Angharad Rees
Actores Cymreig oedd Angharad Mary Rees (16 Gorffennaf 1944 – 21 Gorffennaf 2012). Roedd yn adnabyddus am ei rhannau ar deledu Prydeinig ac yn bennaf am ei prif rhan fel Demelza yn nrama gyfnod Poldark y BBC yn y 1970au.[1]
Angharad Rees | |
---|---|
Ganwyd | 16 Gorffennaf 1944, 16 Gorffennaf 1949 Edgware |
Bu farw | 21 Gorffennaf 2012 Llundain |
Man preswyl | Knightsbridge |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm |
Tad | Linford Rees |
Mam | Catherine Thomas |
Priod | Christopher Cazenove, David Malcolm McAlpine |
Plant | Rhys Cazenove, Linford James de Lerisson Cazenove |
Gwobr/au | CBE |
Gwefan | http://angharadrees.com/v3/ |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Rees yn Ysbyty Redhill (Ysbyty Gymunedol Edgware erbyn hyn), Edgware, Middlesex, i'r seiciatrydd Cymreig Linford Rees (William Linford Llewellyn Rees, M.D., B.Ch, D.P.M., 24 Hydref 1914 – 29 Gorffennaf 2004) oedd yn briod â Catherine Thomas (m. 1993).[2]
Pan oedd hi'n ddwy, fe symudodd y teulu o 13 Engel Park, Mill Hill, i Rhiwbeina Caerdydd.[1] Roedd gan Rees ddau frawd a chwaer.[2] Fe aeth i ysgol annibynnol Commonweal Lodge yna y Sorbonne ym Mharis am ddwy dymor yna Coleg Drama Rose Bruford yng Nghaint. Fe astudiodd hefyd ym Mhrifysgol Madrid a fe ddysgodd Saesneg yn Sbaen cyn dechrau actio yn theatrau cwmni yn Lloegr.[3]
Trwy gydol ei gyrfa broffesiynol, fe roddwyd ei blwyddyn geni fel 1949, ond fel mae ei thystysgrif geni yn dangos fe'i ganed yn 1944. Ni wnaeth unrhyw lith coffa yn y papurau newydd sylweddoli hyn.[4]
Gyrfa actio
golyguFe ymddangosodd Rees ar deledu am y tro cyntaf yn 1968; roedd yn chwarae morwyn barlwr yn addasiad George Bernard Shaw o Man and Superman, yn ymddangos gyda Eric Porter a Maggie Smith. Daeth mwy o ymddangosiadau ar ddramau teledu a chyfresi comedi yn fuan wedyn hynny, yn cynnwys The Way We Live Now, The Avengers, The Wednesday Play, Doctor in the House, Crown Court, a Within These Walls.
Roedd ei rhannau cynnar mwyaf nodedig yn cynnwys chwarae merch Winston Churchill (chwaraewyd gan Richard Burton) yn The Gathering Storm (1974), Lucy yn nrama deledu Dennis Potter Joe's Ark (hefyd 1974), a fel Celia yn As You Like It gyferbyn Helen Mirren (1978). Dywedodd y cyfarwyddwr Alan Bridges fod ymddangosiad Rees yn nrama deledu Potter yn un o'r perfformiadau gorau iddo erioed ei weld.[5]
Serennodd fel cymeriad mileinig, merch ffuglennol i Jack The Ripper yn y ffilm arswyd Hands of the Ripper (1971), un o gynyrchiadau ffilm Hammer[6]. Yn y flwyddyn ganlynol roedd yn un o'r sêr yn fersiwn ffilm o Under Milk Wood (1972) oedd hefyd yn serennu Richard Burton, Peter O'Toole a Elizabeth Taylor. Mae ei rhannau ffilm arall yn cynnwys Jane Eyre (1970), To Catch a Spy (1971), The Love Ban (1973), Moments (1974), La petite fille en velours ble (Merch fach mewn felfed glas) (1978), The Curse of King Tut's Tomb (1980), a The Wolves of Kromer (1998), ffilm ffantasi wnaed ym Mhrydain gyda'r stori wedi'i adrodd gan Boy George.
Ymddangosodd Rees mewn nifer o gynhyrchiadau llwyfan yn West End Llundain, yn cynnwys It’s two foot, Six Inches Above The Ground World (Theatr y Wyndhams, 1970); The Picture of Dorian Gray (Lyric, Hammersmith, 1975); The Millionairess (Theatr y Haymarket Theatre, 1978–79); Perdita yn A Winter’s Tale (Young Vic, 1981) a A Handful of Dust (Lyric, Hammersmith, 1982). Roedd ei rhannau Shakespeare yn cynnwys Ophelia ar gyfer Cwmni Theatr Cymru (1969) a Hermione yn Theatr y Sherman, Caerdydd (1985).[7]
Rhwng 1975 a 1977 fe chwaraeodd y brif ran o Demelza, y rhan a ddaeth yn fwyaf adnabyddus amdani, yn nrama cyfnod Poldark ar deledu'r BBC, gan ymddangos ymhob pennod heblaw am y cyntaf.[8]
Fe deithiodd gyda cynhyrchiad Bill Kenwright o An Ideal Husband gan Oscar Wilde, cyfarwyddwyd gan Peter Hall, gyda Michael Denison a Dulcie Gray a fe ymddangosodd yn rheolaidd gyda John Mortimer yn Mortimer’s Miscellany, ei ddetholiad o farddoniaeth a rhyddiaith a gyflwynwyd mewn theatrau o gwmpas gwledydd Prydain.[3]
Roedd gwaith teledu mwy diweddar yn cynnwys y comedi sefyllfa Close to Home (1989–90) a'r ddrama am y byd rasio ceffylau Trainer (1992).[7]
Anrhydeddau
golyguFe'i gwnaed yn Gymrawd o Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enwyd tafarn ym Mhontypridd ar ei hôl.[9]
Dylunio gemwaith
golyguYn dilyn marwolaeth ei mab Linford yn 1999 trodd ei chefn ar fyd actio a canolbwyntiodd ar ei chariad at ddylunio gemwaith.[10] Fe ddaeth ei busnes gemwaith yn llwyddiannus iawn a roedd ganddi siop tlysau a gemwaith o'r enw Angharad yn Knightsbridge.[11]
Bywyd personol
golyguPriododd yr actor Seisnig Christopher Cazenove (m. 2010) ar 18 Medi 1973; Roedd Cazenove yn gwneud enw iddo'i hun ar y pryd yng nghyfres deledu The Regiment. Cafodd y cwpl ddau fab: Linford James (20 Gorffennaf 1974 – 10 Medi 1999) a Rhys William (ganwyd 1976).[12] Bu farw Linford mewn damwain car ar draffordd yr M11 yn Essex tra'n gyrru i godi llyfrau o Prifysgol Caergrawnt, lle roedd wedi derbyn gradd Meistr mewn Athroniaeth. Ysgarodd Cazenove a Rees yn 1994 ond fe gadwodd y pâr berthynas glos. Bu farw Cazenove o effeithiau septicaemia yn 2010.[13]
Cafodd Rees berthynas gyda'r actor Prydeinig Alan Bates[14]. Yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth Bates, fe briododd y dyn busnes David McAlpine (aelod o deulu adeiladwyr Sir Robert McAlpine) ar 29 Ebrill 2005.
Marwolaeth
golyguBu farw Rees yn Llundain ar 21 Gorffennaf 2012 yn 68 oed o ganser y pancreas.[15][16][17]
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yn Nghapel St Paul, Knightsbridge, Llundain ar 27 Medi 2012 lle arweiniodd Julian Fellowes, crewr Downton Abbey, y teyrngedau. Fe ddywedodd "Os oedd un peth roedd hi'n rhagorol am wneud, cyfeillgarwch oedd hynny. A nid dim ond cyfeillgarwch ymatebol, ond cymorth defnyddiol, ymarferol a gweithgar. Roedd hi'n bryderus, dwi'n meddwl, nad oedd hi'n cael ei diffinio yn llwyr, fel seren cyfres boblogaidd, neu fel un rhan o gwpl aur, fel mam a gwesteiwraig, er ei fod yn rhagori yn rhain i gyd. Roedd am ei chofio hefyd fel actores ddifrifol lle byddai ei gyrfa cynnar wedi mynd ymlaen at fawredd os nad oedd hi wedi gwneud y dewis personol i newid cyfeiriad [drwy fagu teulu]"[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Anthony Hayward (22 Gorffennaf 2012). "Angharad Rees obituary | Television & radio". London: The Guardian. Cyrchwyd 2012-07-23.
- ↑ 2.0 2.1 Ysgrif goffa ei thad
- ↑ 3.0 3.1 "Angharad Rees (obituary)". The Daily Telegraph. 22 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Cofnod geni". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 2 Ionawr 2016.
- ↑ W. Stephen Gilbert, The Life and Work of Dennis Potter (Woodstock, NY: Overlook Press, 1998), t.215
- ↑ IMDb Hands of the Ripper (1971)
- ↑ 7.0 7.1 Angharad Rees: Obituary o thestage.co.uk
- ↑ Poldark Archifwyd 2013-04-25 yn y Peiriant Wayback, Museum of Broadcast Communications
- ↑ "useyourlocal.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-05. Cyrchwyd 2016-01-03.
- ↑ Poldark star Angharad Rees remembered; Adalwyd 2 Ionawr 2016
- ↑ "ANGHARAD REES LIMITED 04534252 (E1) 14/12/2010 (rhestrwyd yn y London Gazette)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-05. Cyrchwyd 2012-07-22.
- ↑ Online Video Websites Database biography[dolen farw]
- ↑ "Former Dynasty star Christopher Cazenove dies"
- ↑ 14.0 14.1 Downton Abbey creator Julian Fellowes leads tributes to Angharad Rees
- ↑ "BBC News - Poldark actress Angharad Rees dies from cancer". Bbc.co.uk. 21 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2012.
- ↑ Welsh actress Angharad Rees dies, The Guardian, 22 Gorffennaf 2012
- ↑ Angharad Rees (1949-2012), Peerage News, 22 Gorffennaf 2012
Dolenni allanol
golygu- Angharad Rees ar wefan yr Internet Movie Database