Cleveland (sir): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cyn sir yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen lle | ynganiad = {{wikidata|property|P443}}| suppressfields = cylchfa, sir, ardal_weinyddol, poblogaeth | ardal = {{#invoke:Wikidata|getRawVa...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:19, 3 Medi 2020
Sir yn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Cleveland. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o rannau o Riding Gogleddol Swydd Efrog a Swydd Durham ar bob ochr Afon Tees, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996.
Math | cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cleveland |
Gefeilldref/i | Cleveland |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.525°N 1.189°W |
- Am lleoedd eraill o'r un enw gweler Cleveland.
Rhennid y sir yn bedair ardal an-fetropolitan:
- Bwrdeistref Hartlepool
- Bwrdeistref Stockton-on-Tees
- Bwrdeistref Middlesbrough
- Bwrdeistref Langbaurgh (Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees ar ôl 1988)
Diddymwyd y sir ym 1996. Ailsefydlodd Afon Tees fel y ffin rhwng siroedd seremonïol Gogledd Swydd Efrog a Swydd Durham. Daeth y pedair ardal an-fetropolitan yn awdurdodau unedol. Daeth Bwrdeistref Hartlepool yn rhan o Swydd Durham; daeth Bwrdeistref Middlesbrough a Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees (ailenwyd yn Fwrdeistref Redcar a Cleveland) yn rhannau o Ogledd Swydd Efrog; a rhannwyd Bwrdeistref Stockton-on-Tees rhwng y ddwy sir.