Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018

Roedd 214 aelod yn nhîm Cymru[1] yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia rhwng 4 Ebrill a 15 Ebrill 2018.

Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Enghraifft o'r canlynolnation at sport competition Edit this on Wikidata
Dyddiad2018 Edit this on Wikidata
GwladwriaethAwstralia Edit this on Wikidata

Y triathletwraig Non Stanford oedd capten y tîm[2], gyda'r nofwraig, Jazz Carlin, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol[3] a'r codwr pwysau Gareth Evans gludodd y Ddraig Goch yn y seremoni cloi[4].

James Ball gipiodd fedal cyntaf Cymru gydag arian yn y ras tandem 1000m yn erbyn y cloc i feicwyr dall neu â nam golwg[5] cyn i Gareth Evans ennill medal aur cyntaf Cymru yn y codi pwysau categori 69 kg[6].

Yn cystadlu yn ei bumed Gemau'r Gymanwlad, llwyddodd David Phelps i ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth 50m Reiffl tra'n gorwedd a sefydlu record y Gymanwlad newydd. Dyma'r ail dro iddo ennill y fedal aur gan iddo ennill yr un gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 ym Melbourne, Awstralia[7].

Cystadleuwyr golygu

Aelodau tîm Cymru ym mhob camp

Camp Dynion Merched Cyfanswm
Athletau 14 12 26
Beicio 15 6 21
Bocsio 4 3 7
Bowlio lawnt 10 7 17
Codi pwysau 8 8 16
Gymnasteg 5 8 13
Hoci 18 18 36
Nofio 5 9 14
Pêl-rwyd N/A 12 12
Plymio 1 0 1
Reslo 2 0 2
Rygbi saith-bob-ochr 13 13 26
Saethu 8 3 11
Sboncen 2 2 4
Tenis bwrdd 1 3 4
Triathlon 2 2 4
Cyfanswm 108 106 214

Medalau'r Cymry golygu

Llwyddodd athletwyr Cymru i ennill 36 o fedalau - 10 medal aur, 12 medal arian a 14 medal efydd - cyfanswm medalau sydd gystal â'r nifer uchaf erioed o'r Gemau yn Glasgow yn 2014, ond yr adeg hynny dim ond pum medal aur gafodd y tîm. Gyda 10 medal aur yn cael eu hennill yn 2018, mae'r Gemau yn cael eu hystyried fel y Gemau gorau erioed i Gymru[4].

Saethu oedd camp mwyaf llwyddiannus Cymru gyda dwu fedal aur, dwy fedal arian ac un medal efydd ond daeth y nifer fwyaf o fedalau yn y beicio gyda 6 medal yn cael eu hennill - un aur, pedair arian ac uyn efydd. Dyma hefyd y tro cyntaf erioed i Gymru ennill medal yn y ras lôn i ddynion ac i ferched yn yr un Gemau[8]

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Gareth Evans Codi Pwysau 69 kg
Aur Elinor Barker Beicio Ras bwyntiau
Aur Olivia Breen Athletau T38 Naid hir
Aur Daniel Salmon a Marc Wyatt Bowlio lawnt Dyblau'r dynion
Aur Holly Arnold Athletau F36 Gwaywffon
Aur Alys Thomas Nofio 200m Dull Pili pala
Aur David Phelps Saethu 50m Reiffl tra'n gorwedd
Aur Michael Wixey Saethu Trap
Aur Lauren Price Bocsio 75 kg
Aur Sammy Lee Bocsio 81 kg
Arian James Ball (Peter Mitchell) Beicio Tandem 1000m yn erbyn y cloc
Arian James Ball (Peter Mitchell) Beicio Tandem gwibio
Arian Lewis Oliva Beicio Keirin
Arian Laura Daniels Bowlio lawnt Senglau'r Merched
Arian Ben Llewellin Saethu Sgît
Arian Latalia Bevan Gymnasteg Llawr
Arian Chris Watson a Gareth Morris Saethu Gwobr y Frenhines (Parau)
Arian Daniel Jervis Nofio 1500m Dull rhydd
Arian Kane Charig Reslo 65 kg
Arian Laura Halford Gymnasteg rhythmig Cylch
Arian Jon Mould Beicio Ras lôn
Arian Rosie Eccles Bocsio 69 kg
Efydd Chloe Tutton Nofio 200m Dull broga
Efydd Bethan Davies Athletau Cerdded 30 km
Efydd Laura Hughes Codi Pwysau 75 kg
Efydd Tesni Evans Sboncen Senglau'r merched
Efydd Melissa Courtney Athletau 1500m
Efydd Georgia Davies Nofio 50m Dull cefn
Efydd Georgia Davies, Chloe Tutton,
Alys Thomas a Kathryn Greenslade
Nofio 4x100m Medli
Efydd Gilbert Miles a Julie Thomas Bowlio lawnt Parau cymysg B2/B3
Efydd Olivia Breen Athletau T38 100m
Efydd Curtis Dodge Reslo 74 kg Dull rhydd
Efydd Sarah Wixey Saethu Trap
Efydd Mickey McDonagh Bocsio 60 kg
Efydd Dani Rowe Beicio Ras lôn
Efydd Joshua Stacey Tenis bwrdd TT6-10 senglau

Cyfeiriadau golygu

  1. "Commonwealth Games 2018: Meet Team Wales heading to Australia's Gold Coast". BBC Sport. 2018-04-02.
  2. "Commonwealth Games: Non Stanford appointed Team Wales captain". BBC Sport. 2018-03-01.
  3. "Jazz Carlin i gario'r faner yng Ngemau'r Gymanwlad". BBC Cymru Fyw. 2018-04-03.
  4. 4.0 4.1 "Cymu yn gorffen yn y seithfed safle ar yr Arfordir Aur". BBC Cymru Fyw. 2018-04-15.
  5. "Commonwealth Games: Para-cyclist James Ball wins Wales' first medal". BBC Sport. 2018-04-05.
  6. "Commonwealth Games: Welsh weightlifter Gareth Evans wins -69kg gold". BBC Sport. 2018-04-06.
  7. "Birthday boy Phelps claims men's 50m rifle prone title with Commonwealth Games record". InsideTheGames.biz.
  8. "Welsh Cycling". @WelshCycling ar Twitter. 2018-04-15.