France Prešeren
Ystyrir France Prešeren (neu weithiau Franz Preschern, fersiwn Almaeneg o'i enw)[1] yn un o feirdd pwysicaf Slofenia. Ganed ef ar 2 neu 3 Rhagfyr 1800 yn Vrba, oedd yn rhan o Ddugiaeth Krain ar y pryd; bu farw ar 8 Chwefror 1849 yn Kranj yn Carniola.
France Prešeren | |
---|---|
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1800 Vrba |
Bu farw | 8 Chwefror 1849 Kranj |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Illyrian Provinces, y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfreithiwr, bardd-gyfreithiwr |
Adnabyddus am | Krst pri Savici, Poems of Dr. France Prešeren |
Prif ddylanwad | Fyrsil, Friedrich Schlegel, Friedrich Schiller, Johann Wolfgang von Goethe, Luís de Camões, Adam Mickiewicz |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Partner | Ana Jelovšek |
Plant | Ernestina Jelovšek |
Perthnasau | Anton Vovk |
Cyd-destun
golyguRoedd France Prešeren yn fardd Slofeneg Rhamantaidd o'r 19g. Cyfansoddai yn Slofeneg ac Almaeneg ac mae ei waith wedi'i gyfieithu i lawer o ieithoedd.[2][3]
Dywedir mae ef yw bardd clasurol mwyaf Slofenia, ac mae wedi ysbrydoli llenyddiaeth Slofeneg ddiweddarach.[4] Ysgrifennodd y faled Slofeneg gyntaf a'r epig Slofenaidd cyntaf. Wedi ei farwolaeth, daeth yn brif enw'r canon llenyddol Slofenaidd.[5]
Clymodd fotiffau ei gariad anhapus ei hun â'i gilydd â mamwlad anhapus, ddarostyngedig. Yn enwedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn nhiroedd Slofeneg (oedd wedi eu rhannu dan sawl deyrnas)[5] mae un o fotiffau Prešeren, y "ffortiwn gelyniaethus", wedi'i fabwysiadu gan Slofeniaid fel myth cenedlaethol, a disgrifiwyd Prešeren fel un mor hollbresennol â'r awyr yn niwylliant Slofenia.[2]
Roedd Prešeren yn byw mewn gwrthdaro â'r sefydliad sifil a chrefyddol, yn ogystal â'r bourgeoisie taleithiol Ljubljana. Datblygodd alcoholiaeth ddifrifol a cheisiodd ladd ei hun ar o leiaf ddau achlysur, gan wynebu cael ei wrthod a gweld y rhan fwyaf o'i ffrindiau agosaf yn marw'n drasig. Roedd ei farddoniaeth delynegol yn ymdrin â'r cariad tuag at ei famwlad, y ddynoliaeth ddioddefus, yn ogystal â'i gariad anghyflawn tuag at ei awen, Julija Primic.[6] Ysgrifennodd farddoniaeth yn Slofeneg yn bennaf, ond hefyd yn Almaeneg.[7] Roedd yn byw yng Ngharniola ac ar y dechrau ystyriai ei hun yn frodor o Carniola, ond yn raddol mabwysiadodd hunaniaeth Slofenaidd ehangach.[8]
Bywyd
golyguFrance Prešeren oedd y trydydd o wyth o blant mewn teulu ffermio. Ar ôl mynychu ysgol yn Reifnitz a Laibach (Ljubljana bellach, prifddinas Slofenia), astudiodd y gyfraith yn Fienna, lle dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth. Ar ôl ei ddoethuriaeth bu'n gweithio fel cyfreithiwr. Yn ystod ei astudiaethau yn Fienna (1821-1828) cyfarfu â'r bardd Almaeneg o Garniola, Anton von Auersperg, (ffugenw: Anastasius Grün) yn Sefydliad Klinkowström ar Schlesingerplatz (plac coffa), yn ogystal ac ysgolheigion llenyddol megis Matija Čop. Ym 1832 symudodd i Klagenfurt. Yno, ar 26 Mai pasiodd yr arholiad bar yn y Llys Apêl (plac coffa ar Neuen Platz), lle bu bron iddo fethu oherwydd ei fod hefyd wedi ymchwilio i'r sawl a gyhuddir - effeithiodd hyn ar ei yrfa bellach gyfan; ymgeisiodd amryw weithiau yn ofer am swydd cyfreithiwr, a dim ond ym 1846 y llwyddodd o i gael swydd, yn Krainburg (Kranj). Yn Klagenfurt daeth i gysylltiad â'r awdur Slofeneg o Carinthia, Urban Jarnik, y bu'n ymweld ag ef yn Moosburg, ac â'r eglwysyr Anton Martin Slomšek. Yn Laibach (Ljubljana), lle bu'n gweithio o 1828 i 1846 fel gweithiwr mewn cwmni cyfreithiol, daeth i deimlo'n ynysig; nid oedd ei gariad mawr Julia Primitz (Julija Primic) eisiau dim i'w wneud ag ef, er bod rhan o'r gyfrol Poezije yn dwyn ei henw ar ffurf acrostig. Ym 1839 cyfarfu â'r gweithiwr Ana Jelovšek yn ei thŷ, a anwyd iddo dri o blant ond gadawodd ef wedyn. Bu farw ar ei ben ei hun o sirosis yr afu. Heddiw fe'i hystyrir yn fardd cenedlaethol Slofenia.
Gwaith
golyguYsgrifennodd Prešeren farddoniaeth serch a natur yn ogystal ag epig hanesyddol wych Krst pri Savici ("Y bedydd ar y Savica"). Ym 1847 cyhoeddwyd ei waith mawr Poezije (Barddoniaeth). Gyda'i gerddi Almaeneg a'i sonedau, mae hefyd yn perthyn i lenyddiaeth Almaeneg. Ei waith Almaeneg pwysicaf yw Ta velik Vrata ("Y Porth Mawr"), lle mae'n disgrifio ei gysylltiad â Ljubljana.
Derbyniad a dylanwad
golyguHeddiw, mae Prešeren yn dal i gael ei ystyried yn un o brif feirdd llenyddiaeth Slofeneg, a chanmolir ei waith nid yn unig yn genedlaethol neu'n rhanbarthol, ond hefyd yn unol â safonau llenyddiaeth Ewropeaidd. Prešeren oedd un o'r Rhamantwyr Ewropeaidd mwyaf. Mae ei eiriau brwd, twymgalon, hynod emosiynol ond byth yn sentimental, wedi ei wneud yn brif gynrychiolydd yr ysgol Rhamantaidd yn Slofenia. Serch hynny, daeth cydnabyddiaeth yn araf ar ôl ei farwolaeth. Roedd rhaid disgwyl nes 1866 i weld cydnabyddiaeth o'i rôl yn niwylliant Slofenia. Yn y flwyddyn honno, cyhoeddodd Josip Jurčič a Josip Stritar argraffiad newydd o gasgliad cerddi Prešeren. Yn y rhagair, cyhoeddodd Stritar draethawd sy'n dal i gael ei ystyried yn un o'r traethodau mwyaf dylanwadol yn hanes Slofenia. Ynddo, dangosodd werth esthetig gwaith Prešeren trwy ei osod yn y cyd-destun Ewropeaidd ehangach. O hynny ymlaen, ni chafodd ei fri fel bardd mwyaf Slofeneg ei beryglu erioed.
Gwaddol
golyguMae etifeddiaeth Prešeren yn niwylliant Slofenaidd yn enfawr. Ystyrir ef yn gyffredinol fel y bardd cenedlaethol. Ym 1905, gosodwyd ei gofeb ar y sgwâr canolog yn Ljubljana, a elwir bellach yn Sgwâr Prešeren. Erbyn dechrau'r 1920au, roedd ei holl waith oedd wedi goroesi wedi'i gatalogio a nifer o argraffiadau beirniadol o'i weithiau wedi'u cyhoeddi. Roedd nifer o ysgolheigion eisoes yn ymroi'n gyfan gwbl i ddadansoddi ei waith ac ychydig oedd ar ôl yn anhysbys am ei fywyd. Ym 1945, datganwyd pen-blwydd ei farwolaeth, a elwir yn Ddiwrnod Prešeren, yn wyliau diwylliannol Slofenaidd. Ym 1989, cyhoeddwyd ei Zdravljica yn anthem genedlaethol Slofenia, gan ddisodli'r hen anthem, Naprej, zastava slave. Ym 1992, portreadwyd ei ddelw ar arian papur 1000 tolar Slofenia, ac ers 2007, mae ei ddelwedd ar ddarn arian dau ewro Slofenia. Mae gwobr pwysicaf y wlad am gyflawniadau artistig, Gwobr Prešeren, wedi'i henwi ar ei ôl.
Anrhydeddau
golyguRhan o'i gerdd Zdravljica heddiw yw anthem genedlaethol Slofenia, ac mae ei bortread yn addurno cefn darn arian 2 ewro Slofenia.
Enwyd prif sgwâr Ljubljana, Sgwâr Prešeren, ar ôl Prešeren.
Ers 1947, mae Gweinyddiaeth Ddiwylliant Slofenia wedi dyfarnu Gwobr Fawr Prešeren fel y'i gelwir i un neu ddau o artistiaid bob blwyddyn. Ar yr un pryd, mae Sefydliad Prešeren, sydd hefyd yn rhan o Weinyddiaeth Ddiwylliant Slofenia, yn dyfarnu Gwobr Sefydliad Prešeren i hyd at chwe artist.[9]
Dolenni
golygu- Preseren.net
- Prešeren, Slovenska-biografija.si
- Miran Hladnik, France Prešeren and Slovenian identity / France Prešeren in slovenska identiteta Archifwyd 2013-10-19 yn y Peiriant Wayback
- Fideo o'r anthem, Zdravljica
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Erwin Köstler, Vom kulturlosen Volk zur europäischen Avantgarde. Hauptlinien der Übersetzung, Darstellung und Rezeption slowenischer Literatur im deutschsprachigen Raum, Peter Lang, Bern 2006, S. 163, 164, 333.
- ↑ 2.0 2.1 Šinkovec, Ana: A Man Who Turned Literacy into Art Archifwyd 2015-12-25 yn y Peiriant Wayback, Slovenia Times, 6 Chwefror 2009
- ↑ Database of translations – Prešeren Archifwyd 5 Hydref 2013 yn y Peiriant Wayback, Slovene Book Agency, 2013
- ↑ Svetina, Peter (8 Chwefror 2008). "France Prešeren, največji slovenski pesnik" [France Prešeren, the Greatest Slovene Poet] (PDF). Novice – Slovenski tednik za Koroško.[dolen farw]
- ↑ 5.0 5.1 Božič, Zoran (2011).Dejavniki literarne kanonizacije v srednješolskih berilih – na primeru Prešerna (Factors of literary canonisation in high school reading materials – the case of Prešeren) Archifwyd 2021-05-13 yn y Peiriant Wayback, Jezik in slovstvo, vol.56, 5–6, pp. 3–26 COBISS ID=50591842
- ↑ Merhar, Ivan (1901). "France Prešeren". Slovenka. 5 (1). Konzorcij Edinosti. t. 9. COBISS ID=34874369
- ↑ Rozka, Štefan (1974). "Angleški slavist o Prešernovih nemških pesmih" [The English Slavist about Prešeren's German Poems] (yn Slofeneg). 19 (8). Slavistično društvo Slovenije [Slavic Society of Slovenia]. tt. 324–325. COBISS ID=16317485
- ↑ Perušek, Rajko (1901). "Prešeren in Slovanstvo: Z dostavkom uredništva = A. Aškerc". Ljubljanski zvon. 21 (1). Tiskovna zadruga. t. 64. ISSN 1408-5909. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2015. COBISS ID=30001665
- ↑ Information auf der Webseite des Kulturministeriums von Slowenien- Abgerufen am 19. Juli 2010