Aur
Metel melyn disglair meddal yw aur, elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac iddo'r symbol Au
a'r rhif 79. Mae aur yn werthfawr iawn, ac yn ddefnyddiol ym meysydd deintyddiaeth, electroneg a gemwaith. Côd ISO 4217 aur yw XAU
. Ychydig iawn o aur, bellach, sy'n cael ei gloddio yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol, metal metalig, Alergen, metel gwerthfawr |
---|---|
Math | metal nobl |
Lliw/iau | aur |
Màs | 196.96657 ±5e-07 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | Au |
Clefydau i'w trin | Crydcymalau gwynegol |
Dyddiad darganfod | c. Mileniwm 6. CC |
Symbol | Au |
Rhif atomig | 79 |
Electronegatifedd | 2.54 |
Cyflwr ocsidiad | 2.54 |
Rhan o | Elfen cyfnod 6, Elfen Grŵp 11 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aur
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | Au | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 79 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | 19300 kg m-3 |
Aur Cymru
golyguDefnyddiodd y Celtiaid aur ar gyfer addurniadau cain iawn megis torchau aur a Chlogyn Aur yr Wyddgrug, sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng 1900-1500 CC yn ystod Oes yr Efydd. Mae'n fwy na thebyg i'r fantell gael ei siapio yng Nghymru ond i'r aur gael ei gloddio yn Iwerddon.[1]
Cloddiwyd aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid: safle sydd ar Ystâd Dolaucothi ac sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Hyd y gwyddys, dyma'r unig olion o gloddio am aur gan y Rhufeiniaid ar ynysoedd Prydain. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.
Ceir y ddau gloddfa yn ardal Dolgellau, Clogau (78,507 owns a gloddiwyd 1862–1911) a Gwynfynydd (40,054 owns o 1862–1916). Crefftwyd Disg Haul Banc Ty'n-ddôl o aur yng nghyfnod y Diwylliant Bicer Gloch (c. 2000 CC), sef y darn cynharaf o aur i'w ganfod yng Nghymru.[2] Ceir tystiolaeth hefyd bod tywysogion cynnar Cymru wedi gwisgo torchau aur – er nad yw'n glir, hyd yma, a oedd yr aur hynafol hwnnw yn cael ei gloddio yng Nghymru neu yn Iwerddon.
Eurych
golyguBôn y gair eurych yw aur. Crefftwr sy'n gweithio gydag aur yw 'eurych' neu 'eurof'. Yn yr oesoedd canol roedd yn grefftwr teithiol. Wrth i gymdeithas a'r economi ddatblygu dichon bod gwaith yr eurych proffesiynol wedi ehangu a wedyn bod y werin wedi dechrau defnyddio'r gair am unrhyw weithiwr crwydrol ac daeth yn air arall am dincar. O ran y sillafiad mae 'na gryn dipyn o amrywio rhwng 'e' ac 'y' (y sain glir) yn y Gymraeg. Pan fo'r llafariad yn ddiacen y digwydd hyn e.e. mae 'edrych' yn troi'n 'edrech' a phan ogledd-orllewineiddiwyd y gair cawsom 'edrach'. Dyddia'r dystiolaeth gynharaf o neu a > e mewn sillaf ôl-acennog o'r 16g. Byddai hyn yn egluro'r ffurf safonol 'eurych' a'r ffurf lafar 'eurach'.[3] Nodir tua 40 o enwau lleoedd y Nghymru yn cyfeirio at *eurych*[1]
Diarhebion
golygu- 'Aur ar law wledig' ("ymerodr")
- 'Nid aur yw popeth melyn'
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [https://bylines.cymru/science-tech/nonferrous-metals-wales/ bylines.cymru; Wales is metal: a country rich in nonferrous resources; adalwyd 5 Mehefin 2024.
- ↑ "Early Bronze Age gold disc". Museum Wales. Cyrchwyd 2023-02-12.
- ↑ Guto Rhys yn Bwletin Llên Natur rhifyn 38