Uthyr Pen Ddraig
Arweinydd Brythonig a thad y Brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Uthyr Pen Ddraig (neu Uthr Bendragon, Wthyr Bendragon, Cymraeg cynnar/Cymraeg canol: Vthyr Bendreic, Uthir Pen Dragon, Ythr ben Dragwn). Ystyr "Pendragon" yw "prif bennaeth".
Llenyddiaeth Gymreig cynnar
golyguMae'r gerdd o'r 10 neu 11g "Pa Gwr?" (Pa Gwr yw y Porthawr) yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at Uthyr, "Mabon am mydron / Guas uthir pen dragon."[1][2]
Ymddengys Uthyr hefyd yn Brut y Brenhinoedd, "yn sef yv hynny yn yavn Gymraec Vthyr Bendreic . . . canys Myrdin a’e daroganassei yn urenhin trvy y dreic a welat yn y seren".[2]
Mae Uthyr hefyd yn ymmdangos yn un o Trioedd Ynys Prydain, sef Trioedd 28.[2]
Mae cerdd arall, Ymddiddan Arthur a'r eryr, yn crybwyll nai i Arthur o'r enw Eliwlad, oedd yn fab i Fadog fab Uthr; byddai Madog felly yn frawd i Arthur.
Chwedl Sieffre o Fynwy
golyguGweler y ddelwedd ar y dde yn Brut Tysilio, testun Cymreig sy'n fwy na thebyg yn ail-weithiad hwyr o waith Sieffre o Fynwy, Historia regum Britanniae. Mae'r delwedd yn dod o 1695 ffolio, Coleg yr Iesu MS. 28, ond cafodd ei thrawsgrifio o ysgrif 15g, Coleg yr Iesu MS. 61, gan Hugh Jones, tangeidwad Amgueddfa Ashmolean, yn 1695.[3]
Ceir ei hanes yn llawn yn fersiwn Sieffre o Fynwy o chwedl Arthur yn ei Historia Regum Britanniae. Dywed fod Uthr yn fab i Cystennin II ac yn frawd i Emrys Wledig. Magwyd ef yn Llydaw er mwyn osgoi gelyniaeth Gwrtheyrn, a chynorthwyir hwynt gan Emyr Llydaw. Dychelant i Brydain, a gorchfygu Gwrtheyrn. Daw Emrys yn frenin, ac mae Uthr yn arwain byddin i Iwerddon i gynorthwyo'r dewin Myrddin i ddod a meni oddi yno i adeiladu Côr y Cewri.
Gan fod Emrys yn wael ar y pryd, mae Uthr yn arwain byddin yn erbyn Paschent, mab Gwrtheyrn, a'i gyngheiriaid Sacsonaidd. Ar y ffordd i faes y frwydr, mae'n gweld comed ar ffurf draig, ac mae Myrddin yn ei dehongli fel proffwydoliaeth o farwolaeth Emrys ac Uthr yn dod yn frenin. Wedi ennill y frwydr, cymer Uther yr enw "Pendragon". Erbyn iddo ddychwelyd ma Emrys wedi ei wenwyno, ac mae'n olynu Emrys ar orsedd Ynys Brydain. Ar ei orchymyn, gwneir dwy ddraig o aur, ac mae'n defnyddio un fel ei faner.
Syrth Uthr mewn cariad a gwraig Gorlois, Dug Cernyw, Eigr (Igraine). Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.
Llyfryddiaeth
golygu- Meic Stephens (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pa Gwr?". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 513. ISBN 978-1-78316-146-1.
- ↑ "Jesus College MS. 28". digital.bodleian.ox.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.