Macedoneg

iaith swyddogol Macedonia

Iaith Slafonaidd Ddeheuol ac iaith genedlaethol Gogledd Macedonia yw Macedoneg (македонски јазик, trawslythreniad: makedonski jazik). Mae'n debyg iawn i'r iaith Fwlgareg, a fe'i sillefir yn yr wyddor Gyrilig. Macedoneg ac Albaneg yw'r ddwy iaith swyddogol yng Ngogledd Macedonia, a siaredir Macedoneg hefyd gan Facedoniaid ethnig yng ngogledd Gwlad Groeg, Bwlgaria, Croatia, Serbia, Slofenia, ac Albania. Rhennir yr iaith yn dri grŵp o dafodieithoedd: tafodieithoedd y gogledd, sy'n ymdebygu at Serbeg llafar deheuol; tafodieithoedd y dwyrain, a leolir ar gontinwwm â Bwlgareg; a thafodieithoedd y gorllewin, y ffurfiau llafar sydd fwyaf wahanol i Fwlgareg a Serbo-Croateg.

Cafodd yr iaith Facedoneg ei safoni wedi'r Ail Ryfel Byd gan y llywodraeth gomiwnyddol. Sail y ffurf safonol oedd tafodiaith Prilep a Titov Veleg, a benthycwyd nifer o eiriau i'r iaith gan Serbeg a Bwlgareg. Gan fod Macedoneg mor debyg i Fwlgareg, hyd at ganol yr 20g cafodd iaith y werin Facedonaidd ei hystyried yn grŵp o dafodieithoedd Bwlgareg. Mae tafodieithoedd Macedoneg yn parhau i ffurfio continwwm ieithyddol â thafodieithoedd Bwlgareg, ac mae nifer o Fwlgariaid yn ystyried iaith y Macedoniaid yn ffurf ar Fwlgareg ac nid iaith ar wahân. Mynnai'r Macedoniaid y gellir olrhain Macedoneg yn uniongyrchol i Hen Slafoneg Eglwysig, iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid, er bod yr honno yn ymddangos yn debycach o lawer i Hen Fwlgareg yn ôl yr ieithyddion.[1]

Yr iaith lenyddol golygu

Datblygodd yr iaith Facedoneg llenyddol ar sail llenyddiaeth Slafoneg yr Oesoedd Canol. Hyd at ddechrau'r 19g, Slafoneg Eglwysig oedd y brif iaith lenyddol yn niwylliant y Macedoniaid, y Serbiaid, a'r Bwlgariaid. Ers yr 16g, bu llenorion Slafoneg yn cynnwys elfennau o iaith y werin yn eu gwaith, ac yn y 19g daeth yr arfer hon yn fwyfwy gyffredin. Yn ystod yr oes Otomanaidd, cafodd diwylliant y Groegiaid ddylanwad ar grefydd ac addysg yn nhiroedd deheuol y Macedoniaid, ac yma buont yn ysgrifennu'r Facedoneg drwy gyfrwng yr wyddor Roeg yn hytrach na'r wyddor Gyrilig. Yn hanner cyntaf y 19g, ymddangosodd corff bach o lên yn iaith y werin, wedi ei ysgrifennu yn yr wyddor Roeg, ac yn cynnwys cyfieithiadau o'r Efengylau a thestunau didactig ar bynciau crefyddol. Oherwydd y wahaniaeth o ran y system ysgrifennu, datblygodd y traddodiad hwn ar wahân i'r ieithoedd Slafonaidd ysgrifenedig eraill, ac o achos hynny ffurf neillduol ydy'r iaith lenyddol sy'n wir adlewyrchiad o lafar gwlad yr oes. Dylanwadwyd ar lenyddiaeth Facedoneg Gyrilig yn gryf gan y traddodiad Slafoneg Eglwysig, a bu hefyd yn cyfuno â'r elfennau Groegaidd. Bu nifer o lenorion y cyfnod, gan gynnwys Dimitar Miladinov a Grigor Prličev, yn ysgrifennu drwy gyfrwng y ddwy wyddor.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Vesna Garber, "Slav Macedonians" yn Encyclopedia of World Cultures, Volume IV: Europe (Central, Western, and Southeastern Europe) golygwyd gan Linda A. Bennett (Boston, Massachusetts: G.K. Hall & Co., 1992), t. 239.
  2. Blaže Koneski, "Macedonian" yn The Slavic Literary Languages: Formation and Development, golygwyd gan Alexander M. Schenker ac Edward Stankiewicz (New Haven: Yale Concilium on International and Area Studies, 1980), t. 54–55.