Etholwyd Philip Anthony Crockett (23 Awst 194530 Mehefin 2008) yn bedwar ugeinfed Esgob Bangor yn 2004. Cyn hynny bu’n Archddiacon Caerfyrddin ac yn beriglor tair eglwys wledig yng ngorllewin Cymru. Roedd yn Gymro Cymraeg ac yn frodor o Bontypridd.

Anthony Crockett
Ganwyd23 Awst 1945 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 2008 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata

Graddiodd yn y Clasuron ac mewn Diwinyddiaeth o Goleg y Brenin, Llundain, a chwblhau ei hyfforddiant cyn-ordeinio yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1973 ac yn offeiriad yn 1972, a bu’n gurad yn Aberdâr ac yn yr Eglwys Newydd yn Esgobaeth Llandaf cyn mynd yn offeiriad plwyf i gefn gwlad Ceredigion o 1978 hyd 1986. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n Gaplan Arholi i Esgob Tyddewi ac yn Ysgrifennydd Bwrdd Dethol Ymgeiswyr y Dalaith. O 1986 hyd 1991 bu’n Rheithor Dowlais, ac o 1991 hyd 1999 yn Ysgrifennydd Bwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru. Yn 1999 fe’i penodwyd yn Archddiacon Caerfyrddin. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn pererindota. Yn ystod cyfnod sabathol yn 1995 fe gerddodd 1,000 o filltiroedd o Le Puy i Santiago de Compostela. Yn ddiweddar, ef a ysgogodd y drydedd bererindod swyddogol erioed i Ynys Enlli oddi ar benrhyn Llŷn. Cynhaliwyd y bererindod ar 21 Mehefin 2008. Roedd hefyd yn cefnogi’n frwd ordeinio merched yn offeiriaid ac yn esgobion.

Yn yr ysbyty ar 30 Mehefin 2008, yn dilyn brwydr o ddeunaw mis yn erbyn y cancr, bu farw. Roedd yn 62 mlwydd oed. Talodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Ddr Barry Morgan, deyrnged i’r dewrder a’r ffydd a ddangosodd gydol ei weinidogaeth:

“Yn y pum mlynedd fer y bu’r Esgob Tony ym Mangor,” meddai, “fe’i hanwylodd ei hun i’r esgobaeth, a gwnaeth ei farc arni. Yr oedd yn ŵr rhadlon a di-flewyn-ar-dafod, nad oedd arno ofn mynegi ei weledigaeth, ond a oedd, serch hynny, â chalon fugeiliol gynnes, ac a âi allan o’i ffordd i gynorthwyo pawb. Wynebodd ei waeledd olaf gyda gwytnwch, ffydd a gobaith. Cryfhawyd ac ysbrydolwyd eraill gan ei ddewrder aruthrol a’i ffydd. Bu’n gweinidogaethu hyd yn oed yn ei wendid. Parhaodd i weithio yn yr ysbyty, gan gynnwys cynnal bedydd esgob yno, ac nid oedd arno ofn dangos ei wendid a’i freuder. Bydd colled fawr ar ei ôl”.

Talwyd teyrnged hefyd gan Ddeon Llandaf, y Tra Pharchedig John Lewis:

“Yr oedd Tony,” meddai, “yn gyfaill da ac yn gwmnïwr ardderchog. Yr oedd ei fywyd a’i weinidogaeth yn wir daith y pererin a chaniataodd i eraill rannu’r daith honno ag ef. Yr oedd yn graff a gonest ynglŷn â’r presennol ac yn llawn ysbrydoliaeth a chefnogaeth ynglŷn â’r dyfodol. Byddwn yn gweld ei eisiau”.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chyn-aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru,

“Daeth yr Esgob Tony ag arweiniad bugeiliol mawr i esgobaeth sydd mor ddaearyddol eang. Yr oedd mor ymroddedig fel y parhaodd i weithio hyd yn oed yn ei hir waeledd. Y tro diwethaf imi ei glywed yn pregethu – yn Gymraeg a Saesneg – oedd ar Ddydd y Pasg yn Eglwys Gadeiriol Bangor, ac fe ddaeth yno er ei fod mor wael. Yr oedd yn ŵr carismataidd. Bydd yr Eglwys yng Nghymru a minnau yn gweld ei eisiau’n fawr”.

Dywedodd Ei Anrhydedd Philip Price CF, cadeirydd Pwyllgor Sefydlog Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru:

“Y mae marw’r Esgob Tony yn golled fawr i fywyd crefyddol y genedl. Bu’n meddwl yn ddwfn am weinidogaeth yr eglwys a’r holl saint, ac fe’i mynegodd ei hun yn glir a chadarn wrth bregethu ac ysgrifennu. Perthynai i’w ysgolheictod ddealltwriaeth fugeiliol fawr, a gweithiodd yn ddiarbed dros yr esgobaeth a’r dalaith. Bu ei ddewrder yn ystod ei hir waeledd yn ysbrydoliaeth. Yn bersonol, byddwn yn rhyfeddu ei fod, gydol yr amser, yn gallu cadw ei ofal am eraill ym mlaen ei feddwl”.

Rhagflaenydd:
Saunders Davies
Esgob Bangor
20042008
Olynydd:
Andrew John