Gruffudd ab Adda ap Dafydd

bardd Cymraeg

Bardd Cymraeg oedd Gruffudd ab Adda ap Dafydd (bl. 1340 - 1370). Roedd yn frodor o gantref Arwystli, Powys, ac yn un o gyfeillion Dafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad ffug iddo mae Dafydd yn ei alw yn "aur eos garuaidd".[1]

Gruffudd ab Adda ap Dafydd
Ganwyd1340 Edit this on Wikidata
Arwystli Edit this on Wikidata
Bu farw1370 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Cerddi golygu

Bardd serch oedd Gruffudd. Dim ond dau gywydd ac un englyn o'i waith sydd ar glawr heddiw ond mae ei gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes yn un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus.[1] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[2]

Yr Areithiau Pros golygu

Cyfeirir ato yn yr Areithiau Pros. Tadogir y parodi Arthuraidd Breuddwyd Gruffudd ab Adda ap Dafydd arno. Ceir araith serch dan ei enw hefyd, sef Trwstaneiddiwch Gruffudd ab Adda ap Dafydd.[3] Nid yw Gruffudd yr unig fardd y tadogir testunau bwrlesg arno; er enghraifft ceir Araith Iolo Goch a Breuddwyd Llywelyn Goch ap Meurig Hen.[3]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir testun cerdd Gruffudd i'r fedwen yn:

Cyhoeddwyd y ddau gywydd a'r englyn yn:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. 'Y Fedwen yn Bawl Haf'. Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
  3. 3.0 3.1 D. Gwenallt Jones (gol.), Yr Areithiau Pros (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1934).