorol hŷn, y mae'n bosibl iddo gael ei lunio mor bell yn ôl â theyrnasiad Owain Gwynedd (1137–1171) neu efallai'n gynharach, wrth i dywysogion Gwynedd atgyfnerthu eu safle fel prif lywodraethwyr Cymru.[8]

Ef (Edward) a feddiannodd symbolau mwyaf gwerthfawr a grymus Tywysogaeth Annibynnol Cymru – Coron Llywelyn, matrics ei sêl, tlysau a Choron Arthur, ac yn bennaf oll y crair pwysicaf Cymru, y darn o’r wir groes a elwir yn Y Groes Naid (yn union fel y symudodd y Maen Sgon o'r Alban yn 1296).
R. R. Davies [8]

Coron y Tywysog Owain Glyn Dŵr golygu

Mae cryn ddirgelwch o gwmpas lleoliad Coron Owain Glyndŵr. Coronwyd Glyndŵr yn 1404 yn Senedd Cymru a gynhaliwyd ym Machynlleth – ond gyda choron pwy? Mae'n bosibl mai coron arall a oedd yn bodoli cyn 1282 oedd hon, yn debyg i un Llywelyn, ac o bosibl yn goron brenhinoedd Powys a elwid yn Goron Elisig neu'n un a wnaed yn benodol ar gyfer yr achlysur. Posibilrwydd arall yw nad oedd coron Llywelyn, a oedd wedi’i dwyn yn 1303 ochr yn ochr â Thlysau Coron Lloegr, wedi’i dychwelyd gyda’r gweddill ohonynt, ac felly dihangodd rhag cael ei dinistrio gan Cromwell.[9]

Y Groes Naid golygu

 
Y Groes Naid

Hon oedd y grair cysegredig pwysicaf y credir ei fod yn ddarn o'r Gwir Groes (Croes Crist) a gedwid yn Abaty Aberconwy gan frenhinoedd a thywysogion Gwynedd, aelodau o linach Aberffraw a sefydlodd Cymru'n wladwriaeth sofran. Credent ei fod yn eu hamddiffyn ac yn amddiffyn Cenedl y Cymru. Ni wyddys pryd y cyrhaeddodd Wynedd gyntaf na sut y'i hetifeddwyd, ond mae’n bosibl iddo gael ei ddwyn o Rufain gan y brenin Hywel Dda yn dilyn ei bererindod tua 928. Yn ôl traddodiad fe'i trosglwyddwyd o dywysog i dywysog hyd amser y Tywysogion Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd.[10]

Matricsau sêl Llywelyn golygu

Cafodd matricsau seliau Llywelyn, ei wraig, a'i frawd Dafydd eu toddi i wneud cwpan Cymun, a rhoddwyd hwnnw gan frenin Lloegr i Abaty Brenhinol y Fro, lle y bu hyd ddiddymiad y sefydliad hwnnw yn 1538, ac wedi hynny y daeth i feddiant teulu yr abad olaf.[11]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "The last stand of Llywelyn the Last". BBC (yn Saesneg). 2012-12-11. Cyrchwyd 2022-06-20.
  2. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  3. Long, Tony. "Oct. 3, 1283: As Bad Deaths Go, It's Hard to Top This". Wired (yn Saesneg). ISSN 1059-1028. Cyrchwyd 27 Mai 2022.
  4. "Houses of Cistercian monks: The abbey of Vale Royal". A History of the County of Chester. 3. London: Victoria County History. 1980. tt. 156–165.
  5. Davies, Rees (1 May 2001). "Wales: A Culture Preserved". bbc.co.uk/history. t. 3. Cyrchwyd 6 May 2008.
  6. Morris, Marc (2008). A great and terrible king : Edward I and the forging of Britain. London: Hutchinson. t. 194. ISBN 978-1681771335.
  7. "Wales: History 1066 to 1485 (Hutchinson encyclopedia article)".
  8. 8.0 8.1 Davies, R.R. (2000). The Age of Conquest: Wales, 1063–1415. USA: Oxford University Press. t. 544 pages. ISBN 0-19-820878-2.
  9. "Glyndŵr's final resting place". BBC News. 6 November 2004. Cyrchwyd 5 January 2010.
  10. Law and Government Under the Tudors: Essays Presented to Sir Geoffrey Elton
  11. "Houses of Cistercian monks: The abbey of Vale Royal". A History of the County of Chester. 3. London: Victoria County History. 1980. tt. 156–165.