Y Meddwl Modern
Cyfres o lyfrau gan awduron o Gymro a oedd yn dehongli gwaith rhai o feddylwyr arwyddocaol yng nghanol y 20g oedd Y Meddwl Modern. Cyhoeddodd Gwasg Gee y gyfres rhwng 1980 a 1992.
Llyfrau'r gyfres:
- Barth gan D. Densil Morgan (1992) - diwynydd y Swistir Karl Barth (1886–1968)
- Bonhoeffer gan Harri Williams (1981) - y diwynydd Almaenig Dietrich Bonhoeffer (1906–1945)
- Brecht gan G. L. Jones (1985) - y dramodydd Almaenig Bertolt Brecht (1898–1956)
- Bultmann gan Eryl Wynn Davies (1984) - y diwynydd Almaenig Rudolf Bultmann (1884–1976)
- Darwin gan R. Elwyn Hughes (1981) - y naturiaethwr o Sais Charles Darwin (1809–82))
- Durkheim gan Huw Morris-Jones (1984) - y cymdeithasegydd o Ffrancwr Émile Durkheim (1858–1917))
- Eliot gan R. Gerallt Jones (1982) - y bardd T. S. Eliot (1888–1965)
- Evans-Pritchard gan Dafydd Jenkins (1982) - yr arthropolegydd Seisnig E. E. Evans-Pritchard (1902–1973))
- Freud gan Harri Pritchard Jones (1982) - y seicolegydd Awstriaidd Sigmund Freud (1856–1939)
- Fromm gan D. R. Thomas (1984) - y seicolegydd Almaenig Erich Fromm (1900–80)
- Hegel gan E. Gwynn Matthews (1980) - yr athronydd Almaenig Georg Hegel (1770–1831)
- Hume gan Meredydd Evans (1985) - yr athronydd o Albanwr David Hume (1711–76)
- Jung gan E. J. Eurfyl Jones (1985) - seicolegydd y Swistir Carl Jung (1875–1961)
- Lenin gan W. J. Rees (1981) - y chwyldroadwr Rwsiaidd Vladimir Lenin (1870–1924)
- Malraux gan Paul Birt (1980) - y llenor o Ffrancwr André Malraux (1901–76)[1]
- Marx gan Howard Williams (1980) - yr athronydd gwleidyddol Almaenig Karl Marx (1818–83)
- Niebuhr gan E. R. Lloyd-Jones (1989) - y diwynydd o'r Unol Daleithiau Reinhold Niebuhr (1892–1971)
- Toynbee gan C. R. Williams (1980) - yr hanesydd o Sais Arnold J. Toynbee (1889–1975)
- Weber gan Ellis Roberts (1982) - yr cymdeithasegydd Almaenig Max Weber (1864–1920)
- Wittgenstein gan Walford L. Gealey (1980) - yr athronydd Awstriaidd Ludwig Wittgenstein (1889–1951)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mélanges Malraux (yn Saesneg). Malraux Society. 1985. t. 105.