Canolbarth a Gorllewin Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)

Roedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholaeth Senedd Ewrop a oedd yn cwmpasu Canol a De Orllewin Cymru.

Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno yn llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un. Pan gafodd ei greu ym 1979 roedd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys etholaethau seneddol Brycheiniog a Maesyfed, Ceredigion, Caerfyrddin, Gŵyr, Llanelli, Penfro, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe.

Ym 1984 cafodd etholaeth Castell-nedd ei ychwanegu at y sedd .

Ym 1994 newidiwyd y ffiniau yn sylweddol wrth i nifer yr etholaethau Ewropeaidd yng Nghymru gynyddu o 4 i 5. Er i'r etholaeth gadw'r un enw - roedd y ffiniau newydd yn dra wahanol gyda siroedd Dyfed, Powys ac etholaeth Meirionnydd Nant Conwy yn ffurfio rhan o'r etholaeth newydd.

Daeth y sedd yn rhan o Etholaeth Cymru Gyfan ym 1999.

Aelodau etholedig

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1979 Ann Clwyd Llafur
1984 David Morris Llafur
1989 Eluned Morgan Llafur

Etholiadau

golygu

Canlyniad Etholiad 1979

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1979: Canolbarth a Gorllewin Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Ann Clwyd 77,474 41.4
Ceidwadwyr David Lloyd 67,226 36.0
Plaid Cymru Hywel Moseley 22,730 12.2
Rhyddfrydol Clem Thomas 17,628 9.4
Annibynnol H. D. Windsor-Williams 1,826 1.0
Mwyafrif 10,248 5.4
Y nifer a bleidleisiodd 38.2

Canlyniad etholiad 1984

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1984: Canolbarth a Gorllewin Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur David Morris 89,362 41.6 +0.2
Ceidwadwyr David Lewis 52,910 24.7 -11.3
Rhyddfrydol D. G. B. Lloyd 35,168 16.4 +5.0
Plaid Cymru Phil Williams 32,880 15.3 +3.1
Y Blaid Ecoleg Marilyn Smith 4,266 2.0
Mwyafrif 36,452 16.9 +11.5
Y nifer a bleidleisiodd 40.2 +2.0
Llafur yn cadw Gogwydd

Canlyniad etholiad 1989

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1989: Canolbarth a Gorllewin Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur David Morris 105,670 46.9 +5.3
Ceidwadwyr Owen John Williams 53,758 23.9 -0.8
Gwyrdd B. I. McPake 29,852 13.2 +11.2
Plaid Cymru Phil Williams 26,063 11.6 -3.7
Democratiaid Cymdeithasol a Rhyddfrydol Geoffrey Sinclair 10,031 4.4 -12.0
Mwyafrif 51,912 23.0 +6.1
Y nifer a bleidleisiodd 41.2 +1.0
Llafur yn cadw Gogwydd

Canlyniad Etholiad 1994

golygu
Etholiad senedd Ewrop, 1994: Canolbarth a Gorllewin Cymru[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Eluned Morgan 78,092 40.5 -6.4
Plaid Cymru Marc Phillips 48,858 25.4 +13.8
Ceidwadwyr Peter Bone 31,606 16.4 -7.5
Dem Cymdeithasol Juliana Hughes 23,719 12.3 +7.9
Plaid Annibyniaeth y DU David Rowlands 5,536 2.9
Gwyrdd Chris Busby 3,938 2.0 -11.2
Deddf Naturiol M. T. L. Griffith-John 988 0.5
Mwyafrif 29,234 15.1 -7.9
Y nifer a bleidleisiodd 48.0 +6.8
Llafur yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau

golygu