Andrew Lloyd Webber

cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1948
(Ailgyfeiriad o Andrew Lloyd-Webber)

Mae Andrew Lloyd Webber, Baron Lloyd-Webber (ganwyd 22 Mawrth 1948) yn gyfansoddwr cerddorol Seisnig hynod o lwyddiannus.

Andrew Lloyd Webber
Ganwyd22 Mawrth 1948 Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Label recordioSony Classical Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr theatr, person busnes, cyfansoddwr caneuon, impresario, gwleidydd, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEvita, Jesus Christ Superstar, Cats, The Phantom of the Opera, Starlight Express Edit this on Wikidata
Arddullopera roc Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadWilliam Lloyd Webber Edit this on Wikidata
MamJean Hermione Johnstone Edit this on Wikidata
PriodSarah Hugill, Sarah Brightman, Madeleine Gurdon Edit this on Wikidata
PlantImogen Lloyd Webber, Nick Lloyd Webber, William Lloyd Webber, Isabella Lloyd Webber Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, Gwobr Grammy Legend, Praemium Imperiale, Anrhydedd y Kennedy Center, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Tony Award for Best Original Score, Grammy Award for Best Musical Theater Album, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Primetime Emmy Award for Outstanding Special Class Program, Sitges Grand Honorary Award, Classic Brit Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.andrewlloydwebber.com/ Edit this on Wikidata

Yn arbenigwr ym maes y sioeau cerdd, mae Lloyd Webber wedi cyfansoddi 16 o sioeau, 2 sgôr ffilm a requiem mass yn Lladin ymysg gweithiau eraill. Yn ogystal, mae'r cyfansoddwr o Dde Kensington, wedi casglu rhestr faith o wobrau ac anrhydeddau ym myd ffilm a theatr gan gynnwys saith Gwobr Tony, tair Gwobr Grammy, Oscar, Emmy Rhyngwladol, chwech Gwobr Olivier a Gwobr Golden Globe. Mae ei ganeuon enwocaf wedi'u canu a'u recordio gan filoedd o artistiaid ar draws y byd. Ers dod yn berchennog ar y Palace Theatre yn Llundain yn 1983 mae Lloyd Webber wedi prynu wyth o theatrau Llundain, gan gynnwys y London Palladium.

Ymysg ei ganeuon enwocaf mae I Don't Know How to Love Him (Jesus Christ Superstar), Memory (Cats), Don't Cry for Me Argentina (Evita), Any Dream Will Do (Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat) Music of the Night (Phantom of the Opera) a Love Changes Everything (Aspects of Love).

Bywyd personol

golygu

Ar y 25 Hydref, 2009 cyhoeddwyd ei fod yn dioddef o ganser y brostad ond fod yr afiechyd yn ei gyfnod cynnar.

Sioeau Cerdd

golygu

Rhoddir awdur geiriau'r sioeau mewn cromfachau.

Mae amryw o sioeau Lloyd Webber wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg gan gynnwys Ioseff a'r Gôt Freuddwyd Decni-Liw Ryfeddol a Iesu Grist Siwpyrstar.

Cyfeiriadau

golygu