Ciwboid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:16, 7 Tachwedd 2018

Mewn geometreg, polyhedron amgrwm o chwe arwyneb pedrochr yw ciwboid (enw gwrywaidd); mae ei graff polyhedral yn union yr un peth a'r ciwb.[1][2]

Ciwboid, gyda chroeslin d.
Gwelir yma hefyd: hyd a, lled b ac uchder c.
Rhwyd y ciwboid uchod, wedi'i hagor.

Mae ganddo:

  • chwe arwyneb (neu 'ochr') sydd ar ongl sgwâr i'w gilydd,
  • wyth fertig (neu 'gornel') ongl sgwâr,
  • deuddeg ymyl, gyda phedair o'r un hyd ac yn gyfochrog (neu'n 'baralel') i'w gilydd.[3]

Mae arwynebau gwrthwynebol yn gyfath (congruent).

Fformiwlâu perthnasol i'r ciwboid
Hyd yr ymylon
Cyfaint
Arwynebedd
Croeslin

Ciwboidau cyffredinol

Drwy Fformiwla Euleer, fe wyddom fod nifer yr arwynebau F, yr ymylon E a'r fertigau V o bob ciwboid amgrwm yn perthyn i'w gilydd drwy'r fformiwla F + V = E + 2. Mae hyn yn rhoi 6 + 8 = 12 + 2; hynny yw, fel y ciwb, mae gan y ciwboid 6 arwyneb, 8 fertig a 12 ymyl. Ynghyd â'r "ciwboidau petryal", mae unrhyw baralelepip yn giwboid o'r math hwn, fel y mae sgwâr ffrwstwm hefyd (y siâp a ffurfiwyd trwy drychiad-apig pyramid sgwâr).

Ciwboidau petryal

Mewn ciwboid petryal, mae pob ongl yn ongl sgwâr, a'r arwynebau gwrthwynebol yn gyfath (yn hafal). Oherwydd hyn, gellir galw'r math hwn o giwboid yn "brism ongl sgwâr" neu'n "baralelepip rheolaidd".

Ceir hefyd "giwboid sgwâr", lle mae dau arwyneb yn sgwariau. Mae ganddo'r symbol Schläfli o {4} × { }, a dyblir ei gymesuredd o [2,2] i [4,2], trefn 16.

Mae'r ciwb yn achos arbennig o'r ciwboid sgwâr, gyda phob arwyneb yn sgwariau. Mae ganddo'r symbol Schläfli o {4,3}, a chodir ei gymesuredd o [2,2], i [4,3], trefn 48.

Os yw dimensiynau ciwboid petryal yn a, b ac c, yna mae ei gyfaint yn abc ac mae ei arwynebedd arwyneb yn 2(ab + ac + bc).

Hyd croeslin y gofod mewnol yw

 

Yn y byd real, defnyddir siapiau ciwbig yn aml ar gyfer blychau, cypyrddau, ystafelloedd, adeiladau, cynwysyddion, llyfrau, sgriniau teledu a chyfrifiadurol, peiriannau golchi a sychu, ac ati. Mae ciwboidau ymysg y solidau hynny sy'n gallu brithweithio gofod 3-dimensiwn. Mae'r siâp yn eithaf hyblyg gan y gall gynnwys llawer o giwboidau llai, e.e. ciwbiau siwgr mewn blwch, blychau mewn cwpwrdd, cypyrddau mewn ystafell, ac ystafelloedd mewn adeilad.

Cyfeiriadau

  1. Robertson, Stewart Alexander (1984), Polytopes and Symmetry, Cambridge University Press, p. 75, ISBN 978-0-521-27739-6
  2. Dupuis, Nathan Fellowes (1893), Elements of Synthetic Solid Geometry, Macmillan, p. 53, https://archive.org/details/elementssynthet01dupugoog
  3. "nets of a cuboid". donsteward.blogspot.co.uk. Cyrchwyd 18 Mawrth 2018.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: