Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014

Roedd 233[3] aelod yn nhîm Cymru yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yng Glasgow, yr Alban, rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst 2014.

Cymru
 yng Ngemau'r Gymanwlad

Baner Cymru
Codau CGF  WAL
CGG Cyngor Gemau'r Gymanwlad, Cymru
2014 Gemau'r Gymanwlad
yn: Glasgow, Yr Alban
Flag bearer Agoriad:Francesca Jones[1]
Cau: Geraint Thomas[2]
Medalau
Safle: 13
Aur
5
Arian
11
Efydd
20
Cyfanswm
36
Hanes Gemau'r Gymanwlad (summary)
Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Gemau'r Gymanwlad

Yr athletwr, Aled Davies, oedd capten y tîm, gyda'r gymnastwraig, Francesca Jones, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol, a'r seiclwr Geraint Thomas yn ei chludo i'r Seremoni Gloi.

Casglodd Cymru cyfanswm o 36 medal - y nifer fwyaf yn hanes y Gemau - gyda Francesca Jones (gymnasteg), Natalie Powell (jiwdo), Jazz Carlin (nofio), Georgia Davies (nofio) a Geraint Thomas (seiclo) yn cipio medal aur. Francesca Jones oedd athletwraig mwyf llwyddiannus Cymru gyda chwe medal - un medal aur a phum medal arian a llwyddodd hefyd i ennill Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[4].

Yn ogystal â Francesca Jones, llwyddodd Laura Halford a Georgina Hockenhull (gymnasteg), Jazz Carlin a Geraint Thomas i gipio mwy nag un medal. Gymnasteg oedd camp mwyaf llwyddiannus Cymru gyda deg medal ond cafwyd medal mewn 10 o'r 18 camp lle bu Cymry'n cystadlu.

Roed 233[5] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.

Medalau'r Cymry

golygu
Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Rhuban
Aur Natalie Powell Jiwdo Merched 58 kg
Aur Jazz Carlin Nofio 800m Dull rhydd merched
Aur Georgia Davies Nofio 50m Dull cefn merched
Aur Geraint Thomas Beicio Ras Lôn Dynion
Arian Francesca Jones
Laura Halford
Nikara Jenkins
Gymnasteg rhythmig Amryddawn (tîm)
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Amryddawn unigol
Arian Elena Allen Saethu Sgît
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Cylch
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Pastynau
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Pêl
Arian Georgia Davies Nofio 100m Dull cefn
Arian Elinor Barker Beicio Ras pwyntiau 25 km
Arian Aled Davies Athletau Disgen F42/44
Arian Sally Peake Athletau Naid bolyn merched
Arian Jazz Carlin Nofio 200m Dull rhydd merched
Efydd Laura Halford Gymnasteg rhythmig Amryddawn unigol
Efydd Calum Jarvis Nofio 200m Dull rhydd
Efydd Matt Ellis
Ieuan Williams
Beicio Ras tandem yn erbyn y cloc
Efydd Laura Halford Gymnasteg rhythmig Pêl
Efydd Elinor Barker Beicio Ras "scratch"
Efydd Michaela Breeze Codi Pwysau Merched 58 kg
Efydd Jack Thomas Nofio 200m Dull rhydd S14
Efydd Mark Shaw Jiwdo 100 kg Dynion
Efydd Paul Taylor
Jonathan Tomlinson
Mark Wyatt
Bowlio lawnt Triawd
Efydd Rhys Jones Athletau 100m dynion T37
Efydd Craig Pilling Reslo Rhydd 57 kg
Efydd Lizzie Beddoe
Georgina Hockenhull
Jessica Hogg
Angel Romaeo
Raer Theaker
Gymnasteg Amryddawn (tîm)
Efydd Daniel Jervis Nofio 1500m Dull rhydd
Efydd Geraint Thomas Beicio Treial amser dynion
Efydd Sean McGoldrick Bocsio Pwysau bantam
Efydd Nathan Thorley Bocsio Pwysau trwm ysgafn
Efydd Georgina Hockenhull Gymnasteg Trawst
Efydd Ashley Williams Bocsio Pwysau pryf ysgafn
Efydd Joseph Cordina Bocsio Pwysau ysgafn

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Gareth (22 Gorffennaf 2014). "Commonwealth Games 2014: Gymnast Frankie Jones named as Team Wales opening ceremony flag bearer". walesonline.co.uk/. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2014.
  2. BBC Sport - "Glasgow 2014: Geraint Thomas chosen as Wales' flag bearer". Accessed 4 Awst 2014
  3. "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". walesonline.co.uk/. 2014-07-04.
  4. "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". Golwg360. 2014-08-04.
  5. "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter |Published= ignored (help)


Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.