Llenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif
Yn llenyddiaeth Gymraeg yr 16g gwelir meddylfryd y Cymry diwylliedig, gan gynnwys eu llenorion, yn symud o'r Oesoedd Canol i'r cyfnod diweddar. Dyma'r ganrif a gynhyrchodd feirdd mawr fel Tudur Aled a Gruffudd Hiraethog a'r cyfieithiad cyntaf o'r Beibl cyfan i'r Gymraeg. Roedd ail hanner y ganrif yn arbennig yn gyfnod pan flodeuai dysg a chyhoeddwyd geiriaduron, astudiaethau ar rethreg a llyfrau gramadeg. Daeth y canu rhydd poblogaidd i'r amlwg yn ogystal â dirywio fu hanes y traddodiad barddol, er na chollodd y canu caeth ei blwyf yn gyfangwbl.
Iaith | Cymraeg |
---|---|
Olynwyd gan | llenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif |
Cefndir: Dadeni, Diwygiad a Gwrth-Ddiwygiad
golyguFel yn achos y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, roedd yr 16g yn cyfnod a welodd ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru a dechrau'r Cyfnod Modern. Dyma'r ganrif pan ledaenodd y Dadeni Dysg o'r Eidal. Roedd y ffaith fod papur yn rhatach ac argraffu llyfrau'n ymledu yn trawsffurfio byd dysg hefyd. Cyrhaeddasai y newidiadau hyn Gymru erbyn canol y ganrif a newidiwyd diwylliant y wlad mewn canlyniad. Codwyd to o ddyneiddwyr oedd yn awyddus i weld Cymru a'r Gymraeg yn rhan o'r datblygiadau hyn. Bu newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y wlad yn ogystal. Cafwyd Y Deddfau Uno 1536 a 1543. Diddymwyd y mynachlogydd (1536-39) a sefydlwyd Eglwys Loegr a'r ffydd Brotestannaidd yn grefydd swyddogol Cymru a Lloegr, ac yna cafwyd deddf yn 1563 yn gorchymyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Ond clynodd rhai Cymry at yr Eglwys Gatholig a chyfranodd Cymru i'r Gwrth-Ddiwygiad yn ogystal. Cafodd y newidiadau hyn i gyd effaith fawr ar lenyddiaeth Gymraeg.
Parhâd traddodiad
golyguOnd cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Lewis Môn (c.1480-1520), Tudur Aled (c.1480-1525), Lewis Morgannwg (c.1520-50), Gruffudd Hiraethog (m. 1564), Wiliam Llŷn (m. 1580) a Wiliam Cynwal (m. 1587). Ceisiodd y beirdd adfywio'r traddodiad yn Eisteddfodau Caerwys (1523 a 1567).
Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth Elis Gruffydd o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.
Canu rhydd newydd a'r ddrama
golyguMae'n ddiamau fod canu rhydd, cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16g ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal â cheir carolau cynghanedig, cwndidau a mesurau eraill. O'r cyfnod hwn hefyd mae llawer o'r Hen Benillion traddodiadol yn tarddu.
Ceir nifer fychan o destunau dramâu mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac Ymddiddan yr Enaid a'r Corff. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama Troelus a Chresyd, a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.
Rhyddiaith newydd
golyguGellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y Gwrthddiwygwyr Cymreig.
Cyhoeddwyd Yn y lhyvyr hwnn gan Syr John Price yn 1546, y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1547 gan Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd William Salesbury. Yn 1567 cyhoeddoedd William Salebury y Testament Newydd yn Gymraeg a chyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin.
Ond Y Drych Cristianogawl, gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. Gruffydd Robert oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifennodd y Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg yn 1567. Mae awduron reciwsaidd eraill yn cynnwys Morys Clynnog, awdur Athravaeth Gristnogavl, a Rhosier Smyth, cyfieithydd Gorsedd y Byd.
Llyfryddiaeth
golygu- Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, cyfrol 2 (Llandysul, 1970)
- R. Geraint Gruffydd, Llenyddiaeth y Cymry, cyfrol 2 (Gwasg Gomer, 1989)
- W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Caerdydd, 1926)
- Heledd Hayes, Cymru a'r Dadeni (Y Colegiwm Cymraeg, 1987)
- Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Penodau VII-VIII
- T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932)
- T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholion o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)