W.H Roberts
Actor o Gymru fu'n aelod cynnar o Gwmni Theatr Cymru oedd W.H Roberts neu William Henry Roberts. (21 Chwefror 1907 - 6 Ebrill 1982). Roedd yn dad i'r newyddiadurwr Owen Roberts.[1] Nai iddo yw'r actor Siôn Trystan Roberts.
W. H Roberts | |
---|---|
Ganwyd | William Henry Roberts 21 Chwefror 1907 Brynteg, Llanfaethlu |
Bu farw | 6 Ebrill 1982 Dwyran, Ynys Môn |
Llysenw/au | W.H |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Coleg Normal, Bangor |
Cefndir
golyguGanwyd 21 Chwefror 1907 yn Brynteg, Llanfaethlu, Ynys Môn, yn fab i Henry Roberts a'i wraig Marged (Jones).[2] Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Ffrwdwin, Llanfaethlu, ond symudodd y teulu i Blas Llandrygarn ac yna i Llwyn Ednyfed, Llangefni, ac aeth 'W.H.', fel y daethpwyd i'w adnabod, i ysgol sir Llangefni yn 1921 ac yna i Goleg Normal Bangor, 1926-28. Apwyntiwyd ef yn athro ysgol Niwbwrch yn 1931 lle y treuliodd weddill ei oes, yn athro ac yna'n brifathro'r ysgol.
Dechreuwyd darlledu yn Gymraeg o Bryn Meirion Bangor yn 1935 a chymerodd W.H. Roberts ran mewn llawer iawn o raglenni nodwedd a gynhyrchwyd gan Sam Jones, Ifan O. Williams, Dafydd Gruffydd a John Gwilym Jones.
Yn 1938 enillodd yr her adroddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a chymerodd ran mewn dramâu a ddarlledwyd o Gaerdydd, weithiau dan gyfarwyddyd T. Rowland Hughes a chan gynnwys rhai o ddramâu Saunders Lewis, Amlyn ac Amig (gyda Hugh Griffith), Buchedd Garmon.
Gwasanaethodd yn y fyddin yn yr Ail Ryfel Byd ac anfonwyd ef i'r India yn 1942, i Calcutta a Mysore.
Ailafaelodd yn ei yrfa yn Niwbwrch wedi dychwelyd a threuliodd lawer o'i amser yn feirnaid adrodd. Fe'i hanrhydeddwyd â gwisg wen Gorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1959.
Cyhoeddodd ei atgofion (gyda ffotograff), Aroglau Gwair, yn 1981; cyhoeddwyd ei ddarlith, Iaith lafar Mon, gyda chaset, yn 1984.
Bu farw yn ei gartref yn Nwyran, Môn 6 Ebrill 1982 a chladdwyd ef ym mynwent capel Ebeneser (MC), Niwbwrch, 17 Ebrill 1982.
Bywyd personol
golyguPriododd Margaret Elisabeth Evans o Niwbwrch, fis Awst 1937, a bu iddynt ddau o feibion.
Gyrfa
golyguTheatr
golyguTeledu a ffilm
golygu- Y Wawr (1967)
- Amlyn ac Amig
- Buchedd Garmon
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Owen, Wynfford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
- ↑ "ROBERTS, WILLIAM HENRY (1907-1982), actor, darlledwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-06.