Mae Christa Ludwig (ganwyd 16 Mawrth 1928; m. 24 Ebrill 2021) yn Mezzo-soprano ddramatig o'r Almaen, sy'n nodedig am ei pherfformiadau o opera, Lieder, oratorio, a gweithiau crefyddol mawr eraill fel cerddoriaeth yr offeren a cherddoriaeth y dioddefaint, yn ogystal ag unawdau sydd wedi'u cynnwys mewn llenyddiaeth symffonig. Roedd ei gyrfa'n rhychwantu o ddiwedd y 1940au tan ddechrau'r 1990au. Mae hi'n cael ei chydnabod yn eang fel un o gantorion mwyaf arwyddocaol a nodedig yr 20g, "gyda llais o gyfoeth coeth a, phan fo angen - osgled syfrdanol." [1]

Christa Ludwig
Christa Ludwig yn 2015
Ganwyd16 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
Klosterneuburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laisdramatic mezzo-soprano Edit this on Wikidata
PriodPaul-Émile Deiber, Walter Berry Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur de la Légion d'honneur‎, Gwobr Gramophone am Waith Gydol Oes, Uwch Swyddog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Medal Arian Fawr er Anrhydedd am Wasanaethu Gweriniaeth Awstria, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Berliner Bär Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Ludwig ym Merlin i deulu cerddorol; roedd ei thad, Anton Ludwig, yn denor ac yn weinyddwr operatig, ei mam oedd y fezzo-soprano Eugenie Besalla-Ludwig a ganodd yn Opera Aachen yn ystod cyfnod Herbert von Karajan fel arweinydd. Athro llais cyntaf Ludwig oedd ei mam.[2]

Gyrfa golygu

Gwnaeth Ludwig ei ymddangosiad cyntaf ym 1946 yn 18 oed fel Orlovsky yn Die Fledermaus yn Frankfurt, lle bu’n canu tan 1952. Roedd hi'n aelod o Opera Darmstadt rhwng 1952 a 1954, yna canodd dymor 1954–1955 yn y Staatsoper Hannover.[3] Ymunodd ag Opera Daleithiol Fienna ym 1955, lle daeth yn un o'i phrif artistiaid a chafodd ei phenodi'n Kammersängerin ym 1962 a pherfformio gyda'r cwmni am fwy na deng mlynedd ar hugain. Ym 1954, gwnaeth Ludwig ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Salzburg fel Cherubino yn Le nozze di Figaro, ac ymddangosodd yno'n rheolaidd tan 1981. Gwnaeth Ludwig ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Bayreuth fel Brangäne yn Tristan und Isolde ym 1966. Yn 1960, perfformiodd fel Adalgisa ochr yn ochr â Maria Callas â Norma, yn opera Bellini o'r un teitl, ar gyfer recordiad EMI.[4]

Gwnaeth Ludwig ei ymddangosiad cyntaf yn America yn Opera Lyric Chicago fel Dorabella yn Così fan tutte ym 1959. Yr un flwyddyn, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd fel Cherubino yn Le nozze di Figaro ac wedi hynny canodd 121 o berfformiadau mewn 15 rôl wahanol gyda'r cwmni tan 1993. Yn yr Opera Metropolitan, lle daeth yn gyflym yn un o ffefrynnau'r gynulleidfa, roedd ei repertoire yn cynnwys Gwraig y Llifiwr ym mherfformiadau cyntaf y Met o Die Frau ohne Schatten, rôl y teitl ac yn ddiweddarach y Marschallin yn Der Rosenkavalier, Klytemnestra yn Elektra, Ortrud yn Lohengrin, Brangäne yn Tristan und Isolde, Fricka yn Das Rheingold a Die Walküre, Waltraute yn Götterdämmerung, Kundry yn Parsifal, rôl y teitl yn Fidelio, Didon yn Les Troyens, Charlotte yn Werther, ac Amneris yn Aida. Ymddangosodd gyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1969 fel Amneris yn Aida.

Wrth i lais Ludwig aeddfedu, ehangodd ei repertoire o rolau mezzo telynegol a spinto i rolau dramatig. Yn y pen draw, tyfodd ei repertoire helaeth i gwmpasu'r Dywysoges Eboli yn Don Carlo a ganodd yn La Scala ym Milan, yn Salzburg ac yn Fienna, y rôl deitl yn Carmen, Ulrica (Un ballo in maschera), Octavia Monteverdi (L'incoronazione di Poppea ), Dido (Les Troyens), Kundry (Parsifal), Klytemnestra (Elektra) a rolau cyfoes gan von Einem ac Orff. Gwnaeth hi hefyd mentro am gyfnod byr i mewn i'r repertoire soprano spinto a dramatig gyda pherfformiadau o Arglwyddes Macbeth Verdi (Macbeth), Gwraig y Llifiwr (Die Frau ohne Schatten), y Marschallin (Der Rosenkavalier) Strauss a Leonore Beethoven (Fidelio).

Yn ogystal â’i pherfformiadau opera, roedd Ludwig yn rhoi datganiadau o Lieder yn rheolaidd (ynghyd â’r pianydd Almaenig Sebastian Peschko ac ar brydiau, Leonard Bernstein) ac fel unawdydd gyda cherddorfeydd. Mae ei pherfformiadau o Schubert, Schumann, Brahms, Wolf, Mahler a Strauss yn destun edmygedd mawr. Bu hefyd yn canu Bach ac yn perfformio a recordio'r rhan fwyaf o'i brif weithiau lleisiol.

Rhwng 1957 a 1970, roedd Ludwig yn briod â'r bas-bariton Walter Berry;[5] perfformiodd y cwpl gyda'i gilydd yn aml, yn enwedig yn Die Frau ohne Schatten. Yn 1972, priododd yr actor theatr Ffrengig Paul-Emile Deiber.

Ym 1993–1994, rhoddodd Ludwig gyfres o ddatganiadau ffarwel mewn llawer o ddinasoedd a gwnaeth ei ymddangosiad ffarwel yn yr Opera Metropolitan, Efrog Newydd, fel Fricka yn Die Walküre.

Perfformiad operatig byw olaf Ludwig oedd Klytemnestra yn Elektra ar gyfer Opera Daleithiol Fienna ym 1994.

Yr un flwyddyn, cyhoeddodd Ludwig gofiant gyda Peter Csobádi.[6]

Mae Ludwig wedi bod yn dysgu Dosbarthiadau Meistr ers iddi ymddeol.[7]

Addurniadau a gwobrau golygu

  • 1962: Kammersängerin Awstria
  • 1969: Addurn Awstria ar gyfer Gwyddoniaeth a Chelf
  • 1980: Modrwy Aur Opera Taleithiol Fienna
  • 1980: Rhosyn Arian Ffilharmonig Fienna
  • 1980: Medal Aur Gustav Mahler
  • 1980: Medal Hugo Wolf (Awstria)
  • 1981: Aelod Anrhydeddus o Opera Talaith Fienna
  • 1981: Marchog yr Ordre des Arts et des Lettres (Ffrainc)
  • 1988: Medal Aur Anrhydedd Salzburg
  • 1989: Cadlywydd Urdd y Celfyddydau a Llythyrau (Ffrainc)
  • 1989: Marchog y Lleng Anrhydedd (Ffrainc)
  • 1994: Addurniad Mawr o Anrhydedd am Wasanaethau i Weriniaeth Awstria
  • 1995: Bear (Gwobr Diwylliant BZ)
  • 2003: Swyddog y Lleng Anrhydedd (Ffrainc)
  • 2004: Croes Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen
  • 2007: Addurniad Mawr o Anrhydedd mewn Arian am Wasanaethau i Weriniaeth Awstria [8]
  • 2008: Gwobr am gyflawniad oes yn Midem
  • 2008: Gwobr Gŵyl Gerddoriaeth Wreiddiol Saeculum-Glashütte yng Ngŵyl Gerdd Dresden
  • 2008: Doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Cerdd Fryderyk Chopin (Warsaw)
  • 2010: Cadlywydd y Lleng Anrhydedd (Ffrainc)
  • 2010: Medal Hugo Wolf (Yr Almaen)
  • 2012: Medal Aur Anrhydedd Talaith Styria
  • 2014: Gwobr Newyddion Opera am Gyflawniad Nodedig[4]
  • 2016: Gwobr Cyflawniad Oes cylchgrawn Gramophone[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ted Libbey. The NPR Listener's Encyclopedia of Classical Music New York: Workman Publishing, 2006 p. 437
  2. Bach Cantatas Christa Ludwig (Mezzo-soprano) adalwyd 28 Chwefror 2021
  3. 3.0 3.1 Gramaphone September 15, 2016; Christa Ludwig wins Gramophone's Lifetime Achievement Award adalwyd 28 Chwefror 2021
  4. 4.0 4.1 Opera News APRIL 2014 — VOL. 78, NO. 10 Christa Ludwig[dolen marw] adalwyd 28 Chwefror 2021
  5. Allmusic Christa Ludwig Artist Biography by Anne Feeney adalwyd 28 Chwefror 2021
  6. Ludwig, Christa; Csobádi, Peter (1994). ...und ich ware so gern Primadonna gewesen: Erinnerungen. Berlin : Henschel. ISBN 978-3-89487-191-8.
  7. Guardian 19 Mar 2004 'Opera is absurd, no?' adalwyd 28 Chwefror 2021
  8. "Anfragebeantwortung" (PDF) (yn Almaeneg). t. 1788. Cyrchwyd 28 Chwefror 2021.