Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru oedd yr ymddiriedolaeth GIG a redai ysbytai a gwasanaethau iechyd y GIG yng ngogledd-orllewin Cymru. Roedd ei rhanbarth yn cynnwys y cyfan o siroedd Môn a Gwynedd a rhan o Gonwy. Lleolwyd y pencadlys yn Ysbyty Gwynedd, ger Bangor. Yn 2009, fe'i hunwyd gyda'r ddwy ymddiriedolaeth arall yn y gogledd pan sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ysbytai
golygu- Ysbyty Bron y Garth, Penrhyndeudraeth
- Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli
- Ysbyty Bryn y Neuadd, Conwy
- Ysbyty Cefni, Llangefni
- Ysbyty Dolgellau, Dolgellau
- Ysbyty Eryri, Caernarfon
- Ysbyty Coffa Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog
- Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Conwy
- Ysbyty Minfordd, Bangor
- Ysbyty Coffa Tywyn, Tywyn
- Ysbyty Gwynedd, Bangor
- Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi