Crëyr nos
Crëyr nos Nycticorax nycticorax | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Ciconiformes |
Teulu: | Ardeidae |
Genws: | Nycticorax[*] |
Rhywogaeth: | Nycticorax nycticorax |
Enw deuenwol | |
Nycticorax nycticorax | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Crëyr nos (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: crehyrod nos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Nycticorax nycticorax; yr enw Saesneg arno yw Black-crowned night heron. Mae'n perthyn i deulu'r Crehyrod (Lladin: Ardeidae) sydd yn urdd y Ciconiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. nycticorax, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Teulu
golyguMae'r crëyr nos yn perthyn i deulu'r Crehyrod (Lladin: Ardeidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Aderyn bwn America | Botaurus lentiginosus | |
Aderyn bwn Awstralia | Botaurus poiciloptilus | |
Aderyn bwn rhesog | Botaurus pinnatus | |
Aderyn bwn y goedwig | Zonerodius heliosylus | |
Aderyn y Bwn | Botaurus stellaris | |
Crëyr amryliw | Zebrilus undulatus | |
Crëyr gwartheg | Bubulcus ibis | |
Crëyr gylfinbraff | Cochlearius cochlearius | |
Nyctanassa violacea | Nyctanassa violacea |
Disgrifiad
golyguMae gan oedolion goron ddu a chefn gyda gweddill y corff yn wyn neu'n llwyd, llygaid coch, a choesau melyn byr. Mae ganddyn nhw adenydd llwyd golau a gwyn odditano. Mae dwy neu dair o blu gwyn hir sydd yn cael eu codi mewn arddangosiadau cyfarch a charwriaeth, yn ymestyn o gefn y pen. Mae'r ddau ryw yn debyg o ran ymddangosiad er bod y gwrywod ychydig yn fwy. Nid yw crehyrod nos yn ffitio ffurf corff nodweddiadol teulu'r crëyr glas. Maent yn gymharol fyrdew gyda phigiau, coesau a gyddfau byrrach na'u cefndryd mwy cyfarwydd. Mae eu hosgo gorffwys fel arfer braidd yn grwm ond wrth hela maent yn ymestyn eu gyddfau ac yn edrych yn debycach i rydyddion eraill.
Mae gan adar anaeddfed blu llwyd-frown ar eu pennau, eu hadenydd a'u cefnau, gyda nifer o smotiau golau. Mae eu rhannau isaf yn oleuach ac yn frith o frown. Mae gan yr adar ifanc lygaid oren a choesau melynwyrdd tywyllach. Maent yn adar swnllyd iawn yn eu cytrefi nythu, gyda galwadau sy'n cael eu trawsgrifio'n gyffredin fel quok neu woc[1].
Mae crehyrod nos yn nythu mewn cytrefi ar lwyfannau o briciau mewn grwpiau o goed, neu ar y ddaear mewn lleoliadau gwarchodedig fel ynysoedd neu welyau cyrs. Dodwyir rhwng tri ac wyth wy.
Dosbarthiad
golyguGwlyptiroedd ffres a dŵr hallt yw'r cynefin bridio. Mae'r isrywogaeth N. n. hoactli yn bridio dros Gogledd a De America o Ganada cyn belled i'r de â gogledd yr Ariannin a Chile, N. n. obscurus yn neheubarth De America, N. n. falklandicus yn y Malvinas/Ynysoedd y Falkland, a'r hil enwebedig N. n. nycticorax yn Ewrop, Asia ac Affrica.
Mae'r crëyr nos hwn yn fudol yn y rhan fwyaf gogleddol o'i diriogaeth, ond fel arall yn preswylio (hyd yn oed yn oerfel Patagonia). Mae poblogaeth Gogledd America yn gaeafu ym Mecsico , de'r Unol Daleithiau, Canolbarth America , ac India'r Gorllewin, ac mae adar yr Hen Fyd yn gaeafu yn Affrica trofannol a de Asia .
Statws ym Mhrydain
golyguMae dau sbesimen archeolegol o'r crëyr nos hwn ym Mhrydain. Daw'r hynaf o Wal Llundain Rufeinig a'r mwyaf diweddar o iardiau cyn-ganoloesol hwyr y Llynges Frenhinol yn Greenwich. Mae'n ymddangos yn rhestrau prisiau gwerthwyr dofednod Llundain fel y Brewe, aderyn y credwyd ei fod yn goeg-gylfinir Ewrasiaidd neu'r crymanbig du, y dangoswyd bellach ei fod yn cyfeirio at y crëyr nos, sy'n deillio o'r Bihoreau Ffrengig canoloesol. Mae’n bosibl bod crehyrod y nos wedi magu yn nhirwedd llawer gwlypach ac ehangach a fodolai ym Mhrydain yn y cyfnod. Yn sicr cawsant eu mewnforio ar gyfer y bwrdd felly nid yw'r sbesimenau o esgyrn o'r cyd-destun hwn yn profi ohonynt eu hunain eu bod yn rhan o ffawna adar Prydeinig. Yn y cyfnod modern mae’r crëyr nos yn grwydryn a sefydlwyd cytrefi bridio gwylltion yn Sw Caeredin o 1950 i’r 21ain ganrif ac yn Great Witchingham yn Norfolk lle’r oedd 8 pâr yn 2003 ond ni chafodd y bridio ei ailadrodd yn 2004 na 2005. Gwelwyd pâr o oedolion gyda dau ifanc yng Ngwlad yr Haf yn 2017, sef y cofnod bridio cyntaf o grehyrod nos gwyllt ym Mhrydain.
Rhywogaeth y rhagwelir y bydd yn bridio yn ne Prydain yn rheolaidd yn ystod yr 21ain ganrif yw Crëyr y Nos (Huntley et al. 2007). Os bydd y gwladychu yng Ngwlad yr Haf yn sefydlu'n gadarn mae'n debygol y bydd yn digwydd yn amlach yng Nghymru ac mae'n bosibl iawn y bydd yn bridio mewn gwelyau cyrs yn ne Cymru.[3]
Ymddygiad
golyguMae'r adar hyn yn sefyll yn llonydd wrth ymyl y dŵr ac yn aros i gudd-ymosod ar eu hysglyfaeth, yn bennaf gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore. Maent yn bennaf yn bwyta pysgod bach, cramenogion, brogaod, pryfed dyfrol, mamaliaid bach, ac adar bach. Maent ymhlith y saith rhywogaeth o grehyrod y gwelwyd eu bod yn pysgota trwy osod abwyd; sef denu neu dynnu sylw pysgod trwy daflu gwrthrychau amwytadwy neu fwytadwy i mewn i'r dŵr o fewn eu cyrraedd - enghraifft brin o ddefnyddio offer ymhlith adar. Yn ystod y dydd maent yn gorffwys mewn coed neu lwyni. Mae N. n. hoactli yn fwy cymdeithasgar y tu allan i'r tymor bridio na'r hil enwebedig (nominate) N. n. nyctocorax.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Adar Cymru (2021) Gwasg Prifysgol Lerpwl