Ẓe'enah u-Re'enah
Llyfr Iddew-Almaeneg a ysgrifennwyd gan Jacob ben Isaac Ashkenazi, Iddew o Wlad Pwyl, yn y 1590au yw Ẓe'enah u-Re'enah (צאינה וראינה) neu Tsene-rene a oedd yn addasiad mwyaf ddylanwadol y Beibl Hebraeg yn ystod cyfnod llenyddiaeth Iddew-Almaeneg Canol. Trosiad deongliadol ydyw sydd yn cyfuno aralleiriadau o'r Pumllyfr, yr haftarah, a'r Megillot ag esboniadau ac ymhelaethiadau traethiadol sydd yn tynnu ar nifer fawr o ffynonellau rabinaidd. Nid yw'n sicr pryd ac ym mha le cafodd y gwaith ei gyhoeddi'n gyntaf. Yn ôl wynebddalen yr argraffiad hynaf (Hanau/Basel, 1622), bu o leiaf tri argraffiad cynharach, un yn Lublin a dau yn Kraków.[1] Ymhen fawr o dro, enillodd Ẓe'enah u-Re'enah ei lle yn niwylliant yr Iddewon Ashcenasi, a chafodd ei darllen ganddynt ar y Sabath am ganrifoedd. Daw teitl y gwaith o Ganiad Solomon 3:11: "Ewch allan, merched Sïon, ac edrychwch".
Clawr argraffiad 1853. | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Jacob ben Isaac Ashkenazi |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Iaith | Iddew-Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1616 |
Dyddiad cyhoeddi | 1590au |
Genre | aggadah, Jewish commentaries on the Bible |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n cynnwys cyfieithiadau rhydd o'r testunau Beiblaidd a ddarllenir yn wythnosol yn y synagog: Pumllyfr Moses (Genesis, Exodus, Lefiticus, Numeri, a Deuteronomium); yr atodiadau a elwir haftarah, sef detholiadau o lyfrau'r Proffwydi; a phum sgrôl y Megillot (Caniad Solomon, Ruth, Galarnad, Pregethwr, ac Esther). Ochr yn ochr â'r rheiny, cynhwysir sgyrsiau rabinaidd yn nhraddodiadau peshat (esboniadaeth lythrennol) a derash (esboniadaeth rydd neu gymharol), chwedlau'r Midrash, hen straeon Iddewig, a sylwadau pynciol ynglŷn ag ymddygiad a moes. Dyfynnir ambell ffynhonnell wrth ei henw, gan gynnwys esboniadau Rashi, Bahya ben Asher, a Nachmanides, rhai o ysgolheigion pwysicaf y traddodiad Iddewig yn yr Oesoedd Canol. Mae'n debyg i'r awdur Ashkenazi dynnu'n bennaf ar waith y Rabi Bahya drwy gynnwys deunydd sylweddol o'i ddehongliadau yn ogystal â mabwysiadu strwythur gyffredinol y gyfrol ar batrwm Bahya. Fel rheol mae Ashkenazi yn osgoi arfer y darnau athronyddol a Chabalaidd sydd yn fynych yn y traddodiad rabinaidd. Ysgrifennodd yr holl waith drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, heb ddyfynnu'r Hebraeg, er mwyn darparu trosiad Beiblaidd defnyddiol ar gyfer y werin Iddewig yng Nghanolbarth Ewrop. Yn ôl geiriau'r wynebddalen hynaf: "dylunnir y gwaith hwn i alluogi dynion a merched...i ddeall gair Duw mewn iaith syml".[1] Er nad oedd yr awdur yn bwriadu i'r llyfr gael ei ddarllen gan fenywod yn unig, bu'n boblogaidd ymhlith Iddewesau yn arbennig a chafodd ei alw'n aml yn "Feibl y Merched".
Yn y pedwar can mlynedd ers ei ysgrifennu, ailargraffwyd y gwaith rhyw 210 o weithiau, yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop, Unol Daleithiau America, ac Israel. Erbyn y 18g, ymddangosodd ddigon o wahaniaethau ieithyddol yn yr amryw argraffiadau iddynt dystio datblygiadau yn yr iaith Iddew-Almaeneg. Mae rhai o argraffiadau'r 19g yn cynnwys newidiadau i'r testun sydd yn adlewyrchu mudiadau Iddewig yr oes, yn bennaf Haskalah ac Hasidiaeth. Cyfieithwyd ambell ran o Ẓe'enah u-Re'enah i ieithoedd Ewropeaidd eraill: Bereshit (sef Genesis 1:1–6:8) yn Lladin gan Johannes Saubertus (Helmstadt, 1660); Genesis yn Saesneg gan Paul Isaac Hershon (Llundain, 1855) ac yn Almaeneg gan Sol Goldsmidt (Fienna, 1911–14) a Bertha Pappenheim (Frankfurt, 1930); hanes dinistr y Deml o Lyfr Galarnad yn Almaeneg gan Alexander Eliasberg (Berlin, 1921); ac Exodus yn Saesneg gan Norman C. Gore (Efrog Newydd, 1965). Mae sawl gwaith Iddewig arall yn dwyn yr enw Ẓe'enah u-Re'enah, yn eu plith gwerslyfr Ffrangeg o'r darlleniadau wythnosol gan Alexander Créhange (Paris, 1846), detholiad pynciol Almaeneg o'r Pumllyfr gan Emmanuel Hecht (Sankt Wendel, tua 1862); a chasgliad o bregethau Almaeneg gan Liebman Adler (Chicago, 1887).[1]