Rhestr digwyddiadau Cymru, 19g
(Ailgyfeiriad o 19eg ganrif yng Nghymru)
Dyma restr o ddigwyddiadau yng Nghymru yn yr 19g.
Rhestr
golygu- 1801 - Roedd 587,000 o bobl yn byw yng Nghymru, yn ôl y Cyfrifiad cyntaf erioed yn hanes y wlad. Merthyr Tudful oedd y dref fwyaf gyda 7,705 o drigolion.
- 1805 - Cyhoeddwyd emynau Ann Griffiths a ddaeth yn boblogaidd iawn.
- 1811 - Ar ôl blynyddoedd o ddadleuo yn ei gylch, ymwahanodd y Methodistiaid Calfinaidd oddi wrth Eglwys Loegr
- Seren Cymru yn cael ei lansio fel y papur newydd misol cyntaf yn Gymraeg
- 1822 - Y coleg Cymreig cyntaf, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn cael ei lansio.
- 1826 - Pont Telford, ar Afon Menai, yn cael ei agor.
- 1830 - Diddymu Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru.
- 1831 - Helyntion mawr ym Merthyr Tudful wrth i'r gweithwyr hawlio cyflogau ac amodau gwell
- 1832-40 - Y Tarw Scotch yn weithgar yn ne-ddwyrain Cymru.
- 1838-49 - Y Fonesig Charlotte Guest yn cyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg dylanwadol o'r Mabinogion, mewn tair cyfrol.
- 1839 - Y Siartwyr yn weithgar yn y de ac yn gorymdeithio i Gasnewydd.
- 1839-49 - Helyntion Beca yn ne-orlelwin Cymru mewn protest yn erbyn y tollffyrdd.
- 1841 - John Elias yn marw. Agor Rheilffordd Dyffryn Taf yn y de.
- 1847 - Brad y Llyfrau Gleision
- 1851 - Yn ôl y Cyfrifiad Crefydd, roedd y mwyafrif o'r Cymry'n Anghydffurfwyr
- 1854 - Dechrau cyhoeddi Y Gwyddoniadur Cymreig.
- 1855 - Dechrau'r diwydiant glo yng Nghwm Rhondda.
- 1856 - Cyfansoddi Hen Wlad fy Nhadau gan Evan James a James James.
- Y Rhyddfrydwyr yn ennill nifer o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol; cyhoeddi Baner ac Amserau Cymru gan Thomas Gee; diwygiad crefyddol.
- 1862 - Sefydlu Coleg y Normal, Bangor.
- 1865 - Y Wladfa ym Mhatagonia.
- 1868 - "Yr Etholiad Mawr": buddugoliaethau mawr i'r Rhyddfrydwyr ar draul y Torïaid.
- 1872 - Agor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
- 1874 - Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.
- 1881 - Sefydlu Undeb Rygbi Cymru; Pasio Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881.
- 1884 - Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
- 1886 - Rhyfel y Degwm yn dechrau yn y gogledd a'r canolbarth; Cymru Fydd; Cymdeithas Dafydd ap Gwilym.
- 1889 - Dociau'r Barri yn agor yn y de.
- 1890 - Radicaliaeth ar gynnydd gyda ethol Lloyd George yn AS Caernarfon a Thomas Edward Ellis yn galw am hunanlywodraeth i Gymru.
- 1891 - Lansio'r cylchgrawn Cymru gan Owen Morgan Edwards.
- 1896 - Diwedd Cymru Fydd. Streic fawr yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda.
- 1898 - Sefydlu Ffederasiwn Glowyr De Cymru ("Y Ffeds").