Cleveland (sir)

cyn sir yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr

Sir yn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Cleveland. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o rannau o Riding Gogleddol Swydd Efrog a Swydd Durham ar bob ochr Afon Tees, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996.

Cleveland
Mathcyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCleveland Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCleveland Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.525°N 1.189°W Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Cleveland.
Lleoliad Cleveland yn Lloegr

Roedd gan y sir arwynebedd o 583 km² gyda poblogaeth o 565,935 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio ar Swydd Durham i'r gogledd ac i'r gorllewin, Gogledd Swydd Efrog i'r de, a Môr y Gogledd i'r dwyrain.

Rhennid y sir yn bedair ardal an-fetropolitan:

  1. Bwrdeistref Hartlepool
  2. Bwrdeistref Stockton-on-Tees
  3. Bwrdeistref Middlesbrough
  4. Bwrdeistref Langbaurgh (Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees ar ôl 1988)

Diddymwyd y sir ym 1996. Ailsefydlodd Afon Tees fel y ffin rhwng siroedd seremonïol Gogledd Swydd Efrog a Swydd Durham. Daeth y pedair ardal an-fetropolitan yn awdurdodau unedol. Daeth Bwrdeistref Hartlepool yn rhan o Swydd Durham; daeth Bwrdeistref Middlesbrough a Bwrdeistref Langbaurgh-on-Tees (ailenwyd yn Fwrdeistref Redcar a Cleveland) yn rhannau o Ogledd Swydd Efrog; a rhannwyd Bwrdeistref Stockton-on-Tees rhwng y ddwy sir.