Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

enw sy'n deillio o'r cyfnod Celtaidd a'r cyfnod ôl-Rufeinig
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Y mae '''Ynys Prydain''' (hefyd : '''Ynys Brydain''', weithiau '''Prydain''') yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y Cymry yn yr [[O...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:25, 30 Medi 2007

Y mae Ynys Prydain (hefyd : Ynys Brydain, weithiau Prydain) yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y Cymry yn yr Oesoedd Canol ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel Prydain Fawr ac Ynysoedd Prydain, yn yr un modd â bod gwahaniaeth bwysig rhwng ystyron yr enwau Brython a Prydeiniwr. Nid oedd y Brythoniaid yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.

Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Prydain. Mae'n deillio o'r cyfnod Celtaidd a'r cyfnod ôl-Rufeinig pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o Ystrad Clud i'r Firth o Forth (Glasgow - Caeredin) ym meddiant y Brythoniaid, pobloedd Celtaidd a siaradai'r iaith Frythoneg. Daeth y llwythau "Eingl-Sacsonaidd" (cyndeidiau'r Saeson) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddianwyd Lloegr - ac eithrio Cernyw - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr Hen Ogledd allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng Gwŷr y Gogledd a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent galw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Prydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ynys yw 'gwlad', fel yn achos y gair Lladin insula).

Yr oedd daearyddiaeth Ynys Prydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi cawn fod Bendigeidfran yn llyodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng Ngwynedd (Harlech, Aberffraw a Chaer Saint yn Arfon). Yn y chwedl Cymraeg Canol Lludd a Llefelys, cyfeirir at Rydychen fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y Gwynfryn yn Llundain" i warchod Ynys Prydain, ond cleddir ei chwaer Branwen ym Môn. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Prydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Prydain yn wydn.

Ceir cyfeiriadau mor gynnar â Nennius at Ryfeddodau Ynys Prydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Prydain a'i thair rhagynys," sef Môn, Manaw ac Wyth (sylwer nad oes sôn am ynysoedd yr Alban).

Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Prydain oedd y Mab Darogan. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i adfeddianu Ynys Prydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adanbyddir fel y brudiau neu'r canu darogan gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. Cadwaladr Fendigaid oedd brenin olaf Ynys Prydain cyn iddi gael ei meddianu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd Armes Prydain ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y 10fed ganrif.

Ceir yn ogystal Trioedd Ynys Prydain, sy'n gorff o drioedd mnemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Prydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.

Llyfryddiaeth

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)
  • Jerry Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). ISBN 0-86243-603-6
  • (eto), Cyfrinach Ynys Prydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)
  • (eto), Gwlad y Brutiau (Darlith Goffa Henry Lewis, 1990)
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Caerdydd, 1955)