Oes yr Efydd yng Nghymru

Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial.

Bryn Cader Faner ger Harlech.
Clogyn aur Yr Wyddgrug, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Cawsant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen.

Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gynharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siamberi claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomeni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethau unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn a Bedd Taliesin yng Ngheredigion.

Cychwynwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion.

Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon.

Rhan o gelc o Oes yr Efydd, darganfuwyd yn Yr Orsedd, Wrecsam.

O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngeiri cyntaf tua 800 CC..

Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwty cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae.

Cred rhai ysgolheigion fod iaith Geltaidd yn cael ei siarad yng Nghymru cyn belled yn ôl a'r cyfnod yma.

Rhai safleoedd Oes yr Efydd yng Nghymru

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn