Cywydd llosgyrnog
Tair llinell o gynghanedd sydd i'r mesur hwn fel rheol, y cywydd llosgyrnog, sy'n un o'r pedwar mesur ar hugain. Mae'r ddwy linell gyntaf yn wythsill o hyd a'r llinell olaf yn seithsill; mae'r ddwy gyntaf yn odli gyda'i gilydd ac â gorffwysfa'r llinell olaf. Mewn awdl, cânt eu rhoi mewn cyfres o benillion gyda'r drydedd linell yn cynnal y brifodl.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mae'r tair llinell yn diweddu'n ddiacen, fel arfer.
Dyma enghraifft gan Dafydd ab Edmwnd:
- Y mae goroff em a garaf
- O gof aelaw ag a folaf,
- O choeliaf gael ei chalon.
Weithiau rhoddid tair neu ragor o linellau wythsill ar y dechrau ac nid dwy.
Mesur newydd yn Gymraeg oedd hwn pan gafodd ei gyflwyno, wedi ei addasu o'r canu odledig Lladin. Ni ddaeth yn fesur poblogaidd, fodd bynnag, ac ychydig o gerddi Cymraeg sy'n ei ddefnyddio mewn cymhariaeth â'r toreth o enghreifftiau Lladin, emynau yn bennaf.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1925), tud. 330.