Cleddau (rhaglen deledu)

Drama deledu yw Cleddau. Mae'n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth â stori garu. Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Catherine Tregenna. Cynhyrchwyd y gyfres gan BlackLight Television (cwmni Banijay UK) mewn cydweithrediad â Banijay Rights a gyda buddsoddiad gan Cymru Greadigol. Mae'r prif gymeriadau yn cael eu chwarae gan Elen Rhys, Richard Harrington a Rhian Blythe. Cyfarwyddir pob pennod gan Siôn Ifan.[1]

Cleddau
Adnabuwyd hefyd fel The One That Got Away
Genre Drama
Serennu Elen Rhys, Richard Harrington, Rhian Blythe
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg, Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
BlackLight Television
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Cychwynnodd y gwaith ffilmio yn gynnar yn Rhagfyr 2023 ar leoliad yn Noc Penfro. Cafodd fersiwn Saesneg The One That Got Away ei ffilmio gefn-wrth-gefn ar gyfer cynulleidfa rhyngwladol.[2]

Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C yn Hydref 2024.[1] Darlledwyd y fersiwn Saesneg ar BBC Four, BBC Wales ac iPlayer.[3]

  • I ddod

Penodau

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [4]
1"Pennod 1"Siôn IfanCatherine Tregenna13 Hydref 2024I'w gyhoeddi
Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod a'i llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
2"Pennod 2"Siôn IfanCatherine Tregenna20 Hydref 2024I'w gyhoeddi
Mae honiadau Anna am y gorffennol yn gofidio Ffion, wrth i'r helfa am Ryan Moss - cyn gariad Abbi - ddwysáu. Mae cwestiynau¿n cael eu codi am chwaer Ffion, Lisa, wrth i dystiolaeth ei chysylltu â'r achos. Daw helfa i ben gydag arestiad Ryan Moss, ac mae rhyddhad wrth i Ffion a Rick ddathlu eu bod wedi dal y llofrudd. Ond a ydyn nhw wedi dal y dyn iawn?
3"Pennod 3"Siôn IfanCatherine Tregenna27 Hydref 2024I'w gyhoeddi
Gyda'r prif ddrwgdybiwr dan glo, mae'r tîm yn dechrau adeiladu'r achos yn ei erbyn - pan ddaw i'r amlwg bod person gyda gwn wedi ffeindio'i ffordd mewn i'r Ysgol Gyfun leol, yn chwilio am ferch Rick, Mati. Mae Ffion yn parhau i amau cysylltiad ei chwaer â'r llofrudd, ac yn parhau i gwestiynu honiadau newydd Anna Harvey am yr achos hanesyddol. Mae Rick, sy'n amlwg dan deimlad ar ol ddigwyddiadau'r dydd, yn troi at Ffion, gan ailgynnau rhywbeth cyfarwydd rhyngddynt.
4"Pennod 4"Siôn IfanCatherine Tregenna3 Tachwedd 2024I'w gyhoeddi
Yn sgil y digwyddiad gyda'r gwn yn yr ysgol, mae Mel yn cael ei gyfweld , sy'n arwain y tîm i'w gysylltu â llofruddiaethau hanesyddol Harvey, a llofruddiaeth Abbi yng Nghoed Cleddau. Mae gan Ffion gwestiynau mawr am yr achos hanesyddol, ac i wneud yn siwr ei bod hi'n hollol drwyadl tro yma mae'n achub y cyfle i fynd i gwestiynu Paul Harvey. Fodd bynnag, mae Rick yn benderfynol o ganolbwyntio ar yr achos bresennol. Mae eu gwahaniaethau'n achosi dadl onest a ffraeth rhyngddynt sy'n llawn angerdd.
5"Pennod 5"Siôn IfanCatherine Tregenna10 Tachwedd 2024I'w gyhoeddi
Mae perthynas Ffion a Rick yn dwysáu wrth i'r gorffennol ddal i aflonyddu'r presennol, ond mae'n amlwg bod Rick am ddewis ei briodas. Mae Ffion yn darganfod gwirionedd am y gorffennol sy'n newid popeth rhyngddynt ac yn gorfodi Rick i gyfaddef i Vaughan am y gorffennol. Mae Ffion, yn frith o euogrwydd a chywilydd, yn poeni bod llofrudd Abbi yn parhau i fod yn rhydd. Mae Rick yn dychwelyd adref yn disgwyl pryd rhamantus i wneud iawn â Helen.
6"Pennod 6"Siôn IfanCatherine Tregenna17 Tachwedd 2024I'w gyhoeddi
Mae Rick yn cyrraedd adref, ac yn mynd i banig pan nad yw Helen yn unman. Mae'r heddlu'n dechrau chwilio am Helen, gyda'r seithfed diwrnod yn gyflym nesau. Mae Ffion yn dilyn ei greddf, yn ôl i'r bynceri ger coed Cleddau. Mae'r llofrudd go iawn yn cael ei ddal, ond nid oes unrhyw arwydd o Helen o hyd. Mae pryderon yn cynyddu am ddiogelwch Helen ac mae Ffion rhwystredig yn methu â dod o hyd iddi. Mae Rick yn dilyn ei reddf ei hun am leoliad Helen, gyda chanlyniadau dinistriol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-09-23.
  2. Evans, Paul (4 Rhagfyr 2023). "Filming starts on new crime drama 'Cleddau' set in Pembroke Dock". The Tenby Observer. Cyrchwyd 23 Medi 2024.
  3. Price, Karen (2024-10-22). "BBC to screen brand new Welsh crime drama starring Richard Harrington". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-22.
  4. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu