Eglwys Sant Cynhaiarn

eglwys yn Ynyscynhaearn, Gwynedd
(Ailgyfeiriad o Ystumllyn)

Dadgysegrwyd Eglwys Sant Cynhaiarn (hefyd Eglwys Sant Cynhaearn ac weithiau "Ynys Cynhaearn")[1][2] yn 2003 pan roddwyd hi ar lês i Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill"). Mae'r eglwys wedi'i lleoli ar godiad bychan o dir a arferai fod yn ynys ar Llyn Ystumllyn, tua cilometr i'r de o Bentrefelin, Gwynedd, Cymru. Fe'i chofrestrwyd gan Cadw fel adeilad cofrestredig Gradd II*.[3] Mae'r ffordd sy'n arwain i'r eglwys ychydig yn uwch na'r caeau o'i phoptu - dyma'r hen ffordd Ganoloesol a oedd yn ffinio gydag ochr yr hen lyn.[2] Mae'r eglwys yn fwyaf nodedig am fod yn fan claddu Dafydd y Garreg Wen, ('Dafydd Ŵan' ar lafar, neu neu 'David Owen' ar ei dystysgrif geni). Hyd yn ddiweddar cysegrwyd yr eglwys i Sant Cynhaiarn.[4]

Eglwys Sant Cynhaiarn
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDolbenmaen Edit this on Wikidata
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9262°N 4.19443°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Sioraidd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iCynhaiarn Edit this on Wikidata
Manylion

Ceir olion cytiau hirion o’r Canol Oesoedd cynnar i'r de-orllewin o'r eglwys.[5]

Hanes golygu

Cyn sefydlu tref Porthmadog, sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd, dyma oedd Eglwys Plwyf yr ardal.[3] Mae corff yr eglwys yn dyddio'n ôl i'r 12g, ac ychwanegwyd yr adain ogleddol yn y 16g.[2] Yn 1622 y codwyd yr adain ddeheuol.[3] Mae'r rhan fwyaf o'r dodrefn mewnol yn perthyn i arddull y cyfnod Siorsaidd ac yn mynd nôl i 1832. Yn y 2010au tynnwyd y mortar hyll oddi ar wal gorllewinol yr eglwys a datgelwyd gwaith carreg arbennig o grefftus.

Dodrefn golygu

Gwnaed y pulpud teirllawr hynod yn 1832. Symudwyd yr organ Gothig fawr yma (a wnaed gan 'Flight & Robson') yn 1854 o Dremadog. Mae'r fedyddfaen yn gymharol newydd (1900) ac ni wyddys beth yw hynt a helynt yr hen fedyddfaen. Ceir yma neuadd fechan iawn a gynlluniawyd gan Clough Williams-Ellis yn 1937. Ceir sawl ffenestr liw i goffáu cyn-aelodau'r eglwys ac eraill megis morwyr, ac yn eu plith y mae ffenest i 'Bêr Ganiedydd Israel' yn canu'r delyn er cof am Alltud Eifion, a anwyd ym mhlwyf Cynhaiarn. Gwnaed ambell ffenest gan James Powell a'i fab rhwng 1899 a 1906.[2] Mae ffenestr arall yn cynnwys llun o Sant Cynhaiarn.

Y fynwent golygu

Yma y claddwyd Dafydd y Garreg Wen yn 29 oed yn 1749, a nodir hynny ar ei garreg fedd, gyda llun bychan o delyn wedi'i gerfio ar wyneb y lechen.[6] Ar y garreg mae'r ysgrifen: "BEDD DAVID OWEN, neu Ddafydd y Garreg Wen. y Telynor rhagorola gladdwyd 1749 yn 29 oed."

Swynai'r fron, gwnai'n llon y llu--â'i ganiad,
Oedd ogoniant Cymru;
Dyma lle cadd ei gladdu,
Heb ail o'i fath, Jubal fu.[7]

Yma hefyd y claddwyd awdur Cell Meudwy, y beirniad llenyddol a'r hynafieithydd Ellis Owen, Cefnymeysydd (31 Mawrth 1789 - 27 Ionawr 1868) a drigai gyda'i fam a'i chwiorydd mewn fferm gerllaw; ef sgwennodd yr englyn uchod i Dafydd. Yma hefyd y claddwyd y bardd John Williams (Ioan Madog). Yma hefyd y claddwyd John Ystumllyn (neu Jack Black), sef dyn du ei groen a chyn-gaethwas o Affrica a gladdwyd yma yn niwedd y 18g. Roedd yn ffasiynol yr adeg honno i gyflogi gwas croenddu yn y tŷ, a dyna a wnaeth teulu'r Wynniaid, o Dŷ Ystumllyn. Priododd Jack i deulu lleol a chafodd 7 o blant. Yn ôl Cadw, dyma'r dyn du cyntaf i ddod i Gymru.[8] Ymhyfryda llawer o bobl leol heddiw (2014) eu bod yn perthyn iddo.[9]

Ceir yma hefyd gofeb ar ffurf wrn i deulu James Spooner, y syrfewr hwnnw a adeiladodd Reilffordd Ffestiniog; mae'r wrn enfawr wedi'i amgylchynu gan ffens haearn, tua 6 metr i'r de o ddrws yr eglwys.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Dyma'r sillafiad a ddefnyddir gan Barc Cenedlaethol Eryri;[dolen marw] adalwyd 24 Hydref 2014
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Ynyscynhaearn, Friends of Friendless Churches, http://friendsoffriendlesschurches.org.uk/ynyscynhaearn/, adalwyd 30 Mehefin 2019
  3. 3.0 3.1 3.2 Church of St Cynhaearn, Ystumllyn, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=4291, adalwyd 23 Gorffennaf 2010
  4. Owen M. Edwards, Cartrefi Cymru: "Nid oes yn ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig. Y mae porth yr eglwys ymron mynd a'i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio musgrell wedi bod ar yr eglwys droion. Morwyr ac amaethwyr sy'n gorwedd yn y fynwent. Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o Gernyw, a Mac Lean o'r Alban. Gwelsom fedd pilot wedi boddi, a gwelsom lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon." Adalwyd 24 Hydref 2014
  5. Parc Cenedlaethol Eryri;[dolen marw] adalwyd 24 Hydref 2014
  6. "The Dying Bard (1806)", The Poetical Works of Sir Walter Scott, with the Author's Introduction and Notes, ed. J. Logie Robertson (Llundain, 1917), tud. 704–5.
  7. www.testunau.org; adalwyd 24 Hydref 2014
  8. Cadw; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 24 Hydref 2014
  9. Gwefan y Casglwr; adalwyd 24 Hydref 2014

Dolenni allanol golygu