Uthyr Pen Ddraig

teyrn

Arweinydd Brythonig a thad y Brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Uthyr Pen Ddraig (neu Uthr Bendragon, Wthyr Bendragon, Cymraeg cynnar/Cymraeg canol: Vthyr Bendreic, Uthir Pen Dragon, Ythr ben Dragwn). Ystyr "Pendragon" yw "prif bennaeth".

Uther Pendragon gan Howard Pyle, oThe Story of King Arthur and His Knights, 1903.

Llenyddiaeth Gymreig cynnar

golygu

Mae'r gerdd o'r 10 neu 11g "Pa Gwr?" (Pa Gwr yw y Porthawr) yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cyfeirio at Uthyr, "Mabon am mydron / Guas uthir pen dragon."[1][2]

Ymddengys Uthyr hefyd yn Brut y Brenhinoedd, "yn sef yv hynny yn yavn Gymraec Vthyr Bendreic . . . canys Myrdin a’e daroganassei yn urenhin trvy y dreic a welat yn y seren".[2]

Mae Uthyr hefyd yn ymmdangos yn un o Trioedd Ynys Prydain, sef Trioedd 28.[2]

Mae cerdd arall, Ymddiddan Arthur a'r eryr, yn crybwyll nai i Arthur o'r enw Eliwlad, oedd yn fab i Fadog fab Uthr; byddai Madog felly yn frawd i Arthur.

Chwedl Sieffre o Fynwy

golygu
 
"Ythr Ben Dragwn" yn "Dare Phrygius & Brut Tysilio" sydd wedi'i chadw yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Gweler y ddelwedd ar y dde yn Brut Tysilio, testun Cymreig sy'n fwy na thebyg yn ail-weithiad hwyr o waith Sieffre o Fynwy, Historia regum Britanniae. Mae'r delwedd yn dod o 1695 ffolio, Coleg yr Iesu MS. 28, ond cafodd ei thrawsgrifio o ysgrif 15g, Coleg yr Iesu MS. 61, gan Hugh Jones, tangeidwad Amgueddfa Ashmolean, yn 1695.[3]

 
Arfau Uthr (dychmygol), o lawsysgrif Duduraidd yng Nghasgliad Harley, Llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig.

Ceir ei hanes yn llawn yn fersiwn Sieffre o Fynwy o chwedl Arthur yn ei Historia Regum Britanniae. Dywed fod Uthr yn fab i Cystennin II ac yn frawd i Emrys Wledig. Magwyd ef yn Llydaw er mwyn osgoi gelyniaeth Gwrtheyrn, a chynorthwyir hwynt gan Emyr Llydaw. Dychelant i Brydain, a gorchfygu Gwrtheyrn. Daw Emrys yn frenin, ac mae Uthr yn arwain byddin i Iwerddon i gynorthwyo'r dewin Myrddin i ddod a meni oddi yno i adeiladu Côr y Cewri.

Gan fod Emrys yn wael ar y pryd, mae Uthr yn arwain byddin yn erbyn Paschent, mab Gwrtheyrn, a'i gyngheiriaid Sacsonaidd. Ar y ffordd i faes y frwydr, mae'n gweld comed ar ffurf draig, ac mae Myrddin yn ei dehongli fel proffwydoliaeth o farwolaeth Emrys ac Uthr yn dod yn frenin. Wedi ennill y frwydr, cymer Uther yr enw "Pendragon". Erbyn iddo ddychwelyd ma Emrys wedi ei wenwyno, ac mae'n olynu Emrys ar orsedd Ynys Brydain. Ar ei orchymyn, gwneir dwy ddraig o aur, ac mae'n defnyddio un fel ei faner.

Syrth Uthr mewn cariad a gwraig Gorlois, Dug Cernyw, Eigr (Igraine). Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ei ffurf fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Meic Stephens (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Pa Gwr?". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-23.
  2. 2.0 2.1 2.2 Bromwich, Rachel (2014-11-15). Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 513. ISBN 978-1-78316-146-1.
  3. "Jesus College MS. 28". digital.bodleian.ox.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.