Gwgon Brydydd
Un o Feirdd y Tywysogion a ganai ar ddechrau'r 13g oedd Gwgon Brydydd (fl. tua 1200-1220).[1]
Gwgon Brydydd | |
---|---|
Ganwyd | 12 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Blodeuodd | 1240 ![]() |
Plant | Einion ap Gwgon ![]() |
Cefndir
golyguNi wyddys dim am Wgon ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn yr unig gerdd o'i waith i oroesi, sy'n fawl i Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Awgrymodd yr ysgolhaig J. Lloyd-Jones ei fod yn dad i Einion ap Gwgon, un arall o Feirdd y Tywysogion a ganodd i Lywelyn Fawr. Mae'r teitl 'prydydd' yn dangos fod Gwgon yn mwynhau statws uchel yng nghyfundrefn y beirdd ac yn fardd llys cydnabyddedig.[1]
Tadogir 'Araith Wgon', un o'r Areithiau Pros, ar fardd o'r enw Gwgon y dywedir ei fod yn byw yn ardal Llanfair-yng-Nghaereinion ym Mhowys yn amser Dafydd ab Owain Gwynedd, ond ni ellir rhoi llawer o bwys ar hynny.[1]
Cerdd
golyguMae'r unig gerdd gan Wgon sydd ar glawr i'w cael mewn llawysgrifau sy'n dyddio o ganol yr 16g ond sy'n deillio o lawysgrif(au) coll cynharach. Moliant i Lywelyn fel arweinwr milwrol yw'r gerdd, ar ffurf pum Englyn Unodl Union rheolaidd. Yr unig gyfeiriad penodol yw hwnnw at gyrch gan Lywelyn ar Langollen; mae hyn yn awgrymu dyddio'r gerdd i'r cyfnod 1211-1214 pan fu elyniaeth rhwng Llywelyn a Madog ap Gruffudd, tywysog Powys Fadog.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Gwgon Brydydd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Cyfeiriadau
golygu